Bu llawer o sylwadau am fynwent yn Llys Dorfil, ond gyda'r holl wybodaeth uwch-dechnegol wrth law -gan gynnwys arolwg geo-ffiseg ac electro-magneteg yno eleni, a lluniau awyr arbennig gan ddau gymwynaswr lleol, ni ddarganfuwyd unrhyw olion beddi gan Gymdeithas Archeoleg Bro Ffestiniog, dros yr wyth tymor diwethaf o gloddio.
Bu cyfeiriadau at “8 neu 9 o feddau” mewn cyhoeddiadau gan y Parch. Owen Jones yn ei gyfrol ‘Cymru: Yn Hanesyddol, Parthedegol, a Bywgraphyddol’, Cyfrol 1, 1875, tudalen 349. Gan W. Jones, Ffestinfab, yn ‘Hanes Plwyf Ffestiniog a’r Amgylchoedd’, 1879, t38. Hefyd gan G. J. Williams, yn ‘Hanes Plwyf Ffestiniog o’r Cyfnod Boreuaf’, 1882, t35. A gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Rhestr. V1 Sir Feirionydd. Plwyf Ffestiniog, t35.
Mae camgymeriad mawr wedi ei wneud gan y cofnodydd cynharaf, Owen Jones, lle gafodd y pwyntiau cwmpawd (gogledd, de, ac ati) yn hollol anghywir, ac efallai fod hyn wedi bod yn help i ffwndro beddladron.
Yn ein hymdrech i ddarganfod y fynwent agorwyd tair ffos archwilio eleni, wedi eu cloddio â llaw, yn 12m o hyd ac 1m o led, ac i lawr i’r clog glai, ond heb ddim canlyniad. Roedd y clog glai yn rhyw 40cm o ddyfn.
A oes gan unrhyw un wybodaeth neu syniadau am leoliad y fynwent neu ffurf y beddau? Gadewch i ni wybod! Mary a Bill Jones
Lluniau Gerwyn Roberts
Mae’n debygol mae dyma dymor cloddio olaf y Gymdeithas ar y safle aml-gyfnod, hynod ddifyr yma. Diolch i’r Gymdeithas am eu llafur cariad gwirfoddol i helpu pobl Stiniog ddeall mwy am ein gorffennol. Cofiwch y bydd cyfle i bawb ddysgu mwy am Lys Dorfil, a gwaith y gwirfoddolwyr yno, yn arddangosfa ddathlu 50 Llafar Bro yn llyfrgell y Blaenau o Hydref 11eg tan y Nadolig. Galwch heibio! PW
- - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2025
Dyfal Donc- diwedd tymor 2024
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon