llun- PW |
Enwogion dieithr yn ein
plith
Heb os nac onibai,y mae ardal y Blaenau a Llan Ffestiniog wedi bod yn
ddihangfa i amryw o ddieithriaid enwog
tros y blynyddoedd.
Ar wahan i’r rhai o’r Cymry enwog a fu’n aros yn ein plith
yn ystod bwrlwm y diwydiant llechi yn y 19 ganrif, megis rhai fel Richard Owen
Jones ‘Glaslyn’ (1831-1909) a fu’n lletya yn Gwyndy, Rhiwbryfdir, y Parchedig
Owen Wynne Jones ‘Glasynys’ (1828-1870) a fu’n lletya yn ffermdy Tyn y Ddôl,
Tanygrisiau, ‘Isaac Eurfin Benjamin a’i gefnder Thomas Cynfelyn Benjamin, dau
fardd o fri a fu’n lletya yn Wrysgan Fawr , Tanygrisiau. Un arall oedd y Parchedig
John Hughes ‘Glanystwyth’, gweinidog poblogaidd gyda’r Wesleyaid, bardd da, a
bu’n olygydd y cylchgronnau canlynol yn ei dro -Y Winllan, Y Gwyliedydd a’r Eurgrawn.Wrth gwrs,
bu amryw o rai eraill, ac efallai y caf sôn amdanynt rhyw dro eto.
Ymsefydlodd rhai mwy bohemaidd a Saesneg eu
hiaith yn yr ardal yn ystod yr 20fed ganrif. Un ohonynt oedd Augustus John yr
arlunydd enwog. Bu ef yn preswylio am ysbaid yn Llwyn Ithel , sef y byngalo
coed a tho sinc a safai ger Glan yr afon
ddu a’r hen waith mein gynt.
Ceir darlun o’i waith yn edrych draw am y Ffridd a
hen dwnnel bach y Rheilffordd Gul. Clywais rhai’n dweud hefyd bod yr arch-sbiwr
George Blake a ddihangodd o garchar Wormwood Scrubs yn 1966 a chael lloches gan
y Rwsiaid wedi bod yn aros am ychydig yng Nghelli Wiog.
Y mae’n ffaith hefyd bod
y cyfansoddwr Syr George Bantock wedi
bod yn aros yng Nghoed y Bleiddiau (Tŷ Hovenden) ger gorsaf Tan-y-Bwlch. O beth ddeallaf, taenwyd llwch marwol Syr George ar lethrau’r
Moelwyn.
Wrth gwrs, mynnai rhai bod William Joyce ‘Lord Haw Haw’ a fu’n ceisio
brawychu pobl Prydain efo’i fygythiadau Germany
Calling ar y radio yn ystod yr ail ryfel byd wedi bod yn aros yno yn ystod y cyfnod cyn
i’r rhyfel dorri allan. Pa fodd bynnag,dywed eraill mai chwedl gwrach yw hyn. Tybed
a ŵyr un ohonoch yn well ? ( I’w Barhau )
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon