29.2.16

Noson Wobrwyo Ysgol y Moelwyn

Cynhaliwyd seremoni wobrwyo flynyddol Ysgol y Moelwyn yn ddiweddar i ddathlu llwyddiannau’r disgyblion. Roedd y noson yn gyfle i rieni, athrawon ac aelodau o’r gymuned ymfalchïo yn llwyddiannau y bobl ifanc sydd yn ddyfodol i`r  gymuned a’r ardal.


Roedd y neuadd dan ei sang ar y noson a phawb yn hynod gyffrous i gael gweld pwy fyddai’n cael eu gwobrwyo am eu gwaith caled. Agorwyd y noson gan gôr yr ysgol yn canu ‘Yn dy freichiau’ gydag Efa James o flwyddyn 9 yn cyfeilio a Wendy Jenkins, Pennaeth yr Adran Gerdd, yn arwain.

Roedd pob math o feysydd yn cael eu gwobrwyo ar y noson; presenoldeb, ymdrech, cynnydd, sgiliau, cyrhaeddiad a chyfraniad cymunedol o’r radd flaenaf. Y disgyblion a dderbyniodd dystysgrifau am bresenoldeb 100% oedd Mollie Davies, Osian H Edwards, Bronwen Evans, Beca Jones, Gwenllian Jones, Llinos Roberts, Steffan Rowlands a Cian Williams (Bl. 8), Cemlyn Jones (Bl. 9) a Tesni Jones a Caryl Jones (Bl.10).

Safonau academaidd a sgiliau unigolion: Elliw Lewis, Glain Williams ac Ynyr Jones (Bl. 8), Gwion Evans a Kerry Ellis (Bl. 9), Sam Bridges a Lowri Roberts (Bl.10) a Llŷr Ellis ac Elin Roberts (Bl. 11).

Canlyniadau TGAU: Braf gweld rhai cyn-disgyblion yn bresennol  ar gyfer y noson wobrwyo i dderbyn tystysgrifau am eu llwyddiant yn eu cyrsiau TGAU. Ar ôl gadael yr ysgol mae’r mwyafrif o’r disgyblion yn mynd ymlaen i astudio cyrsiau safon A i Goleg Dolgellau, chweched dosbarth Dyffryn Conwy neu’r Berwyn tra bod rhai yn cael prentisiaethau neu’n ymuno â’r byd gwaith. Derbyniodd Gruff Dafydd, Hedd Jones a Lowri Jones dystysgrifau am y canlyniadau TGAU gorau a Dyfed Williams a Shauna Docherty dystysgrifau am yr ymdrech orau yn ystod eu cwrs TGAU.
 Cydnabyddwyd Dyfed Parry a Careena Williams am y cynnydd gorau yn ystod eu cyrsiau TGAU. Dymunwn bob lwc iddyn nhw gyda’u gyrfaoedd a’u haddysg yn y dyfodol, gan obeithio bod ganddynt atgofion melys am eu cyfnod yn y Moelwyn!

Pencampwyr y gwobrau am Gyfraniad Gwirfoddol eleni (Gwobr y Cynddisgyblion) oedd 1. Elin Roberts 2. Glain Eden Williams a 3. Heledd Ellis). Cyflwynwyd mwy o geisiadau nag erioed o`r blaen am y wobr arbennig hon.

Cyflwynwyd chwe gwobr goffa fel a ganlyn :- Gwobr Miss Brymer , Dyfed Williams. Gwobr goffa Glyn Price i gydnabod blaengaredd mewn Technoleg, Ifan Williams (Bl. 11) Gwobr Goffa Ian Jones i bencampwr rygbi’r flwyddyn, Sion Davies (Bl. 11)

Gwobr Goffa Mrs Rhian Jones, cyn Bennaeth Anghenion Addysgol Ychwanegol, i gydnabod cynnydd ac ymroddiad: Sophie Evans. Diolchwyd i Mr Alfyn Jones am gyfrannu’r wobr arbennig hon.   Enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn oedd Kajus Narunas (yn wreiddiol o Lithuania).

Awdur Ifanc y Flwyddyn (Gwobr Miss Eds, cyn-bennaeth Adran y Gymraeg) y tro hwn oedd Caryl Jones, Bl.10.

Dychwelodd Branwen Williams, Awdur y Flwyddyn 2014-15, er mwyn cyflwyno'r wobr i Caryl.

Fel rhan o'i gwobr hi, bu Branwen yn cwrdd â'i hoff awdur Cymraeg, sef Bethan Gwanas.

Roedd Bethan wedyn yn gosod tasgau sgwennu creadigol i Branwen, ac yn cynnig sylwadau ar y gwaith, a chyngor at y dyfodol.

Gobeithio gwelwn waith gan Branwen a Caryl yn Llafar Bro yn y dyfodol yn'te!

Gwobr Cefnogwr Cymunedol Ysgol y Moelwyn: Mr Dafydd Jarrett, Trawsfynydd, am i ei gefnogaeth a`i ymroddiad i`w gymuned ac i`r ysgol dros gyfnod maith.                                

Estynnir diolchiadau i’r canlynol: Mrs Sharon Jones am drefnu’r noson; Mrs Bini Jones, Cadeirydd y Llywodraethwyr, am gyflwyno llawer o’r gwobrau: Miss Carys Roberts, Miss Marion Hughes a Ms Gwenith Roberts am baratoi’r lluniaeth ysgafn. Bu’n noson lwyddiannus a hwyliog unwaith eto eleni! 

[Lluniau Alwyn Jones]
------------------------------------------



Addaswyd o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Ionawr 2016.

27.2.16

Stiniog a'r Rhyfel Mawr -'ynghanol y frwydr fawr'

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.
 
Daeth rhifyn cyntaf o'r Rhedegydd am 1916 â'r newyddion fod Morris Vaughan Roberts, mab ieuengaf y meddyg Vaughan Roberts, wedi ei ddyrchafu'n Lefftenant gyda chwmni 14eg y Ffiwsilwyr Cymreig. Dyrchafwyd Dafydd Owen Evans, (Deio), mab y Dr R.D.Evans i swydd o Lefftenant hefyd, gyda'r 17eg gwmni'r Ffiwsilwyr, tua'r un adeg.

Er i nifer o weithgareddau lleol gael eu gohirio oherwydd y rhyfel, roedd Eisteddfod Capel Gwylfa (M.C.), oedd i'w chynnal ar 18-19 o Chwefror, yn parhau i gael ei hysbysebu yn y wasg. Felly hefyd amryw o ddigwyddiadau eraill, megis cyngherddau, ac Eisteddfod Nadolig Ffestiniog, oedd i'w chynnal yn y Neuadd Gyhoeddus. Croesawyd nifer o filwyr o'r ardal, oedd adref am seibiant o'r ffosydd, ac yn eu mysg, y Lefftenant Evan Jones, gynt o'r Rhosydd, oedd yn gwasanaethu gyda charfan y twnelwyr gyda'r Royal Engineers yn Ffrainc.


Roedd llythyrau a anfonwyd gan filwyr o 'Stiniog yn llifo i dudalennau'r Rhedegydd; cymaint felly fel y bu'n orfod ar olygydd y papur gydnabod, oherwydd diffyg gofod, ei fod yn gorfod eu cwtogi, er mor ddiddorol oedd cynnwys sawl un. Un o'r rhai mwyaf trawiadol i'w ddarllen oedd llythyr y Sgowt David Lloyd, gynt o Frondeg, ond ar y pryd 'rhywle yn Ffrainc'. Disgrifiodd gohebydd y papur lleol fod 'rhai fel ef ac eraill yn enbydrwydd y ffosydd, ac yn haeddu i ni eu cofio a’u cysuro. Efallai nad anyddorol fyddai ychydig o'u hanes yma, i chwi yn Ffestiniog.'

Rhoddwyd gweddill y golofn yn rhydd i David Lloyd adrodd hanes yr erchyllterau. Y syndod mawr ynglŷn â'r llythyr hwn yw, gan ei fod yn disgrifio'r amgylchiadau mor eglur, ei fod wedi mynd heibio’r sensoriaid o gwbl. Fel arfer, ni chaniateid i'r milwyr, yn enwedig yng nghyfnod cynnar y rhyfel, ddatgelu gwybodaeth am golledigion o'u mysg. Syndod arall yw ei fod wedi ei ysgrifennu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, sy'n awgrymu fod Cymry Cymraeg ymysg y sensoriaid. Beth bynnag am hynny, roedd disgrifiadau David yn rhoi darlun clir iawn i'r darllenwyr o'r sefyllfa druenus a wynebai'r milwyr yn y ffosydd, ond eto, heb enwi’r lleoliad:
Yr ydym ar hyn o bryd ynghanol y frwydr fawr. (Ni chaf enwi y lle) Ac yr ydym yn cael colledion mawr. Yr wythnos ddiweddaf chwythodd y Germans un o'u mines, a chladdwyd ugain o'n dynion, a niweidiwyd eraill yn ddifrifol iawn. Yr ydym yn ymladd yma dan lawer iawn o anfanteision, ac yr ydym at ein hanner mewn dwfr yn y trenches, ac yr ydym o fewn 25 llath i'r gelyn, pa rai sydd yn gyrru eu mwg marwol drosodd atom yn barhaus, ond mae gennym ar hyn o bryd respirators rhagorol, fel nad yw y nwy yn cael effaith arnom. Treuliasom ein Nadolig yn y trenches, ac yr oeddwn yn teimlo yn rhyfedd. Ni gawsom dipyn bach o 'pork' a plum pudding, ac felly nid oedd yn ddrwg iawn arnom. Yr ydym yn byw yma, fodd bynnag, mewn gobaith y cawn dreulio y Nadolig nesaf yn ein cartrefi, os gwêl Duw yn dda ein harbed. Dydd Sul diweddaf, gwnaethom ruthr am eu trenches. Fe laddwyd 57 o honynt, a daliwyd 31 yn garcharorion, ac yr oedd ein colledion ni yn 13, a chlwyfwyd 7, fel nad oedd ein colledion ond bychan o'i gyferbynnu a hwy. Dymuniad pawb yma ydyw ar i'r rhyfel ofnadwy hon ddod i derfyn buan a buddugoliaethus, er mwyn Duw, Brenin a gwlad. Terfynaf yn awr gan ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb. Fe gewch lythyr eto yr wythnos nesaf.
Wele isod enwau ychwanegol at restr fis Rhagfyr y rhai o’r ardal fu’n gwasanaethu fel twnelwyr gyda charfan Evan Jones, Rhosydd:
Capten Evan Prichard, Brynawel;
Thomas Huges, 4 London Terrace;
H. London Green, 27 Stryd Glynllifon;
William R. Jones, 15 Stryd Fawr;
Pierce Evans, Llwyn Eifion, Maentwrog; a
David Jones, Bodfaen.
--------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2016.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
 

25.2.16

Colofn yr Ysgwrn- gadael argraff

Newyddion o Gartref Hedd Wyn, gan Siân Griffiths.
 
Symud y Gadair Ddu a Chloc Tywydd yn gadael argraff ddofn

Yn ddiweddar cludwyd y Gadair Ddu o’r Ysgwrn am y tro cyntaf ers degawdau er mwyn ei thrwsio a’i gwarchod i’r dyfodol.

Nid mater hawdd oedd symud cadair sydd bron yn gant oed, sy’n fregus ac yn hynod o drom, trwy ddrws cul parlwr yr Ysgwrn, ond gyda chryn nerfusrwydd a gofal llwyddwyd i osod blanced odditani a’i llusgo i’r cerbyd tu allan.

Ond nid y gadair oedd yr unig beth i adael y tŷ. Gan fod y gwaith o atgyweirio’r ffermdy ei hun eisoes ar y gweill, roedd angen storio’r holl gelfi a’r creiriau er mwyn eu diogelu a’u trwsio. Rhyw deimlad rhyfedd oedd gweld yr hen ddodrefn yn gadael y gegin. Er mai cychwyn ar daith i gael eu trwsio oedden nhw mewn gwirionedd cyn eu cludo’n ôl i’w cartref, chwithig iawn oedd gweld y tŷ’n wag a’r celfi wedi eu llwytho’n daclus i’r fan.

Roedd sylw craff Gerald yn taro’r hoelen ar ei phen: ‘Mae fel tasa perfedd y tŷ wedi’i dynnu allan ohono!

Felly cawsom gyfnod prysur iawn wrth glirio a phacio bocsys, a daeth ambell i drysor i’r fei wrth chwilota yn y droriau a’r cypyrddau! Ymysg y darganfyddiadau roedd hanner isaf pâr o ddannedd gosod o ryw oes neu’i gilydd, sbectols, llythyrau a chardiau, poteli ffisig gwydr a hen badell ffrio haearn oedd mor ddu â’r fagddu wedi oes o ffrio bacwn ar yr hen aelwyd.

Ond un o’r pethau mwyaf trawiadol oedd gweld olion y ‘glass’ tywydd ar y wal. Mae’n debyg bod y teulu wedi papuro o'i amgylch yn ofalus dros y blynyddoedd a phan dynnwyd y teclyn oddi ar y wal, roedd wedi gadael ei ôl yn dwt fel ffosil yn y papur!

A chyda blwyddyn newydd daw cyfnod newydd i’r Ysgwrn gyda’r ymweliadau wedi dod i ben dros dro, y celfi wedi eu storio ar gyfer eu trwsio, a’r cadeiriau wedi ei storio’n lleol.

Y bwriad yw gwarchod cymaint ag a allwn o’r tŷ traddodiadol a chadw gwead hynod y cartref yn ei le, ond mae hefyd yn gyfle i ni agor y llofftydd i’r cyhoedd a rhoi blas ar fywyd yng nghyfnod Hedd Wyn.

Ond er y bydd yr Ysgwrn ei hun ar gau i’r cyhoedd mae gennym wledd o weithgareddau wedi eu trefnu ar gyfer y misoedd nesaf, yn cynnwys sgyrsiau a theithiau, a diwrnodau agored i weld y safle a’r cadeiriau’n cael eu trwsio.

Bydd y gwaith o rannu hanes yr Ysgwrn a Hedd Wyn yn parhau trwy gyfrwng yr arddangosfa ym Mhlas Tan y Bwlch, a gall grwpiau, cymdeithasau ac ysgolion gysylltu â ni i drefnu ymweliad.

(Gellwch gysylltu â Sian neu Jess ar  01766 770274/ e-bost:  yrysgwrn[at]eryri-npa.gov.uk)



-------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2016.

Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
 

23.2.16

Llais Betsi a neb arall...

Y diweddaraf o Bwyllgor Amddiffyn yr Ysbyty Goffa.
(O rifyn Chwefror 2016)


Newyddion go gythryblus ddaeth o’r Bwrdd Iechyd ar Ionawr 25ain ond nid annisgwyl, serch hynny. Datganiad y Betsi i’r Wasg y diwrnod hwnnw oedd y bydd y gwaith o addasu adeilad yr Ysbyty Coffa yn dechrau ar Chwefror 7fed (er bod amryw ohonoch yn gwybod o’r gorau bod y gwaith hwnnw ar droed yn ddistaw bach ers peth amser).

Dyma’r camau cyntaf tuag at roi cartref newydd i’r Ganolfan Iechyd bresennol - a dim byd mwy na hynny, ac eithrio 'chydig o swyddfeydd crand!

Yn y cyfamser, mae gofal iechyd yn yr ardal yn wynebu o leiaf flwyddyn arall o lanast llwyr wrth i’r gwaith fynd rhagddo ac i’r gwasanaethau gael eu symud hwnt ac yma. Fel tae pethau ddim digon drwg fel roedden nhw! (Mae adroddiad  Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru (Health Inspectorate Wales), a gyhoeddwyd lai na mis un ôl, yn bur feirniadol o’r modd y mae ein Practis Meddygon ni yn cael ei redeg, ers i’r Betsi gymryd cyfrifoldeb amdano.)

Fe gofiwch am addewidion gwreiddiol  y Gweinidog Iechyd yn 2013 - £4miliwn yr un i addasu Ysbytai Coffa Stiniog a Tywyn. A byddwch yn cofio hefyd fel yr aeth y Bwrdd Prosiect Iechyd a Gofal Integredig – y PIGCI bondigrybwyll - o dan eu cadeirydd Dr Bill Whitehead, ati i addo môr a mynydd inni yma. Fe fydden ni, medden nhw, yn derbyn gwasanaeth cyn wyched ag unrhyw ardal arall yng Nghymru. Felly, be wnewch chi rŵan o’r newyddion diweddaraf yn y wasg mai dim ond oddeutu £2.5m fydd yn cael ei wario arnon ni ac y bydd rhan helaeth o’r gweddill yn cael ei lyncu gan y Dreth ar Werth (VAT)!

Ond ddylen ni ddim cwyno, mae’n debyg, oherwydd ym marn un o’n cynghorwyr sir ni yn y Daily Post yn ddiweddar, mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol (‘substantial investment’) ac mae Dafydd Elis Thomas hefyd, yn ôl y Cambrian News  ‘yn llwyr gefnogi safbwynt y Gweinidog Iechyd, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus sylweddol’.

Ymgynghoriad cyhoeddus sylweddol?
Bobol bach! Llais y Betsi, a neb arall, sydd i’w glywed mewn geiriau fel’na! Ac mae’r ffaith bod yr Aelod yn gallu gneud y fath osodiad yn profi cyn lleied o ddiddordeb mae o wedi’i ddangos ym mrwydyr ei etholwyr yn yr ardal hon. Mae o’n honni hefyd bod ‘y rhan fwyaf o’r cynghorwyr tref a sir’ yn cefnogi’r camau sy’n cael eu cymryd. Pa mor wir ydi hynny, tybed? Dichon y bydd y cynghorwyr yn awyddus i ateb drostynt eu hunain. Yn y cyfamser, fodd bynnag, mae Ysbyty Coffa Tywyn, trwy ddycnwch y rhai fu’n ymladd yn ddiflino yn fan’no, yn gweld datblygiadau gwerth £5½m!

Er iddyn nhw wadu’r ffaith dro ar ôl tro, mae’r Betsi yn sicir yn dangos ffafriaeth i’r ardaloedd glannau môr, a hynny ar draul ardal wledig a Chymraeg-ei-hiaith fel hon. Ac yn cael cefnogaeth lwyr y Gweinidog iechyd (ac ambell wleidydd arall) i neud hynny! Ydi, mae hon yn hen bregath gynnon ni ond mae’r cyhuddiad mor wir heddiw ag erioed.
*  *  *

Bu sôn yn y rhifyn diwethaf am drefnu cyfle ar Ionawr 18fed i rai ohonoch chi, bobol yr ardal, gael cofnodi eich cwynion ar ffurflenni arbennig ond fe aeth y trefniadau o chwith braidd, a rhaid ymddiheuro am hynny. Fodd bynnag, mae’r ffurflenni ar gael i’r rhai sy’n awyddus i’w llenwi. Felly, os oes gennych chi gŵyn o unrhyw fath – bach neu fawr - yna ewch ati i holi am ffurflen.
Erbyn i hwn ymddangos, bydd y Mid Wales Collaborative wedi cynnal eu sesiynau ymgynghorol yn y drefac ni allwn ond gobeithio bod llawer ohonoch wedi manteisio ar eich cyfle i ddeud eich deud yn fan’no.
*  *  *

Felly, be rŵan cyn belled ag y mae’r Pwyllgor Amddiffyn yn y cwestiwn? 
Mae hi wedi bod yn frwydyr hir a rhwystredig i drio achub ac yna i geisio adfer yr Ysbyty Coffa. Ionawr 2005 i Ionawr 2016 ! Un mlynedd-ar-ddeg! Ydi hi rŵan, felly, yn amser inni roi’r ffidil yn y to a rhoi’r gorau i herio penderfyniadau’r Betsi?

Mi fyddai hynny’n plesio rhai pobol yn reit siŵr ond bradychu aberth ein cyndadau a dyfodol ein plant fyddai inni gefnu’n rhy barod ar y frwydyr. Felly, tra byddwch chi, bobol yr ardal, yn dymuno inni neud hynny, mi barhawn ni i ymgyrchu ar eich rhan, am ryw hyd eto, beth bynnag.

Wedi’r cyfan, mae etholiadau mis Mai ar y gorwel, a phwy ŵyr na fydd wynebau newydd wrth y llyw ar ôl hynny!  
GVJ
------------------------------



Gallwch ddilyn yr hanes efo'r dolenni isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


21.2.16

Rhod y Rhigymwr- Blodau'r Ffair

Rhan o erthygl Iwan Morgan, o rifyn Ionawr 2015.

Mae fy llyfrau’n y stydi’n parhau i fod dan haenau o lwch yn dilyn y gwaith y bu i ni ymgymryd ag o yn ystod y misoedd dwytha. Joban fach at ddechrau’r flwyddyn fydd tynnu’r cyfan i lawr a dechrau meddwl eto be ydw i am eu cadw.

Wrth fwrw golwg ar y silff uchaf, deuthum ar draws pentwr o gyfrolau a roes fwynhâd mawr i mi pan oeddwn yn blentyn, ac yn wir, yn ystod fy arddegau. Rhifynnau ‘Blodau’r Ffair’ oedden nhw – cylchgrawn ysgafn Urdd Gobaith Cymru, a’r golygydd oedd R.E.Griffith. Mae ynddyn nhw beth wmbredd o storïau a cherddi gogleisiol, cartwnau gan Hywel Harries a chasgliad gwych o englynion digri’.

Ymddangosai’r gyfrol ddwywaith y flwyddyn – ym Mehefin a Rhagfyr o tua 1953/4 hyd ddechrau’r 1970au, os cofiaf yn iawn. Does dim dwywaith i’r cylchgronau yma gael dylanwad arnaf yn ystod y cyfnod hwnnw.

Dyma ambell englyn i’ch difyrru wrth ddymuno blwyddyn newydd dda i bob un ohonoch:-

Y PEN MOEL ... Gwilym Rhys, Llangurig:
Am y pen pam y poeni? – yn wir, gwell
Na’r gwallt ydyw’r moelni.
Nid â arian i dorri
Copa wen heb ’r un Q.P.

Gwisg grafat a’th hat, da thi –
‘n gyhoeddus
I guddio dy noethni;
Mae dy ben, mi dybia’ i,
Fel ŵy, Bob, neu fol babi.

Buddiol ar gerrig Beddau’ – pedwar englyn beddargraff ysgafn ... Iorwerth H. Lloyd, Dolgellau:

BWTSIAR
Wat annwyl, cefaist hunell – yn y bedd
O sŵn buwch a phorchell;
Unig heb gig yw dy gell
Wedi gollwng dy gyllell.

BOCSIWR
Ha, ddyrnwr, rhoed pridd arno, - yn y ring
Gwae yr hwn ddôi ato;
O’i wael fan ni wêl efo
Un bowt gyffelyb eto.

TAFARNWR
O ganol Stout a Guinness, - oer ei gell,
Heb sawr gwin na ‘whiskies’;
O’i fedd dudew di-ddewis
Tom y ‘Plough’ ni ddwed ‘Time please’.
[Rhifyn Haf 1959]

TYNNU DANT ... Tydfor Jones, Blaencelyn, Ceredigion
Y pinsiwrn cam ni roi damaid – o dwc
I’r diawl dianghenrhaid!
Cyn treio eto bu raid
Insiwrio rhag bwtsieriaid.
[Rhifyn Nadolig 1958]

YR OCSIWNIAR ... Siôn Ifan, Llanegryn
Hen labwst gwych ei glebar, - â’i forthwyl
Fe werthai dwrch daear;
O’i wedd goch, pobloedd a gâr
Arabedd india rybar.
[Rhifyn 1955]

Daw’r rhain o rifynnau diweddarach:-
Y RASEL DRYDAN ... W. Rhys Nicholas, Porthcawl
Heb na hobl na woblo, - na rhegi
Fyth ragor, rwy’n siafio,
Dan y trwyn dim ond un tro,
Dyna hawdd, trydaneiddio!

BEIL ... Dafydd Evans, Llangwm
Roedd Meg yn teimlo’n llegach – dan y beil,
Dyna boen un afiach,
Cyfogai, saethai sothach,
A rasio bu i’r hows bach.

Y DYN DI-BRIOD ... Ithel Davies, Penarth, Bro Morgannwg
Nid da bod dyn ei hunan – yn y byd,
A byw yn ddiamcan
Heb serch na merch yn un man,
Na gobaith llenw’i gaban.

ER COF AM WRAIG SIARADUS ... Berllanydd, Hen Golwyn
Mae hon a fu’n merwino – ein clustiau
Yn y clwysty heno,
A’i gŵr fel hogyn o’i go
Yn chwyddo’r ‘Diolch Iddo’.

CATH DRWS NESA ... Geraint Percy Jones, Talybont, Meirion
Beunos fe ddaw i boeni; - hen gwrcath
Sy’n garcus am Doli;
Hwn ydyw y pen dadi
A thad naw o’n cathod ni.
[Rhifyn Nadolig 1970]

A dyma ambell berl i gloi:-

FFAWD-HEGLYDD
... Ronald Griffith, Corwen [o Rifyn Haf 1955]
Yn y glaw â’i noeth benglîn – mae’n llusgo
Mewn llesgedd ers meitin;
Dyma’i bader, bererin –
“O! Am sedd mewn limosîn!”

Mae hwn ar fy nghof, a gwn mai yn un o rifynnau ‘Blodau’r Ffair’ y deuthum ar ei draws – rywdro yn y chwedegau. Dydw i ddim yn siŵr pwy oedd ei awdur, ond cofiaf, pan oeddwn yn fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, yn nechrau’r 1970au ei ysgrifennu ar gardfwrdd, ei lamineiddio a’i osod yn dwt ar ddrws tŷ bach y merched. Roedd hynny, wrth gwrs, yn y cyfnod pan oedd yn rhaid rhoi ceiniog yn y slot er mwyn cael ei ddefnyddio. Mae’r 20 ceiniog a ofynnir amdano heddiw’n brawf o fel mae costau byw wedi codi wedi dyfodiad yr arian degol yn Chwefror 1971!

Tunnell o ferched tinog – a welais
Yn hwylio’n bur frysiog
Ar ras boeth at ddrws y bog
I ogoniant am geiniog.

Pob hwyl!
IM

------------------------------

Gallwch ddilyn y  gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(Celf gan Lleucu Gwenllian)