12.11.22

Newid Tir

Bu llawer o drafod yn ddiweddar y cyhuddiad fod Llywodraeth Cymru wedi talu’n uwch na phris y farchnad am dir ar draul ffermwyr. Ar yr un pryd, mae’r son am gynlluniau ‘ail-wylltio’ tiroedd yn codi’i ben yn achlysurol. Ydi’r ddau beth yr un fath? Oes yna ddrysu rhwng y ddau a gor-ymateb, yntau oes lle i bryderu? Oes yna gyfiawnhad i gyrff cadwraeth brynu tir o dan unrhyw amgylchiadau? 

Er enghraifft mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli llawer o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol ym Mro Ffestiniog a’r rheiny yn safleoedd rhyngwladol bwysig. Yn fwy diweddar maen nhw wedi prynu tir ar fferm Cae Gwyn, Llawrplwy’ er mwyn gwarchod rhywogaeth sy’n eithriadol brin. Clywn mae tir amaeth sâl ydi’r eiddo newydd ar y cyfan, ac eisoes cyflogwyd ffenswyr, waliwrs, arolygwyr, cludwyr a gyrrwyr peiriannau -pob un yn lleol- yno, gan gefnogi’r economi wledig, ar ben y staff parhaol sy’n byw yn Nhrawsfynydd a Stiniog ac yn gweithio ar y safle. 

Deallwn na fydd plannu coed yno ag eithrio ambell dderwen mewn ardal o redyn trwchus, a gwrych o bosib. Bydd cyfle i rai sydd â diddordeb gynnig am bori’r safle yn y gwanwyn hefyd, a bydd cyfleoedd addysg a hamdden i’r gymuned yn y blynyddoedd i ddod yno. 

Ydi hi’n deg dweud felly nad drwg pob cynllun, er bod prynu gan gwmniau o bell yn bryder gwirioneddol? Mae Llafar Bro wedi gofyn i ddau sy’n brofiadol iawn yn eu meysydd, i bwyso a mesur y mater, gan obeithio yr ewch chi, ddarllenwyr ffyddlon, ati wedyn i ymateb a thrafod ymhellach.

Cymuned a Choed gan Elfed Wyn ab Elwyn

Ac erbyn hyn nid oes yno ond coed, a'u gwreiddiau haerllug yn sugno'r hen bridd: Coed lle y bu cymdogaeth, Fforest lle bu ffermydd…’        -Rhydcymerau, Gwenallt. 
Troesom ein tir yn simneiau tân a phlannu coed a pheilonau cadarn lle nad oedd llyn…’     -Etifeddiaeth, Gerallt Lloyd Owen.
Dyma dipyn o frawddegau ysgrifennwyd gan feirdd sy’n crynhoi effaith cafodd y ‘plannu coed mawr’ ar gymunedau yn yr 20fed ganrif yng Nghymru. 

Mae llawer o sôn wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf am effaith y dinistr ar gymuned Capel Celyn wrth i’r pentref ddiflannu dan ddyfroedd Tryweryn, neu Lanwddyn dan ddŵr Efyrnwy, ac mae pobl yn gyfarwydd i ryw raddau am chwalfa'r Epynt a Chwm Dolgain dan feddiant swyddfa’r fyddin, ond mae llawer iawn yn anghofio am yr hen gymunedau cafodd eu boddi ymysg y coed bytholwyrdd ar hyd a lled ein cenedl fechan ni. Mae Gwenallt yn ysgrifennu am ffermydd yn Sir Gâr, cafodd eu plannu’n goed, ac mae enghreifftiau o hyn ar hyd Cymru.

 

Hafod Gynfal yng Nghwm Greigddu -llun Elfed

Hyd yn oed o fewn ein hardal ni, gwelwn ffermydd wedi diflannu dan binwydd a sbriws; os ewch i Gwm Greigddu yn Nhrawsfynydd, sylwch ar sgerbydau’r hen dai wedi gwasgaru ymysg y tyfiant; Grugle, Hafod Gynfal, Pen Rhos, Greigddu Uchaf ac Isaf; ac os ewch i Gwm Dolgain fe welwch waliau fferm Hafoty bach yn cuddio ymysg y canghennau. Mae enghreifftiau o’r dinistr wnaethpwyd gan goed yma i’w gweld ar hyd y fro -hanes sydd bron wedi mynd yn angof erbyn hyn, er bod rhai o’r genhedlaeth hŷn yn dal i gofio bywyd ar yr hen ffermydd.

Er bod y dinistr yma i’w deimlo fel rhywbeth eithaf pell yn ôl rŵan, mae datblygiadau wedi codi yn ddiweddar efo plannu tir fferm yn goed yng Nghymru, ac mae wedi codi gwreichionyn ymysg bobl sy’n byw a bod yng nghefn gwlad. Mae cwmnïoedd mawr o ddinasoedd yn Llundain wedi bod yn prynu ffermydd yng Nghymru, a’u plannu yn goed er mwyn lleihau (ar bapur) y raddfa o lygru CO2 mae’r cwmni yn ei wneud. Gelwir hyn yn Saesneg yn ‘Carbon Offsetting’, ac mae’n codi i fod yn argyfwng. Mae llawer o ffermydd yn cael eu llyncu gan gynlluniau coed y cwmnïau, sy’n golygu bod y diwydiant amaethyddiaeth yn ddioddef, sy’n arwain at ddioddefaint economi cefn gwlad, sydd yn golygu yn y pendraw bod llai o gyfleoedd i bobl ifanc allu prynu ffermydd a gwneud bywoliaeth. Mae tystiolaeth amlwg i’w weld o hyn yn y canolbarth.

O ganlyniad i’r pryderon yma, mae llawer yn credu bod dyfodol cadarnleoedd y Gymraeg nawr yn y fantol, a bod tyfu coed ar dir amaeth yn ychwanegu at y bygythiadau a’r heriau sy’n wynebu cefn gwlad. Mae’r drafodaeth ar blannu coed wedi datblygu i fod yn gymhlethach fyth ers i Lywodraeth Cymru ddatgan eu bod hwythau eisiau gweld 10% o dir ffermydd yn cael ei blannu yn goed, a’r amcan i greu ‘coedwig genedlaethol’. Mae llawer o amaethwyr yn poeni am y datblygiadau yma, oherwydd ar dir ffrwythlon y fferm yn ôl pob sôn bydd y coed yn gorfod cael eu plannu, gan fod cyfyngiadau yn bodoli ar eu plannu ar ffriddoedd a rhostiroedd. 

Mae’r fro hon wedi bod yn profi tipyn o’r pryderon yma yn ddiweddar, gyda thir fferm Glan Llynau Duon yn Llawrplwy’, Trawsfynydd wedi cael ei grybwyll fel man i’w ‘ail-wylltio’. Os na fyddwn ni’n ofalus mater o amser fydd hi cyn y gwelwn ni ffermydd yn cwympo fel dominos bob yn un, lle mae’r tir yn cael ei werthu i fod yn goetir, a’r fferm yn cael ei droi yn ail-dŷ neu Airbnb.

Beth a ddaw o’r sefyllfa yma tybed? Mae’n teimlo bod cefn gwlad mewn perygl unwaith eto, a bod y Senedd ddim yn cymryd unrhyw gamau i’w datrys. Oes mae angen dod o hyd i ddatrysiad i gynhesu byd eang, ond fydd targedu ffermydd a dinistrio’r cymunedau gwledig yn dod a ddim ond tristwch a phryder i drigolion y bröydd hyn. Mae angen rhoi terfyn ar y cwmnïau mawr rhag taflu eu baich nhw ar ein cymunedau ni, a sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar leisiau pobl cefn gwlad, a chydweithio gydag amaethwyr i gael y datrysiad gorau i bawb. Os na fyddwn yn cymryd gofal, erbyn diwedd y ganrif, bydd y Beirdd yn ysgrifennu cerddi yn hiraethu am gymunedau fel Trawsfynydd, Gellilydan a Llan Ffestiniog, a degau eraill ledled Cymru fydd wedi diflannu dan y coed...

Adfer Natur gan Rory Francis
Tywydd gwallgof trwy’r byd a natur yn diflannu. Beth y gellid ei wneud yn ei gylch?
Does dim dwywaith fod yr haf yma wedi dod â thywydd anarferol a pheryglus trwy’r byd. Welson ni’r sychder mwyaf erioed trwy wledydd Ewrop, gydag afonydd nerthol fel y Rhein a’r Loire yn edwino neu hyd yn oed yn diflannu. 

Welson ni danau gwyllt ffyrnig trwy Ffrainc, Sbaen ac America. Welson ni’r diwrnod poethaf erioed yng Nghymru ym mis Gorffennaf. Ac mae arolwg Cyflwr Byd Natur, a wnaed gan dros 50 o elusennau a sefydliadau amgylcheddol megis yr RSPB a’r Ymddiriedolaethau Natur, yn datgelu fod un rhywogaeth o bob chwech yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu. Mae’r eos, y wiber a’r durtur (turtle dove) mewn peryg. 

Does dim dwywaith fod hyn i gyd yn gysylltiedig â newid yr hinsawdd a bod hyn, yn ei dro, wedi achosi argyfwng hinsawdd ac argyfwng natur. Ond be’ fedrwn ni wneud i fynd i’r afael â hyn?
Mae oddeutu 80% o dirwedd Cymru’n cael ei ffermio ac mae’r ffordd y mae hyn yn digwydd yn cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd. Mae yna bethau y gallai ffermwyr wneud, megis adfer corsydd mawn, neu blannu rhagor o goed, sydd efo’r potensial i wneud gwahaniaeth mawr. 

Yn fy marn i, yr unig fantais sydd wedi deillio o Brexit yw’r ffaith fod gan Llywodraeth Cymru gyfle i lunio polisi amaethyddol newydd, yn hytrach na dilyn y CAP Ewropeaidd. 

Rydw i, yn bersonol, yn croesawu’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi manteisio ar y cyfle i ailwampio polisi amaethyddol, a hynny i sicrhau fod ffermwyr yn cael eu talu am gynnig nwyddau amgylcheddol, h.y. am wneud pethau fel adfer corsydd mawn, gan sicrhau fod y rhain yn parhau yn wlyb ac yn dal i amsugno CO2 o’r aer, yn hytrach na sychu allan, dirywio a rhyddhau llawer iawn o CO2 allan i’r aer. 

Nod y polisi, a rhaid pwysleisio hyn, yw trio sicrhau fod amaethwyr yn dal i ffermio a chynhyrchu bwyd, ond eu bod hefyd yn darparu nwyddau amgylcheddol i’r gymdeithas ehangach, gan wneud elw trwy gyfuno’r ddau beth, gan gadw ffermwyr ar y tir a chymunedau amgylcheddol yn hyfyw.
Un peth sydd gennym yn gyffredin fel pobl, yw ein bod ni angen bwyta. Felly, rhaid cynhyrchu bwyd, a gorau po agosaf at lle mae’n cael ei fwyta. 

Dyna pam, yn fras, dwi’n cefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r polisi amaethyddol. Rhaid inni feddwl am y dyfodol a thrïo gwarchod yr amgylchedd naturiol wych sydd gennym, sy’n cynnal ein holl ffordd o fyw ar y blaned fach hon. 

Owain o Stiniog yn gweithio ar gynllun cadwraeth yng Nghae Gwyn, Llawrplwyf. Llun -Paul W

Ond beth am ‘ailwylltio’, meddech chi?
Er bod y syniad yma’n apelio at lawer, ac er fod rhaid inni adfer natur yn fy marn i, dwi’n gyndyn i gefnogi’r syniad yma ar gyfer ardaloedd helaeth o’r dirwedd. Yn gyntaf, rhaid inni gynhyrchu bwyd i fyw. Yn ail, fel all cymunedau amaethyddol weld y syniad o ‘ailwylltio’ fel ymgais i gael gwared arnyn nhwthau. Felly, os ydy’r Llywodraeth eisiau ennyn cydweithiad cymunedau amaethyddol, nid yw sôn am ‘ailwylltio’ yn ffordd gall o wneud hynny. 

Oes yna gynllun i brynu tir o dan drwynau amaethwyr? Yn fras, nag oes. Mae tua 1,600,000 o hectarau, bron 4 miliwn erw, o Gymru yn cael ei ffermio. Mae’r Llywodraeth yn sylweddoli nad oes modd prynu rhan sylweddol o’r tir yma a does yna ddim bwriad i wneud hyn. Mae’n wir fod ambell fferm wedi cael ei brynu, a hynny i greu coedlannau arbennig i gofio’r bobl a gollodd eu bywydau i Covid, ond yng nghyd-destun tirwedd Cymru, mae’r maint o dir mewn cwestiwn yn anhygoel o fach.

- - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2022



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon