Cais am wybodaeth parthed teulu a
ymfudodd o Danygrisiau i Batagonia ar ddechrau'r 20fed ganrif oedd ganddo, ar ran Patricia Ramos,
merch ifanc o Dir Halen yn y Wladfa, a oedd yn Aberystwyth ar brofiad gwaith, ac yn chwilio am rywbeth o hanes ei hen-daid, Griffith P.Jones, a'i deulu a ymfudodd yno o Lerpwl yn 1909.
Wedi
bod wrthi yn casglu ychydig fanylion, gyda chymorth fy
nghyfaill Steffan ab Owain, dois ar draws ambell beth difyr yn ymwneud â'r
teulu hwnnw. Cafwyd cofnodion am aelodau teulu taid Griffith yn trigo yn
Nhalwaenydd ar ystadegau cyfrifiad 1851, gyda Robert Jones, y penteulu, neu
Robin Siôn ar lafar, yn byw yno gyda'i deulu yntau.
Roedd dau o blant yno,
Laura, hen-hen nain Patricia, a'i brawd, William, 'Gwaenydd', a ddaeth yn arweinydd
cyntaf seindorf enwog Gwaenydd, rhagflaenydd band enwocach, seindorf yr
Oakeleys.
Ymhen deng mlynedd, roedd teulu Robert Jones wedi symud i fyw i
Penllwyn, Tanygrisiau, ac erbyn 1881, preswylient yn rhif 1, Bryn Barlwyd, sydd
bellach wedi ei ddymchwel. Yn y cyfamser, yr oedd William y mab, (Gwaenydd),
wedi ymfudo i'r Wladfa yn 1874, rhai blynyddoedd cyn ei nai Griffith, ac yno
y'i claddwyd yn 1906. Fel y cyfeiriais
ato, yn 1909 yr aeth Griffith, hen-daid Patricia i Batagonia, ac yno y claddwyd
yntau yn y 1920a'u.
B'nawn
ddydd Llun, 18fed o Fawrth, pleser pur oedd cael tywys Patricia o amgylch yr
ardal, i ddangos y mannau y bu ei chyn-deidiau'n troedio. Roedd hithau'n hynod
falch o gael dilyn ei gwreiddiau yma, ond roedd un datganiad pwysicach i'w
ddatgelu iddi.
Tra yn ymchwilio i'w hachau, darganfyddais am fodolaeth
disgynnydd o'r un teulu, a pherthynas i Patricia, yn dal i fyw nid nepell o hen
gartrefi eu hynafiaid yn Nhanygrisiau. A'r perthynas hwnnw yw Kevin Evans, neu
'Prinsi' i bobl y fro, ac yn un o blygwyr rheolaidd y papur bro hwn. Felly, rhaid
oedd cyflwyno y ddau i'w gilydd, gyda'r un ohonynt yn gwybod dim am fodolaeth y
naill na'r llall, a da oedd profi'r croeso a gafodd Patricia Ramos, o Dir
Halen, talaith Chubut, Patagonia yng nghartref ei chyfyrder, Kevin Evans,
Tanygrisiau, y diwrnod hwnnw.
Mae mam Kevin, Bella, a'i chwaer Mandy yn byw yn
America ers rhai blynyddoedd, a deallaf fod aelodau eraill o'r teulu yn dal i
fyw yn yr ardal 'Stiniog.
(Delwedd y faner o wefan Cymraeg i Oedolion, Prifysgol Caerdydd)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon