Gallwch ddarllen ei erthygl yn llawn yn rhifyn Mawrth 2013.
Soniais ychydig am y rhain
yn rhifynnau Hydref a Thachwedd 2012.Dyma air bach amdanynt unwaith yn rhagor.
Cael cosb am fynd a llechen
gron adref
Yn y flwyddyn 1893 aeth
pethau yn ddrwg yn Chwarel Llechwedd a bu streic yno am 5 mis. Dyma beth ddywed
un gohebydd mewn adroddiad yn Y Genedl
Gymreig, Mai 23, am rai agweddau parthed y sefyllfa yno –
Cwyna’r dynion
fod y ddisgyblaeth ryfeddaf fu erioed yn cael ei harfer yn y Llechwedd. Caiff
dynion eu reportio am y pethau lleiaf, megis aros adref i fod yng nghynhebrwng
cyfaill o chwarelwr, cychwyn adref funud cyn i’r gloch ganu –dywedir ddarfod i
un dyn gael ei alw i gyfrif am ddim
ond dweud fod y gloch yn canu.
Mae yn
arferiad ym mhob chwarel i weithiwr gael mynd a llechen gron gydag ef.
Y dydd o’r
blaen aeth Griffith Roberts, Bethania ag un adref i’w wraig. Hysbyswyd hynny
i’r awdurdodau, a rhybuddiwyd ef i aros adref o’r chwarel am wythnos. Ond
deallwn iddo gael maddeuant am ei drosedd anferth ymhen tri diwrnod, ac nid wyf
yn sicr na fu raid iddo dalu chwe cheiniog am y llechen cyn cael hynny.
Pwy a fuasai’n meddwl y
deuai stori am y lechen gron i mewn i hanes yr anghydfod
diwydiannol hwn, ynte ?
Llechen gron a Llafar Bro. Llun PW |
Mae Steff yn adrodd hanesyn arall am lechen gron a helyntion chwarel
yn yr erthygl hefyd. Sef sut oedd gweithwyr Chwarel y Penrhyn yn rhoi eu henwau
ar lechen gron er mwyn galw cyfarfod i drafod anghydfod, rhag i’r rheolwyr weld
pwy oedd wedi llofnodi gyntaf a chodi stwr!
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon