Anfonaf y llun a’r darn hwn o’r papur newydd ... dwi’n meddwl mai o’r
Cymro y daw tua chanol y 1950au ond os ydi rhywun yn gwybod yn amgenach gadwch
i mi wybod ... Mae’r gyfnewidfa ffôn yn stryd Glynllifonyn rhan o hanes Stiniog a chyda datblygiad
technoleg diflannodd ond mae’r adeilad yn dal yno ac yn gartref bellach.
Os oes
gan rywun beth o hanes y gyfnewidfa beth am ei rannu gyda darllenwyr Llafar Bro
ac ysgrifennwch at y Golygydd.
-Eurwyn
Jones, Blackpool (gynt o Ddrws y Coed, Bowydd).
"Ar y blaen gwelir Miss
Pearl Jones, Maentwrog a Mrs Betty Morris, Rhiwbryfdir: tu ôl mae Mrs
J.A.Jones, arolygydd y Gyfnewidfa, a Miss Phyllis Morgan, Lord Street. Daeth
Mrs Jones a Mrs Morris i’r Gyfnewidfa tua’r un amser, wyth mlynedd yn ôl, a
chafodd y ddwy brofiad helaeth yng nghyfnewidfa Bae Colwyn. Y mae Miss Pearl
Jones wrth ei gwaith ers pum mlynedd a Miss Phyllis Morgan yma ers blwyddyn a
hanner."
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon