24.10.21

Crwydro -Moel Penamnen

Erthygl yn ein cyfres am lwybrau Bro Ffestiniog, gan Erwynj

 

Mae’n debyg petai rhywun yn gofyn i berson enwi mynyddoedd ‘Stiniog, byddai’r rhan fwyaf yn enwi y Moelwynion a’r ddau Fanod, ond mae i ddalgylch ein tref sawl copa swyddogol arall, gan gynnwys copaon Ysgafell Wen, Moel Druman, Yr Allt Fawr, Moel Penamnen a Chraig Ddu. 

Moel Penamnen. Llun- Erwynj

Yn wir mae 12 copa swyddogol ‘Nuttall’ -mynyddoedd dros 2000 droedfedd- o fewn ffiniau’r plwyf; roedd 13 cyn i’r Garn Lwyd, copa gogleddol y Moelwyn Mawr cael ei ddileu [Hir Oes i’r Moelwyn Mawr], yn ddi-seremoni rai blynyddoedd yn ôl, gan ei bod yn rhy fyr i gyrraedd statws mynydd swyddogol, a chofiwch dwi’n siwr y stŵr a greodd hynny ar y cyfryngau, wrth i bobl feddwl mai prif gopa Moelwyn Mawr cafodd ei ddileu!  

Mae’n bosib cerdded y copaon yma i gyd mewn diwrnod, drwy gwbwlhau taith heriol ‘Pedol Ffestiniog’: taith o ychydig dros 21 milltir o hyd, a dringfa o dros 6000 troedfedd!

Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, cafwyd digonedd o amser i grwydro’r Moelwynion a’r Manod (hyd syrffed bron a bod!) ac hefyd cyfle i gyrraedd ambell gopa llai adnabyddus ein ardal.

Un o’r copaon yma ydi Moel Penamnen, ychydig i’r gogledd dref Y Blaenau, a digon anghysbell ei naws, gyda’r tir corsiog a’r llethrau serth ddim yn wahoddiad parod a charedig i’w dringo, ond yn ystod tywydd sych, mae’n un o’r teithiau cerdded hyfryta gall rhywun ei chyflawni o fewn ein plwyf, gyda’r daith yn cynnig ychydig o amrywiaeth, megis adfeilion chwarelyddol, rhostiroedd agored, ac ambell i lyn ar y ffordd.

Daeth hon yn ddipyn o ffefryn i mi yn ystod y cyfnod clo, rhaid cyfadde, felly dyma rannu un o’r llwybrau byddaf yn ei gerdded i’w esgyn.

I gychwyn y daith, ewch fyny o faes parcio Diffwys i gyfeiriad Trefeini, ag i fyny llwybr 104 sy’n arwain i fyny’r hen Dŷ Pwdin, trwy waelodion chwarel Maenofferen, heibio i adfail ‘Quarry Banc’ i dop inclên rhif 2 Rhiwbach. Oddi yma, anelwch eto ar i fyny, ag at beipiau a chafnau dŵr, a dilynwch hwy at hen dramffordd ('Ffordd Haearn') Rhiwbach.

Mae’r cerdded yn dipyn haws am sbel go lew, wrth ddilyn y dramffordd, heibio i lynoedd Bowydd, at hen chwarel Cwt y Bugail.

Dilynwch y ffordd drwy’r chwarel, i fyny’r domen ac ymlaen heibio’r hen dwll, dros y tir corsiog at ffens, a gwelir llwybr bras yn arwain dros y rhostir, tua’r chwith, ple gwelwch Foel Penamnen yn eich gwahodd yn y pellter. Mae’r cerdded yn weddol rwydd a chymhedrol i fyny’r ysgwydd, wedi dringo Foel Fras, am tua milltir a hanner, hyd cyrraedd y copa. Mae sgwar concrid OS yn marcio’r copa.
Oddiyma ceir golygfeydd gwych o fynyddoedd Eryri, o’r Arenig, drosodd i’r Rhinogydd, Aber y Ddwyryd, y Moelwynion, yna drosodd i’r Wyddfa a’i chriw, y Glyderau, a’r Carneddau.

Llun- Erwynj

I fynd lawr, ewch tua’r gogledd am ychydig, a dilyn ffens sy’n eich arwain at gefn Llyn Barlwyd Bach, yna cerddwch hyd ochrau dwyreiniol Llynoedd Barlwyd, tuag at argae Barlwyd Mawr.

Pe dymunir, i hirhau y daith, yn hytrach nag anelu at yr argae, gallwch barhau i ddilyn y ffens at gopa Moel Farlwyd, sydd wedi ei farcio â phentwr cerrig. I fynd lawr, ewch ‘mlaen gyda’r ffens, ag yna, yn lle ei ddilyn i lawr at gyfeiriad y Crimea anelwch i lawr yr ochr glaswelltog serth, yn ôl i gyfeiriad argae Llyn Barlwyd Mawr.

Mae trac y gellid ei dilyn yr holl ffordd lawr, tuag at chwarel Llechwedd, sy’n ymuno â llwybr cyhoeddus (wedi ei farcio) ychydig cyn cyrraedd peilonau ‘Zip World’, sy’n arwain heibio Llyn Fflags, a chefn pwerdy Maenofferen, cyn ail-ymuno â llwybr 104, yn ôl i lawr i’r dref. Rhaid pwysleisio, er bod llwybrau llawer mwy amlwg i’w dilyn lawr i’r dref drwy Llechwedd, rhaid cofio bod y chwarel ar dir preifat, ac yn dal yn weithredol, felly rhwng y sawl a’i gydwybod os mynnir ceisio short cut i lawr i’r dref!

Felly dyna chi, syniad am daith gerdded amgenach na’r copaon amlwg i chi ei drio o fewn cyffiniau’r dref!

Mae hon yn daith cymhedrol, ple mae angen esgidiau cerdded, a dillad addas, heb anghofio map, ac ychydig o synnwyr cyffredin!

- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2021



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon