19.9.15

ATGOFION Y SEINDORF

Dyma erthygl gan Glyn Parry, o atgofion personol a hanesion Seindorf yr Oakeley.

Hel atgofion
Diddorol oedd gweld llun recriwts y Band yn rhifyn Gorffennaf [h.y. Gorffennaf 2005- gweler isod, Gol.].  Daw ag atgofion lu i mi. Tynnwyd y llun ychydig cyn diwedd y rhyfel.  Yr oeddwn wedi cael fy ‘ngalw i fyny’ i ymuno â’r Rifle Brigade yn eu pencadlys yn Winchester, ac i fynd y diwrnod canlynol.  Euthum a’m Cornet yn ôl i Mr Dafydd Morgan.  “Tyrd efo fi a Wil Solo Horn i ti gael tynnu dy lun efo’r ricriwts, chei di ddim cyfle eto”.

Yn ôl y llun, rwy’n cael fy adnabod fel “perthynas i Harry Garn”.  Brawd fy mam oedd Harry ac, i mi, yn gymeriad hoffus, yn ddarllenwr, yn fethodus i’r carn; yn ddiddorol a chanddo ddychymyg byw.  Efallai bod dipyn bach o “Walter Mitty” ynddo hefyd!

Ond mor wahanol i mi.

Idwal jones, Llanrwst (Pencader bryd hynny) yn pregethu ar “Cofiwch wraig Lot”.  Dywedodd mewn geiriau tebyg mai hen “wlanan” oedd hi yn cael ei hadnabod wrth enw ei gŵr.  Doedd ganddi ddim enw ei hun.  Ond cofiwch, i gysuro y chwiorydd yn y gynulleidfa, rwy’n cofio ambell i hen “gadach” o ddyn yn cael ei adnabod wrth enw ei wraig hefyd!

Ac i lawer, “Gŵr Mary” ydwyf i.

Ond beth am y Band?
Ymunais â’r Band (B fawr cofiwch) ddiwedd haf 1938.  Dim cyfarwyddyd. Cornet yn fy llaw.  Chwythiad i gael rhyw fath o nodyn ohono.  Darn o bapur gyda’r ‘scales’ arno, yn natural, sharps a fflats a’r ‘fingering’ wedi ei nodi 1- 2- 3.   “Dysga Rheina”... Ac i ffwrdd a fi i wneud fy ngwaith cartref.  Cerdded trwy goed Cwmbowydd i’r Manod.  Y cês bach du a’r corn yn fy llaw, yn goblyn o jarff, a chyn falched â Jingo!

Ar ôl cael crap go lew, cael  ambell i ddarn i ymarfer fy nawn.  “The bluebells of Scotland” oedd un ohonynt.

Mynd i’r cwt, y Bandroom, a gweld llythyr yn rhoi’r hawl i ddefnyddio’r gair “Royal”.  Hwnnw wedi ei fframio a’i osod ar y pared ar y chwith.  Mawreddog!

Cael fy rhoi yng ngofal yr annwyl Bob Roberts gyda’r second cornets.  Dyna i chi ŵr bonheddig, cwrtais a diymhongar.  Cefais drafferth cyfri’r ‘pauses’ a phryd i ail gychwyn.  Gyda’r ‘afterbeats’ hefyd.  Ond Bob yn ei ffordd hamddenol a thawel yn fy rhoi ar ben ffordd.  Ymhen amser cael dyrchafiad at Alec Llan i chwarae Solo Cornet a cholli cwmni Bob.

Galwyd Bob i’r Llynges, heb fedru nofio’r un strôc medda fo.  Bu drwy’r ‘Battle of Java Sea’ ddiwedd 1941 pan suddwyd y “Prince of Wales” a’r “Repulse” gan y Japaneaid ond fe’i arbedwyd .  Coffa da amdano.

Dyma enwau rhai o hogia’r Band, fel y cofiaf, ddechrau’r rhyfel.
Yr arweinydd William Williams (Wil bach Band) a’i fab hynaf Alec Llan, Robin Gwynant, Bob Roberts, Herbert Roberts, Steven Griffiths, Wil Edwards, Johnnie Rhiw (Shein), Tom Owen Llan, Dafydd, Bob a Huw Morgan, Gwilym Brynmor, Huw Dic, Dic Efflat, Eryl Jones a minnau.
Ac, wrth gwrs, heb anghofio’r drymar, pan oedd angen, Tom Hughes y Comiwnydd mawr o’r Llan.  Bu Tom yn gweithio yn mhyllau glo’r Maerdy (Moscow Fach) a’r creithiau gleision i’w gweld ar ei dalcen a’i drwyn.  Yno, mae’n debyg, y bu’n ymarfer ei ddawn!

Ymhellach ymlaen a phethau yn galed a thenau arnom, deuai y brodyr brwdfrydig o Benrhyndeudraeth atom i rhoi hwb i ni sef Albert a Handel.

Cael hwyl a’n dwrdio hefyd tra’n ymarfer.  Ambell i ddarn yn mynd ffwl pelt ac yn gorffen yn sydyn a dramatig ac ambell i un diniwed fel fi, yn difetha’r cwbl drwy roi nodyn cras ac unig ychwanegol ar y diwedd!  Dro arall y Band yn llusgo ac yn “slyrio”.  “Da chi hogia bach, triwch symud efo’ch gilydd.  Mae gennych chi glystiau!”  Wedyn plygu a churo a chrafu coes ei stand a gweiddi “Band Penmachno, Band Penmachno”.  Beth bynnag oedd hynny yn ei olygu.

Gan Wil Bach Band oedd y cornet awdurdodol ac i’r dim i’r ‘marches’ a’r darnau ‘forte’ cyflym.  Credaf iddo gael ei alw weithiau gan fandiau mawr o Loegr i’w cynorthwyo.  Ond gan Alec bach oedd y ‘tone’ hyfryd a swynol.  Alec oedd meistr y cadenza.

Cofiaf, un gyda’r nos glos, ymarfer yn y Band Stand yn y Parc. Ambell dro mynd allan i’r stryd ac aros yma ac acw.  I beth, gofynnwch?  Y Band ddi-grant yn gorfod mynd i gardota.
Chwarae y tu allan i gapel Tabernacl.  Nid wy’n cofio beth oedd yr achlysur: i gymanfa neu i gynhebrwng, tybed?  Emynau y rhan fwyaf ond dechrau a diweddu gyda’r “Deep Harmony”.  A thro arall o flaen yr Highgate yn Nhrawsfynydd.  Eto, at ba achos, nid wyf yn cofio.
Ac yn gweu drwy’r cwbl oedd y Cymanfaoedd, a dawnsfeydd yn yr Hall a’r parêds.

Cofiaf, y tro cyntaf i mi, Gymanfa Ysgolion Sul y Methodistiaid ddechrau Mai.  ‘Roeddwn yn rhy fach i gael iwnifform ond cefais gap pig lliwgar y Band.  Efallai bod gennyf ben mawr yr adeg honno hefyd!  Onid oedd gennyf reswm digonol:  Aelod o’r Band!
Cerdded heibio Capel Gwylfa am y Blaenau, y genethod yn eu hetiau gwellt a’u ffrogiau newydd.  Yr hogiau, fel finnau, mewn siwtiau a throwsusau bach.  Pob un yn disgwyl am y lori addurniedig.  Rhedeg i fyny ag i lawr o flaen y capel ag o amgylch y Goeden Pysl mwnci.

Ond, yma, goddefwch i mi air personol.
Gofid calon i mi hyd heddiw yw syllu ar yr hen gapel hardd yn ei gystudd hir.  Y capel lle y priodwyd ni’n dau dros bum deg a phump o flynyddoedd yn ôl.  Criw creulon cas yr hen Harry wedi ei werthu a’i droi yn lle i drwsio ceir.

Wedyn, ninnau’r Annibynwyr ddiwedd y mis, strydoedd yr hen dref annwyl yn llawn o wylwyr, ar hyd y pafinoedd ac ar bennau’r tai’n edrych ac edmygu yr orymdaith liwgar, y baneri a’r Band.
Daeth y rhyfel, ond cewch fwy am hynny y tro nesaf.

Llongyfarchiadau i’r Band, yr arweinydd, yr hogia a’r genod (erbyn hyn).  Pob un o’r rhain, beth bynnag, yn feistr ar ei offeryn.
Codaf fy ngwydr.  Y Band!

Fy ngofid mwyaf yw na fuaswn wedi medru bod yn fwy cefnogol i’w weithgareddau ar hyd y blynyddoedd.  Mawr ddiolch i’r rhai sydd yn dal i wneud hynny.
Ond hen gadach Gwamal, di-hwb a di-feind fum i erioed.
 ----------------------------

Dyma'r llun a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf 2005 Llafar Bro.
Daeth i law (trwy 'Prosiect Stiniog')...
"oddiwrth Jennie Olwen Heath (nee' Williams), Bodychain gynt, merch William John Williams (Solo Horn)  - Teitl fel ar gefn y llun - 'Royal Oakeley recruits'.
Chwith i'r dde rhes gefn: .
John Bach, mab Hugh Bach Dolau Las, Dei hogyn Jac Ed Wesley St., Bob Edwards, Dei mab Jack Rich, Oms mab J.Ll. Smith, Ronnie mab Wil Bach, W.Jones mab Ted Meirion Hotel.
Rhes flaen: Cynan brawd Anarawd, W. Jones, Athro Solo Horn, Dei Morgan Ysgrifennydd, Glyn Parry perthynas i Harry Garn, Evan Williams mab Wil Baritone, Dafydd mab Hughie Griffin.
Dau yn' eistedd: Gwyn (Gwynfryn Cigydd), Stanley?Llyn Cemlyn. "



----------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn Llafar Bro yn rhifyn Medi 2005.


17.9.15

Y Golofn Werdd -Slumod!

Un mewn cyfres o erthyglau amgylcheddol a drefnwyd gan brosiect Y Dref Werdd, y tro hwn o rifyn Medi 2010.

YSTLUMOD YN ERYRI gan Kate Williamson
Maen debyg bod ystlumod ymysg y mwyaf anghyfarwydd ond diddorol o'r holl grwpiau o famaliaid. Ond eto mae'n debyg mai nhw sy'n dod i gysylltiad fwyaf â phobl, a hyd yn oed yn rhannu ein cartrefi.

Er eu bod nhw yn edrych ac yn ymddwyn yn hollol wahanol i bobl, mae ystlumod a phobl yn perthyn i'r un teulu o anifeiliaid - y mamaliaid. Mae gennym i gyd groen blewog (rhai yn fwy nag eraill!), yn geni epil byw sy'n bwydo ar lefrith y fam ac mae gennym waed cynnes.

Mae 16 math o ystlum ym Mhrydain, a tua 14 ohonynt i'w cael yma yn Eryri. Mae'r rhain yn amrywio o un o'n mamaliaid lleiaf, yr ystlum lleiaf -y 'pipistrelle', sydd ddim ond yn pwyso gymaint â phisyn punt, i fyny i'r ystlum mwyaf - y 'noctule' sydd tua'r un maint â bochdew. Mae pob un math o ystlum ychydig yn wahanol i’w gilydd, maent yn bwydo ac yn byw yn eu ffordd arbennig eu hunain. Yng Nghymru, mae pob un ystlum yn bwydo ar bryfaid, ond mewn rhannau eraill o'r byd mae yna ystlumod sydd yn bwydo ar ffrwythau, pysgod a hyd yn oed gwaed!

Ystlumod yw'r unig famaliaid sy'n hedfan. Dychmygwch fod eich bysedd mor hir a'ch corff chi, gyda chroen yn ymestyn rhwng pob bys ac yna allan o'ch ochr reit lawr at eich ffêr, Mi fyddai gennych 'ddwylo-adenydd', tebyg iawn i ystlum.

A wyddoch chi fod yr ystlum lleiaf yn bwyta'r gwybed bach sydd i'w gweld mor aml yn ein gerddi? Mae un yn gallu bwyta hyd at 3000 0 wybed bach mewn noson. Dyma'r union math 0 anifail hoffwn i gael yn fy ngardd i!

Yn lle dibynnu ar eu llygaid i ffeindio'r pryfetach, mae ystlumod yn gweiddi mewn llais main -rhy fain i'n clustiau ni eu clywed- ac yna'n clustfeinio am yr atsain sydd yn sboncio'n ôl o'i ysglyfaeth. Mae'r 'llun sain' maent yn ei dderbyn yn ôl mor fanwl gywir, maent yn gallu darganfod mosgito bychan yn hedfan mewn ystafell fel y fagddu heb daro i mewn i unrhyw beth arall.

Mewn gwledydd fel Cymru, mae ystlumod yn gaeafgysgu, sydd yn golygu eu bod yn mynd i gysgu o gwmpas mis Hydref hyd at y gwanwyn. Maent yn gaeafgysgu mewn llefydd sydd yn aros yn oerllyd, gan leihau gwres eu corff fel eu bod nhw yn gallu para'n fyw ar lai o fwyd a dim ond deffro bob hyn a hyn i yfed neu i symud i rywle arall.

Yn ystod yr haf, pan maent yn effro ac yn geni rhai bach mae arnynt angen rhywle cynhesach. Mae rhai ystlumod yn byw mewn tai yn ystod yr haf ac eraill mewn tyllau mewn coed. Mae o'n bosib eich bod chi yn rhannu eich cartref chi gydag ystlumod a ddim yn ymwybodol ohono. Gallant fyw mewn bylchau bychan rhwng y teils ar y to neu yn yr atig.

Beth fedrwch chi wneud i helpu ystlumod?
Plannwch flodau a llwyni sydd yn denu pryfaid a gwyfynnod.
Gosodwch flychau ystlumod yn eich gardd.

Os ydach yn ffeindio lle mae ystlumod yn clwydo, gadewch i rywun fel Grŵp Mamaliaid Eryri wybod ond peidiwch a'u cyffwrdd. Mae ystlumod wedi'i diogelu gan y gyfraith, mae angen trwydded arnoch i ymyrryd â nhw ac mae rhai yn gallu cario heintiau.

Chwiliwch am fanylion cyswllt Grŵp Mamaliaid Eryri neu Grŵp Mamaliaid Gwynedd ar y we.


15.9.15

Bienvenidos a la Plaza de Rawson!

¡ Croeso i Sgwâr Rawson !
Daeth rhai o drigolion Bro Ffestiniog a thu hwnt i ganol tref Blaenau Ffestiniog ar Ddydd Sadwrn y 12fed o Fedi i ddathlu'r trefeillio rhwng y dref â dinas Rawson ym Mhatagonia.


Dyma erthygl fer gan Bedwyr Gwilym o rifyn Medi Llafar Bro.

Diwrnod Patagonia 
 
I ddathlu pen-blwydd ein gefeilldref, Rawson yn yr Ariannin, mae’r Cyngor Tref wedi trefnu -ar y cyd â Blaenau Bendigedig a’r Siambr Fasnach- diwrnod i ddathlu sefydlu Rawson 150 o flynyddoedd yn ôl.
Ar ddydd Sadwrn, Medi’r 12fed bydd Elvey MacDonald, a aned yn Nhrelew ac a fagwyd yn y Gaiman, yn bresennol i ddadorchuddio plac i enwi darn o dir yng nghanol y dref, yn Sgwâr Rawson. Wedi’r seremoni dadorchuddio, bydd Elvey MacDonald yn rhoi sgwrs am hanes Rawson yn Siambr y Cyngor Tref am 3:30yh.

Os nad yw un person a aned yn y Wladfa yn ddigon ichi mewn diwrnod. Beth am ddod draw i Siambr y Cyngor at 5yh i wrando ar Monica Jones o gwmni Teithiau Andes Celtig yn rhoi sgwrs ar y Wladfa Gymreig fel y mae heddiw?


--------------------------------------------

Yn ystod y seremoni cafwyd ychydig eiriau gan Erwyn Jones, Cadeirydd y Cyngor Tref, Dilwyn Morgan, Cadeirydd Cyngor Gwynedd, Liz Saville-Roberts ein haelod seneddol, a gan Elvey MacDonald. Lluniau PW.


 Dwi'n siwr y cawn ni adroddiad yn rhifyn Hydref.

Mae llawer iawn mwy o luniau ar dudalen Gweplyfr/Facebook Blaenau Ffestiniog - Rawson.



13.9.15

Calendr Bro

Cyfnod prysur arall ym Mro Ffestiniog. Prynwch Llafar Bro i gael y manylion yn llawn.

Medi 16eg: 
Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, Neuadd y WI, am 7.15
Sgwrs gan Ieuan Wyn am Dywysogion Gwynedd.

Medi 17eg
Cyfarfod Blynyddol LLAFAR BRO: 7.00 Neuadd y WI.  Dewch i ddangos eich cefnogaeth i’ch papur bro.



Nos Lun, Medi 21ain.
Drama: Drych, gan Gwmni’r Frân Wen, Ysgol y Moelwyn.


Nos Fawrth Medi 22ain
Sefydliad y Merched. Steffan Ab Owain yn rhoi sgwrs gyda sleidiau.

Nos Lun, Medi'r 28ain, 
Merched y Wawr, Blaenau. 7.30 yn y Ganolfan Gymdeithasol.  Drama gan gangen Chwilog.

Dydd Mawrth, Medi'r 29ain
Dysgwch bladurio. Lladd gwair ar gae Bryn Coed Llan, fel cam cyntaf i'w droi'n ddôl flodau gwyllt. Cawl cartref a phaned ar gael. 10yb - 1yh.

Nos Fercher, Medi'r 30ain
Llyfrgell y Blaenau am 7 o'r gloch. Guto Dafydd yn sgwrsio am "23 rheswm dros beidio sgwennu nofel"!

Hydref 1af . 
Y Fainc Sglodion. y Ganolfan Gymdeithasol, am 7.30: Euryn Rhys Roberts,‘Bathodynnau ein caethiwed?  Cestyll y Tywysogion Cymreig’

Hydref 5ed, 
Cymdeithas y Gorlan. Festri Capel Carmel, 7.00 –Hanes Pyllau Aur.

Hydref 6ed
Fforwm Plas Tanybwlch
am 7.30 - Chwareli yr Ardennes, Dr Dafydd Gwyn

Hydref 7 
Cymdeithas Hanes Bro Cynfal – Taith – Treftadaeth Cwm Penmachno – Capel Siloh

Hydref 20fed-
Fforwm Plas Tanybwlch
am 7.30 -Mapio Hanes, Gareth Roberts

Hydref 21ain:
Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, Neuadd y WI, am 7.15
Gareth T Jones; Lleisiau Ddoe


--------------------------

Gadewch inni wybod os oes rhywbeth ar goll o'r rhestr -gyrrwch fanylion atom!

11.9.15

Hen anrhegion, hen drysorau

Am gyfnod hir yn y nawdegau, bu Allan Tudor yn cyfrannu erthyglau difyr ac amrywiol mewn cyfres o'r enw Sylwadau o Solihull. Dyma ddarn ganddo o rifyn Medi 1999.

Un o'r pethau oedd gan Mam feddwl y byd ohono oedd ei chasgliad o hen lestri. Fel llawer o'i chenhedlaeth, roedd y casgliad yma yn bethau yr oedd wedi eu hetifeddu oddi wrth ei mam hithau. Eraill wedi ei gael yn anrheg pan yn blentyn, ac yn ddiweddarach gan fy Nhad ar ôl un o'i deithiau morwrol.

Bellach rwyf innau wedi eu hetifeddu a'u trysori. Yn eu mysg mae 'Gaudy Welsh', y pethau gwydr pinc 'Cranberry Ware' (o Bromsgrove?), a merched mewn gwisg Cymreig (fairings). Ond yr hyn wyf am son amdanynt yw dau beth â chysylltiadau lleol.


Yn y darlun gwelwch jwg bychan lliw hufen, gyda phatrwm pine - 'A Present from Tanygrissiau ', Hefyd, criwat piws golau - 'A present from Trawsfynydd'.

Ar y pot pupur mae llun o gapel Ebeneser, a'r geiriau 'Independent Chapel Trawsfynydd' arno. Nid oes unrhyw farc arnynt, ac felly mae'n ddigon posib mae yn yr Almaen y'u gwneuthpwyd.

Mae gwerth hanesyddol i'r criwat bellach, gan fod Ebeneser wedi ei ddymchwel. Bu hen-nain i mi, Ellen Thomas 1852-1889, fyw yn Nhanygrisiau Terrace, a tybed ai trwy ei llaw hi y daeth y jwg i'r teulu?

Tybed a oes enghreifftiau eraill o'i tebyg yn y cylch? Hwyrach y cawn ymateb yn 'Llafar Bro'.