Dyma ddarn allan o rifyn Ebrill 2013 yn son am y gyntaf ohonynt, a phwt bach o newyddion am yr ail.
Llwyth o ddisgyblion yn mwynhau ymweliad
Bethan Gwanas
Bu Bethan Gwanas yn prysur gynnal sesiynau gyda disgyblion
Ysgol y Moelwyn yn dilyn cyhoeddi ei nofel newydd sbon i bobl ifanc, Llwyth.
Bu'n sgwrsio â chriw o flynyddoedd 8 a 9 Ysgol y Moelwyn. Mae
ei nofel newydd, Llwyth yn rhan o gyfres newydd sbon o nofelau i
bobl ifanc rhwng 11 ac 14 oed gan wasg y Lolfa, cyfres o’r enw Mellt.
Mae Llwyth yn nofel gyffrous
sy’n mynd â’r darllenydd yn ôl i amser pan oedd gwahanol lwythi’n rheoli
tiroedd Cymru, ac mae’n stori llawn antur a hiwmor sy’n tynnu ar chwedloniaeth
Cymru.
“Er mod i wedi blino’n lân erbyn diwedd y dydd, ges
i lond trol o hwyl!” meddai Bethan Gwanas, yn dilyn ei hymweliad â’r ysgol.
“Roedd hi mor braf cael ymateb y disgyblion i’r llyfr, gyda phawb wrth eu boddau bod
cymaint o'r stori yn digwydd ym Meirionnydd.”
Meddai Mari Roberts, Pennaeth Adran Gymraeg Ysgol y Moelwyn, “Cafodd y disgyblion fore arbennig yng nghwmni
Bethan Gwanas, ac roedd hi’n gwbwl amlwg fod pawb wedi mwynhau trin a
thrafod ei nofel newydd. Mae’r disgyblion yn edrych ymlaen yn arw i ddarllen Llwyth, ac edrychwn ymlaen hefyd i
groesawu Bethan yma i’r Moelwyn eto yn y dyfodol agos!”
Roedd Bethan Gwanas yn ol yn Stiniog ddiwedd Ebrill, gan gynnal sesiwn i ddisgyblion uwchradd eto, fel rhan o weithgareddau Llên y Llechi. Rhaglen Y Lolfa Lên, gan Llenyddiaeth Cymru oedd hwn, efo sesiynau dal ofal Dewi Prysor, Mair Tomos Ifans, SIan Northey a llawer mwy, yn yr Hen Go-op.
Petaech chi'n chwilio ar wefannau'r trefnwyr a'r noddwyr, Llenyddiaeth Cymru, Cyngor Gwynedd, Canolfan Sgwennu Ty Newydd, gallech chi daeru na ddigwyddodd y peth o gwbl. Dyma obeithio eu bod wedi gyrru newyddion ar gyfer rhifyn Mai Llafar Bro....
Dwi wedi benthyg y llun isod oddi ar gyfri' Trydar Ty Newydd.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon