9.11.22

Dychwelyd i Batagonia

Elin Roberts yn dychwelyd i Batagonia wedi pum mlynedd

Eleni roeddwn yn ffodus iawn i ennill Ysgoloriaeth Patagonia Cyngor Tref Ffestiniog am yr ail waith a wnaeth fy ngalluogi i ddychwelyd i Batagonia. Mae’r ysgoloriaeth yn bodoli ers i Ffestiniog (Cymru) a Rawson (Ariannin) gael eu trefeillio yn y flwyddyn 2015. Y tro cyntaf i mi deithio i’r Wladfa, roeddwn newydd droi yn 18 mlwydd yn 2017 a dyna oedd y tro cyntaf i mi deithio tramor ar fy mhen fy hun. 

Roedd dychwelyd i Batagonia yn brofiad emosiynol iawn oherwydd fe wnaeth fy mhrofiad cyntaf yn yr Ariannin newid fy mywyd. Fe sbardunodd fy niddordeb mewn materion De America ac o ganlyniad, fe astudiais fy ngradd is-raddedig yng nghampws De America y brifysgol Sciences Po Paris ym Mhoitiers. Y tro cyntaf i mi fynd i Batagonia ychydig iawn iawn o Sbaeneg yr oeddwn yn ei siarad,  ond y tro ‘ma fe ddychwelais yn rhugl yn yr iaith. Roedd hyn o fantais i mi er mwyn gallu rhoi fy mhrosiect ar waith sef prosiect o’r enw Ffestiniog yn Rawson sy’n ymwneud â chasglu straeon am fywydau a thraddodiadau pobl Rawson a Phatagonia. Byddaf yn siwr o rannu’r fideos gyda chi wedi i mi orffen eu haddasu! 

Fe fudodd lawer o Gymru i Batagonia ar y Mimosa yn 1865 er mwyn amddiffyn a gwarchod yr iaith Gymraeg a’i thraddodiadau o ganlyniad i’r anffafriaeth a’r ymdriniaeth wael yr oeddynt yn wynebu gan y saeson. Fe gyrhaeddon nhw ym Mhorth Madryn ar yr 28ain o Orffennaf 1865. Oeddech chi’n gwybod mai Rawson oedd y dref cyntaf i gael ei sefydlu yn nhalaith Chubut? Cafodd ei sefydlu ar y 15fed o Fedi 1865 ac fe gafodd ei henwi ar ôl Guillermo Rawson (Gweinidog Mewnol yr Ariannin) wedi iddo helpu’r Cymry i gael tir yn yr Ariannin.   

Wrth edrych ar Rawson heddiw, mae’n rhaid i ni gofio mai ychydig iawn o bobl sy’n siarad Cymraeg yn y dref. Er nad ydynt yn medru’r Gymraeg, mae hanes a thraddodiadau y Cymry i’w gweld yn glir drwy’r dref ac i’w clywed yn gryf yn y sgyrsiau. Er enghraifft, wrth fynychu’r gystadleuaeth cwis i bobl ifanc, roedd llawer o gwestiynau am Gymry Rawson yn rhan o’r cwis. Yn ogystal â hynny, mae pobl yn parhau i baratoi’r te bach (te a chacennau) gan gynnwys y torta negra galesa, sef bara brith y Cymry yn Mhatagonia sy’n cael ei wneud gyda chynhwysion sydd ar gael yno. 

Fe wnes i fwynhau fy nhaith yn fawr i Batagonia wrth gael y cyfle i gynnal amryw o weithdai yn yr ysgolion lleol am hanes chwareli Bro Ffestiniog a statws safle treftadaeth y byd, stori Lleu a Blodeuwedd, ac hefyd am chwedlau a thraddodiadau Cymru. Bues yn ymweld â Choleg Camwy ac Ysgol Gymraeg y Gaiman, Ysgol Hendre yn Nhrelew, ac Ysgol 47 ac Ysgol Don Bosco yn Rawson. 

Cefais hefyd y cyfle i ymweld ag amgueddfeydd lleol yr ardal sy’n llawn o wybodaeth am hanes y Cymry. Bues i hefyd ar daith i weld y dolffiniaid a’r morfilod ym Mhlaya Unión. Yn ogystal â hynny, fe recordiais 13 fideo am fywyd bobl y Wladfa gan gynnwys fideo am hanes bobl Ffestiniog a aeth i Batagonia ar y Mimosa a phwysigrwydd y traddodiad o’r torta negra galesa. Edrychaf ymlaen at eu rhannu yn fuan.

Os hoffech chi i ddilyn gweddill fy mhrosiect ac i ddysgu mwy am bobl Rawson, gallwch ddilyn y prosiect (ffestiniog_yn_rawson) ar Instagram a Facebook. I gloi, hoffwn ddiolch i Gyngor Tref Ffestiniog am y cyfle i ddychwelyd i Batagonia ac hoffwn hefyd ddiolch i Gyngor Tref Rawson ac i Patricia Alejandra Lorenzo Harris am y croeso cynnes yn Rawson ac i Billy Hughes a Gladys Thomas am eu croeso yn y Gaiman.
- - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2022


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon