Pan arianwyd Y Dref Werdd eto gan y Loteri Fawr yn 2015, un o’r amcanion oedd datblygu mannau gwyrdd cymunedol o fewn 'Stiniog, felly dyna gydio eto yn y syniad o ddatblygu’r safle. Ers i Gymdeithas Randiroedd Bro Ffestiniog gael ei sefydlu, maent yn dal y les ar gyfer y safle i gyd gan Gyngor Gwynedd ac er eu bod nhw wedi llwyddo i lenwi pob plot o dir yn y safle rhandiroedd, roedd angen ychydig o gymorth i chwilio a cheisio am grant i gychwyn ar y gwaith diweddaraf yma.
Aeth staff Y Dref Werdd ati i roi cymorth i’r Gymdeithas i lunio cais am arian gan gronfa Cist Gwynedd gyda’r Cyngor a llwyddwyd i dderbyn yr arian oedd angen i gychwyn ar y gwaith.
Bwriad y prosiect yma yw creu gardd nid yn unig ar gyfer y cyfoeth o fywyd gwyllt sydd yn byw ar y safle (ac i ddenu mwy), ond i’w agor hefyd fel man hamdden i’r cyhoedd.


Mae’r ardd yma yn un o dri safle mae’r Dref Werdd yn helpu i’w ddatblygu, gyda gwaith yn parhau gyda Gwelliannau Llan Ffestiniog i ddatblygu Cae Bryn Coed a'r gwaith o ddatblygu man gwyrdd cymunedol arall yn 'stad dai Hafan Deg yn Nhanygrisiau ar y cyd gyda Grŵp Cynefin a Chartrefi Cymunedol Gwynedd.
Os hoffech chi fwy o fanylion am yr ardd wyllt neu os oes diddordeb gennych i wirfoddoli ar y prosiect, cysylltwch gyda’r Dref Werdd ar 01766 830 082 neu gwydion@drefwerdd.cymru, neu, mae croeso cynnes i chi alw heibio’r siop ar 18 Stryd Fawr unrhyw dro.
![]() |
Tyllwyd y pwll yn wreiddiol yn 2011, wrth sefydlu safle'r rhandiroedd, a daeth y bywyd gwyllt yno'n fuan iawn wedyn (*dolen isod). Gall fod yn lle arbennig blant ddysgu am fywyd gwyllt eu cynefin. |
![]() |
Grifft llyffant yn y pwll ddechrau Mawrth 2017. |
----------------------------------------
Erthygl gan Y Dref Werdd. Lluniau i gyd gan Paul W.
*Ychydig o hanes y pwll
Ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2017.
Dilynwch newyddion Y Dref Werdd efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon