Daeth y plac haearn hwn i olau dydd yn ddiweddar yn ystod y gwaith ar hen blasty Bryn Llywelyn yn Llan Ffestiniog wrth i’r cwmni lleol SEREN addasu’r lle yn westy arbenigol ar gyfer rhai sydd ag anableddau corfforol neu anawsterau meddyliol.
Mae’r plac yn mesur 3¾ troedfedd ar ei hyd a 2¾ troedfedd o uchder, a gan ei fod yn ddarn mor drwchus o haearn bwrw, yna mae angen pedwar dyn cryf i’w godi oddi ar y ddaear.
Yr hyn sydd fwyaf diddorol yn ei gylch yw’r geiriau sydd arno. Yn ôl a ddeallaf, rhaid ystyried y broses a ddefnyddid yn y cyfnod hwnnw er mwyn egluro’r camgymeriad bod ambell lythyren a rhif wedi ymddangos o chwith.
Ond y sialens fwyaf yw ceisio rhoi ystyr i’r geiriau sydd ar y plac. Fe rof gychwyn arni, yn y gobaith y bydd hynny’n ysgogiad i’r haneswyr yn eich plith gynnig eglurhâd amgenach:-
O gysylltu’r enw THOMAS efo’r dyddiad 1782, yna dwi’n credu mai cyfeiriad sydd yma at Syr Thomas Wynn (1736 – 1807), sef y Barwn Newborough cyntaf. Mae’n bosib mai cyfeiriad at y cyfenw Wynn ydi’r VNSTE ar yr ochor dde. ‘Wynstay’ efallai, wedi ei sillafu gan ofaint oedd yn Gymro uniaith ac yn dibynnu’n llwyr ar ei glust? Hyd y gwn i, fodd bynnag, does dim cysylltiad rhwng teulu Newborough, stad Glynllifon, a theulu Williams-Wynn, perchnogion stad Wynstay yng ngogledd-ddwyrain a chanolbarth Cymru.
Ond pwy oedd yr ALIS FILD (Field?) HIS WIF (sillafiad Saesneg cynnar iawn am ‘wife’, mae’n debyg) sy’n fater arall oherwydd fe wyddom fod 1782 yn ddyddiad arwyddocaol yn hanes teulu Newborough am mai dyma’r flwyddyn y bu farw gwraig gyntaf y barwn, sef Catherine.
Ac mae’r geiriau AND DINIS hefyd yn llawn cymaint o ddirgelwch imi.
Y sialens felly yw ceisio cysylltu’r enwau a’r geiriau hyn i gyd a gneud rhyw fath o synnwyr o’r cyfan.
Anodd deud beth yw’r cerfiadau eraill ar y plac. Draig a llew, o bosib, a rhyngddynt belen (‘orb’) efo coron arni? Dim byd sy’n debyg i arfbais y teulu Newborough presennol, beth bynnag.
-GVJ
Ymateb yr awdures a’r hanesydd Gwen Pritchard Jones
Rhaid cyfaddef na wn i’n iawn beth i’w wneud o’r geiriau ar y plac – oes tystiolaeth bendant yn ei gysylltu â Thomas, Arglwydd Newborough? Erbyn 1782, wrth gwrs, roedd helyntion ariannol yn poeni Thomas druan, a dyna pam iddo fwy neu lai ‘ffoi’ i’r Eidal gyda’i fab John, yn yr un flwyddyn.
Mae’n fy nhrawo i y dylid cwestiynu os mai 1782 yw’r dyddiad mewn gwirionedd? Allasai ddim darllen fel 1582? Fy nheimlad i – er nad oes gen i unrhyw arbenigedd yn y maes – yw fod y gwaith braidd yn gyntefig i ddyddio o 1782, ond yn gweddu fwy i gyfnod cynharach o lawer.
Oes hanes i Fryn Llywelyn fyddai’n dyddio’n ôl cyn belled â hynny? Oedd tŷ ar y safle cyn y plasty presennol? Wn i ddim lle i ddechrau ymchwilio i’r enw Thomas (Unste/Unster/ neu rywbeth cyffelyb?) Ac a fyddai’n bosib iddo fod wedi priodi ddwywaith – Alis a Dinis? Mae angen rhywun sydd â llawer mwy o wybodaeth na mi i ddatrys yr ysgrifen, mae arna i ofn!
Cymerais yr hyfrdra i anfon copi o'r llun i ffrind i mi, David Bennett-Williams, postfeistr Penygroes. Mae o'n ymddiddori mewn hanes lleol, ac yn mynd i fanylder mawr efo'i ymchwiliadau. Beth bynnag, mae o'n cytuno efo mi mai 1582 yw'r dyddiad, ac yn amau mai ffurf ar Wynstay yw'r Unste. Mae'n awgrymu mai merch oedd Alys, y Fild yn ffurf llygredig ar 'Filia' [h.y. Lladin am ‘merch], a'r wraig fyddai Dinis - er nad yw'r enw yna'n gyfarwydd iddo. Mae David yn awgrymu chwilota'r arfbais a fyddai'n fwy tebygol o gynnig trywydd teuluol i'w ddilyn.
-------------------------------
O ddarllen llythyr Gwen Pritchard Jones, y cwestiwn sydd rŵan yn codi yw hwn – Pryd ddaeth y teulu Newborough yn berchnogion ar Bryn Llywelyn? Plasty Glynllifon oedd eu cartref parhaol, wrth gwrs, felly ai prynu tŷ a thir yn yr ardal hon yng nghyfnod twf y diwydiant llechi a wnaethon nhw?
Os felly, yna mae’n eithaf posib, fel yr awgrymir yn y llythyr uchod, nad cyfeiriad at unrhyw un o’r Newboroughs sydd yma! Dryswch i aelodau’r Gymdeithas Hanes ei ddatrys gobeithio!
Gobeithio y bydd rhai o ddarllenwyr Llafar Bro yn barod i roi cynnig ar ddehongli’r cyfan.
Lolfa’r gwesty newydd a’r lle tân lle darganfuwyd y plac
haearn
[Lluniau: Gareth T. Jones]
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon