31.7.15

Peldroed- ennill a gwario

Pedwaredd ran y gyfres am 'hanes y bêldroed yn y Blaenau'.

Dan benawd 'Amrywiol' cawn fân wybodaeth yn ymwneud â thîm y Blaenau ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif, megis cofnod am 1908 a ddywed 'Agor Cae Newborough Medi 1908', a chanlyniad y gêm a gynhaliwyd ar y dyddiad hwnnw (Cynghrair y N.W.Coast League)- Blaenau 4 Caernarfon 5, a'r wybodaeth mai Walter Jones, Caernarfon sgoriodd y gôl gyntaf.  Tîm Blaenau ar y dyddiad hanesyddol hwnnw oedd Bob Smith, Morris Moores, R.Roberts, Tom Hughes, J.J, WRO, Tom Lloyd, W.Jones (capt) WD, Edward G, W.Meirion Jones.

Mae'n debyg mai o adroddiadau papurau newyddion y cyfnod y daeth cofnodion Ernest am weithgareddau a chanlyniadau tîm y Blaenau yn bennaf. Ym Mawrth 1910 y daeth adroddiad am Blaenau yn curo tîm Bangor, gyda'r ychwanegiad (yn Saesneg) ' Y fuddugoliaeth oddi cartref gyntaf (yn erbyn Bangor) ers nifer o flynyddoedd'.

Ymysg chwaraewyr y tîm hwnnw oedd y gŵr cyfarwydd W.J.Penny, T.Whittaker a Harold Collins. Cafwyd nodyn arall o'r un cyfnod yn dangos bod trafferthion ariannol gyda'r clwb yn amlwg:  'Mae sinema C Hall am roi takings dwy noson i'r tîm pêl-droed.'  Richard Morris oedd ysgrifennydd y clwb yn 1910.

Rhan o Arddangosfa Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, sydd ar agor eto trwy'r haf, diolch i wirfoddolwyr y Gymdeithas

Tra ar bwnc ysgrifennydd dyma enwau rhai eraill a fu'n ymroi â'r swydd honno gyda'r clwb:
1910-11 John Tucker;
'roedd Richard Thomas yn ysgrifennydd/reolwr yn 1934-5;
1940au Andrew Roberts ac Elwyn Pierce; 
1950au Derek Williams ac R.G.Richards;
1958-65 Harry Williams;
1965- William Jones Edwards;
Enwau eraill heb ddyddiadau cysylltiedig - Len Roberts, Thomas W.Owen, Alwyn Jones, Gwilym Thomas, Eric M.Jones.

Yn 1909 gwelwyd hysbyseb Rheilffordd Ffestiniog yn cynnig 'sgyrsion o Borthmadog i Flaenau Ffestiniog am swllt (tocyn ddwyffordd) ar ddydd Llun y Pasg y flwyddyn honno i wylio Blaenau yn chwarae yn erbyn ail dîm Everton mewn gêm gyfeillgar.

Roedd y cwmni'n benderfynol o weld y cefnogwyr yn mwynhau'r diwrnod yn y Blaenau, wrth weld mai 9.45 yn y nos y cychwynai'r trên yn ôl am y Port!

Diddorol yw sylwi ar fanylion derbyniadau a thaliadau'r clwb ar Fantolen Festiniog Town F.C. yn nhymor 1910-11. Dros y tymor, mewn gemau cynghrair, derbyniwyd £40.14.10 wrth y giât, gyda 4 swllt ychwanegol gan y rhai breintiedig a ddefnyddiodd y 'Grand Stand' yn ystod y tymor.  Cafwyd £13.1.2 o'r giât yn dilyn gemau cyfeillgar, a'r gêm honno yn erbyn Everton yn sicr o fod wedi cyfrannu rhan helaeth o'r arian hwnnw.

Daeth bron i ugain punt ychwanegol o gemau cwpan a chystadlaethau eraill.  Daeth hanner y gate money o gêm a chwaraewyd ym Mae Colwyn- gêm gwpan mae'n debyg â £2.9.6 arall i'r coffrau.

