14.2.22

Pwy Oedd y Rhain?

Ydach chi wedi clywed am John Black o Dŷ’n y Maes?  Neu John Thomas Owen, Bryn Tirion?  Neu beth am Oscar Phillips, Llwyn?

Wel, mae eu henwau wedi eu hysgrifennu ar y Gofgolofn yn Ffestiniog, ymhlith y tri deg naw o hogiau’r ardal gollodd eu bywyd yn y Rhyfel Mawr, 1914 i 1918.

Cofgolofn y Llan. Llun gan Paul W

Yn eu plith hefyd mae Arthur Price ac yr oedd nith iddo, Susan Salter o Norwich, yn awyddus i wybod rhagor amdano.  Aeth i weld man ei fedd yn Proven, Gwlad Belg, fwy nag unwaith a gwnaeth ymchwil i hanes Arthur ac i hanes y bechgyn eraill sydd a’u henwau ar y Gofgolofn.  Ysgrifennodd Susan lyfr Saesneg, ‘Ffestiniog Remembers’ i gynnwys peth o’u hanes a’i gyflwyno mewn arddangosfa yn Neuadd Ffestiniog ar ganmlwyddiant diwedd y Rhyfel Mawr yn 2018.  Nid oedd raid iddi fy mherswadio innau, fel nith arall i Arthur Price, i’w helpu ac i gyfieithu ei llyfr i Gymraeg.

Gwyddom o’i ddarllen i ddau ddeg tri ymuno â’r Royal Welsh Fusiliers gyda dau yn ymuno â Chorfflu Feddygol y Fyddin.  Gyrrwyd rhai i Salonica yng ngwlad Groeg, eraill i Gallipoli yn Twrci.  Roedd afiechydon yn frith yno a buont farw o’u clwyfau neu o falaria neu dwymyn farwol, un bachgen yn marw o fewn dyddiau wedi cyrraedd.

Ond i Ffrainc neu wlad Belg yr aeth y mwyafrif ac yno yng Nghoed Mametz, yn y Somme, Passchendaele, Ypres neu faes brwydr arall yno y cawsant eu lladd.  Gwyddom fan beddrod rhai o’r hogiau ond does gan eraill ddim bedd i ddangos yn union lle claddwyd hwy.  Ym mynwent y pentref y claddwyd un neu ddau ac ar gopa Pen Ffridd ar dir Bryn Llewelyn y claddwyd un arall, sef y Barwn Newborough, ef o afiechyd a gafodd yn Ffrainc.

Os am wybod mwy am gefndir yr hogiau, ewch i Amgueddfa’r Ffiwsilwyr yn y Blaenau.  Cewch edrych ar gopi o lyfr Susan Salter a gweld llun pob un o’r tri deg naw milwr ac un arall fu farw o’i glwyfau yn 1923.

Neu beth am ddarllen profiadau’r rhyfel gan Tom Price, brawd Arthur Price?  Mae copi o’i lyfr, ‘Rhywle yn Ffrainc’, hwnnw hefyd yn yr Amgueddfa.
Lonna Bradley
- - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol (heb y llun) yn rhifyn Rhagfyr 2021.   

Cofiwch am gyfres fanwl Vivian Parry Williams: Stiniog a'r Rhyfel Mawr

10.2.22

Yr Abbey a Phont Fawr y Rhiw

Agorodd erthygl Geraint Vaughan Jones (yn Rhamant Bro 2021) bennod yn hanes teulu ni –y Williams’. Mae cyswllt teulu fy nhad, Idris Williams, Glanpwll Villa ag ardal y Blaenau yn dyddio yn ȏl i ddechrau’r 1800au hyd ei farw yn 1971. I Lan Ffestiniog y daethant gyntaf, yn denantiaid i’r Old Abbey Arms- tybed ai nhw oedd y tenantiad cyntaf?

Thomas Williams (TW) a’i wraig Mary oedd tenantiaid yr Abbey. Credaf i TW gael ei eni yn 1831 yn y Sportsman Llandwrog a’i wraig Mary (g.1816) yn Llanllyfni. Hwyrach eu bod yn denantiaid i'r Arglwydd Newborough cyn dod i Llan? Credaf bod TW yn gweithio yn un o’r chwareli fel peiriannydd. 

Dyfeisiodd gynllun fel bod ceffyl yn gwthio rhywbeth fel bod bwyd yn disgyn i’r preseb a'r ceffyl yn  bwydo ei hun fel nad oedd angen i TW godi mor fore i’w fwydo.

Ganwyd 5 o blant i TW a Mary: Thomas 1842 (fy hen Daid), Anne 1844, (byw yn Adwy Goch wedi priodi), Jane 1847 (bu farw yn 20 oed 1875), Mary 1851, a William Pritchard 1853. Bu Mary gwraig TW farw Chwefror 1858 yn 36 oed.

Cododd TW garreg fedd enfawr i Mary, ar y dde i ddrws Eglwys Llan- mae’n dal i sefyll- llechfaen ddu. Bu farw TW yn 1895. Ail wraig iddo oedd  Lucy (1825-86).  Cadwyd tenantiaeth yr Abbey yn y teulu gan Mary, merch ieuengaf TW hyd ddechrau’r ugeinfed ganrif.

Sefydlodd Thomas, mab hynaf TW yn y Blaenau. Un cyfeiriad iddo ydi 42 High St – ger swyddfa Cyfreithwyr Evans Jones. Dyma fy hen Daid, a fo gynlluniodd y gwaith coed ar Bont Fawr wreiddiol yr Oakeley (Welsh Slate Co ar y pryd). Er mwyn cael lle i’r piler canol, newidiwyd cwrs afon Barlwyd.  Codwyd y bont fawr yn y cyfnod 1872-75. Agorwyd y rheilffordd i’r Blaenau yn 1879. Darllenais bod  cynllun y bont yn seiliedig ar waith Isambard Kingdom Brunel. Evans oedd cyfenw'r saer maen oedd yn gyfrifol am y pileri cerrig, ac sydd yno o hyd. 

Casgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. "Pont y Rhiw, 1875"
 

Bu Thomas farw yn ŵr ifanc deugain oed yn 1882. Ar y pryd roedd ei unig fab yn ddisgybl yn y  Mechanics Insitute yn Lerpwl. Da gweld bod Thomas yn awyddus i’w fab Thomas John Williams gael pob cyfle addysgol. Yn anffodus, gorfu iddo adael yr Institute ohwerydd marwolaeth ei dad-  a daeth adref i gynnal ei fam a’i dair chwaer. Un o gampweithiau TJW oedd cryfhau'r bont fawr gan ei gwneud yn bont haearn a daeth y darnau haearn o’r America. Addaswyd y bont ymhellach gan fab TJW sef Idris Williams fy Nhad.

Nia Williams
- - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2021


6.2.22

Tra môr... Lea yn hiraethu

Y Stiniogwyr rhyngwladol! Pennod arall o gyfres Gai Toms yn nodi hynt a helynt rhai o blant ardal Llafar Bro sydd bellach yn byw dramor.

Lea Anthony, Sydney, Awstralia


Awstralia, sut a pham?

Roeddwn isio newid ychydig ar fy mywyd, isio gweld y byd ac yn bendant angen mwy o haul! Ges i visa yn 2012 a mynd yn 2013, heibio yr USA. Byswn i wedi mynd yn 2012 ond cefais gyfle "unwaith mewn oes" i ganu'r anthem yng ngêm Cymru v Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm. Am ddiwrnod oedd hynny!

Gwaith a theulu?
Gweithio efo cwmni Double Unicorn yn Sydney yn cynllunio meddalwedd. Mae gen i deulu bach rwan a dwi'n siarad Cymraeg efo'r mab. Mae o wrth ei fodd hefo Gwibdaith Hen Fran!

Wyt ti’n teimlo hiraeth am Stiniog neu Gymru?

Ydw,  dwi’n teimlo hiraeth yn aml, enwedig pan dwi'n dilyn rhaglenni fel Un Bore Mercher a Craith. Dwi'n methu cymuned Stiniog, a'r Kurdish pasties!

Disgrifia'r ardal ti'n byw ynddo.

Dwi'n byw yng ngogledd Sydney, yn y suburbs. Er y suburbs, mae 'na ddigon o goed palmwydd o gwmpas, mae'n eitha gwyrdd yma. Mae 'na hefyd llwyth o cockatoos yn yr ardal!

Wyt ti’n dathlu’r Dolig?

Ydw. Mae Dolig yng nghanol yr haf, felly mae'n 30 gradd a mwy. Ar ddiwrnod Dolig fydda ni mynd lawr i lan y môr. Mae'n llawer rhy boeth i fwyta twrci, felly pysgod a salad fel arfer. Mae'n brofiad hollol wahanol i Dolig yng Nghymru, a tydi caneuon am eira dim yn gwneud sens o gwbwl!

Sion Corn yn defnyddio kangaroos yn lle ceirw acw?!
Aye, fysa ceirw methu handlo'r gwres!

Wyt ti wedi bod i’r gwyllt yn Awstralia?
Naddo, ond fyswn i wrth fy modd mynd. Just paid a gwylio Wolf Creek cyn mynd!!!

Ma nhw’n deud mai Cymro oedd y Jolly Swagman yn y gân Waltzing Matilda, Joseph Jenkins. Heblaw am Kylie Minogue… alli di feddwl am gysylltiad arall efo Oz a Cymru?
Mae na bobl enwog wrth gwrs: Naomi Watts, Julia Gillard, Iwan 'Oz' Jones! Mae na pub yn Sydney o'r enw The Oaks, sydd wedi bod ar agor ers 135 blwyddyn. Ers 1975, Cymro sydd wedi ei redeg, ac mae'n chwifio baner Cymru o'r to. Mae'n anhygoel gweld Draig Goch anfarth yn Sydney! 

Diolch Lea, wyt ti isio dweud rywbeth wrth rhywun yma?
Cymryd bob cyfle mae bywyd yn ei roi i chi! Peint yn y Meirion pan fyddai adra. Diolch am y cyfle i sgwrsio, a phob hwyl 'Stiniog!

- - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2021


24.1.22

Melin Maenofferen

Mi gofiwch erthygl, efallai, yn rhifyn Gorffennaf 2021 ar ddyfodol y felin eiconig yma. Roedd Llafar Bro yn adrodd bod un o is-gwmnïau Llechwedd wedi cael grant sylweddol ym mis Mai i archwilio posibiliadau datblygu Melin Maenofferen, gyda chanolfan weithgareddau i ymwelwyr yn un syniad. 

Cafwyd addewid y byddai’r gymuned yn cael cyfrannu syniadau ar be hoffai bobl leol weld yn digwydd yno, ac roedd Cwmni Bro Ffestiniog wedi cynnig hwyluso’r ymgynghoriad, ond heb glywed yn ôl gan neb. 


Mi gymrodd tan Tachwedd i Llafar Bro gael unrhyw fanylion pellach trwy ymholiadau efo cwmni Greaves. Meddai datganiad ar eu rhan (cyfieithiad):

“Mae llawer o ymdrech wedi mynd i arolygu’r adeiladau, yn arbennig prif strwythur y felin, ac rydym yn trefnu arolygon pellach i weld lle mae angen cryfhau’r adeilad. Byddwn wedyn yn gweithio efo awdurdodau lleol a chenedlaethol i godi arian er mwyn gwarchod y felin rhag dirywio ymhellach. Rydym yn cynghori’r cyhoedd i gadw allan o’r adeiladau oherwydd eu cyflwr, ac mi fyddwn yn codi arwyddion rhybydd dwyieithog ar y safle. Bûm yn diweddaru LleChi am y broses ac mi fyddwn yn parhau i wneud hynny. Gobeithiwn fynychu cyfarfod y cyngor tref ym mis Rhagfyr hefyd er mwyn diweddaru’r gymuned ar y gwaith ac am gynlluniau i’r dyfodol. Os hoffai unrhyw un yn y gymuned rannu barn neu awgrymiadau am y gwaith ym Maenofferen, mae croeso i chi gysylltu ag adam@ jwgreaves.co.uk”

Mi gysylltodd Llafar Bro wedyn yn annog y cwmni i wahodd pobl Stiniog i sesiwn alw-i-mewn yn y dref, a’u hatgoffa o gynnig hael Cwmni Bro i hwyluso, ond ni chafwyd ymateb.

Yn y pendraw swyddog LleChi Cyngor Gwynedd sydd wedi darparu’r wybodaeth gliriaf hyd yma am be sy’n dod nesa, er nad oes dyddiad eto!

“Mae trefniadau ar y gweill i gynnal cyfarfod rhwng y Cynghorydd Erwyn Jones a Llechwedd i drafod melin Maenofferen, a bydd cyfle i’r grŵp LleCHI lleol (cynrychiolaeth o’r gymuned ee Cwmni Bro, Cymdeithas Hanes, Antur Stiniog, Aelodau Lleol, Llechwedd, Gwasanaeth ieuenctid, CellB, Cyngor Tref) fod yn rhan o'r cyfarfod hwnnw. Pwrpas y cyfarfod fydd trafod sut i fynd ati i gael mewnbwn lleol i’r trafodaethau ar ddyfodol y Felin.”
Golau ym mhen draw’r twnnel felly, efallai. Gwyliwch y gofod gyfeillion; mae’n bwysig i bobol Bro Stiniog gael cyfrannu at sut fydd y felin yn cael ei datblygu er budd y gymuned leol.

 


Celfi ac Offer Billy Rice
Bu Llafar Bro yn gohebu efo cwmni Greaves hefyd ynglŷn a’r wybodaeth a gafwyd yn rhifyn Hydref 2021, bod lathe a chelfi eraill o eiddo’r diweddar grefftwr lleol wedi eu rhoi yn rhodd i Llechwedd, ond na wireddwyd y bwriad o’u harddangos yno.

Fe gafwyd ymateb prydlon ddiwedd mis Hydref yn gaddo gwneud ymholiadau a chysylltu’n ôl mewn da bryd ar gyfer rhifyn Tachwedd. Ond er i ni eu hatgoffa eto cyn dyddiad cau rhifyn Rhagfyr- ni ddaeth ymateb pellach cyn i ni fynd i’r wasg. Aros ydan ni hyd heddiw (24 Ionawr 2022)
PW

- - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2021

 

23.1.22

Awydd helpu eich papur bro?

Wedi wynebu sawl problem yn ystod y cyfnod argyfwng hwn, rydym fel papur bro yn awyddus i sicrhau dyfodol Llafar Bro

Oherwydd i werthiant y papur ostwng yn ystod y cyfnod, a’r costau argraffu godi, mae’r pryderon yn cynyddu am y ffordd ymlaen. Er i’r rhoddion hael ddaw i’r coffrau gan ddarllenwyr cefnogol yn rheolaidd ysgafnhau’r baich ariannol arnom, mae angen syniadau newydd. 

 

Un cynnig a ddaeth gerllaw yn ein pwyllgor diwethaf oedd y dylid ceisio perswadio rhywun i fod yn swyddog codi arian, neu Fundraiser yn yr iaith fain. Rhywun gyda syniadau ar sut i drefnu digwyddiadau megis cyngerdd, gig, ocsiwn neu unrhyw achlysur ddaw â’r gobaith am ddyfodol llewyrchus eich hoff bapur bro yn nes. 

Os oes unrhyw un a fyddai’n barod i wirfoddoli i gymryd y cyfrifoldeb am lenwi swydd newydd fel Swyddog Codi Arian ar gyfer Llafar Bro, a fyddech gystal â chysylltu -dros facebook, neu twitter, trwy e-bost, dros y ffôn, neu os gwelwch unrhyw un sy’n gwirfoddoli eisoes fel swyddogion! 

Bydd croeso twymgalon yn eich disgwyl! Diolch.