Showing posts with label Sgwâr Rawson. Show all posts
Showing posts with label Sgwâr Rawson. Show all posts

22.5.16

Ysgoloriaeth Patagonia 2016

Enillydd Cyntaf Ysgoloriaeth Patagonia Cyngor Tref Ffestiniog

Ar ddydd Gŵyl Dewi eleni cafwyd seremoni bwysig yn Siambr Cyngor Tref Ffestiniog fydd yn hyrwyddo a datblygu’r gefeillio a ddigwyddodd rhwng trefi Blaenau Ffestiniog a Rawson ym Mhatagonia, y llynedd.


Datgelwyd mai Maia Jones o Lan Ffestiniog yw enillydd cyntaf yr Ysgoloriaeth hon sydd werth £1500. Bydd y wobr yn ei galluogi hi i ymweld â Phatagonia yn ystod 2016/17 a hefyd i gynnal gweithgareddau fydd yn cryfhau'r berthynas a’r ddealltwriaeth ddiwylliannol rhwng y ddwy dref.

Rawson yw prif dref talaith Chubut ac yma, rhyw 40 milltir i’r de o Borth Madryn (safle’r glanio) y sefydlodd y fintai gyntaf a deithiodd o Gymru yn 1865.

Gair gan y beirniaid:

Braint i mi ac i’r ddau feirniad arall, Elsi Jones ac Anwen Jones oedd cael bod yn rhan o’r broses o ddyfarnu’r ysgoloriaeth hon i unigolyn sy’n wir haeddiannol ohoni. Bu tri yn cystadlu ac roedd pob ymgeisydd wedi gwneud cynnig ardderchog, anodd iawn oedd tynnu llinell rhwng y tri. Mae’r tri’n glod i’r ardal hon ac yn dyst bod gennym ni yma bobl ifanc uchelgeisiol, galluog a phenderfynol... pob lwc i’r tri yn y dyfodol!

Pwrpas yr Ysgoloriaeth hon ydy cryfhau’r berthynas sy’n bodoli rhwng y dref hon a thref Rawson a thrwy hynny gryfhau'r cysylltiad rhwng Stiniog a Phatagonia yn ei chyfanrwydd, a rhwng Patagonia a Chymru.

Mae’r ysgoloriaeth yn gyfyngedig i rai sy’n byw o fewn ffiniau Cyngor Tref Ffestiniog ac sydd rhwng 16 a 30 oed. Pobl ifanc yr ardal felly. Dylid llongyfarch Cyngor y Dref am eu gweledigaeth a’i buddsoddiad yn nyfodol y berthynas hon rhwng y ddwy dref. Mae’r Ysgoloriaeth yn gobeithio annog pobl ifanc i feithrin perthynas tymor hir gyda’r Wladfa ac i sicrhau fod ein cymuned ni yma yn elwa o’r berthynas hon. Elwa’n ddiwylliannol os nad yn y pendraw, ar lefel busnes…pwy a ŵyr be fydd posibiliadau'r dyfodol.

 Cymerwyd y cam cyntaf gan Gyngor y Dref y llynedd - enwi sgwâr ar ôl Rawson; derbyn rhai o drigolion Patagonia yma yn Stiniog; cyhwfan baner yr Ariannin ar Sgwâr Diffwys gyda’r Ddraig Goch yn ei chanol - gweithred symbolaidd a hawdd ei gwneud siŵr o fod, ond gweithred oedd yn golygu llawer iawn i drigolion Y Wladfa.




Diolch i’r rhai fu ynghlwm â’r gweithgareddau hyn, maent wedi braenaru’r tir yn rhagorol a phennod dau yw’r Ysgoloriaeth sy’n mynd i gryfhau ein perthynas gyda’r Wladfa. Braf yw deall y bydd yr Ysgoloriaeth hon yn cael ei chynnig yn flynyddol.

Gwahoddwyd yr ymgeiswyr i ysgrifennu traethawd byr ar pam y buasent yn hoffi ymweld â Phatagonia; be fyddai ei bwriad ar ôl cyrraedd yno a sut byddant yn rhannu'r profiad hwn gyda’r gymuned hon ar ôl dychwelyd.

Cafwyd tri thraethawd ardderchog yn llawn bwriad a chyffro ac roedd y posibiliadau i weld yn rhai eang a chynhwysfawr. Gwnaed ymchwil trylwyr, caed argymhellion gwych!

Roedd yr enillydd yn sôn am hunaniaeth a hynny yng nghyd-destun ymfudo…rhywbeth sy’n digwydd ar draws y byd…a sut mae hyn yn effeithio ar ddiwylliannau cynhenid…rhywbeth sy’n destun sensitif iawn yma yng Nghymru wrth gwrs. Mae cymharu addysg ym Mhatagonia a Chymru yn elfen gref o’r cais ynghyd ac edrych ar hunaniaeth Gymreig ym Mhatagonia a Chymru trwy ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf, yn gyffrous a pherthnasol iawn.

Mae yma ddyhead dirdynnol i greu a rhannu profiad er mwyn creu perthynas adeiladol, creadigol a sylweddol rhwng Patagonia a Chymru ac roedd hynny’n drawiadol iawn. Mae’r prosiect addysg a gynigir yn ymarferol ac yn sicr o fewn cyrhaeddiad.

Disgrifir nifer o weithgareddau llai sy’n helpu i gynnal y prosiect addysg ei hun a gellir gweld sut mae’r rhain yn plethu i’w gilydd i greu prosiect cyfannol.  Mae’r prosiect adeiladol hwn sy’n cynnwys yr ysgolion cynradd, Ysgol y Moelwyn a Choleg Meirion-Dwyfor, yn un cyffrous ac adeiladol.

Trueni na fuasem yn medru rhannu’r wobr, ond un wobr gyflawn sydd yma a rhaid oedd penderfynu. Ond ga’i ddweud, roedd hon yn gystadleuaeth uchel ei hansawdd, a gobeithio y bydd y ddau ymgeisydd na ddaethant i’r brig y tro hwn yn gwneud cais tro nesaf neu yn y dyfodol. Trwch adain gwybedyn oedd rhwng yr enillydd a’r ail ond llongyfarchiadau i’r tri am ymdrech lew a gonest.
Yn ail daeth Llio Maddocks ac yn drydedd Elin Roberts.
Tecwyn Vaughan Jones
--------------------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2016. 
Dilynwch y dolenni isod neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde am fwy o hanes y gefeillio, neu gysylltiadau Stiniog â'r Wladfa.

Llun Maia ac Erwyn gan Alwyn Jones.
Lluniau eraill gan Paul W.

15.9.15

Bienvenidos a la Plaza de Rawson!

¡ Croeso i Sgwâr Rawson !
Daeth rhai o drigolion Bro Ffestiniog a thu hwnt i ganol tref Blaenau Ffestiniog ar Ddydd Sadwrn y 12fed o Fedi i ddathlu'r trefeillio rhwng y dref â dinas Rawson ym Mhatagonia.


Dyma erthygl fer gan Bedwyr Gwilym o rifyn Medi Llafar Bro.

Diwrnod Patagonia 
 
I ddathlu pen-blwydd ein gefeilldref, Rawson yn yr Ariannin, mae’r Cyngor Tref wedi trefnu -ar y cyd â Blaenau Bendigedig a’r Siambr Fasnach- diwrnod i ddathlu sefydlu Rawson 150 o flynyddoedd yn ôl.
Ar ddydd Sadwrn, Medi’r 12fed bydd Elvey MacDonald, a aned yn Nhrelew ac a fagwyd yn y Gaiman, yn bresennol i ddadorchuddio plac i enwi darn o dir yng nghanol y dref, yn Sgwâr Rawson. Wedi’r seremoni dadorchuddio, bydd Elvey MacDonald yn rhoi sgwrs am hanes Rawson yn Siambr y Cyngor Tref am 3:30yh.

Os nad yw un person a aned yn y Wladfa yn ddigon ichi mewn diwrnod. Beth am ddod draw i Siambr y Cyngor at 5yh i wrando ar Monica Jones o gwmni Teithiau Andes Celtig yn rhoi sgwrs ar y Wladfa Gymreig fel y mae heddiw?


--------------------------------------------

Yn ystod y seremoni cafwyd ychydig eiriau gan Erwyn Jones, Cadeirydd y Cyngor Tref, Dilwyn Morgan, Cadeirydd Cyngor Gwynedd, Liz Saville-Roberts ein haelod seneddol, a gan Elvey MacDonald. Lluniau PW.


 Dwi'n siwr y cawn ni adroddiad yn rhifyn Hydref.

Mae llawer iawn mwy o luniau ar dudalen Gweplyfr/Facebook Blaenau Ffestiniog - Rawson.