Cafwyd swm anrhydeddus o £13.2.6 o elw o'r Raffl Nadolig a gynhaliwyd i godi arian i'r clwb hefyd, ynghyd â rhent o £1.15.0 gan Mr A.Wildman am rentio'r cae i rhyw bwrpas, a mân dderbynion eraill, oedd yn dod â cyfanswm y derbynion am y tymor i £109.19.9.

Datgelwyd nifer o ystadegau difyr yn rhan taliadau o'r fantolen.  Dengys y swm a dalwyd i'r gynghrair am y fraint o gael bod yn aelodau - 14/6.  Ffioedd y dyfarnwyr am y tymor oedd £6.4.3.

Traul mwyaf y clwb oedd costau teithio i'r gemau oddi cartref, a'r cyfan yn dod i dros £32. Cafwyd yr wybodaeth i'r clwb wneud colled o £1.14.6 ar gêm yn y Cwpan Iau (Junior Cup), ac i'r peli lledr gostio £3.19.4 i'r clwb.  Mân daliadau eraill a wnaethpwyd oedd costau'r ysgrifennydd a'r trysorydd, cyfanswm o £1.15.10; Costau i chwaraewyr nad oeddynt o'r Blaenau £1.0.8.; Blwch Cymorth Cyntaf i D.Jones yn wyth swllt.  Cost rhentu'r cae pêl-droed dros y tymor oedd £10.17.0, swm digon drud am y cyfnod hwnnw dybiwn i. Ond roedd digon ar ôl yn y coffrau i dalu am 'supper to players and committee', a'r gost am y wledd yn dod i £3.15.0.

Wedi balansio'r llyfrau roedd £13.3.7 yn weddill yn y coffrau, yn barod i wynebu her y tymor newydd oedd ar ei ffordd.  John H.Tucker oedd yr ysgrifennydd a T.Goodman Jones yn drysorydd y clwb yn 1910-11, ac archwiliwyd y fantolen gan John Jones a Richard Morris.    

Yn ystod tymor 1912-13 cafwyd prawf bod tîm y Blaenau yn arwyddo chwaraewyr profiadol o'r tu allan, hyd yn oed yn y dyddiau cynnar hynny.  Roedd y tîm wedi chwarae Caergybi gyda dim ond saith dyn, oherwydd i bedwar o chwaraewyr o'r Wrecsam fethu â chyrraedd mewn pryd.  Trechwyd clwb y Blaenau o saith gôl i ddwy.

Serch hynny enillwyd y bencampwriaeth mewn gêm dyngedfennol yng Nghaernarfon, a chwip o gêm oedd hi'n ôl sylwebyddion ar y pryd.  Roedd un chwaraewr allweddol, Ted Wesley heb gyrraedd tre'r cofis erbyn y cic-off, a rhoddwydd G.R.Davies yn ei le.   Aeth y tîm cartre' ar y blaen, ac yna Blaenau'n dod yn gyfartal, ac yna ar y blaen, Caernarfon yn dod yn gyfartal, ac yna sgoriodd Bailiff i'r Blaenau i gipio bencampwriaeth y gynghrair, y gyntaf i dîm y Blaenau.

Bu tymor 1912-13 yn llwyddiannus i dîm y Blaenau trwy ennill pencampwriaeth Glannau Gogledd Cymru.  Chwaraewyd 20 gêm gan ennill 13, colli 3 a 4 yn gyfartal.

Gwnaiff Ernest sylw o'r ffaith nad oedd tîm o'r ardal yn y Gynghrair yn 1921-22, ac i ddirprwyaeth o'r clwb fynd i siarad ag aelodau o'r Cyngor i geisio cael Dolawel fel maes newydd yn 1925-26.  Mae hefyd yn cyfeirio at enwau rhai chwaraewyr adnabyddus y clwb yn 1930au, gan gynnwys y tîm enillodd Cwpan Cookson yn 1936: D.Jones, J.Roberts, Beasley, Peredur Jones, R.G.D. (Bob Davies?), Gwilym Roberts, Gethin Wright, Harry C.Williams, David Griffith, Norman Jenkins a Glyn Jones.

Y tro nesa', byddwn yn symud i gyfnod mwy diweddar, gan gychwyn yn y 1950au.

----------------------
Paratowyd y gyfres yn wreiddiol ar gyfer Llafar Bro gan Vivian Parry Williams. Ymddangosodd yr uchod yn rhifynnau Hydref a Thachwedd 2004.
Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar ddolen 'Hanes y bêldroed yn y Blaenau', isod neu yn y Cwmwl geiriau ar y dde.

29.7.15

AAntur AArdderchog!

Erthygl o rifyn Gorffennaf Llafar Bro.

Mae Antur 'Stiniog wedi llwyddo i sicrhau Trwydded Gweithgareddau Antur (AALA) ar gyfer  Canolfan Llyn Traws. Mae hyn yn newyddion gwych i'r fenter, a bydd yn ei galluogi i ddatblygu’r ochr gweithgareddau awyr agored ymhellach. Bydd hefyd yn golygu fod y cwmni gam mawr yn nes at  fodloni eu gweledigaeth fel cwmni, sef  i ‘ddatblygu potensial y sector awyr agored yn ardal Ffestiniog mewn ffordd gynaliadwy ac arloesol, er budd y trigolion a'r economi leol '.

Rydym yn dathlu derbyn y drwydded trwy gynnal dau fis o weithgareddau –a’r cwbl am ddim- yng nghanolfan Llyn Traws! Erbyn hyn, bydd rhai dyddiau ar yr amserlen wedi bod, ond rhwng hyn a diwedd Awst, mae teithiau cerdded, sesiynau caiacio i ddechreuwyr, canŵio, mynydda, teithiau beic, a llawer mwy...



Gadewch i mi ailadrodd hyn: mae’r cyfan am ddim, felly dewch draw yn llu!
Meddai Megan Thorman, rheolwr y ganolfan "Mae hwn yn gyfnod cyffrous, ac mae sicrhau'r drwydded AALA yn gam mawr ymlaen i ni. Mae’r ganolfan mewn lleoliad delfrydol i ddarparu gweithgareddau awyr agored amrywiol, ac rydym yn datblygu perthynas gydag ysgolion lleol, clybiau a grwpiau ieuenctid i ddarparu hwyl a phrofiadau addysgol yn yr awyr agored".


Mae Antur Stiniog yn gwmni di-elw a ffurfiwyd yn 2007. Dechreuodd y cwmni er mwyn datblygu prosiectau i ddarparu hyfforddiant a chymwysterau mewn gweithgareddau awyr agored ar gyfer siaradwyr Cymraeg lleol a thrwy hynny greu swyddi o safon yn lleol.

Mae’r Antur eisoes wedi datblygu canolfan feicio sydd yn hynod lwyddiannus ac wedi creu hyd at 16 o swyddi ers agor y llwybrau yn 2012. Eleni, mae’r ganolfan feicio yn cynnal ei thrydedd ŵyl rasio lawr allt ar Orffennaf  y 25ain a’r 26ain ac mae'r Gyfres Lawr Allt Prydeinig yn dychwelyd am yr ail flwyddyn ar Fedi’r 19eg a’r 20fed. Chwiliwch am bosteri yn lleol.

Cysylltwch â Chanolfan y Llyn ar 01766 540780 am fwy o wybodaeth neu ewch i www.anturstiniog.com.

CHWALU RECORD BYD!
Llongyfarchiadau mawr i dîm Project Enduro, gan gynnwys y rasiwr lleol Brian Roberts, ar lwyddo i osod record byd newydd, gyda chymorth staff Antur Stiniog, trwy deithio 25,875 metr i lawr allt mewn pedair awr ar hugain. Camp anhygoel a wnaed ar feiciau pedair olwyn oedd wedi eu datblygu’n arbennig gan y prosiect.

Yn y llun mae Brei ac aelodau eraill y tîm, efo Adrian Bradley, arbenigwr beicio Antur Stiniog. (Llun gan Alwyn Jones.)



---------------------
Gwefan Antur Stiniog (Dim cysylltiad â Llafar Bro). Weithiau mae'r ddolen yn mynd a chi i hafan Saesneg yr antur yn anffodus, llywich i'r hafan Gymraeg trwy wthio'r botwm 'CYMRAEG'

27.7.15

Ymwelwyr o’r Wladfa

Parhau'r gyfres yn nodi canrif a hanner ers taith y Mimosa i greu gwladfa Gymreig yn Ne America. Y tro hwn, dathlu'r closio rhwng Patagonia a Stiniog, o rifynnau Mehefin a Gorffennaf.

Yn dilyn ymweliad i Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili, er mwyn cynrychioli Ysgol yr Hendre, Trelew, a mynychu Gŵyl y Mimosa yn Lerpwl, daeth Eduardo Gaudiano a Nadine Laporte i Flaenau Ffestiniog. Mae o yn gynghorydd yn ninas Rawson, a hi'n ddisgynnydd i'r arloeswr Lewis Jones.

Baneri Cymru a Phatagonia yn Sgwâr Diffwys. Llun PW
 Cafwyd diwrnod prysur yn Chwarel Llechwedd gyda'r cyng. Erwyn Jones. Cawsant weld sut roedd y chwarelwyr a'u teuluoedd yn byw a gweithio cyn gadael yr ardal am y Wladfa.

Ar ôl bod dan-ddaear, cafwyd taith wedyn ar Reilffordd Ffestiniog i orsaf Tanybwlch, er mwyn ymweld â'r Plas, lle'r oedd cinio dydd Sul a thaith o amgylch yr adeilad a'r gerddi yn eu disgwyl.  

Ym mis Mehefin, cynhaliwyd seremoni trefeillio rhwng Blaenau Ffestiniog a Rawson yn Siambr Cyngor Tref Ffestiniog. Yn yr Ariannin, dros gyswllt fideo byw yn uniongyrchol i theatr José Hernández yn Rawson, ‘roedd Rossana Artero sef Maer Rawson, ynghyd â phobl bwysig eraill fel Gabriel Restucha sy’n Faer yn y Gaiman, Margarita Bulacio sef Cadeirydd Comisiwn 150, Gladys Harris o’r weinyddiaeth Addysg, Graciela Jose sef Cyfarwyddwr Twristiaeth a dwsinau o blant ysgol y ddinas yn gwylio'r seremoni’n fyw.
 
Yn ystod y seremoni cafwyd cyflwyniad a baratowyd gan ddisgyblion Ysgol Don Bosco, chwaraewyd anthem genedlaethol yr Ariannin a Chymru a chafwyd dwy fideo yn dangos Rawson, gyda Rawson ar yr un pryd yn gwylio fideo am Flaenau Ffestiniog.
 
Llofnodwyd y cytundeb trefeillio gan y Cynghorydd Erwyn Jones, sef Cadeirydd Cyngor Tref Ffestiniog, gyda’r Cynghorydd Eduardo Gaudiano yn bresennol i gynrychioli Rawson, ynghyd â Wendell Davies o Gymdeithas Dewi Sant Trelew, Nadine Laporte, a Luned Gonzalez o Gymdeithas Camwy yn cyfieithu o’r Gymraeg i Sbaeneg.
 
Yn dilyn llofnodi'r cytundeb, cyflwynodd cynrychiolwyr o’r Siambr Fasnach roddion lleol i Rawson, ymhlith y rhain ‘roedd cloc hardd o lechen. Yr oedd Bwrdeistref Rawson hefyd wedi anfon crefftau fel anrhegion ac maent ar gael i’w gweld yn swyddfa’r Cyngor (trefnwch o flaen llaw gyda’r Clerc os gwelwch yn dda).


Ar ôl y seremoni yng Ngwesty Tŷ Gorsaf diddanodd Seindorf yr Oakeley a Chôr y Brythoniaid y gwesteion. Yn ôl Nadine Laporte ‘roedd yr adloniant wedi gwneud y digwyddiad yn un bythgofiadwy i’r ymwelwyr a mynegodd pa mor hapus yr oedd bod Rawson wedi trefeillio gyda phobl mor annwyl a chynnes.
 
Felly dyna hanes yr ymweliad arbennig gan ein ffrindiau newydd yn nhalaith Chubut. Cofiwch edrych am bosteri yn ystod mis Awst yn eich hysbysu am ddigwyddiad ym mis Medi i ddathlu canrif a hanner ers y sefydlwyd Rawson ym 1865, neu ymunwch â’r grŵp Blaenau Ffestiniog - Rawson ar Facebook.

Bedwyr Gwilym
----------------------------------------------------------
 

Dolen i erthygl ar ŴYL y GLANIAD ar yr 28ain o Orffennaf.
Gallwch ddilyn y gyfres i gyd efo'r dolenni isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

 

25.7.15

O'r Pwyllgor Amddiffyn

Y diweddaraf [o rifyn Gorffennaf Llafar Bro] o Bwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Bro Ffestiniog.

Mae’n hysbys i bawb, bellach, bod yr Athro Trevor Purt, Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd (BIPBC), wedi gorfod gadael ei swydd a bod y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, wedi rhoi’r Betsi o dan fesurau arbennig.

       ‘Nid cyn pryd!’ meddai pawb.


Sut bynnag, y sawl sydd bellach yn gyfrifol am roi trefn ar yr holl lanast ydi Simon Dean, gŵr sydd wedi bod yn amlwg iawn dros nifer o flynyddoedd gyda’r Gwasanaeth Iechyd (NHS) yng Nghymru ac yn Lloegr. Ac un o’r rhai a fydd yn ei gynghori ar y peth yma a’r peth arall ydi Dr Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru.

Mae’r ddau uchod wedi cytuno i gyfarfod dirprwyaeth o’r Pwyllgor Amddiffyn, i drafod y sefyllfa druenus sy’n bodoli yma bellach. Ein bwriad ydi pwysleisio ein hawliau arnyn nhwtha hefyd, fel ar eraill o’u blaen, a cheisio’u cael nhw i ateb cwestiynau pwysig y mae swyddogion y Betsi a Mr Drakeford ei hun, wedi gwrthod eu hateb dro ar ôl tro.

Y cwestiwn yma yma, er enghraifft – Pam bod y £4m a gafodd ei glustnodi ar gyfer Ysbyty Coffa Tywyn yn cael ei ddefnyddio i godi estyniad anferth a fydd yn cynnwys ward 16 gwely ac adran belydr-X newydd sbon, tra bod swm gyffelyb ar gyfer Ysbyty Coffa Stiniog yn mynd i gael ei wario ar greu dim byd amgenach na ‘Chanolfan Goffa’ grand i gymryd lle’r ganolfan iechyd bresennol?

Yn uniongyrchol o Gaerdydd y daw’r £4m i ni ac i Dywyn ond y gwir amdani ydi bod BIPBC wedi gweld ei gyfle i ddefnyddio’r cynllun i arbed £¾m y flwyddyn ar ei wariant yn yr ardal hon. Dyna pam bod yn rhaid hawlio ateb i’r cwestiwn uchod.

Ein gobaith ydi y bydd Simon Dean a Dr Chris Jones yn barod i edrych o’r newydd ar y broblem, nid yn unig yn Stiniog ei hun ond ledled yr ardal a gaiff ei galw yn Ucheldir Cymru. Y peth olaf ydan ni am weld ganddyn nhw ydi rhyw ymgais bitw i drwsio ambell beth yma ac acw ond datrys dim byd o bwys yn y diwedd.

A byddwn yn eu hatgoffa nhwtha hefyd, wrth gwrs, am ganlyniad y ddau refferendwm a gynhaliwyd yn gynharach eleni yn ardaloedd Stiniog a Dolwyddelan, tra ar yr un pryd yn galw arnyn nhw i ail ystyried o ddifri y Cynllun Busnes trychinebus a luniwyd gan y Bwrdd Prosiect llynedd o dan gadeiryddiaeth Dr Bill Whitehead, y meddyg o’r Bermo.

Mae’r Gweinidog Iechyd yn dal yn awyddus i’r cynllun hwnnw gael ei dderbyn a’i basio cyn diwedd Gorffennaf, ac unwaith y bydd hynny’n digwydd, yna dyna ben arni, mwy na thebyg. Felly, mae’r ychydig ddyddiau sydd gennym ar ôl yn mynd i fod yn allweddol.

Yn ystod y mis a aeth heibio rydym hefyd wedi cynnal cyfarfodydd pellach efo Cynghorau Iechyd Cymunedol Gwynedd a Chonwy ac wedi derbyn addewid pendant y byddan nhw’n cefnogi’n hymgyrch ni. A chafwyd addewid tebyg yn ddiweddar gan Simon Thomas, un o aelodau Plaid Cymru yn y Cynulliad a gan ein haelod seneddol newydd Liz Saville-Roberts.

Bydd adroddiad am y cyfarfod efo Simon Dean a Dr Chris Jones yn ymddangos yn y rhifyn nesa o Llafar Bro. Does ond gobeithio y bydd gynnon ni newyddion addawol erbyn hynny.    (GVJ)

--------------
Gallwch olrhain cefndir a hanes cywilyddus y Bwrdd Iechyd gyda'r dolenni isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


23.7.15

Trem yn ôl- Atgofion Hanner Canrif

Erthygl gan Pegi Lloyd Williams a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 1990 Llafar Bro.

Atgofion Hanner Canrif. Profiadau geneth fach yn tyfu i fyny’n y Blaenau yn nhridegau’r ganrif ddiwetha’.

Lle braf i blentyn mewn tref oedd byw yn Stryd Maenofferen. Roedd y dyffryn wrth ymyl, a Pen Banc, y parc, siopau, y capel a’r ysgol wrth y drws cefn.

Unwaith, bum i’n sâl a methu â mynd i’r ysgol. Cefais y clefyd melyn. ‘Sglyfaeth o beth!  Dim eisiau bwyd, methu edrych ar facwn, wyau na menyn. Pan oeddwn yn fy ngwely yn rhy sâl i godi fy mhen, roeddwn yn clywed y plant yn gweiddi yn y gwahanol ddosbarthiadau,

‘Twice one are two, twice two are four’, neu ‘dee o gee DOG, dee o gee DOG, see e tee CAT, see e tee CAT’; y lleill yn bloeddio, ‘London, Chester, Swansea, Cardiff’ a phethau tebyg.

Standard three’oedd y rhain, yn rhoi enwau Saesneg ar drefi, mewn ateb i Miss Pritchard. Rhaid oedd cael popeth yn Saesneg. Nid oedd hyn yn broblem i mi. Eu dysgu yn Gymraeg oedd fy mhroblem. Mi fydda i’n meddwl weithia’ mai dyna oedd achos y ddwy ffeit. Wedi camddeall y plant roeddwn i, neu y nhw ddim yn fy neall i’n parablu o gwbwl.

Pan fydden ni’n mynd i chwarae i’r dyffryn, mynd i ‘chwarae i’r coed’ fydden ni’n ddeud. Dyna le! Llithro i lawr Cae Ochor ar gardbord, a chael y drefn iawn am rwygo ein nicers. Chwarae pêl a rownders, tŷ bach, doctor a nyrs yn Cae Fflat. Hel mwyar duon yn Cae ‘No. 7.’, trochi ein traed yn yr afon a hel penbyliaid, siglo yn braf ar ganllaw’r bont, a gwylio cariadon. Symud ar ein boliau’n wyliadwrus rhag iddynt ein clywed, a’i gluo hi os byddai’r boi yn bygwth dod ar ein holau. Roedd symud yn wyliadwrus ar ein boliau yn rhywbeth yr oeddem yn arbenigo ynddo.

Byddem yn mynd i’r pictiwrs ar b’nawn Sadwrn i weld helyntion ‘Pearl White’. Byddai ‘Pearl’ mewn helynt byth a beunydd a byddai’n rhaid mynd i’r Empire, neu ‘Remp’ fel y byddai pawb yn ei alw, un Sadwrn ar ôl y llall, i edrych a fyddai hi’n llwyddo i ddod allan ohonynt.

Ac yma caem weld ‘Tom Mix’, ein harwr, ar gefn ei geffyl gwyn, ac fe fyddai yna ddigon o gowbois da a drwg, ynghŷd ag Indiaid Cochion. Byddem yn dod allan o’r pictiwrs, a phawb yn clic-clician efo’i dafod a rhoi slap ar ei dîn, ac i ffwrdd â ni bawb ar gefn ei geffyl.

Adre am de, ac yna yn syth i’r coed i chwarae ‘Cowbois ac Indians’. Fi oedd yr ‘Indian girl’ am fod fy ngwallt yn ddu. Byddai’n rhaid i’r cowbois fy nal a’m clymu wrth goeden, ac yna byddai’r brêfs yn gwylio eu cyfle i ddod i’m hachub. Symud yn ofalus a thawel ar eu boliau, ac yna’r ‘Indians’ i gyd yn gweddi’n groch trwy gegau agored a tharo’r dwylo yn gyflym ar y gwefusai i greu sŵn y ‘war dance’.

Roedd gennym ddau geffyl go iawn gartref - ‘Prince’ a ‘Bess’. Ceffylau mawrion, cryfion i dynnu’r troliau a lorïau cario glo. Byddwn yn eistedd fel brenhines ar flaen y drol hefo nhad, ac yn edrych ar y plant ar y llawr fel mân us. Mae’n debyg fy mod cyn ddued â’r sachau glo tu ôl i mi, ond roedd gen i ddwy olwyn oddi tanaf, ac ychydig o blant yr adeg honno oedd â siawns byth am reid mewn dim ond trên neu fws ar ddiwnrod trip capel unwaith y flwyddyn.


Manylion hawlfraint isod
Diwrnod mawr oedd pan ddeuai yr injian malu metlin heibio. Fe fyddai dynion yn dod heibio i baratoi wyneb y ffordd ac yna taflu metlin i lawr. Caent bob llonydd gennym ni’r plant. Ein prif nod ni oedd edrych allan am Owen Robas. Byddai yn dod ar ôl i’r dynion orffen, gyda pheiriant du - tân tu mewn iddo a mwg budr yn dod allan trwy’r simnai. Yr oedd yn ddiwrnod braf bob amser y byddai’r injian malu metlin, yr injian col-tar a’r steam roller yn dod o gwmpas. Gwyddem nad oedd ymhell, gan y byddai oglau’r col-tar yn llenwi ein ffroenau. Fe’n rhybuddiwyd ni dro ar ôl tro nad oeddem i fynd yn agos at yr hen injian col-tar yna! Ond er y bygwth i gyd, byddai’n ein denu fel pry’ cop i’w we. Rhaid oedd cael gweld y tar poeth yn cael ei chwistrellu fel cawod ddu ar y ffordd. Byddai ein coesau, ein breichiau a’n dillad yn smotiau bach duon i gyd, ond pa ots?
Sôn am row ar ôl mynd adre’!”

-----------------------



Manylion hawlfraint y llun:
Trwyddedwyd dan Gomin Wikimedia, CC BY-SA 3.0 "Aveling and Porter Roller Britannia" gan BulldozerD11. Dolen i dudalen 'Steamroller' Wikipedia. Dim cysylltiad â Llafar Bro.