23.3.20

Datganiad Feirws Corona

Er mwyn gwarchod ein dosbarthwyr, a'n darllenwyr hefyd, rydym wedi penderfynu
NA FYDDWN YN ARGRAFFU Llafar Bro nes bydd y sefyllfa wedi gwella.

Mae'n siom i bawb, ac yn ddigynsail: ni fu toriad yn y cyhoeddi ers y rhifyn cyntaf yn Hydref 1975, ond o dan yr amgylchiadau, gobeithiwn eich bod yn cytuno mae dyma'r peth cyfrifol a chywir i'w wneud.

Mae criw gwirfoddol y papur yn ystyried sut fedrwn barhau i gynnig newyddion ac erthyglau yn ddigidol ar gyfer y gymuned trwy'r cyfnod anodd hwn.

Daliwch ati i yrru newyddion, cyfarchion, lluniau, ac erthyglau atom. Mi rown ni nhw ar ein cyfryngau cymdeithasol. 

Yn y cyfamser, cofiwch bod dros 770 o erthyglau eisoes ar y wefan hon; 'bodiwch' trwy'r tudalennau tra eich bod yma!

Efallai y gall rhai ohonoch argraffu ambell erthygl i'w rhannu efo aelodau'r teulu sydd ddim ar y we...

Cadwch yn ddiogel gyfeillion. Diolch am gefnogi eich papur bro. Daw eto haul ar fryn.



Stiniog o inclên y Greigddu, gan Helen McAteer


19.3.20

Prysurdeb ar Gae Clyd


Mae aelodau a chefnogwyr Clwb Pêl-droed Amaturiaid y Blaenau wedi bod wrthi fel lladd nadroedd yn gwneud gwellianau angenrheidiol yng Nghae Clyd.

Mae'n rhan o'r ymdrech i godi cae mwyaf trawiadol Cymru i safonau haen 3 y Gymdeithas Bêl-droed.

Cafwyd hwb yn ddiweddar gan Gyngor Tref Ffestiniog  i’r ymdrech i godi arian i osod seddi ar gyfer y cefnogwyr.


1. Cadeirydd y Cyngor Tref a Llywydd y Clwb
Dadorchuddwyd arwydd noddi newydd ar ochr y cae, cyn eu gêm gwpan yn erbyn Mynydd Llandegai ym mis Chwefror, gyda’r Cynghorydd Glyn Daniels yn cynrychioli’r cyngor a Mici Plwm, y llywydd yno ar ran y clwb.


Yn anffodus, colli fu hanes y tîm ar y diwrnod, mewn gêm galed, dan amodau chwarae anodd iawn. Ar ôl bore sych, daeth y glaw wrth i’r i’r gêm gychwyn. Er y gwledd o goliau, roedd yn 5-5 ar ddiwedd y amser ychwanegol, a bu’n rhaid chwarae’r amser ychwanegol ar gae mwdlyd trwm, a cholli o 5-6 fu’r hanes.

2. Chwaraewyr a swyddogion Cae Clyd.
3. Rhai o'r cefnogwyr oedd wedi troi allan ar ddiwrnod gwlyb iawn!

4. Niwl, glaw, mwd...

Diweddariad gan Andrew Roberts:

Seddi.
Mae’r clwb wedi prynu 88 o seddi i lenwi'r eisteddle erbyn hyn. Mi fydd angen cael 12 sedd arall i gyrraedd y cant angenrheidiol, ac rydym yn y broses o'u harchebu ac mi fydd yn rhaid i ni gael hyd i rwbath fel lloches bws i'w gosod nhw ynddo.

Gyda llaw, mae'r clwb yn chwilio am noddwyr ar gyfer y seddi hyn. Mae manylion ar y dudalen facebook.

Rydym hefyd yn chwilio am feinciau ychwanegol ar gyfer yr ystafelloedd newid cyn gynted a phosib.

Llwybr caled.
Mae'r criw wrthi'n gosod y sylfaen yn barod i’r concrid. Mae'r rhediad o flaen y stand yn cael ei wneud yn gyntaf, cyn gwneud y darn tu ol i’r gôl.

Mae'r canllaw newydd (llun 5, uchod) wedi ei osod o flaen y stand -ac yn edrych yn dda- gyda chymorth ariannol gan gwmni Magnox.

Cyfleusterau.
Diolch i gwmni D & C Jones am gyfrannu caban ar gyfer hyn. Mi fydd angen plymio pan ddaw.

Diolch i’r rhai sydd wedi helpu hyd yma.
Heb yr elfen llafur yma mi fasa’r tasgau uchod yn amhosib.

Os ydym am gyrraedd y nod erbyn diwedd Ebrill, mae angen hwb arall a help llaw gan bwy bynnag sydd ar gael dros y penwythnos yma. Mae angen clirio llanast i sgip a help llaw hefo’r gwaith rhawio, ac amryw dasg arall. Diolch.

Lluniau:
> 1,2,3 Alwyn Jones
> 4 Paul W
> 5 o dudalen FB y Clwb

16.3.20

Cwmni Bro Ffestiniog yn mynd o nerth i nerth


Cronfa Her yr Economi Sylfaenol
Rydym yn ddiweddar iawn wedi bod yn llwyddiannus yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru o Gronfa Her yr Economi Sylfaenol.

Yn ôl gofynion yr her, rydym am gynnal prosiect dros gyfnod hir, hyd at ddiwedd Mawrth 2021 a fydd yn datblygu ac atgyfnerthu’r economi sylfaenol yn lleol. Mae’r gronfa yn dynodi mai arbrawf yw pob ‘prosiect’ sydd wedi eu cyllido, a phwrpas bob arbrawf yw yn gyntaf i greu 'dysgu o werth' o ran sut i ymateb yn adeiladol i ddatblygiad sy’n cael ei labelu yn ‘economi sylfaenol’.

Wrth gwrs, yn ddelfrydol bydd pob prosiect yn llwyddiannus, ond mae'r syniadaeth amgen o roi pwyslais ar ddysgu o brosiect – boed hynny o lwyddiant neu o fethiant - yn gyffrous iawn.

Beth yw’r economi sylfaenol?
Caiff oddeutu traean o’r economi yn ei chyfanrwydd ei hystyried yn economi sylfaenol. Mae’r economi sylfaenol yn cynnwys conglfeini yr economi leol, neu’r agweddau hynny o’r economi sydd yn angenrheidiol i fywyd dyddiol pobl y gymuned. Enghraifft dda o gwmni lleol sydd wedi angori yn yr economi sylfaenol fyddai cwmni megis GEWS sy’n cynnal systemau carthffosiaeth yn lleol, sydd â safle ym Mhenrhyndeudraeth, sydd yn defnyddio adnoddau lleol, ac sydd yn cyflogi nifer o weithwyr o’r gymuned.

Yng nghymunedau ôl-ddiwydiannol chwarelyddol gogledd Cymru mae nifer o fentrau cymdeithasol wedi sefydlu sy’n allweddol i dwf a llwyddiannau ein heconomïau sylfaenol lleol. Yn ôl adroddiad economaidd ar fentrau cymdeithasol Bro Ffestiniog mae oddeutu 120 wedi eu cyflogi gan fentrau cymdeithasol yma, mae 46% o bryniant ein mentrau yn cylchdroi’n lleol ac mae’r mentrau eu hunain yma yn eu hanfod i wasanaethu ein cymunedau. Wrth edrych ar ein hanes lled ddiweddar gwelir fod ‘menter gymdeithasol’ yn ddatblygiad naturiol yn ein cymunedau er mwyn ymateb i anghenion cymdeithasol ac economaidd penodol y cymunedau yma. Erbyn heddiw maent yn rhan annatod o’r economi sylfaenol leol.

Mae’r defnydd o fentrau cymdeithasol fel cyfrwng i atgyfnerthu ein heconomi ‘sylfaenol’ leol hefyd yn ein galluogi i ymateb i’r angen i atgyfnerthu cydlyniant ein cymunedau er mwyn sicrhau eu bod yn gymunedau hyfyw, lle gallwn fyw a bod. Cymunedau lle bydd dyfodol i’n plant heb iddynt orfod mudo a lle gall pob un, o pa bynnag gefndir, ffynnu. Mae’r mentrau cymdeithasol fel y rhai sydd wedi datblygu yma ym Mro Ffestiniog yn gyrff economaidd sydd hefyd yn cynrychioli’r gymuned, er mwyn y gymuned. Mae byrddau gwirfoddol ein mentrau yn cynrychioli ffurf ar ddemocratiaeth leol sy’n atebol i’r gymuned. Onibai bod y mentrau’n gwasanaethu anghenion ein cymunedau byddant yn methu’n hwyr neu’n hwyrach. Mae eu cyfrifoldeb a’u hatebolrwydd yn arwain peth o’r ffordd at gymryd ein cymuned yn ôl i’n dwylo ni ac ail-berchnogi’r economi a’i chyfeirio’n bwrpasol i’n gwasanaethu ni - ein bod yn democrateiddio’r economi sylfaenol er budd ein cymunedau.

DOLAN
Bydd tair cymuned ôl-ddiwydiannol, chwarelyddol yn cydweithio, cyd-greu a chyd-ddysgu dros gyfnod ein prosiect, sef Bro Ffestiniog, Ogwen a Nantlle. Mae defnyddio mentrau cymdeithasol fel modd i ddatblygu’r economi yn gyffredin i’r dair cymuned ond mae'r modd y gwnaed hynny wedi bod yn wahanol ym mhob ardal. O’r gwahaniaethau yma y daw ein prosiect ar gyfer Cronfa Her yr Economi Sylfaenol.

Rydym yn hyderus ynglŷn â’r prosiect hwn oherwydd ein profiadau o gydweithio, cyd-greu a chyd-ddysgu wrth weithredu fel Cwmni Cymunedol Bro Ffestiniog. Yn achos Cwmni Bro mae posib cyfeirio at effeithiau cadarnhaol uniongyrchol; megis llwyddiannau Y Dref Werdd ac Antur Stiniog er enghraifft.

Llwybrau beicio Antur Stiniog ar y Cribau

Bydd y cymunedau hynny sydd wedi cymryd rhan yng nghyfnod cyntaf y prosiect yn bartner cyfartal i gymuned newydd yn ail gyfnod y prosiect. Byddwn yn creu cwmni newydd – Cwmni Dolan – i gefnogi a chydlynnu’r partneriaid newydd hyn. Mae’n holl bwysig i lwyddiant ein gweledigaeth o ddatblygu ac atgyfnerthu’r economi sylfaenol drwy ddatblygu cymunedol na chaiff unrhyw ddisgwyliadau, unrhyw atebion parod ac unrhyw ddiffiniad cul o beth ydi ‘llwyddiant’ eu pennu gan Gwmni Dolan. O’r cychwyn cyntaf yma i gefnogi, gwasanaethu a chydlynu fydd Cwmni Dolan, ac nid i awdurdodi o’r tu allan. Pwyslais ein gweledigaeth a’n gweithredoedd bob tro fydd ymrwymiad i ganiatáu i gymunedau arwain.

Bydd digwyddiad cyntaf y prosiect yn cael ei gynnal yma ym Mlaenau Ffestiniog diwedd mis Mawrth, 2020. Y thema fydd ‘Twristiaeth Gymunedol’. Bydd diwrnod deinamig o siaradwyr, gweithdai a stondinau yn ein disgwyl a chroeso cynnes iawn i bob un.

Cyfnod cyffrous iawn i ni felly fel Cwmni Bro! Cyfle i ymestyn allan tra’n atgyfnerthu’n fewnol. Ymlaen!
-----------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2020



11.3.20

Ysgoloriaeth, Annibyniaeth a Cherddoriaeth!

Mae rhifyn Mawrth allan rwan! 
Dyma ambell ddarn wnaeth ddim gwneud y cyt:

Patagonia

¡Felicitaciones a llongyfarchiadau mawr i Hanna Williams, Bronaber, sy'n gweithio yn Ysgol y Manod, ar ennill Ysgoloriaeth Rawson Cyngor Tref Ffestiniog eleni. Cafwyd cyflwyniad yn siambr y cyngor ar yr ail o Fawrth i ddatgelu'r enillydd, a dilynwyd hynny gan gyfarfod i sefydlu cangen leol o Gymdeithas Cymru Ariannin.

Hanna a'r Cynghorydd Glyn Daniels. Llun gan Gyngor Tref Ffestiniog
Gobeithir medru cynnal noson yn lleol i ddangos ffilm ddogfen enillydd 2019, Mark Wyn Evans.

Y newyddion calonogol o Drerawson ydi eu bod nhwythau bellach yn gobeithio efelychu cynllun gwych Cyngor Stiniog, a chefnogi pobl ifanc o'r Wladfa i ddod drosodd i Fro Ffestiniog yn y dyfodol.
- - - - - - - - -

Yes Cymru Bro Ffestiniog

Bu'n gyfnod prysur eto i'r gangen leol o ymgyrch annibyniaeth Cymru.

#MisAnnibyniaeth ydi mis Mawrth, ac mi fu'r aelodau'n 'gwneud y pethau bychain' ar Ddydd Gŵyl Dewi, efo rhai yn dosbarthu taflenni a chynnal stondin yn y Clwb Rygbi, yn ystod ymgais record y byd gan siop elusen leol, tra oedd criw da wedi cydweithio efo aelodau o gangen Llanrwst i chwifio baneri o ben Castell Dolwyddelan.

 
Bu canghennau eraill yn 'cipio'r cestyll' yng Nghaernarfon a Chonwy hefyd, i dynnu sylw at yr ymgyrch ac at y rali yn Wrecsam ar y 18fed o Ebrill.

Mae bws wedi ei drefnu o'r Blaenau, gan gychwyn am wyth y bore, a gadael Wrecsam tua 6.  I'r rhai â diddordeb, mae criw Yes Wrecsam yn awgrymu mynd i'r gêm bêl-droed ar ôl y rali efo baneri. Mae manylion ar gyfrifon facebook a twitter y grŵp, neu gyrrwch ebost at broffestiniog[AT]yes.cymru


Mae'r gangen yn brysur efo cynlluniau cyffrous i gynnal gŵyl annibyniaeth fel 'ffrinj' i'r Ŵyl Car Gwyllt ar benwythnos cyntaf Gorffennaf.

Rhowch rywbeth ar eich calendrau rwan!

Croeso i bawb gysylltu neu fynychu ein cyfarfodydd hwyliog!

Cyfarfod nesa: Nos Fawrth 31 Mawrth am 7 yn Siop Antur Stiniog.
(Lluniau- Paul W.)
- - - - - - - - -

Gŵyl Car Gwyllt 2020


Bu cryn edrych ymlaen am newyddion, ac yn ddiweddar iawn, mae dyddiadau ac artistiaid yr Ŵyl wedi eu cyhoeddi! Cynhelir y prif weithgareddau yng Nghlwb Rygbi Bro Ffestiniog eto eleni.

Mae gwledd wedi'i drefnu ar gyfer nos Wener y 3ydd o Orffennaf, efo cyfle arall i fwynhau Gai Toms a'r Banditos, a'r gantores ifanc leol Mared Jeffery. Hefyd bydd set gan y canwr amryddawn Gwilym Bowen Rhys, a'r rocars gwych Candelas yn cloi'r noson.

Ar y dydd Sadwrn bydd diwrnod cyfa o gerddoriaeth amrywiol i blesio pawb, efo beth bynnag dwsin o grwpiau ac artisitiaid yn canu. Mei Gwynedd fydd yn goron i'r cyfan eleni.


Mae'n siwr y bydd adloniant ymlaen yn y Tap o tua 2 bnawn Sul hefyd fel sy'n draddodiadol bellach!
Mae'r tocynnau ar gael ar-lein rwan. Brysiwch i gyfrifon facebook neu twitter yr Ŵyl i ddilyn dolen i'w prynu.


28.2.20

Gwerth bob dima...


Cynnydd ym mhris Llafar Bro

Diolch i lawer iawn o’n darllenwyr am y geiriau caredig ynglŷn â Llafar Bro ar ei wedd newydd, llawn lliw. Mae’r lluniau a’r cysodi newydd yn rhoi diwyg arbennig o ddeniadol i bob rhifyn. Yr anfantais o foderneiddio wrth gwrs ydi’r gost ychwanegol  am argraffu. Mae’n costio cannoedd yn fwy bob mis i gynhyrchu ein papur bro erbyn hyn, ac oherwydd bod y gwerthiant wedi disgyn yn sylweddol ers cychwyn y fenter ym 1975, mae’n rhaid i ni osgoi gwneud colled o fis i fis, neu byr iawn fyddai dyfodol  Llafar Bro.

Yn anffodus felly, bu’n rhaid i ni godi’r pris i 80 ceiniog o rifyn Chwefror.

Gobeithio, serch hynny, y cytunwch ei fod yn werth bob dima’, ac y byddwch yn parhau i’w brynu ac annog eich cymdogion a’ch ffrindiau i brynu eu copi eu hunain bob mis.  Mae llawer iawn o’r papurau bro eraill trwy Gymru, wedi cynyddu eu prisiau hwy i bunt neu fwy.  

Diolch o galon i holl ddarllenwyr Llafar Bro, am eich cefnogaeth werthfawr. Trwy ymdrech wirfoddol mae eich papur bro yn cael ei gynhyrchu, ac mae croeso mawr i gefnogwyr newydd ymuno â’r tîm.

Llyn Conglog efo'r Moelwynion. Llun- Dewi Prysor

Derbyn Llafar Bro ym mhen draw’r byd!

Er bod dau rifyn wedi ymddangos eisoes yn 2020, tydi hi byth yn rhy hwyr i chi danysgrifio i dderbyn Llafar Bro bob mis, ble bynnag ydych yn byw.

Gallwch dderbyn y papur trwy’r post am £20 y flwyddyn yng Nghymru a gweddill Prydain;  am £43 yng ngweddill Ewrop;  neu am £50 yng ngweddill y byd!

Yr hyn sy’n newydd ac yn gyffrous eleni am y tro cyntaf erioed, ydi y gallwch dderbyn rhifyn digidol trwy e-bost bob mis, i unrhyw ran o’r byd am £20 yn unig!

Beth am brynu tanysgrifiad i aelod o’r teulu, neu ffrind sy’n byw dramor? Neu os gwyddwch am bobl Bro Stiniog sy’n byw dramor, be’ am dynnu eu sylw nhw at y tanysgrifiad digidol newydd?
Ewch i'r dudalen danysgrifio i weld y manylion.


Diolch am gefnogi eich papur bro.