4.7.21

Hwb y Dref Werdd

Dod yn ôl at dy Goed


Mae’n braf gweld yr haul yn tywynnu unwaith eto a’r adar bach yn canu’n tydi? Codi calon rhywun ar ôl y flwyddyn ddiwethaf.

Gyda hynny, peth da yw cael cyhoeddi ein bod bellach wedi cychwyn gweithredu ar ein prosiect presgripsiwn gwyrdd newydd – Dod yn ôl at dy Goed – rhywbeth rydym ni’n teimlo sydd wir ei angen ar bawb yn dilyn y cyfnod clo diwethaf ‘ma. 

Mae cymaint o fudd i’w gael wrth dreulio amser y tu allan, ac mae popeth am y cynllun yn ymwneud â iechyd a lles. Cofiwch fod PAWB yn gymwys i fod yn rhan. Meddyliwch beth yr hoffech ei wneud yn yr awyr agored … ychydig o arddio a sgwrsio, plannu coed, sesiynau pilates, tyfu bwyd, mynd am dro, gweithgareddau celf, coginio neu unrhyw beth arall y gallwch chi feddwl am! Mae’n brosiect sy’n cael ei deilwra i anghenion pob unigolyn gyda phwyslais ar ddysgu, rhoi, cysylltu, cymryd sylw a rhannu.

Mae’r nod yn syml … gwella cysylltiadau pobl â natur fydd mewn tro yn gwella iechyd corfforol a meddyliol, yn gyfle i gymdeithasu ac i rannu sgiliau. Does dim rheswm i beidio cymryd rhan! 

Diolch arbennig i Lleucu Gwenllian am lunio’r logo hyfryd ar gyfer y prosiect.
Cysylltwch i fod yn rhan ar 07385 783340 neu e-bostiwch hwb@drefwerdd.cymru 


Sgwrs

Mae cynllun cyfeillio Sgwrs yn parhau gyda dros 200 awr o sgwrsio wedi eu cofnodi ers diwedd mis Hydref. Mae llawer o bobl ar hyd Meirionnydd wedi elwa gyda gwirfoddolwyr o dros ogledd Cymru yn cymryd yr amser i’w ffonio unwaith yr wythnos am sgwrs fach glên. Ein gobaith wrth symud ymlaen fydd gallu datblygu Sgwrs i fod yn gynllun cyfeillio wyneb i wyneb. Os hoffech fod yn rhan, cysylltwch ar 07385 783340 neu e-bostiwch hwb@drefwerdd.cymru

Cynllun Digidol

Un o’r pethau mwyaf yr ydym wedi ei ddysgu dros y flwyddyn ddiwethaf ydi’r pwysigrwydd o gael pobl i gysylltu’n ddigidol. Roedd yn anodd iawn ar lawer un i allu cadw mewn cysylltiad, gallu gwneud eu siopa ei hunain neu i allu dysgu drwy beidio â bod â dyfais neu fynediad i’r we dros y cyfnod clo. Bu i sawl un dderbyn dyfais a chymorth i gael mynediad i’r we gan yr HWB, a’u galluogodd i fod yn fwy annibynnol, i gadw mewn cyswllt â theulu a ffrindiau drwy wneud galwadau fideo a chymryd rhan mewn cyrsiau ar-lein.  

Mae gennym ddyfeisiau ar gael i’w benthyg i unrhyw un sydd angen, ynghyd â derbyn cefnogaeth gan wirfoddolwyr digidol arbennig. Cysylltwch os hoffech fod yn rhan o’r cynllun.

Eda’ Eco

Mae Eda’ Eco yn gynllun newydd ar y cyd efo’r Siop Werdd i gynnig gofod creu i unigolion yn y
gymuned i ddod i ddefnyddio offer a deunyddiau gwnïo - boed hynny’n gwneud mygydau ail-ddefnyddiadwy ar gyfer pobl y gymuned, trwsio/creu/gwneud dillad neu unrhyw brosiect gwnïo arall yr hoffech ei wneud. Cysylltwch neu galwch heibio’r Siop Werdd.
 

Arolwg Gweithrediad Amgylcheddol

Rydym yn creu arolwg ar gyfer Bro Ffestiniog. Ein gobaith yw y bydd miloedd o bobl yn ei wneud er mwyn cael sampl mor gynrychiadol a phosib. Rydym angen gwybod sut mae pobl yn teimlo am eu cymunedau, y dyfodol ac am lesiant pobl, eu diwylliant a’r amgylchedd, a beth mae pobl eisiau ei weld yn digwydd wrth symud ymlaen. Nid yn unig bydd hyn yn helpu cyfeirio gwaith y Dref Werdd i’r dyfodol ond yn ein helpu i daclo unrhyw anawsterau dros ein cymunedau ar gyfer newidiadau mwy sydyn, mwy parhaus a mwy effeithiol.
------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2021



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon