Mae Bara Caws wastad yn llwyddo i ddenu cefnogaeth dda, ac roedd y neuadd yn llawn eto'r tro hwn i weld sioe oedd yn ddwys a digri' bob-yn-ail.
“Sut ddaeth hi i hyn hogia’?” gofynodd un o'r milwyr oedd ar fin dringo dros ymyl y ffos i wynebu cawod o fwledi...
Mae'r ddrama'n egluro trwy ga^n ddoniol iawn be oedd amgylchiadau cymleth iawn dechrau'r rhyfel, ac yn awgrymu'n ysgafn bod gyrrwr car Franz Ferdinand wedi mynd ar goll pan gafodd ei feistr ei ladd.
"Ma’ ‘na fai ar bawb yn rwla’n y gyflafan erchyll hon
Am bo’ Leopold ‘di mynd.....FFOR RONG!"
Y cast fu wrthi yn llunio sgript newydd dan arweiniad y llenor Aled Jones Williams. Medden' nhw:
"Wrth bori drwy’r pentyrrau o lyfrau, erthyglau, casgliadau o lythyrau, a’r cyfrolau o gerddi ddaeth i law buom yn dewis a dethol y deunydd tybiwyd oedd fwyaf addas ar gyfer llunio DROS Y TOP.
"Mae gan bawb ei safbwynt a’i stori, ac mewn rifíw, sy’n gymharol ysgafn o ran natur, ac sy’n para ychydig dros awr, mae’n annatod mai braslun yn unig fydd yn y sioe o’r cymhlethdodau gwleidyddol dyrys oedd yn bodoli yn Ewrop ar y pryd. Yn pendilio rhwng y llon a’r lleddf, y melys a’r chwerw dyma gipolwg sydyn ar y pam, y sut, y pwy, a’r ble a ysgogodd y gyflafan waethaf a welodd Cymru ac Ewrop erioed.
"Fel cwmni cymunedol ‘roedd Bara Caws hefyd yn awyddus i bob cymuned gael cyfle i gyfrannu i’r sioe. Cafwyd ymateb ardderchog gan unigolion, ysgolion a sefydliadau, ac roedd y syniadau ddaeth i law, a’r brwdfrydedd yn ysgubol."
Vivian Parry Williams, ysgrifennydd Llafar Bro, oedd yn cyfrannu yn Stiniog, ac roedd y neuadd yn gwbl ddistaw wrth iddo gyflwyno hanes y swyddog recriwtio lleol, Lewis Davies, a'r drwg-deimlad gododd gan ei weithgareddau o, pan oedd yn ennill 15 swllt y dydd er mwyn gyrru hogiau lleol i'r fyddin.
Cofeb Mametz. llun- Wicipedia |
Diolch Bara Caws a VP am ein hatgoffa o amgylchiadau dychrynllyd y rhyfel mawr. Roedd y weithred syml gan un o'r cast, o sgwennu'r niferoedd a laddwyd yn rhai o'r brwydrau ar fwrdd du ar ochr y set -er enghraifft 5000 o Gymry mewn pum niwrnod yng Nghoed Mametz yn y Somme- yn effeithiol iawn.
Roedd yr olygfa olaf, er yn benthyg llawer o olygfa olaf enwog Blackadder, serch hynny yn effeithiol iawn, ac roedd nifer yn y gynulleidfa dan deimlad o sylweddoli mor ddi-hid oedd cadfridogion o dynged y rhai dan eu gofal.
Cafwyd cymeradwyaeth brwd iawn, a bu cryn drafod y perfformiad ar y ffordd adref y noson honno.
Yr un cast oedd wrthi ag a welwyd yn rifiw 2013 Bara Caws, sef 'Hwyliau'n Codi', ac fe gafwyd yr un gymysgedd o actio arbennig (pob actor yn cymryd sawl ro^l) a chaneuon hwyliog. Melys moes mwy.
Er ei bod yn anodd weithiau llusgo'ch hun o'r ty gyda'r nos ar ol diwrnod o waith, mae'n werth codi bob tro er mwyn gwylio Bara Caws. Gallwch fod yn saff o sioe sy'n well o lawer na phydru o flaen y teledu! Os na welsoch chi hon, bydd yn rhaid i chi aros tan yr hydref am ddrama nesa Theatr Bara Caws, sef 'Garw' gan Sion Eirian. Rhywbeth i edrych ymlaen ato eto.
PW
Cast: Gwion Aled, Rhian Blythe, Mirain Haf, Carwyn Jones, Rhodri Sion
Cyfansoddwr a Chyfarwyddwr Cerdd: Osian Gwynedd
Cyfarwyddwyr: Betsan Llwyd
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon