Showing posts with label band. Show all posts
Showing posts with label band. Show all posts

3.10.15

Seiniwch glod

Llongyfarchiadau i Seindorf yr Oakeley ar eu llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol eto eleni, gan ennill cystadleuaeth  Bandiau Pres Dosbarth  4, ar y dydd Sadwrn cyntaf, a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae’r ardal gyfan yn falch o’ch camp. 

Aelodau’r Seindorf yn dathlu (Llun o gyfrif Trydar  @BandyrOakeley)



Llongyfarchiadau mawr hefyd i bawb arall gafodd lwyddiant neu anrhydedd ym Meifod.
Braf oedd gweld gwaith arbennig o gelfydd Jason Chart-Davies yn cael gwobr yn y Lle Celf (Gwobr Bwrcasu CASW).  Roedd Jason wedi creu gemwaith lliwgar hyfryd, trwy blygu papur yn siapiau cywrain iawn. 

(Lluniau uchod: chwith gan PW; de o gyfrif Trydar  @ChartDavies)

Iwan yn ei wisg (Llun gan Delyth Lloyd)
(Llun Llio gan Rhian Maddocks)
Mi gafodd un o olygyddion Llafar Bro –Iwan Morgan- wythnos brysur iawn yno; cewch weld yr hanes yng ngholofn Rhod y Rhigymwr y mis yma, ond llongyfarchiadau mawr i ti Iwan ar dy urddo i wisg werdd Gorsedd y Beirdd. Urddwyd Llio Maddocks i’r wisg werdd hefyd, ac rydym yn ymfalchïo yn dy lwyddiant dithau Llio.

Anrhydeddwyd Gwyneth Tudor hefyd ym Mhabell y Cymdeithasau, am gyfraniad selog i eisteddfodau bach. Cewch ddarllen mwy yng ngholofn Traws. Llongyfarchiadau Gwyneth.


Clywsom fod ambell un wedi cael cam hefyd. Daliwch ati da chi, ac edrychwn ymlaen at adrodd am eich llwyddiant y flwyddyn nesaf!


-------------------------
Erthygl o dudalen flaen rhifyn Medi 2015.

19.9.15

ATGOFION Y SEINDORF

Dyma erthygl gan Glyn Parry, o atgofion personol a hanesion Seindorf yr Oakeley.

Hel atgofion
Diddorol oedd gweld llun recriwts y Band yn rhifyn Gorffennaf [h.y. Gorffennaf 2005- gweler isod, Gol.].  Daw ag atgofion lu i mi. Tynnwyd y llun ychydig cyn diwedd y rhyfel.  Yr oeddwn wedi cael fy ‘ngalw i fyny’ i ymuno â’r Rifle Brigade yn eu pencadlys yn Winchester, ac i fynd y diwrnod canlynol.  Euthum a’m Cornet yn ôl i Mr Dafydd Morgan.  “Tyrd efo fi a Wil Solo Horn i ti gael tynnu dy lun efo’r ricriwts, chei di ddim cyfle eto”.

Yn ôl y llun, rwy’n cael fy adnabod fel “perthynas i Harry Garn”.  Brawd fy mam oedd Harry ac, i mi, yn gymeriad hoffus, yn ddarllenwr, yn fethodus i’r carn; yn ddiddorol a chanddo ddychymyg byw.  Efallai bod dipyn bach o “Walter Mitty” ynddo hefyd!

Ond mor wahanol i mi.

Idwal jones, Llanrwst (Pencader bryd hynny) yn pregethu ar “Cofiwch wraig Lot”.  Dywedodd mewn geiriau tebyg mai hen “wlanan” oedd hi yn cael ei hadnabod wrth enw ei gŵr.  Doedd ganddi ddim enw ei hun.  Ond cofiwch, i gysuro y chwiorydd yn y gynulleidfa, rwy’n cofio ambell i hen “gadach” o ddyn yn cael ei adnabod wrth enw ei wraig hefyd!

Ac i lawer, “Gŵr Mary” ydwyf i.

Ond beth am y Band?
Ymunais â’r Band (B fawr cofiwch) ddiwedd haf 1938.  Dim cyfarwyddyd. Cornet yn fy llaw.  Chwythiad i gael rhyw fath o nodyn ohono.  Darn o bapur gyda’r ‘scales’ arno, yn natural, sharps a fflats a’r ‘fingering’ wedi ei nodi 1- 2- 3.   “Dysga Rheina”... Ac i ffwrdd a fi i wneud fy ngwaith cartref.  Cerdded trwy goed Cwmbowydd i’r Manod.  Y cês bach du a’r corn yn fy llaw, yn goblyn o jarff, a chyn falched â Jingo!

Ar ôl cael crap go lew, cael  ambell i ddarn i ymarfer fy nawn.  “The bluebells of Scotland” oedd un ohonynt.

Mynd i’r cwt, y Bandroom, a gweld llythyr yn rhoi’r hawl i ddefnyddio’r gair “Royal”.  Hwnnw wedi ei fframio a’i osod ar y pared ar y chwith.  Mawreddog!

Cael fy rhoi yng ngofal yr annwyl Bob Roberts gyda’r second cornets.  Dyna i chi ŵr bonheddig, cwrtais a diymhongar.  Cefais drafferth cyfri’r ‘pauses’ a phryd i ail gychwyn.  Gyda’r ‘afterbeats’ hefyd.  Ond Bob yn ei ffordd hamddenol a thawel yn fy rhoi ar ben ffordd.  Ymhen amser cael dyrchafiad at Alec Llan i chwarae Solo Cornet a cholli cwmni Bob.

Galwyd Bob i’r Llynges, heb fedru nofio’r un strôc medda fo.  Bu drwy’r ‘Battle of Java Sea’ ddiwedd 1941 pan suddwyd y “Prince of Wales” a’r “Repulse” gan y Japaneaid ond fe’i arbedwyd .  Coffa da amdano.

Dyma enwau rhai o hogia’r Band, fel y cofiaf, ddechrau’r rhyfel.
Yr arweinydd William Williams (Wil bach Band) a’i fab hynaf Alec Llan, Robin Gwynant, Bob Roberts, Herbert Roberts, Steven Griffiths, Wil Edwards, Johnnie Rhiw (Shein), Tom Owen Llan, Dafydd, Bob a Huw Morgan, Gwilym Brynmor, Huw Dic, Dic Efflat, Eryl Jones a minnau.
Ac, wrth gwrs, heb anghofio’r drymar, pan oedd angen, Tom Hughes y Comiwnydd mawr o’r Llan.  Bu Tom yn gweithio yn mhyllau glo’r Maerdy (Moscow Fach) a’r creithiau gleision i’w gweld ar ei dalcen a’i drwyn.  Yno, mae’n debyg, y bu’n ymarfer ei ddawn!

Ymhellach ymlaen a phethau yn galed a thenau arnom, deuai y brodyr brwdfrydig o Benrhyndeudraeth atom i rhoi hwb i ni sef Albert a Handel.

Cael hwyl a’n dwrdio hefyd tra’n ymarfer.  Ambell i ddarn yn mynd ffwl pelt ac yn gorffen yn sydyn a dramatig ac ambell i un diniwed fel fi, yn difetha’r cwbl drwy roi nodyn cras ac unig ychwanegol ar y diwedd!  Dro arall y Band yn llusgo ac yn “slyrio”.  “Da chi hogia bach, triwch symud efo’ch gilydd.  Mae gennych chi glystiau!”  Wedyn plygu a churo a chrafu coes ei stand a gweiddi “Band Penmachno, Band Penmachno”.  Beth bynnag oedd hynny yn ei olygu.

Gan Wil Bach Band oedd y cornet awdurdodol ac i’r dim i’r ‘marches’ a’r darnau ‘forte’ cyflym.  Credaf iddo gael ei alw weithiau gan fandiau mawr o Loegr i’w cynorthwyo.  Ond gan Alec bach oedd y ‘tone’ hyfryd a swynol.  Alec oedd meistr y cadenza.

Cofiaf, un gyda’r nos glos, ymarfer yn y Band Stand yn y Parc. Ambell dro mynd allan i’r stryd ac aros yma ac acw.  I beth, gofynnwch?  Y Band ddi-grant yn gorfod mynd i gardota.
Chwarae y tu allan i gapel Tabernacl.  Nid wy’n cofio beth oedd yr achlysur: i gymanfa neu i gynhebrwng, tybed?  Emynau y rhan fwyaf ond dechrau a diweddu gyda’r “Deep Harmony”.  A thro arall o flaen yr Highgate yn Nhrawsfynydd.  Eto, at ba achos, nid wyf yn cofio.
Ac yn gweu drwy’r cwbl oedd y Cymanfaoedd, a dawnsfeydd yn yr Hall a’r parêds.

Cofiaf, y tro cyntaf i mi, Gymanfa Ysgolion Sul y Methodistiaid ddechrau Mai.  ‘Roeddwn yn rhy fach i gael iwnifform ond cefais gap pig lliwgar y Band.  Efallai bod gennyf ben mawr yr adeg honno hefyd!  Onid oedd gennyf reswm digonol:  Aelod o’r Band!
Cerdded heibio Capel Gwylfa am y Blaenau, y genethod yn eu hetiau gwellt a’u ffrogiau newydd.  Yr hogiau, fel finnau, mewn siwtiau a throwsusau bach.  Pob un yn disgwyl am y lori addurniedig.  Rhedeg i fyny ag i lawr o flaen y capel ag o amgylch y Goeden Pysl mwnci.

Ond, yma, goddefwch i mi air personol.
Gofid calon i mi hyd heddiw yw syllu ar yr hen gapel hardd yn ei gystudd hir.  Y capel lle y priodwyd ni’n dau dros bum deg a phump o flynyddoedd yn ôl.  Criw creulon cas yr hen Harry wedi ei werthu a’i droi yn lle i drwsio ceir.

Wedyn, ninnau’r Annibynwyr ddiwedd y mis, strydoedd yr hen dref annwyl yn llawn o wylwyr, ar hyd y pafinoedd ac ar bennau’r tai’n edrych ac edmygu yr orymdaith liwgar, y baneri a’r Band.
Daeth y rhyfel, ond cewch fwy am hynny y tro nesaf.

Llongyfarchiadau i’r Band, yr arweinydd, yr hogia a’r genod (erbyn hyn).  Pob un o’r rhain, beth bynnag, yn feistr ar ei offeryn.
Codaf fy ngwydr.  Y Band!

Fy ngofid mwyaf yw na fuaswn wedi medru bod yn fwy cefnogol i’w weithgareddau ar hyd y blynyddoedd.  Mawr ddiolch i’r rhai sydd yn dal i wneud hynny.
Ond hen gadach Gwamal, di-hwb a di-feind fum i erioed.
 ----------------------------

Dyma'r llun a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf 2005 Llafar Bro.
Daeth i law (trwy 'Prosiect Stiniog')...
"oddiwrth Jennie Olwen Heath (nee' Williams), Bodychain gynt, merch William John Williams (Solo Horn)  - Teitl fel ar gefn y llun - 'Royal Oakeley recruits'.
Chwith i'r dde rhes gefn: .
John Bach, mab Hugh Bach Dolau Las, Dei hogyn Jac Ed Wesley St., Bob Edwards, Dei mab Jack Rich, Oms mab J.Ll. Smith, Ronnie mab Wil Bach, W.Jones mab Ted Meirion Hotel.
Rhes flaen: Cynan brawd Anarawd, W. Jones, Athro Solo Horn, Dei Morgan Ysgrifennydd, Glyn Parry perthynas i Harry Garn, Evan Williams mab Wil Baritone, Dafydd mab Hughie Griffin.
Dau yn' eistedd: Gwyn (Gwynfryn Cigydd), Stanley?Llyn Cemlyn. "



----------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn Llafar Bro yn rhifyn Medi 2005.


24.6.14

Corn Gwlad

Rhannau o golofn 'Newyddion Seindorf yr Oakeley' o rifyn Mehefin

CYNGERDD COFFA EILIR
Yn gynharach eleni cynhaliwyd cyngerdd arbennig iawn yn Ysgol y Moelwyn i gofio’n annwyl am Eilir Morgan a fu farw’n frawychus o sydyn trwy ddamwain ychydig dros flwyddyn yn ôl.

Breuddwyd a dymuniad John Glyn Jones ac aelodau Seindorf yr Oakeley oedd y cyngerdd hwn er mwyn rhoi cyfle i ddathlu bywyd Eilir ac i ddiolch am ei gyfraniad i’w gymdeithas trwy ei ddoniau cerddorol a’i ddiddordeb yn y pethe.

Cafwyd perfformiadau gwych gan Seindorf yr Oakeley, Dylan Rowlands, Dewi Griffiths a Hogie’r Berfeddwlad a chyflwynwyd y cwbl gan John Glyn. Dyma artistiaid yr oedd Eilir wedi ymwneud â hwy mewn gwahanol gyfnodau yn ystod ei fywyd.


Ymunodd â’r band yn 11 oed a datblygu i fod yn aelod gwerthfawr a chyfaill agos i lawer o’r aelodau dros y blynyddoedd. Cafodd brofiadau lu gyda’r band trwy ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol a phencampwriaeth Cymru ar fwy nag un achlysur yn ogystal â pherfformio yn yr Albert Hall yn Llundain yn y flwyddyn 2000.

Bu Eilir yn aelod o ‘Hogie’r Berfeddwlad’ am bron i wyth mlynedd ac yn ystod y cyfnod yma, cafwyd llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon ar fwy nag un achlysur.

Cyhoeddwyd ar ddiwedd y noson mai dymuniad y Seindorf oedd cynnig yr elw i’r Eisteddfod Genedlaethol er budd sefydlu naill ai gwobr neu ddarlith flynyddol yn yr Adran Wyddoniaeth er cof am Eilir. Gan mai Doethur dan nawdd cynllun ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a darlithydd yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion Prifysgol Bangor ydoedd Eilir, teimlad aelodau’r Seindorf oedd y byddai cynnig gwobr goffa i’r Adran Wyddoniaeth yn hynod o addas.

Da yw cyhoeddi bellach y bydd swm o £1000 yn cael ei gyflwyno i Mr Elfed Roberts, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod yn Llanelli eleni. Diolch i bawb am eich cefnogaeth a’ch haelioni.
------------------------------------------------

Dathlu pen-blwydd Seindorf yr Oakeley yn 150 oed yn yr Ynys Werdd

‘Hir yw pob ymaros’ ac ar ddydd Sadwrn, Mai 3ydd am 6 o’r gloch y bore roedd aelodau Seindorf yr Oakeley yn cychwyn ar eu taith hir ddisgwyliedig i Tullamore, Swydd Offaly, Iwerddon. Roedd y bws yn llawn offerynnau glân, aelodau cysglyd a chefnogwyr brwd.

Trefnwyd y daith fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y band yn 150 oed eleni, a phan ddaeth y gwahoddiad a’r cyfle i gludo ein doniau i’r Ynys Werdd pwy allai wrthod y cyfle?

Cafwyd cyngerdd gwefreiddiol ar y nos Sadwrn, gyda’r gynulleidfa yn gwerthfawrogi pob nodyn (a jôcs yr arweinydd!) ac yn synnu at y fath dalent ac at sgiliau cerddorol y band. Roedd eu canmoliaeth a’u hedmygedd o aelodau ifanc y Seindorf yn galondid ac yn destun balchder i bawb.

Un o uchafbwyntiau’r cyngerdd oedd datganiad gan dri aelod ifanc o’r band sef Gethin, Guto ac Ynyr yn canu alawon Cymreig fel triawd. Roedd pawb wedi rhyfeddu at eu dawn a’r merched ifanc yn y gynulleidfa wedi gwirioni! Tynnwyd lluniau ohonynt ar ddiwedd y cyngerdd ar lawer ffôn symudol gan eu ffans newydd.

Ar ddiwedd y cyngerdd, cafwyd cymeradwyaeth wresog a’r gynulleidfa i gyd ar eu traed yn gwerthfawrogi yr hyn a gyflwynwyd ar y llwyfan. Noson i’w chofio yn wir!



Aelodau ifanc y seindorf gyda'r ffyn Bando (hyrli, neu hurling) a gyflwynwyd iddyn nhw ar ol gwylio gem, ac i gofio’r ymweliad ag Offaly, gan Dr Brendan a Linda Lee.