Wrth deithio adref penderfynais fynd yn araf trwy bentref Traws ac fe lifodd yr atgofion yn ôl. Gwelais ddau beth sy’n siwr o dynnu gair eto. Yn gyntaf, hen bont y Llan sy’n dal ein hanes. Yn ail, Bryn y Gofeb ar y gorwel.
Ond y tro yma yr ysgol a gymerodd fy sylw gyda’i muriau cerrig
yn dal gobeithion plant heddiw ac atgofion ei chyn-ddisgyblion. Yn ein dyddiau
ni nid oedd y safle’n un mor agored gan y safai Capel Ebenezer a Thŷ’r Capel o’i
blaen. Heddiw, a’r Capel wedi ei ddymchwel, mae’r ysgol i’w gweld yn glir trwy
fynediad llydan. Ond mae’r iardau sy’n amgylchu’r adeilad yn union fel yr oeddynt
ac yn amlwg mewn cyflwr da.
Mae’r iard gyffredin tu allan i’r brif fynedfa wedi
ei marcio ar gyfer chwarae pêl rwyd. I’r dde roedd iard y bechgyn yn codi’n
serth tu ôl i gefnau tai Fronwynion at doiledau’r bechgyn ar y pen pellaf ond
erbyn heddiw nid yw yn greigiog fel cynt ac mae wedi ei marcio’n dwt ar gyfer
gwahanol gemau.
Yma, byddem yn chwarae ein fersiwn ni o bêl rwyd gan anelu i
daflu’r bêl i ddwylo’r gôlgeidwad. Gem digon peryglus ar dir mor greigiog. Ar y
ochr arall safai’r ystafell gwaith coed a iard y merched, a thu cefn i honno
safai toiledai’r merched, gefn yn gefn â rhai’r bechgyn. Doedd moethusrwydd
mewn tai bach ddim yn bod yn y pedwar degau!
Byddai pob gweithgaredd yn darfod a distewi pan oedd ‘Ffeit!’ yn cychwyn, a dyna, mae’n debyg, oedd prif atyniad y Twll. Yn aml, yn ystod amser chwarae neu awr ginio clywid gwaedd ‘Ffeit! Ffeit!’ a merched a bechgyn yn tyrru at y Twll i wylio.
Ydi, mae plant yn dangos parodrwydd yn ifanc iawn i godi dwrn a tharo’n ôl ac, yn hynny o beth, roedd y ‘Twll’ yn ein dyddiau ni yn ‘feicrocosm’ o’r byd yr ydym yn rhan ohono heddiw.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon