10.7.16

Peldroed. 1973--75

Ychydig o hanes y Bêl-droed yn y Blaenau. 
Parhau'r gyfres, yng ngofal Vivian Parry Williams (allan o gofnodion y diweddar Ernest Jones.



1973-74
Enillodd Stiniog y bencampwriaeth eto ym 1973-74.  Wedi ennill Cwpan Gogledd Cymru, Cwpan Alves a Chwpan Cookson yn y tymor blaenorol - ynghyd ag ennill y bencampwriaeth - yr oedd pob gobaith tua diwedd tymor 1973-74 y gellid ennill y bencampwriaeth a'r ddwy brif gwpan eto, ond roedd Peter Rowlands wedi gadael a chyfnewidiadau wedi eu gwneud yn y tîm.

Roedd y dynion newydd a sicrhawyd yn rhai talentog dros ben.  Tony Hennetty, er enghraifft yn sgorio 33 gôl a Terry Smith (14). Felly hefyd Congerton, Folksman, Whelan, Ashton, Blackhall ac eraill.  Ond roedd rhyw elfen ar goll yn chwarae y Blaenau ym 1973-74, er iddynt orffen ar ben y tabl.

Er hynny cyrhaeddwyd ffeinal Cwpan Cookson a Chwpan y Gogledd.  Cymerodd dair gêm i Marine guro'r Blaenau yng nghwpan Lloegr a dwy i'r Rhyl eu curo am Dlws Lloegr.  Gwnaeth y Blaenau'n dda yng Nghwpan Cymru drwy guro Caernarfon, Pwllheli ac Aberystwyth cyn cael eu gorchfygu gan Wrecsam.

Yr oedd ystadegau Stiniog am eu gemau Cynghrair yn arbennig o dda.  Dim ond chwe gôl a sgoriwyd yn eu herbyn mewn 16 gêm gartref, ac ni enillodd neb yng Nghae Clyd. Crëwyd record hefyd drwy ennill 13 o gemau oddi cartref.  Clwb newydd yn y Gynghrair oedd Aelwyd Rhosllanerchrugog a chawsant fedydd tân gan Stiniog.  Curwyd hwy 6-0 yng Nghae Clyd a 7-0 yn y Rhos. Bu'r Blaenau yn ddi-drugaredd iawn efo Llandudno Swifts hefyd drwy eu curo 10-0 a 5-1.

Roedd Bill Conlon bron yn amhosib' i'w guro yn y gôl i'r Blaenau.  Chwaraewyd efo deg dyn yn erbyn y Rhyl pan gafwyd gêm gyfartal yng nghystadlewuaeth Tlws Lloegr.  Sgoriodd Billy Wiliams ddwywaith i gael sgôr o 2-2.  Yn yr ail-chwarae yn y Rhyl collodd Blaenau 3-4.

1974. Llun oddi ar Stiniog[dot]com

1974-75
Dros gyfnod maith iawn fe gollodd y Blaenau fwy o bwyntiau cynghrair i Borthmadog nag i unrhyw glwb arall ac yr oedd tymor 1974-75 ymysg y gwaethaf o berfformiadau Stiniog yn erbyn y Port. Yn eu dwy gêm collodd y Blaenau 0-5 a 0-6.  Y mae'n rhyfedd fel y mae patrymau yn ffurfio dros nifer mawr o gemau yn erbyn y clybiau.

O flwyddyn i flwyddyn bu clybiau y Rhyl a Chroesoswallt yn arbennig o anlwcus i Stiniog yn y cwpannau.  Wedi cael gêm gyfartal yn erbyn Croesoswallt yng Nghwpan Lloegr - hynny hefyd yn ddigwyddiad normal - aeth Stiniog i Groesoswallt a cholli 0-1 yn nhymor 1974-75.  Yng Nghwpan Cymru wedyn, dioddefodd y Blaenau eto pan ddaethant ar draws y Rhyl.

Cychwynwyd y tymor ar y dealltwriaeth bod cyllid y clwb braidd yn isel, ac y byddai'n ofynnol i gael gwasanaeth rhai chwaraewyr lleol.  Hyn yn y tymor yn syth ar ôl i'r tîm ennill y bencampwriaeth dair blynedd yn olynol. Wedi'r holl lwyddiant yn y Gynghrair ac yn y cwpannau ymddangosai fod cefnogwyr y Blaenau wedi dechrau colli diddordeb, ac yn tueddu i gadw draw o'r gemau.  Rheswm arall yn ddiau oedd ei bod yn ddrud iawn i gadw tîm cryf.

Bob Davies, gynt o Groesoswallt, â chysylltiad teuluol ganddo â Llan Ffestiniog oedd yn rheoli yn 1974-75.  Rhai o'r bechgyn lleol a ymunodd oedd Glyn Jones (40 gêm), Richard John (36), Richard Evans (38), Billy Williams (36).  Chwaraeodd Glyn Jones, Roman Bridge ymhob un o'r deugain gêm.  Cyrraedd ffeinal Cwpan y Gogledd oedd pinacl tymor digon gwachul.  Richard John oedd y sgoriwr uchaf gyda 22 gôl.  Yn y gôl bu Norman Bennet a Tim Humphreys. 
----------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2006.
Gallwch ddilyn y gyfres efo'r ddolen isod. 

8.7.16

Pobl y Cwm -gweinidogion a rhyfeloedd

Dyddiau fu yng Nghwm Cynfal. 
Pennod arall o gyfres atgofion y diweddar Ellen Williams.


Cafodd nifer o blant eu bedyddio yn y Babell, y rhai ddaeth wedyn yn ddinasyddion da a gwerthfawr i Gymdeithas, a rhai wedi dringo i safleoedd uchel.

Tra bum i yn y Babell am i agos i hanner can mlynedd, bum dan weinidogaeth pedwar gweinidog. Y Parch Thomas Lloyd wyf yn ei gofio gynta. Bu yn weinidog ar Engedi am un-mlynedd-ar-ddeg. Pan yn ymadael yn 1905 am Capel Coch Llanberis, tynwyd llun o Gynulleidfa y Babell i roddi yn anrheg iddo. Roedd rhif yr aelodaeth yr adeg honno yn agos i hanner cant, a rhif y plant tan 14eg oed yn ugain. Bedyddiodd Parch Thomas Lloyd brawd i mi a dwy chwaer. Gwnaeth y gymwynas olaf i fy mam, chwaer a brawd i mi.

"Yma y safai hen gapel Y Babell." 1861-1904

Yn 1906 daeth y Parch John Edward Hughes o'r Coleg yn weinidog ar Engedi. Priododd pan yn dod yma i Ffestiniog â merch o Aberystwyth, ac aethant i fyw i Rhianfa, tŷ oedd yn eiddo Engedi. Yn mhen y flwyddyn ganwyd iddynt blentyn bach marw anedig, ac yn mhen dwy flynedd arall ganwyd mab iddynt, a bu farw ei fam ar ei enedigaeth. Enw'r mab yw John Medwyn Hughes, ac y mae yn byw heddyw [1978] yn Sir Fôn. Mae ganddo adgofion melys am y Babell.

Y Parch J.E.Hughes dderbyniodd fi yn gyflawn aelod o'r eglwys, wyth ohonom o'r Babell, ac unarddeg o Engedi ar yr un pryd ar nos Fercher Seiat yn Engedi. Byddai y gweinidog yn dod i'r Babell ryw awr o flaen y Seiat i roi gwersi i ni at gael ein derbyn, a rhaid oedd dysgu pobeth yn iawn. Rwyf yn cofio yn dda ei gynghorion a'i rybuddion, er lles i bawb o honom. Roedd hyn tua 1912, y flwyddyn hono roedd y gweinidog yn gadael Engedi wedi chwe blynedd o wasanaeth ffyddlon am eglwys Brynshengcyn Sir Fôn.

Rhywdro rhwng 1913-1914 daeth y Parch Edward Powell o eglwys Nant Peris yn weinidog ar Engedi. Bu yno am wyth mlynedd ar hugain yn gwasanaeth. Roedd pawb yn yr ardal yn edrych arno fel un o'r Llan. Hen lanc ydoedd a'i chwaer yn cadw tŷ iddo. Rhyw dro tua 1922 daeth gofalaeth eglwys Peniel iddo i'w bugeilio, ac i olygu mwy o waith iddo. Roedd y Parch Ed Powell o natur addfwyn, caredig a chymwynasgar. Roedd yn hoff iawn o blant, a llawer tro pan ar ymweliad rhoddai rywbeth yn llaw plentyn yn ddistaw, heb son na stwr. Byddai yn dod yn rheolaidd i ymweled a'i aelodau unwaith yn y flwyddyn, ac yn ymweld â'r hen a'r cleifion yn gyson. Bedyddiodd ddau fachgen i mi, gwnaeth y gymwynas olaf i fy mrawd a fy nhad, ac i fy machgen a fu farw drwy ddamwain yn 12 oed. Ymddeolodd o'r weinidogaeth ryw dro rhwng 1941-1942, ac aeth yn ôl i'w gynefin yn Rhosesmor. Bu cyfarfod ymadawol iddo yn Peniel, a chyflwynwyd tysteb iddo fel arwydd o werthfawrogiad o'i wasanaeth i'w eglwysi a phentre Ffestiniog am y cyfnod o wyth mlynedd ar hugain.

Yn mhen y flwyddyn wedyn daeth y Parch John Daniel Gruffydd a'i briod a dau o fechgyn o eglwys Gwernymynydd i fugeilio eglwysi Engedi a Peniel. Bu yntau yn ffyddlon, diwyd a gweithgar yn mhob rhan o wasanaeth yr eglwysi. J.D.Gruffydd wnaeth y gymwynas olaf i fy annwyl briod ar y 4ydd o Ragfyr 1946.

Gwelais ddwy ryfel byd yn y cyfamser. Collodd chwech o fechgyn Cwm Cynfal eu bywydau yn hon, er loes a cholled a hiraeth i'w teuluoedd ac i'r ardal, a prin i glwyfau y rhai a anafwyd gael amser i wella, roedd rhyfel 1939 ar y gorwel, a'r byd i gyd mewn dryswch. Roedd pawb yn byw mewn ofn a phryder, gwyddent drwy brofiad beth oedd effeithiau a chanlyniadau rhyfel. Bu am gyfnod o chwe blynedd. Daeth ein bechgyn o'r Cwm yn ôl o'r gyflafan honno yn ddianaf. Cafwyd swper croeso yn ôl iddynt yn y Babell, a diolch i Dduw am eu cadw, gan gofio gyda gofid a loes a hiraeth dwys am y rhai a aeth yn aberth i'r gyflafan fawr.

Bu yn amser galed iawn ar bawb y pryd hynny, bob peth yn gorfod newid eu cynlluniau, y bechgyn ifanc yn gorfod mynd i'r fyddin, eraill, yn fechgyn a merched yn gorfod gadael eu cartrefi i fynd i ffatrioedd i wneud arfau rhyfel. Y gweithwyr ar y tir yn prinhau, ac er iddynt weithio o oleu i oleu, roedd yn galed i godi digon o fwyd a phethau angenrheidiol i gadw'r wlad i fynd. Do, bu mewn cwrs amser newid mawr mewn trefniadau ac amgylchiadau, daliodd y bobl y Babell yn dynn yn rhaffau yr Achos, er colli llawer iawn o aelodau, fel pob man arall.

Er yr holl anhawsterau a'r anfanteision, yr oeddent ar eu goreu gyda'r plant a'r ifanc yn y gwaith da oedd dan eu gofal. Roedd eu ffyddlondeb, diwydrwydd au dyfalbarhâd yn eithriadol, ac fel cymwynaswyr a charedigion yn wir ystyr y gair.

Gofalwyr y Babell yn 1946: Ellis Thomas, Tynyfedwen, Howell Roberts, Brynmelyn, John Roberts, Brynllech.

Bendith Duw ar bawb o honoch, a daliwch i gredu yn gadarn a chry mewn ffydd, gobaith a chariad, fod i Seion eto Wanwyn hyfryd iawn.

Dyna fi wedi teithio yn ôl yn fy nghof agos i hanner canrif, mae'n sicr fy mod wedi gwneyd amryw gamgymeriad. Rwyf yn teimlo fod gen i ddyled a diolch mawr i'r Babell am y cychwyn a gefais yno, ac i'r gweinidogion y bum dan eu gofal ac yn fy hyfforddi. Rwyf yn cael cysur ac yn mwynhau edrych yn ôl i'r amser a fu.   
---------------------------------------

Ysgrifenwyd yr atgofion yn wreiddiol ym 1978; a bu'r gyfres yn rhedeg yn Llafar Bro yn ystod 1999 a 2000.
Gallwch ddilyn y gyfres gyfa' trwy glicio ar y ddolen 'Pobl y Cwm' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

6.7.16

O Lech i Lwyn -Ceunant Llennyrch

Allan Tudor gyfrannodd erthygl i’r gyfres awyr-agored yn rhifyn Mai 1999. 

Un lle y byddaf yn hoff o fynd am dro iddo yw Ceunant Llennyrch ar yr afon Prysor. Un rheswm am hyn, hwyrach, yw fod cysyltiad â fy nhaid, John Tudor, Brynderw gynt, a fu yn was yn Llennyrch, ar ôl i’r barcdu yng Ngellilydan gau. Un o’i ddiddordebau oedd gwneud ffyn, ac yr oedd y ceunant yn nodedig am fod yn lle da i dorri ffon. (Par bryd yw yr amser gorau i dorri ffon? Pan ei gweli di hi!!)

Gan fod ansawdd y graig yn feddal, a llif afon Prysor yn gryf iawn cyn cronni’r llyn, mae’r dŵr wedi gwneud ceunant dwfn iawn, ac yn gul iawn mewn mannau.

Mae sawl peth diddorol i’w nodi. Gan ddechrau ger Pwerdy Maentwrog  a adeiladwyd yn y dauddegau, tua dau ganllath i fyny’r afon mae ‘Ivy Bridge’ (ni chlywais enw Cymraeg arni erioed). Pont hynafol, diddorol, tlws a rhamantus. Un bwa cul, hir, yn rhychwantu’r afon. Mae yn uchel, i fod yn glir o’r llifogydd mynych mae’n siwr. Ac o gofio fod llanw uchel yn mynd i fyny yr afon Prysor, heibio’r bont.

Mae’n rhy gul i drol a cheffyl. Dim canllawiau. Pont i anifeiliaid yn cario pwn; ceffylau neu fulod hwyrach. Mae ar yr hen ffordd rhwng Maentwrog a Llandecwyn, a ddefnyddiwyd cyn adeiladu y ffordd sydd yn dilyn y Ddwyryd i Gilfor. Syndod fel mae wedi goroesi a hithau yn edrych braidd yn fregus. Roedd yr adeiladwyr yn gwybod eu gwaith, mae’n siwr.

Ychydig i fyny’r afon ar yr ochr ogleddol bu melin goed ar un adeg, i drin yr holl dderw a dyfai yn y dyffryn. Ac wedyn ar yr ochr arall i’r afon yr oedd odyn galch, rhwng Felinrhyd Fach a Thŷ’n y Coed. Byddai’r ‘Philistiaid' yn dod a cherrig calch i fyny’r Ddwyryd o Ynys Cyngar yn y cyfnod pan allforiwyd y llechi gyda’r cychod.

