18.2.21

Blwyddyn gyntaf Llafar Bro 1975-76

Tudalen flaen y rhifyn cyntaf, Hydref 1975
Cyhoeddwyd Llafar Bro am y tro cyntaf erioed ym mis Hydref 1975 ac yn ystod y 45 mlynedd ers ei sefydlu cyhoeddwyd 500 rhifyn! 

O gymharu â heddiw roedd i’r golygyddion … yn wir y tîm cyfan … waith caled yn darparu ac argraffu bob rhifyn. Yn absenoldeb cyfleuster y cyfrifiadur fel sydd heddiw, roedd raid i’r teipyddion deipio bob gair ym mhob rhifyn, a chario teipiadur trwm yn ôl ac ymlaen rhyngddynt…

Roedd Heddus Williams yn o’r teipyddesau hynny ac mae’n dal wrth y gwaith 45 mlynedd yn ddiweddarach! Er fod y gwaith yn dipyn fwy hwylus y dyddiau hyn efo pawb yn gweithio ar gyfrifiaduron, a nifer fawr yn gyrru deunydd yn ddigidol. 

Mae un arall yn ogystal sydd wedi bod ynghlwm a’r papur o’r cychwyn cyntaf a Marian Roberts, Cae Clyd, sef gohebydd Y Manod yw honno. 

Diolch i’r ddwy ohonoch am eich  cymwynas dros y blynyddoedd i gadw’r papur i fynd… mae’n siwr eich bod yn gweld dipyn o wahaniaeth o gymharu ddoe a heddiw yn hanes y papur!

Ar dudalen flaen y rhifyn cyntaf ceir darn golygyddol gan Lywydd Cymdeithas Llafar Bro, sy'n crynhoi yn daclus iawn pam fod y papur wedi cael ei sefydlu'r pryd hynny ac mae’n ddarn hanesyddol a dweud y gwir yng nghyd-destun y brwdfrydedd oedd ar ddiwedd y 1970au i sefydlu papurau bro ymhob rhan o Gymru. Dyma grynodeb:

"A oes angen papur newydd sbon i gylch Ffestiniog? A fyddai gan y papur hwnnw gyfraniad pendant i fywyd a diwylliant yr ardal? Creda fy mod yn siarad dros y mwyafrif wrth ateb yn ffafriol i’r ddau gwestiwn yma. Yr atebion pendant yma yw’r symbyliad sydd tu ôl i’r fenter bleserus hon – y teimlad fod yma le i bapur Cymraeg sydd yn ymwneud yn hollol a'r ardal; papur sydd yn cael ei gynhyrchu gan bobl yr ardal, a heb iddo unrhyw gyswllt a chwmnïau a diddordebau oddi allan i’r plwyfi. Eich papur chwi!

Ei nod yw gwasanaethu chwe rhanbarth yng nghylch Ffestiniog – Tanygrisiau, Blaenau, Y Manod, Llan Ffestiniog, Maentwrog, Gellilydan a Thrawsfynydd. A dyma i chi ardal sy’n gyfoethog yn ei thraddodiadau llenyddol! … Papur cartrefol yn null yr hen ffefryn ‘Y Rhedegydd’ fydd hwn … bwlch y gobeithiwn y gallwn geisio ei lenwi.

Gwasanaeth amaturaidd fydd hwn … does dim gwendid yn hynny. Wedi’r cwbl, tlawd iawn fyddai ein llyfrgelloedd heb gyfraniad yr amaturiaid ar hyd y blynyddoedd – yn feirdd, llenorion, dramodwyr, ac yn ohebwyr… Ein bwriad ydyw adlewyrchu gweithgareddau, cynrychioli agweddau barn a safbwyntiau pobl y cylch. Ni allwn obeithio wneud hynny heb gymorth rhai fel chi. Os oes gennych rywbeth i ddweud anfonwch air i Llafar Bro … llongyfarch, nodi cam, rhoi ar gof a chadw rhyw stori ogleisiol … mae colofnau Llafar Bro yn agored i chi! Ein bwriad yw cynnal colofn arbennig i chi’r merched, colofn y cewch bleser ei darllen tra bo’r gŵr yn golchi’r llestri te! A chwithau’r plant, bydd colofn arbennig i chwithau, a chyfle i anfon i’r cystadlaethau.

Ni pherthyn y papur i unrhyw blaid wleidyddol arbennig: papur annibynnol ydyw hwn, ac mae’n rhan o rwydwaith o bapurau bro ledled y wlad. Awn ar drywydd pwyntiau llosg … does dim drwg yn sathru ychydig o gyrn – ond i’r ffeithiau fod yn deg a chywir. Ni fyddwn yn cystadlu yn erbyn unrhyw bapur arall … papur misol fydd hwn yn rhoi ar gof a chadw digwyddiadau ardal mewn dull cynnes a chartrefol.  Cyhoeddir Llafar Bro ar y dydd Iau cyntaf bob mis.

Gyda’r tâl am y papur byddwn yn cynnal y gwaith argraffu a bydd arian yr hysbysebion yn talu costau offer cynhyrchu. Llafur cariad fydd yr holl waith - a hynny mewn cyfnod pan mae pawb yn disgwyl tal am unrhyw gymwynas.

Does dim yn well tonic i rai oddi cartref na derbyn ychydig o newyddion am eu bro enedigol (ac yma anogir pawb i anfon copi neu i sefydlu tanysgrifiad i alltudion ardal Llafar Bro)."

O ran amcan a phwrpas Llafar Bro does fawr wedi newid … mae’n dal yn bapur i’r ardalwyr a rhan helaeth ohono yn gyfraniadau'r darllenwyr ac felly bydd yn aros. Mae’r diwyg yn dipyn gwahanol erbyn hyn ac mae Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst sy’n cysodi ac argraffu'r papur bellach yn ei gynnig mewn lliw erbyn hyn ac mae dipyn rhwyddach i gynnwys lluniau lliwgar deniadol o olygfeydd a thrigolion y fro.

Saith geiniog oedd pris y rhifynnau cyntaf. Dw i'n cofio mam yn dweud ei fod yn fargian am swllt a chwech! Doedd ond tair blynedd ers i Gymru droi at y system ddegol ac roedd nifer yn dal i feddwl yn yr hen arian bryd hynny! Gellid fod wedi prynu holl rifynnau’r flwyddyn gyntaf am 77 ceiniog! Ymhen y flwyddyn yn mis Tachwedd 1976, codwyd pris y papur i 10 ceiniog ac arhosodd y pris hwn yn ddi-newid hyd Ionawr 1984 pan godwyd y pris i 15 ceiniog.

TVJ

Englynion croeso  i  Llafar Bro gan Sion Gwyndaf, o dudalen flaen y rhifyn cyntaf:

Lleufer o fri - llafar y Fro -yn hwn
    Mae heniaith pob Cymro.
Yn weddus y boed iddo
Wên y byd, a gwyn y bo.


Rhoed papur i’n cysuro -a’i ddoniau
    A’i ddeunydd di-guro.
Hir fo’i oes, a rhown groeso
Hael a brwd i arlwy bro.


Gorau llên a ddarllenwn -ohono
    Yn hynaws myfyriwn.
Ei olud eto welwn,
A chofir yn hir am hwn.

-------------------------------


Yn y darn hwn rydym yn edrych ar rai o luniau a phenawdau a ymddangosodd yn y papur yn ystod y flwyddyn gyntaf.


Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn 500, Rhagfyr 2020.
Os nad yw'r ysgrifen efo'r lluniau yn eglur i chi, cofiwch lawrlwytho'r rhifyn am ddim o wefan Bro_360.




No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon