16.10.25

Senedd Stiniog

Ambell bwt o newyddion o siambr y Cyngor Tref, gan Dei Mur a Rory Francis. 
(Pwysleisir mae barn bersonol y ddau gynhorydd a geir yma)

Yn anffodus, parhau mae’r trafferthion o amgylch y cae chwarae aml-ddefnydd MUGA, yn y Parc. Bu'n rhaid galw’r Cynghorwyr am gyfarfodydd anarferol sawl gwaith dros y mis diwethaf. Plant yn wyllt o fewn y cae yn cicio peli dros y ffens ac yn taro cerbydau’r cymdogion, hefyd yno’n hwyr wedi oriau agor y Parc. Mae’r Cynghorwyr oll yn cytuno fod hyn yn annerbyniol. Cytuniwyd i godi’r ffens o amgylch y cae, 2m pob pen ble mae’r goliau ac 1.2m ar hyd yr ochrau. Daw hyn a’r uchdwr at rhwng 14 – 16 troedfedd ar yr ochrau preswyl a’r cae bowls, fel yr awgrymwyd inni wneud.

Dechrau Awst, cafwyd agoriad swyddogol Perllan Pant-yr-Ynn a braf oedd cael gweld y lle yn ei ogoniant. Mae’r coed yn altro a’r planhigion lliwgar yn werth eu gweld. Daeth ambell i deulu lleol draw yn y prynhawn i fwynhau’r lluniaeth ysgafn a ddarpariwyd gan Seren, (drwy gronfa gymunedol Heddlu Gogledd Cymru), ac i eistedd ar y meinciau yn mwynhau heddwch byd natur. Dim traffig i’w glywed, dim ond trydar yr adar mân a mwmian y gwenyn. Pleser pur.

Nes ymlaen yn y mis cynhaliwyd y diwrnod teuluol blynyddol, ‘Hwyl yn y Parc’. Cafwyd ei gynnal eleni yng Nghae Chwarae Tanygrisiau. Bydd darllenwyr selog y golofn yn gwybod fod y Cyngor wedi cytuno i wneud yr wŷl yn un symudol, gyda’r rhesymeg fod pob rhan o’r dalgylch yn elwa ohono yn ei thro. Rhaid cyfaddef, bu’r ymateb gan drigolion Tanygrisiau yn bositif iawn, gyda sawl un yn falch o weld yr wŷl yno. Cafwyd dau ddiwrnod prysur dros ben mewn heulwen bendigedig. Braf oedd gweld pawb yn mwynhau gyda digon i ddiddori’r plant a’r oedolion. Rhaid diolch yma’n enwedig i’r clercod ac i’r is-bwyllgor, sef y Cynghorwyr Marc Griffiths, Morwenna Pugh, Mark Thomas a Peter Jones am eu holl waith caled yn trefnu a rheoli’r digwyddiad. Dwi’n siwr eu bod yn hapus iawn o’i weld yn lwyddiant ysgubol.


Yn ystod un o gyfarfodydd Gorffennaf, yn dilyn cynnig gan y Cynghorydd Dafydd Dafis, cytunodd y Cyngor i hedfan baner Palesteina. Nid yw cynghorau plwyf / tref i fod i ochri mewn digwyddiadau gwleidyddol, er dwi bron yn sicir imi weld baner yr Wcrên yn hedfan yn Niffwys unwaith hefyd. Ta waeth, roedd yn fwy o bleidlais moesol na gwleidyddol. Mae’r faner wedi ei gostwng a’i chadw o’r neilltu erbyn hyn. Cafwyd pedwar cwyn, ac iach o beth dwi’n meddwl oedd cael pobol yn ei thrafod, ac mewn tref o faint Stiniog ni ellid disgrifio’r weithred fel un sy’n ‘hollti’r gymuned’. 

Y Ddraig Goch a baner Palesteina dan y Garreg Ddu ac awyr las Stiniog. Llun Paul W

Maent yn dweud mae’r ffordd orau i anfad gael ffordd ei hun ydi i bobol dda wneud dim; ac er mor bitw oedd y weithred hon o chwifio’r faner, dwi’n hynod falch, yn hynod browd o’m cyd-gynghorwyr am eu penderfyniad dewr i wneud hynny.  ‘A’u llygaid llawn llwgu’, oedd un o linellau gorau Ymryson y Beirdd o’r Babell Lên imi o ‘Steddfod ‘Recsam eleni ond tybed beth oedd eich bloedd chi pan ofynnwyd y cwestiwn, “A Oes Heddwch?”    DMJ

Derbyniwyd llythyr oddi wrth Gyngor Gwynedd yn cynnig gwneud gwaith i wella lloches bws Heol Foty, ger swyddfa Gisda, ar yr amod fod y Cyngor Tref yn barod i gymryd cyfrifoldeb am yswiriant a chynnal a chadw’r lloches ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau. Roedd o leiaf un Cynghorydd am wrthod, ar y sail y dylai Gwynedd gynnal y lloches bws. Ond gytunodd y mwyafrif, ar y sail mai dyna’r drefn gyda’r llochesi bws eraill a bod trigolion yn haeddu cael lloches bws o safon os ydyn nhw’n aros am fws yn y glaw.
Derbyniwyd adroddiad gan Bensaer yn rhestru’r gwaith fyddai, yn ei farn o, yn angenrheidiol i ddod ag adeilad Pafiliwn y Parc i gyflwr addas i’w osod fel caffi unwaith eto. Ond yr oedd y Cynghorwyr yn pryderu am rai o’r cynlluniau. Ni fydden nhw, er enghraifft, yn darparu dau ddrws rhwng y gegin â thoiled. Cytunwyd, ar gais y Cyng. Dafydd Dafis i gynnal cyfarfod arbennig i benderfynu pa waith yn union y dylid ei wneud. 

Cyflwynwyd cais cynllunio gan gan Breedon Trading Limited i ymestyn y caniatâd i weithio Chwarel yr Oakeley tan 2065. Mi wnaeth y Cyng Peter Jones ddadlau y dylid cefnogi hwn ar y sail cadw swyddi. Mi wnaeth y Cyng Dafydd Dafis ymateb fod 2065 yn bell i ffwrdd, fod yna bryder wedi bod am lwch o’r ‘crusher’ ac y dylid craffu’n ddyfnach ar y cais. Yn y pendraw, penderfynodd mwyafrif y Cynghorwyr gefnogi’r cais. 
RF    
- - - - - - - 

Addasiad o'r erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi yw'r uchod.

 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon