Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog:
Gŵr gwadd diweddar
oedd Vivian Parry Williams a’i destun “Y stori tu ôl i’r trysor”.
Dechreuodd
drwy nodi fod llawer i stori ynghlwm a celfi a chreiriau sydd wedi dod i
lawr drwy’r oesoedd oddi wrth nain neu daid rhywun. Pedwar o’r creiriau hyn
oedd cefndir ei sgwrs ac fe ddefnyddiodd sleidiau i egluro ei neges.
Gwelsom lun
o chwarelwyr Rhiwbach a dynnwyd yn 1938. Clywsom lawer am Rhiwbach a dangoswyd nifer o sleidiau o adfeilion y chwarel a’r
pentref. Yn y cyswllt hwn dangosodd Vivian gloch fach a ddefnyddiwyd gan Kate
Hughes o Danygrisiau yn yr ysgol yno lle yr oedd yn
brifathrawes. Agorwyd yr ysgol yn 1908 a daeth i ben yn 1913 ac yn y cyfnod yma
arferai Kate Hughes deithio yr holl ffordd dros y mynydd i
Rhiwbach ym mhob
tywydd a dangoswyd llun ohoni yn dychwelyd yn ôl i’r Blaenau ar gar gwyllt
ynghanol y chwarelwyr oedd yn mynd adre o’u gwaith.
Yr oedd digonedd o
sylwadau ar y diwedd yn dyst fod y gynulleidfa wedi
gwerthfawrogi y
noson. Talwyd y diolchiadau ffurfiol gan Eifion Jackson.
Y
FAINC ‘SGLODION.
I gychwyn ar ail ran o’n rhaglen
2012/13 treuliwyd amser difyr yn gwrando ar Bethan Wyn Jones yn darlithio ar Lên Gwerin Llysiau Llesol, a thrwy hefyd ddefnyddio sgrin i ddangos lluniau'r planhigion roedd y
sgwrs yn rhoi’r syniad fod rhywun yn mynd am dro a hithau yn egluro eu defnydd
meddygol gan gychwyn efo ‘Bysedd y Cŵn’ neu fysedd cochion; cleci coch, gwniadur Mair.
Fel ag i wneud efo
rhinwedd pob planhigyn does neb yn gwybod pryd y daeth dyn - nag anifail
chwaith - i synhwyro at be mae hyn yn dda neu’r llall yn wenwynig. Fe gofiwn yn dda pan yn blant o gael ein
rhybuddio i beidio â rhoi blodyn bysedd y cŵn yn ein ceg - ond roedd y rhai
hyn yn dweud fod y planhigyn yma yn dda
at ‘guriad y galon’.
Hyn yn fyr i ddatgan ein bod
wedi bwrw orig o werth yn ei chwmni.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon