6.6.21

Twristiaeth: mwy o ddrwg na lles?

Ai dim ond newyddion da ddaw o ddynodiad Safle Treftadaeth y Byd i'r ardaloedd llechi? Mae rhai -fel Cylch yr Iaith- yn bryderus am ei effaith ar ein cymunedau. Be 'da chi'n feddwl?

Mae Llywodraeth Llundain wedi cyflwyno cais i UNESCO ddynodi ardaloedd chwarelyddol Gwynedd yn Safle Treftadaeth y Byd. O’r cychwyn, rydym fel mudiad iaith wedi galw ar y cyrff a oedd yn llunio’r cais i gynnwys amodau clir a chadarn i warchod bywyd cymunedol Cymraeg yr ardaloedd dan sylw a sicrhau rheolaeth gymunedol. Hyd yn oed wedi’r ymgynghoriad, ni roddwyd amodau iaith fel rhan o’r cais. Ni chafwyd unrhyw sicrwydd na fyddai’r cynllun o’i weithredu yn niweidio ein hiaith a’n diwylliant. 

Diffwys, Mawrth 2021. Llun Paul W.
 

Nid yw llunwyr y cais wedi dangos parodrwydd i wneud dim mwy na datgan y byddai’r cynllun yn gyfle i ‘annog y defnydd o’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig mewn busnesau’. Dylai lles a ffyniant y bywyd cymdeithasol Cymraeg fod yn un o amodau hanfodol pob agwedd ar y datblygiadau a fyddai’n deillio o’r cynllun pe bai’n cael ei gymeradwyo gan UNESCO. 

Gor-dwristiaeth

Mae twristiaeth wedi troi’r or-dwristiaeth mewn sawl ardal yng Ngwynedd, ac mae astudiaethau academaidd yn dangos hynny. Yn ddiweddar, mae Cyngor Gwynedd wedi dechrau defnyddio’r term ‘twristiaeth anghynaladwy’ sef twristiaeth sydd ar y cyfan yn niweidiol i gymuned ac felly’n annerbyniol. Fodd bynnag, mae cyrff fel Croeso Cymru, yr asiantaeth dwristiaeth genedlaethol, a chwmni Twristiaeth Gogledd Cymru, yn gwrthod derbyn bod y fath beth â gor-dwristiaeth, heb sôn am gydnabod bod gor-dwristiaeth yn ymledu drwy Wynedd.

Heb amodau iaith llym a rheolaeth gymunedol gadarn, byddai perygl gwirioneddol i’r cynllun droi ardaloedd cyfan yn amgueddfeydd, yn barciau thema diwydiannol twristaidd, yn gyrchfannau gwyliau parhaol. Yn ôl y tueddiadau presennol, byddai’n arwain at gynnydd mewn ail gartrefi, tai gwyliau tymor-byr a’r mewnlifiad Saesneg. Canlyniad hynny fyddai gwanychu ymhellach yr iaith a’r diwylliant sydd wedi bod yn rhan annatod o’r gymdeithas ers mil a hanner o flynyddoedd.

Un o brif amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yw sicrhau “Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu”. Ni fydd modd sicrhau hynny heb i awdurdodau lleol, a’r Llywodraeth ei hun, weithredu ar frys er mwyn atal edwiniad y cymunedau hynny lle mae’r Gymraeg yn iaith pob dydd. 

Y mae modd i dwristiaeth ddod a budd; ond yn amlwg, y mae’r math o dwristiaeth sydd gennym ar hyn o bryd, a’i graddfa, yn gwneud mwy o ddrwg nag o les. Eironi o’r mwyaf fyddai i ymdrech i ofalu am weddillion diwydiant a gyfrannodd gymaint at ffyniant cymunedau Cymraeg gyfrannu, er yn anfwriadol, at eu difodiant

Howard Huws - Cydlynydd Ymgyrch Dwristiaeth Cylch yr Iaith
-----------------------------------

Ymddangososdd yn rhifyn Mawrth 2021 (heb y llun)



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon