Celyn. Llun PW |
Ystyriai ein
hynafiaid fod rhywbeth arbennig yn perthyn i blanhigion oeddynt nid yn unig yn
cadw’u dail dros y gaeaf ond hefyd yn dwyn ffrwyth, pan fo byd natur yn
gyffredinol wedi hen fynd i gysgu.
Fe’u hystyrid fel symbolau o fywyd
tragwyddol a dethlir eu hynodrwydd trwy ddyfeisio pob math o ddefodau i geisio
ffrwyno arbenigrwydd y planhigion er mwyn budd bywyd pob dydd. Maent yn symbol
o lwc a hapusrwydd ac yn sicr credid fod eu presenoldeb yn bendithio’r
tŷ.
Gyda dyfodiad Cristnogaeth condemniodd yr Eglwys gynnar y fath ofergoeledd
a phaganiaeth … ond roedd hen ddefodau wedi eu gwreiddio’n ddwfn ac yn y diwedd
bu raid i’r Eglwys dderbyn eu presenoldeb ond iddynt gael rhoi ystyr Cristnogol
i’r defodau cysylltiedig.
Ystyrid hi’n
weithred anlwcus iawn i ddod a’r planhigion hyn i’r tŷ cyn noswyl Nadolig …
ddaw dim da i’r tŷ na’r teulu pe gwneid hyn.
Yn draddodiadol roedd yr Ŵyl Nadolig neu’r Gwyliau fel y’i gelwid yn
parhau am ddeuddeng niwrnod a rhaid, yn ddefodol felly, ddifa’r bythwyrdd ar
6ed o Ionawr yn ddi-ffael neu unwaith eto
ddod ac anlwc ar y tŷ.
Sut i’w difa? … yn ôl rhai dylid eu gadael i wywo a
phydru tu allan i’r tŷ ac eraill rhaid oedd eu llosgi a chadw’r lludw dros y
flwyddyn i ddod. Faint sy’n arfer yr hen ddefod yma erbyn heddiw a faint sy’n
temtio ffawd trwy addurno yn rhy gynnar a thynnu’r addurn i lawr cyn y 6ed ?
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon