Llyn Cwmorthin dan rew. Llun- PW
Bu’r Gymdeithas yn cynnal dosbarthiadau cawio
plu eleni eto, yn ystod misoedd y gaeaf, a bu 6 o’r aelodau ifanc yn mynychu’n
gyson ac yn cael cryn bleser o geisio meistroli’r hen grefft. Yr hyfforddwyr
eto eleni oedd Cec Daniels a Geraint W. Williams ac mae’r Gymdeithas yn
ddiolchgar iddynt am roi o’u hamser a’u hymroddiad. Yn ôl y beirniad, Mel Goch
ap Meirion, roedd safon y cawio yn uchel, o ystyried beth oedd oedran aelodau’r
dosbarth, ac ni fu’n hawdd ganddo benderfynu ar yr enillydd. Ond, o drwch
blewyn, Callum Williams o Gellilydan a gafodd y wobr gyntaf ganddo, tra bod pob
un o’r lleill hefyd yn haeddu clod uchel.
Derbyniodd Callum gopi o ‘Plu Stiniog’ Emrys Evans,
cyfrol sydd bellach yn cael ei hystyried yn llyfr prin gan na ellir prynu copi
yn unman (Mae digon o’r cyfieithiad Saesneg ar gael, wrth gwrs, ond y fersiwn
wreiddiol Gymraeg yw’r un i’w thrysori.)
Roedd pob un o’r chwech a fu’n mynychu’r
dosbarthiadau’n gyson yn derbyn trwydded 2013 i bysgota dyfroedd y Gymdeithas.
...................
Da yw cael adrodd bod y gwaith ar y
Cynllun Pysgota Gwyllt Cymru yn mynd yn ei flaen yn foddhaol er gwaethaf y
tywydd echrydus a fu dros y misoedd diwethaf. Mae’r cwt cwch ar lyn Cwmorthin
wedi ei gwblhau bron iawn a’r cam nesaf fydd archebu cwch ar gyfer y tymor
newydd. Mae llawer o waith da’n mynd ymlaen hefyd i hwyluso pysgota i blant a
physgotwyr anabl ar Lyn Ffridd y Bwlch ac, yn ddiweddar, fe gynhaliwyd sesiynau
i ddysgu pysgota pluen i rai o ddisgyblion Ysgol y Moelwyn. Hefyd, o fewn y
misoedd nesaf, gobeithir cychwyn ar y gwaith o godi cwt cwch newydd ar Lyn
Morynion yn ogystal.
Mae’n gyfnod cyffrous yn hanes y
Gymdeithas ac mae lle i ddiolch yn arbennig i’r cadeirydd Dafydd Williams a
nifer o aelodau gweithgar eraill sy’n rhoi o’u hamser a’u llafur i sicrhau
llwyddiant y prosiect.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon