30.10.23

Dadansoddi Cymunedol

Erthygl gan Sion Llewelyn Jones, Llan Ffestiniog, am waith ymchwil sy’n berthnasol iawn i gymunedau ardal Llafar Bro

Mae Sion bellach yn ddarlithydd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae wedi bod yn amlwg yn y cyfryngau Cymraeg eleni yn egluro safiad y darlithwyr fu’n streicio yn erbyn toriadau pensiwn a chyflog deg, ac yn fwy diweddar ar effaith posib Eisteddfod Genedlaethol 2024 ar y Gymraeg yn ardal Pontypridd.

Ail-ymweld ag ‘A North Wales Village’: parhad a newidiadau i blwyf Llanfrothen ers yr 1950au
Dros yr haf, mae dwy fyfyriwr, Catrin Morgan a Mirain Reader, wedi bod yn gweithio gyda Dr Erin Roberts (sy’n wreiddiol o Lanfrothen) a finnau ar astudiaeth ddilynol o ymchwil ethnograffig gynhaliodd fy nain, Isabel Emmett (a ymgartrefodd ym Mlaenau Ffestiniog hwyrach ymlaen), ar blwyf Llanfrothen ar ddiwedd y 50au a dechrau’r 60au. Symudodd fy nain o Lundain i Lanfrothen yn y 50au. Fel unigolyn oedd ddim yn dod o’r ardal, roedd gan fy nain ddiddordeb ceisio deall a disgrifio agweddau gwahanol yn y gymdeithas a diwylliant newydd roedd hi’n byw ynddi. Mae canfyddiadau’r ymchwil i’w darllen yn y llyfr A North Wales Village: A Social Anthropological Study.

Isabel a Sion

Rydyn ni wedi bod yn dadansoddi data o’r Cyfrifiad ar Lanfrothen, gan ganolbwyntio ar ystadegau ar grefydd a’r iaith Gymraeg.  Pan gynhaliodd fy nain ei hymchwil yn y 50au a’r 60au, roedd crefydd dal yn chwarae rhan bwysig ym mywydau pobl Llanfrothen. Er enghraifft, nododd fy nain bod pobl yr ardal yn gwybod eu Beibl yn dda iawn a byddai testunau o’r Beibl yn sail ar gyfer rhai o drafodaethau anffurfiol y trigolion. Er hyn, roedd yna dystiolaeth yn yr ymchwil bod crefydd yn cael llai o ddylanwad ar fywydau pobl gyda llai o drigolion yn mynychu capeli a’r eglwysi.

Ers i fy nain gynnal ei hymchwil, mae nifer o addoldai'r ardal wedi cau. Yn ogystal, mae yna ddirywiad sylweddol wedi bod mewn crefyddoldeb. Er enghraifft, cododd canran y rhai sydd yn gweld eu hunain yn anghrefyddol o 20.1% yn 2001 i 48.8% yn 2021. Ond, dros y degawdau diwethaf, mae mwy o unigolion yn yr ardal yn dilyn crefyddau eraill tu hwnt i Gristnogaeth fel Bwdhaeth, Hindŵaeth ac Islam. Mae seciwlareiddio cynyddol a thwf o ran amrywiaeth cynyddol mewn credoau crefyddol yn batrymau sydd i’w weld nid yn unig yn Llanfrothen, ond hefyd ar draws Gwynedd a Chymru.

O ran yr iaith Gymraeg, mae ffigyrau Cyfrifiad 1961 (sef yr un adeg cynhaliodd fy nain ei hymchwil) yn dangos bod 75% o drigolion Llanfrothen yn gallu siarad Cymraeg a Saesneg, gyda 11% yn gallu siarad Cymraeg yn unig. Ond, ar yr un pryd, roedd y syniad mai’r iaith Saesneg ac nid y iaith Gymraeg fyddai’n helpu unigolyn i ddringo’r ystol gymdeithasol a mynd ymlaen yn y byd yn dal yn gryf yn yr ardal.

Mae nifer o siaradwyr Cymraeg yn Llanfrothen wedi parhau i ostwng ers 1961, gyda Chyfrifiad 2021 yn dangos bod 69.8% o unigolion yn yr ardal yn gallu siarad Cymraeg. Mae hyn yn adlewyrchu patrymau ar draws Gwynedd a Chymru. Gall nifer o ffactorau egluro’r gostyngiad yma gan gynnwys allfudiad o bobl ifanc sy’n siarad Cymraeg o’r ardal, y mewnlifiad o unigolion o gefndiroedd di-Gymraeg i’r ardal a phenderfyniad unigolion i beidio parhau i ddefnyddio a siarad Cymraeg.   

Yn y dyfodol, rydyn ni’n gobeithio cyfweld ag unigolion yn yr ardal er mwyn darganfod beth sydd yn egluro’r patrymau rydyn ni wedi adnabod o ran newidiadau i grefydd a’r iaith Gymraeg. Yn ogystal, rydyn ni eisiau darganfod sut brofiad ydi hi i fyw yn Llanfrothen heddiw a sut mae hyn yn cymharu gyda chanfyddiadau fy nain o unigolion oedd yn byw yn yr ardal yn y 50au a’r 60au. 

Er bod yr astudiaeth yma’n canolbwyntio ar Lanfrothen, rydyn ni’n credu bydd canfyddiadau’r ymchwil yn berthnasol i ardaloedd eraill o Gymru gan gynnwys Bro Ffestiniog. 

- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2023

Gallwch ddilyn Sion ar TrydarX @SionLlJones

1 comment:

Diolch am eich negeseuon