Dyddiadur
Phil Mostert
Darn o'r erthygl sy'n ymddangos yn rhifyn Hydref:
SADWRN - Teithio i Faes Awyr Manceinion,
teithio drwy Amsterdam a chyrraedd Helsinki a theithio ymlaen i Forssa.
Ymarfer yn ystod y daith |
SUL - Cyngerdd
yn Somero, yng nghwmni’r côr meibion lleol a Maija
Parko, pianydd broffesiynol. Cawl eog
blasus iawn ar y diwedd.
LLUN - Canmol mawr yn y papur lleol i
gyngerdd Nos Sul, yn enwedig y canu gwladgarol.
Dau gyngerdd yn yr Ysgol Uwchradd heddiw. Y disgyblion yn ymateb yn dda a rhai yn
ymholgar ar y diwedd.
Cyfle i
ymlacio a phrofi barbeciw a sauna yn
westeion i Gôr Forssa. Wel, dyma beth
oedd cymdeithasu go iawn. Manteisiodd bron bob aelod i brofi’r sauna
chwilboeth cyn trochi yn y llyn [nifer dda yn noethlymun] ond nid oes gennym
luniau i’w cyhoeddi! Cydganu wedyn i
gyfeiliant piano accordian. Noson i’w
chofio!
MAWRTH -
Bws i’r Ganolfan Amaeth yn y pnawn.
Roedd cyfle i’r amaethwyr yn ein plith holi am gynnyrch lleol a holi a
oedd yma farchnad arall am eu cig oen!
Cyflwynwyd plac llechen yma, wedi ei gwneud gan Dewi Williams a mawr
fu’r gwerthfawrogiad ohoni.
Cyngerdd
min nos yn yr Eglwys Lutheraidd.
Rhannu’r llwyfan efo Côr Forssa.
Y côr ar ei orau. Clod mawr i
Iwan Morus Lewis ein hunawdydd 18 oed, i Olwen Jones a Kevin Lewis ac i Iona
Mair.
MERCHER– Symud ymlaen i Helsinki a phrofi’r
atyniadau. Cawsom gyfle i ganu Finlandia
ger cofgolofn Sibelius. Bu amryw yn
ymweld â’r farchnad ddifyr ger y cei, ac aeth rhai ar y cwch ar draws i Ynys Suomenlinna . Mymryn yn ddrud
oedd y bwyd a’r ddiod yn y brif ddinas, felly roedd pawb yn weddol gymedrol!
Iwan yr arweinydd, a Iona'r gyfeilyddes |
IAU- Cyrraedd adref - a’r côr wedi gwneud llawer o
ffrindiau newydd, ac wedi llwyddo i fod yn llysgenhadon teilwng iawn i Gymru.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon