13.10.21

Cofio Eglwys fy Magwraeth

Mae llawer ohonom wedi bod yn tyrchu drwy gypyrddau, droriau a bocsys yn ystod y cyfnodau clo yn gwneud gorchwyl oedd ar yr agenda ers llawer dydd ond yr awydd na’r amser yn caniatau, sef sortio a thacluso.

Tasg ddifyr pan mae llun, rhaglen neu adroddiad mewn papur newydd yn agor y drysau ar atgofion melys.  Fe dreuliais orig yn ddiweddar yn sortio lluniau, a deuthum ar draws un o bobol ifanc Eglwys Bethania, Blaenau Ffestiniog – mam eglwys yr Annibynwyr yn y dre’ a’r eglwys lle’m magwyd.

Charles Jones a’i wraig ymroddgar, Eluned Ellis Jones oedd y gweinidog yn ystod 50au y ganrif ddwytha.  Byddai llawer o weithgareddau yn ystod yr wythnos megis y gobeithlu ble byddai’r hogiau yn dysgu alto emynau y Gymanfa.  ‘Roedd seiat a chwrdd gweddi ynghyd â Chymdeithas Lenyddol ac eisteddfod Nadolig gyda Noswyl ar noson ola’r flwyddyn.   

 

Rhes gefn - Hefin Griffiths, Gwen Jones (Fuches Wen), Medwyn Parry
Yn eistedd - Idwal Hughes (Gelli), Sian Arwel a Beti (ei chwaer)
Rhes flaen - Sulwen Williams a George Davies

Cynhyrchwyd tair drama fer ar gyfer noson y Gymdeithas Lenyddol.  “Rhwng Te a Swper” oedd enw ein drama ni a rhaid cyfaddef nad wyf yn cofio’r awdur!  

Byddai ymarfer wythnosol yn ystod y gaeaf ac ar ôl chwerthin a chael hwyl, pinacl yr ymarfer oedd cael bwyta sgod a sglods yn y festri.  Y ddynas fusneslyd o drws nesa oeddwn i, tra’r oedd Beti yn gymeriad crand mewn côt ffwr fy mam.  Mae hanner y criw wedi’n gadael erbyn hyn ond y bachgen sy’n eistedd wrth draed y ddynes grand yw George, cefnder Bil Davies; Caerdydd erbyn hyn.

Unwaith oeddym wedi’n derbyn yn aelodau, roedd disgwyl inni gymryd rhan mewn gwahanol agweddau o fywyd yr eglwys ac wrth edrych drwy raglenni’r Gymdeithas yn ystod yr un cyfnod, sylweddolais pam fod y rhaglenni hynny wedi’i cadw – roedd fy enw i yno yn aelod o bwyllgor y Gymdeithas ac yn llywyddu noson dan ofal y bobol ifanc.  Cyfleoedd pwysig iawn yn magu hyder a phrofiadau o beth yw eglwys a sut mae yn gweithio. 

 


D’oes dim ond atgofion o’r eglwys ar ôl ac mae’r capel wedi’i ddymchwel hefyd ond mae gennyf sgets o’r tu fewn ddyluniwyd gan Falcon Hildred ar gyfer dathliad 150 mlynedd yr achos.  Ni fydd y sgets, y llun na’r rhaglenni yn mynd i’w hailgylchu ar hyn o bryd!


Sian Arwel Davies

- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2021


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon