16.6.21

Cwm Teigl- cwm tangnefedd

Atgofion Emlyn Williams   [2]

"Mae Cwm Cynfal, Cwmorthin a Cwmbowydd yn adnabyddus iawn yn yr ardal a
thu hwnt. Ond beth am Gwm Teigl? Hwyrach ein bod yn llai cyfarwydd â'r
cilcyn hwn o ddaear wrth odrau'r Manod Mawr."
Y lleoliad mwyaf adnabyddus yn y cwm oedd Capel Horeb, wrth gwrs, man cyfarfod i ran helaeth o’r trigolion. Fe dreuliais sawl pnawn Sul yno yn lled-wrando ar y pregethwyr yn llefaru geiriau llond ceg … fel ‘iachawdwriaeth’, ‘tragwyddoldeb’, ‘tangnefedd’, ‘rhagluniaeth’ – geiriau hollol anesboniadwy i grwtyn bach 5 neu 6 oed. Ond, yn ddiddorol iawn, nid wyf erioed wedi medru eu cyfieithu i unrhyw iaith arall. Mae nhw’n perthyn yn reddfol i gyswllt unigryw y Capel bach.
 

Droeon, fe fyddwn i’n synfyfyrio a chraffu ar y nenfwd neu ar y waliau, yn enwedig ar y craciau a’r gwe pry cop, a dychmygu gweld cynffon cath, neu ben corniog rhyw hwrdd, neu adenydd colomen, a rheini yn eu tro yn fy annog i greu ambell stori wallgof a dryslyd. Ar adegau, fe fyddwn i’n gwylio ystumiau y gweinidog yn y pulpud … sut roedd o’n troi tudalennau’r Beibl, sut roedd o’n ledio emyn, a’i osgo pan yn gweddïo. Pan oeddwn ychydig yn hŷn, rwy’n cofio croesi trothwy’r sêt fawr i wynebu  ‘cynulleidfa enfawr’ Capel Horeb i ddweud adnod, offrymu gweddi neu ledio emyn. Mae’n siŵr fod yr her honno wedi fy mharatoi innau maes o law a’m galluogi i sefyll o flaen cannoedd o fyfyrwyr yn ystod fy ngyrfa, ble bynnag fu’r lleoliad.

Roedd clywed brefiad dafad yn y cae cyfagos yn rhywbeth digon cartrefol i’r glust, ond rwy’n cofio unwaith cael fy arswydo gan sŵn arall … sŵn annioddefol yn diasbedain drwy’r cwm. Mae’r darlun yn glir yn fy meddwl hyd heddiw … Maldwyn Morris Trefan yn reidio heibio Llechwedd ar ei feic ac yn sgwrsio efo Mam. Roedd ar ei ffordd i ffensio yn rhywle uwchben Teiliau Mawr, ond wrth gwrs, doeddwn i ddim yn ymwybodol o hynny. Ymhen hanner awr, dyma sŵn uchel main gwichlyd yn atseinio o gyfeiriad Teiliau Mawr. Diwrnod lladd mochyn, a hwnnw’n rhochian ac yn sgrechian nerth ei ben. Rhedais innau i’r tŷ ar unwaith gan gyhuddo Maldwyn Morris druan o fod yn gyfrifol am y weithred waedlyd! Er i Mam geisio fy nharbwyllo, doedd dim byd yn tycio......Maldwyn Morris oedd y llofrudd! Ac am flynyddoedd wedyn, yr eiliad y cawn gipolwg ohono ar ei feic yn y Cwm, byddwn yn gwibio fel mellten i’r tŷ gan weiddi … “Mam, mae Dyn Drwg yn dwad!

Anaml iawn y gwelwyd car yn symud yn y cwm yn y pumdegau, onibai am ‘van Co-op’ (Austin A40 Brown) bob pnawn dydd Mawrth, gyda Selwyn Cae Clyd yn gwerthu bob math o nwyddau, a lori ‘Co-op’ (Commer) bob pnawn Sadwrn yn danfon negesau, yn ogystal â blawd i’r anifeiliaid. Martin oedd y dreifar. Ond roedd gweld fan bost goch Morris 1000 yn ddigwyddiad dyddiol pwysig aruthrol i mi. Roeddwn yn ei dilyn yn selog tra’r oedd hi’n cysylltu â Tryfal, Minafon, Teiliau Mawr, Bron Teigl a Bryn Wennol. Wil Huws oedd wrth y llyw y rhan amlaf.

Beth ar y ddaear oedd yn denu sylw hogyn bach 5 oed at y fan goch tybed? Wel, y ‘number plate’ wrth gwrs! Roedd tair fan bost Morris 1000 yn gwasanaethu Cwm Teigl, felly, roedd rhaid eu hadnabod yn syth bin! … NYH 777 … PXX 120 … SLM 963. Rwy’n cofio y rhifau hyd heddiw.

Mae’n rhyfeddol meddwl pa mor bwerus yw sylwgarwch plentyn a sut mae’r fath fanylion wedi eu hoelio am byth yn y cof, yn enwedig pan rwy’n sylweddoli heddiw fy mod wedi llwyr anghofio rhifau y ceir sydd wedi bod yn fy meddiant yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf! Cymhelliad cryf arall, mae’n debyg, oedd y ffaith fod gennyf dwr o ‘Dinky Toys’ yn y tŷ, a phob un ohonynt yn gyfatebol i’r cerbydau, faniau a’r loriau oedd yn ymweld â’r cwm o bryd i’w gilydd. Fe dreuliais oriau di-ri ar y mat o flaen y tân glo yn ail-greu ac animeiddio y cwm gyda’r tegannau gwyrthiol.
-----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2021


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon