12.7.14

DOD YN ÔL

Rhan o dudalen flaen rhifyn Gorffennaf, gan Nesta Evans, Llan:

Stori anhygoel jwg fedyddio!
Bu dathlu yn Eglwys Sant Mihangel.  Ddeng mlynedd yn ôl, bydd llawer ohonoch y cofio y torri i mewn a dwyn creiriau gwerthfawr a hanesyddol o’r eglwys ac ni welwyd mohonynt wedyn.  Ychydig amser yn ôl derbyniodd David Taylor e-bost gan ddyn o New Jersey, America, o’r enw Anthony Bozzuto. 


Ei neges oedd ei fod wedi prynu jwg  pres (‘ewer’ yn Saesneg) mewn ‘goodwill store’ am wyth dolar.  Sylwodd fod arysgrif ar waelod y jwg oedd yn dweud enw Eglwys Sant Mihangel, gyda’r dyddiad 1913, wedi ei gyflwyno gan Mrs Malek.  Defnyddiwyd hon yn ystod bedydd i godi dŵr o’r fedyddfaen. 

Anfonwyd yr wybodaeth i Joan Yates, warden yr eglwys, a bu hithau’n cysylltu â Mr. Bozzuto oedd am i’r jwg gael ei ddychwelyd i’r eglwys. 

Cyrhaeddodd yn ddiogel, wedi ei bostio yn ei ôl i’w gynefin a dyna pam y bu dathlu ar fore Sul, Mehefin 22ain.  Stori anhygoel ynte, a tybed a oes gobaith y daw cadair Edmwnd Prys i’r golwg rhyw ddiwrnod?    





29.6.14

Rhod y Rhigymwr- Morning Mêt!

Y golofn farddol, gan Iwan Morgan


Rhod y Rhigymwr: dyna enw’r golofn y bum yn ei rhedeg yn ‘Llais Ardudwy’ pan oeddwn yn byw yn nalgylch y papur hwnnw yn ystod y 1970au.

gwaith celf gan Lleucu G Williams
Ers i Rhian y Ddôl symud i fyw i’r Penrhyn, mae sawl un wedi bod yn holi tybed a fyddai rhywun yn bod yn gyfrifol am golofn farddol o fath yn Llafar Bro. Mae sawl un yn gweld eisiau ‘Y Llinell Goll’ yn ôl y dealla aelodau Pwyllgor ‘Llafar.’ Addewais i’r ysgrifennydd y byddwn yn ceisio llunio rhyw fath o golofn farddol fisol fydd yn cynnwys cerddi gan rai o’n darllenwyr, ychydig sylwadau diddorol am feirdd neu gerddi a chystadleuaeth bob yn hyn a hyn.

Be’n well i agor colofn gyntaf ‘Rhod y Rhigymwr’ na’r canlynol gan Dafydd Jones, Brynofferen? Mae’n edrych yn ôl ar ‘Stiniog ei blentyndod ac yn cofio’r hwyl a fu. Daeth llawer tro ar fyd ers y dyddiau llawen hynny.

'Morning Mêt!'

‘Dach chi’n un o bobol ‘Stiniog,
A ‘di byw yma ‘rioed?
Wedi chwarae’n ben Graig Ddefad
Chwara Indians lawr yn Coed?

‘Dach chi’n cofio’r holl gyngherdda
Fydda’n ‘rHall ers lawar dydd?
‘Dach chi’n cofio Siop yr Iard
Ac yn cofio Ifan Crydd?

A da chitha’n dal i gofio
Hwyl diniwad seti cefn
Yn Parc Sinema nos Sadwrn,
A’r rhai parchus yn deud drefn?

‘Dach chi’n medru cofio hefyd
Yr holl fobol ar y stryd
Ar nos Weenar y Tâl Mawr, -
Pobol ‘Stiniog yno’i gyd?

Tybad fedrwch chi fel finna
Gofio Taddie efo’i drol,
A chael cornet bach am ddima
A’i lyfu’n ara bach ddi-lol?

Ydy sŵn y sgidia hoelion,
Cyn ‘ddi wawrio, ar y stryd,
Sŵn cadernid a sŵn hydar,
Sŵn y sicrwydd oedd’n y byd?

Ydy hwnnw, sŵn y taro,
Sŵn y lleisiau’n tynnu coes,
Ydy petha rhyfadd felna’n
Rhan o gyffro bora oes?

Dechra meddwl felma ‘nes i
Bora ddoe wrth stesion Grêt,
Gweld rhwy ddyn a deud ‘S’mai!’
A hwnnw’n atab ‘Morning Mêt!’

*   *   *
Mae cyfeiriad eto yn y rhifyn hwn o ‘Llafar’ at Goron Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog 1898. Elfyn (R.O.Hughes), oedd yn byw yn y Barics, Llan Ffestiniog enillodd y gadair am ei awdl ‘Awen,’ ac mae’r stori am ei gyrchu mewn trol a cheffyl i’w derbyn yn adnabyddus.

R. Gwylfa Roberts, brodor o Benmaenmawr, oedd enillydd y goron am ei bryddest ‘Charles o’r Bala.’ Ymdriniwyd peth â chynnwys cerdd astrus Gwylfa gan olygydd rhifyn Mai. Fe enillodd ei ail goron genedlaethol yng Nghaerdydd flwyddyn yn ddiweddarach am bryddest - ‘Y Diddanydd Arall.’ Diau fod honno’r un mor astrus, ac yn nodweddiadol o arddull beirdd-bregethwyr y cyfnod. Roedd Gwylfa’n bregethwr ac awdur poblogaidd yn ei ddydd, a bu’n golygu cylchgronau’r ‘Diwygiwr’ a’r ‘Dysgedydd’ am gyfnod. Mae’n siŵr y clywch fwy amdano’n arddangosfa’r Gymdeithas Hanes.

*   *   *
Os oes gennych gerdd neu sylw perthnasol am faterion yn ymwneud â’r awen, mae croeso i chwi gysylltu â mi trwy Llafar Bro.

Gobeithiaf ddarparu tasgau ar eich cyfer yn ystod y misoedd i ddod.

            I.M.

27.6.14

O'r Archif -Ar Wasgar

Cyfres o bigion o archif Llafar Bro, wedi eu dewis gan Pegi Lloyd Williams.

Y tro hwn, darn o Ebrill 1998 gan Eigra Lewis Roberts. Un o gyfres 'Ar Wasgar' gan awduron o Fro Ffestiniog oedd yn byw ym mhedwar ban Cymru.


Taith bum munud
 
Rhyw bum munud o daith gerdded oedd yna o’n tŷ ni yn y Blaenau i gapel Maenofferen; hanner awr o’i cherdded deirgwaith y Sul, heb sôn am hanner awr a rhagor yn ystod yr wythnos i Obeithlu a Chymdeithas a Chyfarfod Darllen a’r llu ymarferiadau ar gyfer drama a chyngerdd a chymanfa. Mae’r tŷ yn dal yno, bellach yn gartref i rhywun arall, ond mae’r capel wedi hen ddiflannu er bod y festri’n dal ar ei thraed.

Roedd camu allan drwy ddrws ‘Llenfa,’ Sgwâr y Parc yn nillad gwyryfol glân un-diwrnod-yr-wythnos yn brofiad cwbwl wahanol i’r camu allan dyddiol yn nillad gwaith ac ysgol. Roedd cerddediad y Sul yn wahanol hefyd, yn barchus, hamddenol a’r het a’r menyg yn llyffetheiriau. Dydw i ddim yn cofio imi erioed chwysu mewn dillad dydd Sul.

Wrth i ni gerdded felly i lawr ein stryd ni am y stryd fawr deuai eraill i ymuno â ni a’u lleisiau, wrth gyfarch a sgwrsio, donfedd yn is na’r lleisiau bob dydd. Wedi cyrraedd y stryd fawr, byddai’r cwmni’n gwasgaru, i Ebeneser a Jeriwsalem, y Tabernacl a’r Bowydd, a ninnau’n tri’n croesi, heb orfod edrych i’r dde na’r chwith, ac yn dilyn y pwt ffordd, dros war pont y rheilffordd, nes dod i olwg Maenofferen. Does gen’ i fawr o gof o’r capel ei hun ond fe alla i ddal i deimlo’r parchedig ofn a fyddai’n gyrru ias oer i lawr asgwrn fy nghefn wrth imi wylio’r blaenoriaid yn camu’n ddefosiynol i’r sêt fawr o’r ystafell fach ddirgel honno a oedd â’i drws bob amser ar glo i ni.
Capel Maenofferen. Diolch i Gareth T Jones am y llun

Y festri oedd calon y lle i mi. Yno y bum yn llyncu gwybodaeth ac yn llowcio jeli; yn dysgu gwrando, a rhyfeddu, a holi. Yno, drwy gyfrwng lluniau ar ddarn o wlanen, y gwelais i’r mab afradlon yn plygu’i ben mewn cywilydd a’r tad maddeugar yn estyn breichiau i’w groesawu’n ôl, y claf o’r parlys yn sefyll, yn syth fel brwynen, a’i fatres o dan ei gesail, a llygaid y dyn dall yn tywynnu wrth iddo weld o’r newydd. Yno y bu hwyl a miri nosweithiau llawen, y darn heb ei atalnodi, y codi papur o het, y chwibanu heb chwerthin, cynnwrf theatraidd y ddrama Nadolig a thawelwch beichiog yr Arholiad Sirol. Yno y dechreuais gael blas ar eiriau a gwirioni ar eu sŵn cyn gallu amgyffred eu gwerth.

Maen nhw i gyd wedi mynd - Mrs Williams, ‘Gofryn’, a allai gael criw o blant digon anystywallt i dawelu, heb godi ei llais; Miss Owen, yn gleniach ar y Sul na Miss Owen, Standard 3 a’i symiau tragwyddol - a’r rhai a fu gynt yn blant ar chwâl dros y byd. Go brin fod dim yn aros o’r festri nad ydi hi’n festri bellach. Taith gwbl ofer fyddai’r un heb iddi ddim i gychwyn ohono na dim i anelu ato. 
ELR

24.6.14

Corn Gwlad

Rhannau o golofn 'Newyddion Seindorf yr Oakeley' o rifyn Mehefin

CYNGERDD COFFA EILIR
Yn gynharach eleni cynhaliwyd cyngerdd arbennig iawn yn Ysgol y Moelwyn i gofio’n annwyl am Eilir Morgan a fu farw’n frawychus o sydyn trwy ddamwain ychydig dros flwyddyn yn ôl.

Breuddwyd a dymuniad John Glyn Jones ac aelodau Seindorf yr Oakeley oedd y cyngerdd hwn er mwyn rhoi cyfle i ddathlu bywyd Eilir ac i ddiolch am ei gyfraniad i’w gymdeithas trwy ei ddoniau cerddorol a’i ddiddordeb yn y pethe.

Cafwyd perfformiadau gwych gan Seindorf yr Oakeley, Dylan Rowlands, Dewi Griffiths a Hogie’r Berfeddwlad a chyflwynwyd y cwbl gan John Glyn. Dyma artistiaid yr oedd Eilir wedi ymwneud â hwy mewn gwahanol gyfnodau yn ystod ei fywyd.


Ymunodd â’r band yn 11 oed a datblygu i fod yn aelod gwerthfawr a chyfaill agos i lawer o’r aelodau dros y blynyddoedd. Cafodd brofiadau lu gyda’r band trwy ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol a phencampwriaeth Cymru ar fwy nag un achlysur yn ogystal â pherfformio yn yr Albert Hall yn Llundain yn y flwyddyn 2000.

Bu Eilir yn aelod o ‘Hogie’r Berfeddwlad’ am bron i wyth mlynedd ac yn ystod y cyfnod yma, cafwyd llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon ar fwy nag un achlysur.

Cyhoeddwyd ar ddiwedd y noson mai dymuniad y Seindorf oedd cynnig yr elw i’r Eisteddfod Genedlaethol er budd sefydlu naill ai gwobr neu ddarlith flynyddol yn yr Adran Wyddoniaeth er cof am Eilir. Gan mai Doethur dan nawdd cynllun ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a darlithydd yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion Prifysgol Bangor ydoedd Eilir, teimlad aelodau’r Seindorf oedd y byddai cynnig gwobr goffa i’r Adran Wyddoniaeth yn hynod o addas.

Da yw cyhoeddi bellach y bydd swm o £1000 yn cael ei gyflwyno i Mr Elfed Roberts, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod yn Llanelli eleni. Diolch i bawb am eich cefnogaeth a’ch haelioni.
------------------------------------------------

Dathlu pen-blwydd Seindorf yr Oakeley yn 150 oed yn yr Ynys Werdd

‘Hir yw pob ymaros’ ac ar ddydd Sadwrn, Mai 3ydd am 6 o’r gloch y bore roedd aelodau Seindorf yr Oakeley yn cychwyn ar eu taith hir ddisgwyliedig i Tullamore, Swydd Offaly, Iwerddon. Roedd y bws yn llawn offerynnau glân, aelodau cysglyd a chefnogwyr brwd.

Trefnwyd y daith fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y band yn 150 oed eleni, a phan ddaeth y gwahoddiad a’r cyfle i gludo ein doniau i’r Ynys Werdd pwy allai wrthod y cyfle?

Cafwyd cyngerdd gwefreiddiol ar y nos Sadwrn, gyda’r gynulleidfa yn gwerthfawrogi pob nodyn (a jôcs yr arweinydd!) ac yn synnu at y fath dalent ac at sgiliau cerddorol y band. Roedd eu canmoliaeth a’u hedmygedd o aelodau ifanc y Seindorf yn galondid ac yn destun balchder i bawb.

Un o uchafbwyntiau’r cyngerdd oedd datganiad gan dri aelod ifanc o’r band sef Gethin, Guto ac Ynyr yn canu alawon Cymreig fel triawd. Roedd pawb wedi rhyfeddu at eu dawn a’r merched ifanc yn y gynulleidfa wedi gwirioni! Tynnwyd lluniau ohonynt ar ddiwedd y cyngerdd ar lawer ffôn symudol gan eu ffans newydd.

Ar ddiwedd y cyngerdd, cafwyd cymeradwyaeth wresog a’r gynulleidfa i gyd ar eu traed yn gwerthfawrogi yr hyn a gyflwynwyd ar y llwyfan. Noson i’w chofio yn wir!



Aelodau ifanc y seindorf gyda'r ffyn Bando (hyrli, neu hurling) a gyflwynwyd iddyn nhw ar ol gwylio gem, ac i gofio’r ymweliad ag Offaly, gan Dr Brendan a Linda Lee.


16.6.14

Deiseb ola'r Ysbyty Coffa...

Rhan o hanes diweddaraf ymgyrch Pwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Ffestiniog, o rifyn Mehefin:

Ddechrau'r mis, bu cynrychiolaeth o’r Pwyllgor Amddiffyn i lawr yng Nghaerdydd yn cyflwyno deiseb derfynol yr ardal hon dros adfer gwasanaethau iechyd hanfodol i’n hysbyty coffa, sef y gwlâu i gleifion, y gwasanaeth mân anafiadau a’r uned pelydr-X.

O wefan Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol: Bethan Jenkins a William Powell yn derbyn y ddeiseb gan Geraint a Dafydd
Mewn mater o wythnos llwyddwyd i gasglu dros ddwy fil a hanner o enwau ar y ddeiseb ond nid ydym yn gweld unrhyw bwrpas o gwbwl mewn hysbysu Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr o’r canlyniad gan y gwyddom, bellach, mai gwneud esgus gwan dros ei hanwybyddu wnân nhw eto fyth, yn union fel ag y gwnaethpwyd efo’n holiadur diweddar lle’r oedd 468 ohonoch (allan o’r 469 a gafodd eu llenwi) yn bendant o blaid cael y gwasanaethau uchod yn ôl. Y gwir ydi, cyn belled ag y mae arweinwyr y Betsi yn y cwestiwn, yna rhywbeth i droi cefn arno a’i anwybyddu ydi hawl ddemocrataidd pobol yr ardal hon.

Sut bynnag, gair o eglurhâd rŵan i’r rhai ohonoch na chafodd gyfle am ryw reswm neu’i gilydd i roi eich enw ar y ddeiseb. Bellach, mae’r Bwrdd Prosiect wedi cyflwyno ‘Cynllun Busnes’ i’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford, yn y gobaith o dderbyn sêl bendith sydyn arno gan y llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd.

Ond ystyriwch hyn! - Ar gais y Gweinidog Iechyd ei hun, mae gŵr o’r enw Marcus Longley ar hyn o bryd yn gneud arolwg o safon gwasanaethau iechyd yng nghefn gwlad Cymru, gan gynnwys yr ardal hon. Mae gan yr Athro Longley brofiad helaeth fel Ymgynghorydd Arbenigol ar Faterion Cymreig i Dŷ’r Cyffredin yn Westminster ac i’r Senedd yng Nghaerdydd a bydd ei adroddiad pwysig ef yn ymddangos o fewn dau neu dri mis. Derbyniodd y Pwyllgor Amddiffyn wahoddiad i’w gyfarfod ac i gyflwyno’n hachos iddo, a byddwn yn gneud hynny o fewn yr wythnosau nesaf.

Pe bai llywodraeth Carwyn Jones yng Nghaerdydd yn derbyn Cynllun Busnes y bwrdd prosiect cyn i Marcus Longley gael cyflwyno ei adroddiad swyddogol ef, yna fe fydd hynny’n rhoi’r drol o flaen y ceffyl, ac yn ffwlbri noeth ym marn pob un call ohonom.

Yn syml iawn felly, dyma mae’r ddeiseb yn galw amdano, sef i’r Llywodraeth ohirio penderfynu ar y Cynllun Busnes ar ddyfodol y gwasanaeth iechyd yn yr ardal hon hyd nes i’r Athro Marcus Longley gael cyfle i gyflwyno’i adroddiad ef i’r Gweinidog Iechyd. Wedi’r cyfan, ystyriwch yr embaras i bawb a fu ynglŷn â’r Cynllun hwnnw - heb sôn am i Mark Drakeford ei hun! – pe bai’r cynllun yn cael ei fabwysiadu ar frys a bod adroddiad yr Athro Longley wedyn yn dangos bod gan yr ardal hon angen rhywbeth dipyn amgenach na Chanolfan Goffa’n unig!
Geraint, Walter, Dafydd, a Meirion, yn Y Senedd

Sut bynnag, gair o ddiolch rŵan i bawb ohonoch a arwyddodd y ddeiseb, ac yn arbennig i’r unigolion hynny a fu’n mynd o ddrws i ddrws i gasglu enwau. Ni fu’n bosib cyrraedd pawb ohonoch yn yr amser oedd ar gael, gwaetha’r modd, ond does ond gobeithio y bydd y Cynulliad yn parchu’r cais sydd yn y ddeiseb.

------------------------------------------------------------------------


ANNWYL OLYGYDD...

Unwaith eto yn rhifyn Mehefin, cafwyd llythyrau'n cefnogi ymgyrch y Pwyllgor Amddiffyn, a'r enghraifft yma, gan Ceri Cunnington yn taro nifer o hoelion ar eu pennau:

"Fel y gwyddoch, mae cwmni cymunedol Antur Stiniog ynghŷd â Blaenau Ymlaen wedi ceisio mynd ati i ddatblygu’r economi  leol ac adfywio’r ardal arbennig hon. Nod pob un ohonom ydi gweld yr ardal yma’n ffynnu unwaith eto gan gadw ein pobl ifanc a rhoi cyfleoedd gwaith ac hamdden iddynt.
Hyd yn hyn, mae Antur Stiniog wedi profi’n llwyddiant ac mae’r cwmni bellach yn cyflogi 15 o drigolion lleol ac wedi denu dros 20,000 o ymwelwyr ychwanegol i’r ardal.

Gall nifer helaeth o’n defnyddwyr fod yn ddibynnol ar wasanaeth fel uned frys, mân anafiadau neu wely mewn ysbyty lleol.

Mae Bro Ffestiniog yn gymuned o 5000 o drigolion ac mae’r sefyllfa bresennol o ran gofal, iechyd a lles yn gwbl gywilyddus. Mae colli gwasanaethau fel sydd gan yr Ysbyty Coffa i’w gynnig yn amlwg yn ergyd wirioneddol drychinebus i’r gymuned yma a does dim dwywaith bod colled o’r fath yn mynd i atal unrhyw adfywiad.
Mae gan y gymuned lawer i’w ddiolch i’r Pwyllgor Amddiffyn am eu gwaith di-flino fel unigolion a phwyllgor dros y blynyddoedd diwethaf, ac os  oes unrhyw beth y gallwn ni yn Antur Stiniog ei wneud i gefnogi’r ymdrechion hynny, yna, byddwn yn barod iawn i wneud."