Rhaeadr Ddu, Rhagfyr 2015. Llun Paul W.
Yna doir at y Rhaeadr Ddu sydd yn syrthio dros glogwyn fel siôl fawr i bwll crwn. Wrth gwrs, cyn amser Llyn Traws, roedd yn llawer mwy trawiadol nag yw heddiw, ac yn gyrchfan i fyddigion o ymwelwyr fel Thomas Pennant yn y cyfnod ‘rhamantaidd’.

Y nodwedd nesaf a welir yw safle hen bont Llennyrch. Roedd hon ar y ffordd drol a redai o  Gellilydan, heibio Bryn Tirion, a’r Ysgubor Hen i Lenyrch. Dyma’r ffordd fyddai gweinidog Capel Methodus Gellilydan yn mynd i’r capel bach ger Llennyrch. Cofiaf innau fynd i Lennyrch gyda mam a Modryb Gwen Tudor pan oeddwn yn chwech oed, drwy’r ceunant a dros y bont!

Pentan Pont Llennyrch, Rhagfyr 2015. Llun Paul W.
Ddwedwn i fod yr adeiladwaith bron yn unigryw, fel bu i’r adeiladwyr gymeryd mantais o’r tirlun. Ar ochr Gellilydan o’r afon, daw y ffordd yn raddol i lawr llethr y ceunant i ben clogwyn serth, tua ugain troedfedd o uchdwr. Ar ochr Llennyrch, mae’r ceunant yn weddol wastad am rai llathenni o wely’r afon. Ar y tir yma codwyd ramp serth, o gerrig afon mawr. Roedd bwa’r bont wedyn yn cysylltu’r clogwyn a’r ramp. Campwaith go arbennig. Trueni iddi ddymchwel. Rwy’n meddwl mae tua’r chwedegau* y bu hyn. Buasai'n hwylusodd mawr i gerddwyr heddiw pe bai wedi cael ei diogelu.

Mae rhaeadr arall i’w gweld ychydig i fyny o’r bont. Ni wn am enw iddi, ac nid yw mor drawiadol a'r Rhaeadr Ddu. Math o rapids mewn cafn cul ydyw.

Cofiaf fy nhad yn adrodd hanes trychineb a ddigwyddodd yn y ceunant. Fel hyn y bu:
Tua 1840 roedd un o feibion Llennyrch, William Evans, yn dod adref drwy’r ceunant, ar ôl bod yn gwerthu rhai anifeiliaid mewn ffair. Wrth gwrs yr oedd yn cario swm go sylweddol o arian. Yr oedd rhywun wedi ei ddilyn, ac wedi ymosod arno ar y ffordd. Bu brwydyr ffyrnig, a William Evans druan yn ymladd am ei fywyd ar lethrau’r ceunant. Ond colli fu ei hanes, a’r traddodiad yw fod ôl ei draed wrth geisio amddiffyn ei hun i’w gweld yn y tir am flynyddoedd wedi’r digwyddiad. Ni wyr neb pwy oedd y llofrudd.

Mae digon o lwybrau yn mynd ar hyd y ceunant, ar y ddwy ochr i’r afon. Lle da i fynd am dro ar ddiwrnod braf, i weld y rhyfeddodau, gwylio’r adar, a hwyrach torri ffon!
------------------------------------------

Erthygl am fywyd gwyllt Ceunant Llennyrch.

* Awgrym am ddyddiad cynharach yn fan hyn.


Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl geiriau ar y dde.


4.7.16

Tanygrisiau Ddoe -Sul, gwyl a gwaith

Pennod olaf cyfres Mary Jones am y gymuned rhwng 1920-36.

Yr wyf wedi cyffwrdd yn flaenorol ar y capeli, Carmel, Capel Wesla, Horeb, Bethel, Caersalem (B), Moreia (B), Dolrhedyn (M), a'rr Eglwys, ond pan oeddwn i yn Nhanygrisiau roeddynt yn sefydliadau holl bwysig yn y gymdeithas leol; yn ganolfannau gweithgaredd brwd, llafur cariad a diwylliant. 

Ar y Sul roedd gwasanaeth y bore, pnawn a hwyr a hefyd byddai’r Ysgol Sul a’r c’warfod canu yn dilyn yn y pnawn; practis côr y plant a’r dosbarth derbyn.  Byddai ‘Band of Hope’ ymhob capel bron ar wahanol nosweithiau.  Byddai croeso i blant o bob enwad i fynychu a hefyd yn yr Eglwys Bach.
Roedd hefyd band-o-hôp Rechabiaid yng Nghapel Caersalem (Albanaidd).  Byddem yn dysgu canu y gân ddirwestol (os cofiaf yn iawn):
Dim ond Yfed Dŵr – Yfed Dŵr, Feddwodd neb wrth Yfed Dŵr.  

Byddai’n arferiad o gynnal cyngherddau elusennol ac aethpwyd o gwmpas y tai i werthu ticedi, chwecheiniog yr un, a’r cwmniau drama a’r corau ayyb yn wirfoddol.  Yr elw at rai o’r plwyfion oedd wedi colli ei iechyd, neu ddamwain yn y chwarel.

Cae Tynddol, hen gapel Bethel ar y chwith uchaf, siop Brymer (hen gapel Wesla), Eglwys dun St Ioan tu ôl i'r drol.*

Wrth son am help llaw – roedd llawer o blant a phobl yn mynd i gynorthwyo’r ffermwyr adeg y cynhaeaf gwair ac roedd llawer o hwyl i’w gael.  Pan oedd rhywun yn wael, roedd merched yn mynd i’r tŷ dros nos.  Cofiaf fy mam yn mynd i dŷ cyfagos a llond ei breichiau o ddillad gwely i olchi ganddi at y bore wedyn.

Yn ystod y nosweithiau tywyll a dim golau ar y ffyrdd, byddem yn mynd i’r band-o-hôp hefo lantern wedi ei gwneud o dun triog mawr a channwyll o’r chwarel.  Roedd band-o-hôp bron bob noson gan fod cymaint o gapeli, a chwarfodydd dirwest ar nos Sadwrn hefyd.

Roedd pawb yn trin y gerddi a phlannu tatws a llysiau, ac eraill yn cadw ieir a mochyn.  Byddai’r cigydd oedd yn lladd y mochyn a’i halltu yn naturiaethwr brwd ac roedd yn ymddiddori mewn hel mwsog a dail a blodau gwyllt.  Byddai yn mynd hefo’i gawell pysgota a dau fag ar ei gefn ar hyd y nentydd a’r bryniau ac roedd ganddo ganolfan i anfon samplau o fwsog o bob math i’r botanegydd yn Nolwyddelan.

Roedd bysiau yn rhedeg yn ôl a blaen ond bysus hogia’r Post oeddynt, yn rhoi gwasanaeth da, ac roedd y trên bach yn rhedeg trenau dynion i’r chwareli bach – Ceg y Tynal, Gelli... ac o chwareli Cwmorthin, Y Wrysgan a Rhosydd.  Cai’r plant hwyl yn sglefrio i lawr yr inclên ar ôl y wageni!

Yn Nolrhedyn gwnaeth y pentrefwyr safle hamdden ar ddarn o dir.  Gwnaed pitch coets i’r dynion a hefyd gwnaed argae yn yr afon i wneud Llyn y Genethod ar yr afon.  Ychydig yn is lawr yr afon roedd Llyn Hogia.  Nosweithiau haf braf a dyddiau difyr a diniwed.

Ar ôl gadael yr ysgol bum yn gweithio yn siop esgidiau Dicks ar gyfnod o brysurdeb mawr yn y dre.  Roeddwn yn gweithio o 9 tan 7 o’r gloch drwy’r wythnos a 8 tan 9 ar y Sadwrn am gyflog o 18/-.  Rhaid oedd golchi’r ffenestri dwbl bob bore a’r linoleum ar lawr, yna cael awr i ginio, a rhedeg adra i Dynllwyn dros y gors.  Cynilais arian i brynu beic Raleigh o siop y Cambrian Garage am £4-4-0 ac cefais werth bob dimai am flynyddoedd.
--------------------------------------------


* Diolch i Steffan ab Owain am y llun.

Ymddangosodd yn wreiddiol yn  rhifyn Tachwedd 1998 (heb y llun). Gallwch ddilyn y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

2.7.16

O’r Pwyllgor Amddiffyn -gêm wleidyddol

Oeddech chi yno? .... Ac ydach chi’n dal efo ni?


Mae’n siŵr bod rhai ohonoch yn cwestiynu, bellach, os oes unrhyw bwrpas mewn dal ati i frwydro, o weld bod adeilad yr Ysbyty wedi’i ddymchwel bron yn llwyr erbyn heddiw. Ond cawsom farn pensaer profiadol yn ddiweddar ac mae ef yn credu, hyd yn oed mor hwyr â hyn yn y dydd, mai mater bach fyddai addasu’r cynlluniau presennol i gynnwys ward ar gyfer gwlâu i gleifion.

Mae cynlluniau’r adeilad newydd yn cynnwys gormod o stafelloedd diangen, yn ei farn ef. (Fe gofiwch fod y Pwyllgor Amddiffyn wedi gneud yr un ddadl yn Llafar Bro dair blynedd yn ôl!).

Gyda llaw, yn ddiweddar caed clywed un o’r gweithwyr ar y safle yn cyfaddef eu bod nhw’n dymchwel adeilad o well ansawdd o lawer na’r un a gaiff ei godi yn ei le! Rhyfedd o fyd!


Sut bynnag, pa ddewis sydd ond dal ati i frwydro, fel mae pobol y Fflint hefyd yn ei wneud? Dros y tair blynedd diwethaf mae’r Betsi wedi cael cymaint â phedwar Prif Weithredwr gwahanol - sef y ddiweddar Mary Burrows, yna David Purt, Simon Dean a rŵan Gary Doherty – pob un ar gyflog o £¼ miliwn y flwyddyn, yn ogystal â chynllun pensiwn hael dros ben!

Ond mae’r sefyllfa mor dorcalonnus heddiw ag y bu hi erioed. Fis Mehefin diwethaf, fe gafodd y Bwrdd Iechyd ei roi o dan fesurau arbennig (‘special measures’) gan y Gweinidog Iechyd, gyda’r siars i ddatrys y problemau o fewn tri mis, ond fe aeth y tri mis yn flwyddyn gron gyfan erbyn heddiw a dydyn nhw’n ddim nes at ddatrys y problemau!

Mae’r Gweinidog Iechyd hwnnw, sef Mark Drakeford, wedi symud ymlaen i borfeydd eraill erbyn hyn, wrth gwrs, ac yn falch, mae’n siŵr, o gael anghofio a chefnu ar ei gyfrifoldebau gynt. Problem ei olynydd, Vaughan Gething, fydd y cyfrifoldebau hynny, bellach! ... Brian Gibbons, Edwina Hart, Leslie Griffiths, Mark Drakeford a rŵan Vaughan Gething! A faint callach ydan ni, meddach chi?

Onid gêm wleidyddol ydi’r cyfan? Ac yn y cyfamser, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dal i gael rhwydd hynt i neud fel fyd a fynnan nhw, a’r rhai sy’n dioddef fwyaf oherwydd hynny ydi’r hen a’r gwael a’r methedig. Onid dyletswydd gwleidyddion, o bob plaid, yw rhoi buddiannau pobl anghenus felly o flaen eu buddiannau eu hunain?
GVJ
                                        
--------------------------------

Dilynwch hanes yr helynt efo'r dolenni isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.