Darn o golofn Stolpia, gan Steffan ab Owain, o rifyn Gorffennaf 2006.
CAFNAU CERRIG
Yn ddiweddar bum yn olrhain hanes yr hen gafnau cerrig a wneid yn rhai o’n chwareli ar gyfer dal bwyd neu ddŵr i’r anifeiliaid a gedwir ar dyddynnod a ffermydd ein teidiau a’n neiniau gynt.
Yn ei gyfrol ddifyr Diwydiannau Coll (1943) dywed Bob Owen Croesor y byddai llawer o ‘hen gafnau dal bwyd moch wedi eu gwneuthur o un pisyn o garreg fawr wedi eu cafnio iddynt â chŷn a mwrthwl’.
Yn ddiau, roedd y cafnau hyn yn rhai trwm a chryf ac yn anodd eu troi drosodd gan y moch, ac o ganlyniad yn parhau llawer mwy na’r rhai a wneid yn ddiweddarach efo slabiau llechi wedi eu gosod wrth ei gilydd. Gwn am ambell enghraifft o’r ddau fath yn ardal Stiniog. Tybed a wyddoch chi am rai?
Yn ôl Bob Owen, gadawyd ambell gafn carreg ar ôl yng ngloddfa fach Coed Tyddyn y Sais, sydd o fewn rhyw hanner milltir i bentref Croesor ac nid oedd na dyfrhollt na gwynthollt ar eu cyfyl, serch iddynt gael eu cerfio a’u cafnio ers cenedlaethau lawer, meddai. Yn ôl ein cyfaill Edgar Parry Williams, y mae rhai ohonynt i’w gweld yno hyd heddiw.
Bu cryn drafodaeth am yr hen gafnau cerrig yng ngholofn Llais y Wlad ym mhapur newydd ‘Y Genedl Gymreig’ yn ystod misoedd yr haf 1926, hefyd. Cyfeirir ynddo at rai yn cael eu gwneud o garreg galch yn sir Ddinbych a rhai o lechfaen feddal yn chwareli sir Benfro. Dywedir mai gyda math o fwyell arbennig neu ‘nedda’ y byddid yn eu cafnio yng Nghilgerran a gallai gŵr profiadol wneud un cyfan mewn diwrnod.
Ym mis Gorffennaf ysgrifennodd un yn galw ei hun yn Glan Gwernydd y canlynol am ‘Y Cafnau Moch’ yn yr un papur: Gellid tybio nad oes neb yn gwneud defnydd o’r rhai hyn, ond nid yw’n wirionedd am bob ardal, oherwydd defnyddir ugeiniau ohonynt i’m gwybodaeth i. Nid wyf yn gwybod ar hyn o bryd a oes rhywun yn eu gwneud yn awr. Gwn am un mawr iawn yn agos i Fwlch Stwlan, rhwng y ddau Foelwyn, a wnaed gan ddau frawd a adwaenwn yn dda. Ond, oherwydd i’r cafn bileru, neu gracio, gadawyd ef yno a bydd rhywun rywbryd yn meddwl mai hen arch garreg ydyw.
Fel y mae hi’n digwydd, roeddwn wedi clywed Merfyn Williams, Croesor (cyn-bennaeth Plas Tan-y-Bwlch) yn sôn am hen gafn carreg wedi ei adael y tu draw i Fwlch Stwlan ac ar ymylon y marian islaw ‘Hen Wraig y Moelwyn’ a ‘Carreg y March’ ar y Moelwyn Bach. Y llynedd bum yn chwilio amdano, ond er chwilio a chwalu methais yn lân a chael hyd iddo y tro hwnnw. Beth bynnag, dyfal donc a dyrr y garreg, ynte? Ychydig wythnosau’n ôl penderfynais fynd draw yno yr eilwaith i chwilio amdano a’r tro hwn trewais arno o fewn deng munud.
Y mae hwn yn gafn sylweddol ac yn mesur rhwng 4 troedfedd a hanner (1.3716m) a 5 troedfedd ar ei hyd a rhyw 20 modfedd ar ei draws. Byddai llawer o bobl ein hoes ni yn talu arian da amdano i ddal eu blodau, oni byddent?
Ar ôl tynnu ei lun, bum yn meddwl tybed pwy oedd y ddau frawd a fu wrthi’n ddyfal yn cafnio’r garreg hon? Gresyn na fuasai Glan Gwernydd wedi eu henwi ynte? Os gwyddoch chi pwy oeddynt, cofiwch anfon gair ataf neu i Llafar.
(lluniau Steffan ab Owain)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon