18.3.13

Troedio'n ol- Llew Glyn

Mae John Norman yn cynnal cyfres ddifyr a phersonol o erthyglau ar hanes Trawsfynydd, bob mis yn selog yn Llafar Bro.

Dyma ddarn o'i golofn yn rhifyn Mawrth 2013 sydd yn y siopau erbyn hyn.




Mis diwethaf ysgrifenais am Ysgol Traws. Meddyliais wedyn am addysg ag ysgolion yn gyffredinol. Yr ydym pob un yn cofio’n ddwys am un athro, o leiaf, a’i effaith yn ddwfn arnom. Un felly oedd Llew Glyn Davies.

Llew Glyn oedd athro dosbarth y sgolarship ac ef a gymerodd holl waith ei gyd-athrawon a’u sgleinio fel bo’r gofyn. Dyn ifanc golygus oedd a’i lygaid yn byrlymu gyda chyfrinachau bywyd a’i wyneb a gwen siriol ar ddechreu pob dydd. Athro oedd yn cael ei addoli gan y plant wrth eu harwain trwy lwybrau troellog addysg. Byddem yn dotio at ei allu i ‘sgwennu ar y bwrdd du gyda llaw dde neu chwith a gwyliem ei ddawn i daflu darn bach o sialc yn unionsyth gyda unrhyw law hefyd.

Ysgol Bro Hedd Wyn- hawlfraint y llun Alan Fryer, trwydded 'creative commons', o wefan Geograph
Er ein bod mewn hen ddesgiau cyfyng ac yn gweithio ar lechen glas ac ychydig o adnoddau ni theimlem unrhyw anfantais ac roedd amser gyda Llew Glyn yn  hudolus.  Gyda’i lais ystwyth aeth a ni i fyd chwedloniaeth ac hanes gan drosi’r neges i’n bywyd dyddiol. Aeth a ni allan i fyd natur a chredaf bod  lluniau ar gael yn y Traws am ddiwrnod arbennig ar y Grisiau Rhufeinig yn hel llus.

Cefais y fraint o gysylltu ag Ysgol Traws  a Llew Glyn eto ar ddiwedd y rhyfel. Roedd yn rhaid i mi wneud ymarfer dysgu deg wythnos cyn mynychu’r coleg ym Mangor. Byddai Cyngor Meirionnydd yn talu ffioedd dysgu a llety eu myfyrwyr lleol ar yr amod o wasanaeth o’r fath. Ar y diwrnod cyntaf pwy oedd yno i’m derbyn ond fy hen athro Llew Glyn Davies, wedi dychwelyd o’r rhyfel. Yntau yn  taro sym hirfaith ‘long division of money’ ar y bwrdd du ac yna cerdded allan o’r dosbarth gan ddweud “Chdi biau nhw rwan !” ‘Roedd yn garedig iawn ac yn ymfalchio fy mod am yrfa dysgu.

Bu Gwasanaeth Coffa fawr bu iddo yn y Bala, a chwalwyd ei lwch yn Eglwys Cerrigydrudion. Mae fy Hen Daid a Hen Nain wedi eu claddu wrth ddrws yr Eglwys hon. Pan alwaf yno wrth fynd heibio Cerrig cofiaf am ddyn ag athro fu’n ddylanwad ar gymaint o blant Meirion.
                                                                       John Norman
                                          



  

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon