2.3.23

Stolpia. Pytiau am Glan-y-pwll a Rhiw

Diolch i Gwyndaf Owen, Wrecsam am rannu ei sylwadau parthed y timau pêl-droed yn newid eu dillad pob dydd i’w cit chwarae yn Siop Mafeking (Meffcin / neu Methgin ar lafar gan y plant) ac yna yn croesi’r ffordd i fynd i’r cae yn Haygarth Park. Tybed pwy arall sydd ag atgofion am yr hen gae pêl-droed hwn?

 throi at chwarae pêl-droed eto, nid oes dwywaith amdani hi bod gan y to ifanc presennol dipyn mwy o gyfleusterau cymeradwyol ar gyfer ymarfer y gêm nad oedd gennym ni’r hogiau yn yr 1950au yn ardaloedd y Rhiw a Glan-y-Pwll. Efallai ei bod hi’n anodd i rai gredu heddiw, ond yng ngodre Tomen Fawr Chwarel Oakeley yr oedd un o’n caeau chwarae ni. I ddechrau cychwyn, nid oedd yn gae gwastad iawn, ac ychydig i lawr oddi wrtho byddai tir gwlyb, yn ogystal â nant o ddŵr oer yn llifo allan o waelod y domen, ac yno y byddem yn disychedu ein hunain ar ôl bod yn rhedeg yn ôl a blaen gyda’r bêl. Deuthum i ddeall rhai blynyddoedd wedyn nad oedd y dŵr iachaf i’w yfed. Pa fodd bynnag, nid wyf yn credu iddo wneud dim drwg i’r un ohonom ac y mae nifer dda o’r hogiau yn dal efo ni hyd heddiw.

Peth arall am chwarae ar y cae yng ngwaelod y domen fawr hon, yn enwedig ar wyliau a phan fyddai’r chwarel yn gweithio, roedd gofyn bod yn hynod wyliadwrus pan fyddai’r gweithwyr yn tipio rwbel trosti a chadw llygad nad oedd y cerrig mwyaf yn treiglo i lawr ac am y creadur a oedd yn y gôl ar yr ochr agosaf at y domen. Yn wir, y mae gennyf gof o ambell garreg enfawr y treiglo i lawr a heibio’r cae ac i’r tir gwlyb ar yr ochr isaf iddo.

 

 

< Plant ar y lein fach ger y Groesffordd a’n cae chwarae ni islaw y saeth ar y Domen Fawr.

 

 

 

 

 

Cae arall a fyddai yn fan chwarae pêl droed i ni oedd Cae Alun, sef pwt o dir a geid y tu ôl i’r rhesdai sydd ar yr ochr isaf i bont y lein fawr. Gyda llaw, prin y gellir gweld dim o’r cae heddiw gan ei fod dan goed rhodis (rhododendron) a sgrwff.

Cae Alun (dan y saeth) yng ngodre’r bryncyn a rhwng y ddwy reilffordd, y lein fach a’r lein fawr.

Cofio hefyd chwarae ar y tir gyferbyn â Chae Alun, sef tros y lein fach a’r afon Barlwyd, ond y drwg efo’r lle hwnnw byddai’r bêl, o dro i dro, yn glanio yn yr afon ar ôl cic gam gan un ohonom, ac wrth gwrs, golygai hynny y byddai’n rhaid i ni redeg i lawr ei glan efo pren hir o’r felin goed gerllaw i’w nôl hi o’r dŵr. Y mae gennyf gof o chwarae gêm pêl-droed ryw unwaith neu ddwy yng Nghae Baltic yn y Rhiw hefyd, yn ogystal â sledjio i lawr yr allt o’r ffordd fawr i lawr heibio Capel Soar. Er nad oedd gennym y lleoedd gorau i chwarae pêl droed, yn ddiau, cawsom lawer o hwyl, a melys yw’r atgofion am y dyddiau hynny.
- - - - - - - - - - - -

Rhan o gyfres Steffan ab Owain.

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2023


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon