Daeth cannoedd o blant Meirionnydd a thu hwnt i Flaenau Ffestiniog heddiw i gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014.
Byddai wedi bod yn hawdd iawn i'r Urdd yn ganolog ac yn y sir, i wthio pob gweithgaredd a hyrwyddo i'r Bala, felly diolch i'r cyfeillion doeth welodd y fantais o ddod i dref fwyaf Meirionnydd i gynnal gorymdaith a jambori.
Mae cynffon yr orymdaith dal ar dir Ysgol y Moelwyn ar ben yr allt... Llun yma ac uchod PW |
A llwyddianus iawn oedd y diwrnod hefyd. Daeth yr haul allan i groesawu pawb i'r dref, ac er fod y gwynt braidd yn fain, roedd y croeso yn gynnes iawn.
Dechreuodd yr orymdaith yn Ysgol y Moelwyn, a cherdded i lawr Ffordd Wynne, Ffordd Tywyn, i Stryd yr Eglwys a'r Stryd Fawr i Sgwar Diffwys. Roedd cryn bellter rhwng y blaen a'r gynffon, gyda'r ysgolion, adrannau ac aelwydydd wedi addurno baneri i ddod efo nhw.
Y criw Batala yn arwain yr hwyl. Llun PW |
Cafwyd adloniant ardderchog yng nghanol y dref, dan arweiniad profiadol criw Stwnsh S4C, a chanu gan Swnami, Y Cledrau, ac enillwyr Can i Gymru eleni, Jesop a'r Sgweiri. Cafwyd hwyl a chanu a dawnsio yn y gynulleidfa dan ofal Dilwyn; roedd ysgolion cynradd Meirionnydd i gyd wedi bod wrthi'n dysgu caneuon ar gyfer yr achlusur.
Rhai o faneri Stiniog. Llun PW |
Roedd y miri'n parhau trwy'r dydd yn yr hen Go-op, oedd wedi'i droi'n Lolfa Lên, gyda chwedlau, rapio, darlleniadau a chanu.
Gobeithio bod rhai o'r cannoedd o rieni ac athrawon wedi gwario punt neu ddwy yn y Stryd Fawr cyn ei throi hi am eu milltiroedd sgwar eu hunain!
Dyma edrych ymlaen am fwy yn y dyfodol.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon