3.4.23

Stolpia- Chwarel Nyth y Gigfran

Hen ddiwydiannau Glan-y-pwll a Rhiw

Bu sawl diwydiant yn y ddwy ardal uchod tros y blynyddoedd, ac wrth gwrs, bu un ohonynt yn fyd-enwog yn ei dydd, sef Chwarel Lechi Oakeley. Pa fodd bynnag, y tro hwn hoffwn grybwyll un nad yw ei hanes mor gyfarwydd i lawer y dyddiau hyn, sef hen Chwarel Glanypwll, neu’r Glan-y-pwll Slate and Slab Company, a rhoi ei henw swyddogol iddi hi. 

Y mae safle y chwarel hon ar ddannedd y graig sydd rhwng hen Chwarel Oakeley a Chraig Dipia, ac uwchlaw y fan a elwir Groesffordd (gweler llun). Adnabyddir hi wrth yr enw Chwarel Nyth y Gigfran ar lafar gan mai yn y rhan honno y dechreuwyd ei gweithio yn yr 1840au gan yr hen gloddiwr Twm Ifan Jams, a dyna pam y gelwid hi yn Cloddfa Twm Ifan Jams gan yr hen bobol.

Un o luniau John Thomas, Cambrian Gallery, tua1875, gyda hen Dai Groesffordd a 2 inclên Chwarel Glan-y-pwll (LLGC).

Credaf mai yn 1861 y ffurfiwyd cwmni Chwarel Glanypwll a hynny gyda chyfalaf o £30,000 mewn cyfranddaliadau gwerth £5 yr un. Yn ôl enwau’r cyfarwyddwyr, gwŷr cyfoethog o Loegr oedd y mwyafrif ohonynt. Bu’r cwmni yn datblygu’r chwarel am rai blynyddoedd gan obeithio taro ar lechfaen o’r un ansawdd a Chwarel Oakeley, ond ni lwyddwyd. Gwnaed dwy inclên i fyny i’r chwarel yn 1866/67, yr uchaf yn serth iawn, yn ogystal â changen i gysylltu gyda Rheilffordd Ffestiniog. 

Dechreuwyd hefyd ar godi melin a thwll olwyn ddŵr ar fan y tu isaf i’r bwthyn bach a elwir ‘Cronstadt’, ac ar yr ochr ddwyreiniol i’r rheilffordd. Pa fodd bynnag, nid yw’n debygol bod y gwaith wedi ei gwblhau, ac efallai, oherwydd i’r cwmni fynd i drafferth ddybryd gyda therfynau Chwarel Oakeley. Bu achos cyfreithiol yng Nghaer yn erbyn cwmni Chwarel Glanypwll gan Mrs Oakeley a rhybudd llys nad oedd i dresmasu ar dir y chwarel fawr neu mi fyddai yn wynebu dirwy drom.

Dywedir bod y cwmni wedi ceisio codi boeler i fyny i’r chwarel un tro a’i fod wedi mynd i drafferth ar yr inclên uchaf, sef inclên a weithiai fel math o drwnc, neu inclên ‘llwyfan symudol’ (transporter incline). Bu fel pryf copyn ar raff yno am ddyddiau a dywedodd Richard Owen, un o’r prif weithwyr, na ddeuai yr un arall yno byth eto, ac felly y bu. 

Clywais y diweddar John Hughes, Ferlas, yn dweud bod y gweithwyr wedi gobeithio taro ar lechfaen o liw gwyrdd olewydd (olive green) o ansawdd dda yno gan fod y graig mewn un rhan o’r chwarel yn wyrdd golau, ac yr oedd galw am lechi to o’r fath, ond ni ddaeth fawr ddim o hynny, chwaith. Gyda llaw, yr enw ar yr haen hon o lechfaen yw Llygad Glan y Pwll neu’r Olive Vein

Ychydig iawn o lechi to a slabiau a gynhyrchwyd yno. Anfonwyd 387 tunnell o’r chwarel yn 1867 i borthladd Porthmadog, o bosib y nifer uchaf a wnaed yno. Er iddi rygnu mynd am ychydig wedyn, erbyn y flwyddyn 1870 roedd y lle wedi ei adael i sefyll. 

Siop Mafeking a Cae Dolawel
Diolch i Lisa Lloyd, Yr Wyddgrug, am rannu ei hatgofion yn rhifyn Ionawr am Siop Mafeking a tharddiad yr enw. Gyda llaw, ceir enw arall o ddyddiau Rhyfel De Affrica yng Nglan-y-pwll, sef Kimberley House. 

Diolch hefyd i Aled Ellis, Minffordd, am yr wybodaeth ganlynol am Gae Dolawel: Bu adroddiadau yn y Merioneth and Vale of Conway Football & Sports Gazette,16 Chwefror 1951, bod cynllun uchelgeisiol ar droed i wneud Cae Dolawel yn faes chwaraeon gydag arena ar gost o rhwng £7,000 a £10,000, a gwneud Cae Haygarth Park yn atgof prudd! 

Pa fodd bynnag, yn ôl yr adroddiad a ymddangosodd yn y Blaenau Ffestiniog & District Sports Report, 4 Hydref, 1952: roedd Cwmni Chwarel Oakeley yn fodlon ystyried ei werthu, ond barn y rhai a arolygodd y cae oedd ei fod yn anaddas ar gyfer y cynllun a byddai’n costio gormod, gan nad oedd modd cael grant o unrhyw ffynhonnell tuag at ei addasu. Yn dilyn cyngor y Pwyllgor Arbennig penderfynodd y Clwb Pêl-droed nad oedd am barhau â’i amcanion gyda’r cae. Tybed beth fuasent yn ei ddweud heddiw wrth weld y cae rygbi a’r Tŷ Clwb ?
- - - - - - - - - - -

Pennod o gyfres Stolpia gan Steffan ab Owain.

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2023

2 comments:

  1. Dulan roberts5/4/23 09:28

    Gwych a diddorol dros ben. Diolch am rhannu

    ReplyDelete
  2. Anonymous12/4/23 18:54

    gwych . diolch

    ReplyDelete

Diolch am eich negeseuon