9.10.21

Rhod y Rhigymwr- Hiraeth am Eisteddfod

Pennod arall o gyfres Iwan Morgan

Anodd credu fod bron 34 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers i Gwmni HTV Cymru redeg y gyfres rhaglenni cwis ‘Profi’r Pethe’. Cwis oedd hwn i brofi gwybodaeth am yr Eisteddfod Genedlaethol er pan fu iddi ddod yn Ŵyl flynyddol ym 1880, ynghyd ag agweddau eraill oedd yn ymwneud â llenyddiaeth Gymraeg. Gofynnwyd i’m cyfaill, John Bryn Williams ffurfio tîm o dri, a chafodd Phil Mostert a minnau ein dewis ganddo. 


Yr Athro Derec Llwyd Morgan oedd y cwis-feistr, a’r diweddar gyn-Archdderwydd Selwyn Iolen oedd yn gosod y cwestiynau. Eifion Lloyd Jones oedd yn cynhyrchu. Er mawr syndod a llawenydd, fe fu inni lwyddo i drechu sawl tîm ar ein siwrne i’r rownd derfynol, ac fel pencampwyr, derbyn cyfrol … ‘Cerddi Saunders Lewis’ [argraffiad Gwasg Gregynog] bob un.

Roedd y tri ohonom yn ein tri-degau yr adeg honno, ac fe’u cawsom hi’n weddol hawdd i gofio manylion pob Prifwyl … pwy oedd enillwyr y prif wobrau ac ymhle y cynhaliwyd yr eisteddfodau, a dadansoddi ambell gliw cryptig oedd wedi ei saernïo’n gyfrwys gan Selwyn. 

Roeddwn yn brif athro yn Ysgol Bro Cynfal ar y pryd, a chofiaf fel y byddwn yn gofyn i gyd-aelodau o’r staff ac eraill o’m cydnabod pa flwyddyn y cawson nhw’u geni. Byddwn innau’n ymateb wedyn efo’r manylion ble cynhaliwyd yr Eisteddfod, pwy enillodd y gadair a phwy enillodd y goron. Do, cafwyd llawer o hwyl!

Ers 1880, dim ond dau fwlch ddi-eisteddfod a gafwyd, a hynny o achos dau Ryfel Byd, sef 1914 a 1940. Afraid ydy dweud fod dau fwlch arall bellach wedi eu hychwanegu at y rheiny, sef 2020 a 2021. 

Bellach, rhaid byw mewn gobaith y cawn ni fynd i Dregaron yn 2022!
Dyma symbylodd y dasg a osodais yn rhifyn Mehefin … gorffen pennill yn dechrau efo:

Rhaid aros blwyddyn arall
Cyn cawn ni roddi tro
I ‘Steddfod Sir y Cardis

Hyfryd ydy cael croesawu CLIFF O’R BONT yn ôl. Cyfaddefa mai anodd fu dychwelyd wedi’r brofedigaeth a wynebodd ynghynt eleni, pryd y collodd ei annwyl briod, Iona. Cyfeiriwyd at hyn yn fy ngholofn Mis Mawrth. 

Rhaid aros blwyddyn arall
Cyn cawn ni roddi tro
I ‘Steddfod Sir y Cardis

Achos yr hen ‘bo-bo’;                   
A’r peth pwysica’ rŵan    
Fydd difa’r felltith gudd,
A rhuo canu’n hanthem                  
Yn ‘Steddfod Cymru Rydd.

Dyma blethu’n dwt obaith pob un ohonom i gael gwared â’r pandemig a’r deisyfiad i weld ein gwlad yn rhydd o grafangau pob gelyn arall.

Mae ARTHUR O FACHEN hefyd yn gweld eisiau’r Ŵyl, ac mewn pennill bach tlws, yn awchu am gael dychwelyd at normalrwydd unwaith yn rhagor:

Rhaid aros blwyddyn arall
Cyn cawn ni roddi tro
I ‘Steddfod Sir y Cardis

A golygfeydd eu bro.
Cawn brofi sain cystadlu
A’r miri ar y Maes,
A gwleddoedd hen draddodiad
Pob Cymro a Chymraes,
A’r dorf yn trafod gyda gwên
O’r Pafiliwn i’r Babell Lên.

Am y tro cyntaf un, hyfrydwch ydy cael estyn croeso i RICHARD O’R BAE i Rod y Rhigymwr. Deallaf mai un o hogiau Pengwndwn ydy Richard Jones yn wreiddiol, er iddo fod yn byw yng nghyffiniau Bae Penrhyn ers sawl blwyddyn. Hoffaf yn fawr y modd y crisialodd yntau’r gobaith y cawn weld Prifwyl yn fuan … y flwyddyn nesa’ os Duw a’i myn:

Rhaid aros blwyddyn arall
Cyn cawn ni roddi tro
I ‘Steddfod Sir y Cardis

A gweld mwynderau’r fro
Eisteddfod ddaw, rwy’n siŵr o hyn,
Daw unwaith eto haul ar fryn.

Ganrif yn ôl i eleni, tre Caernarfon oedd lleoliad y Brifwyl. Soniais yn Rhifyn Chwefror 2020 am bryddest CYNAN, ‘Mab y Bwthyn,’ a gipiodd y goron yno.
Bardd y gadair oedd Robert John Rowlands, a adwaenir yn well dan yr enw barddol, MEURYN. Gŵr o Abergwyngregyn, Bangor ydoedd, a newyddiadurwr o ran galwedigaeth. Pan gadeiriwyd ef am ei awdl delynegol ‘Min y Môr,’ roedd newydd ddechrau ar ei swydd fel golygydd Yr Herald Gymraeg yng Nghaernarfon. Daeth wedyn i fri fel awdur cyfres o nofelau dirgelwch i blant hŷn ac fel beirniad Ymryson y Beirdd ar y radio. Ef hefyd fu’n gyfrifol am y golofn ‘Cerdd Dafod’ yn wythnosolyn Y Cymro. Bu farw’n henwr 87 oed ym 1967.

Mae ei awdl yn disgrifio hyfrydwch natur. Hwyrach nad oes llawer o arbenigrwydd yn perthyn iddi, ond erys y cywydd canlynol ar gof llawer ohonom:

Gwelais long ar y glas li
Yn y gwyll yn ymgolli;
Draw yr hwyliodd drwy’r heli
A rhywun hoff arni hi;
Dűwch rhiniol dechreunos
Leda’i law dros ei hwyl dlos.

Hwylia’r llong yn ôl o’r lli –
Dawnsia’r don asur dani;
Daw yn ôl o dan heulwen,
A’r awel iach ar hwyl wen;
A daw gwynfyd eigionfor
I minnau mwy ym min môr.

Gwnaeth erthygl SIMON CHANDLER … ‘Diogelwn’ gryn argraff ar ddarllenwyr Llafar Bro y mis dwytha. Ystyriwn pa mor hanfodol ydy cadw’r enwau gwreiddiol ar dai a thyddynnod ein gwlad, a gwrthod gadael i’r un estron eu disodli. Ar Ynys Môn yn ddiweddar, ail-enwyd tŷ yn ‘Llan Tropez!’  A dyma ymateb Simon i hynny ar ffurf gryno deng-sillaf-ar-hugain englyn grymus, gafaelgar arall o’i eiddo:

Llan Tropez … 

Ar dân o’r gogledd i’r de, rhyw feirws
ar furiau sawl cartre’,
un aflan, taer am gyfle:
gwewyr pur yw Llan Tropez.

-----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2021



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon