20.9.16

Bwrw Golwg a Lloffion

Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Y tro hwn, detholiad o erthyglau gan Clifford Jones, ac W.Arvon Roberts.

Richard Jones. Ap Alun Mabon.
Clifford Jones. 
 
Ganwyd Richard Jones ym Mryntirion, Glanypwll, Blaenau Ffestiniog yn 1903, yn fab i Alun Mabon Jones. O’i ddyddiau cynnar dioddefodd o iechyd bregus iawn. Gyda’i ddiddordeb yn y gynghanedd enillodd lawer o gadeiriau trwy ledled Cymru.

Roedd yn frawd yng nghyfraith i fy mam, felly yncl Dic oedd o i mi. Bu farw ym 1940 pan oedd ond 37 mlwydd oed a minnau o ddeutu dwy flwydd a hanner pryd hynny. Mae gennyf gof plentyn o eistedd ar ei lin wrth ffenestr y tŷ ac edrych allan pan oedd yn fy ngwarchod, ac yn canu ‘Gee ceffyl bach yn cario ni’n dau’. Cof pleserus iawn.

Mae rhywfaint o’i farddoniaeth i’w gweld yn ei gyfrol goffa, sef Gwrid a Machlud (1941).
Ap Alun Mabon.
Drwy ei boenus oes drybini – y bedd
Aeth a’i boen a’i dewi;
O’i hael fro fe hawli fri
Un cawr ymysg ein cewri.
--------------------------

LLOFFION FFESTINIOG
W. Arvon Roberts.

1776
Dywedir i ffarmwr yng nghymdogaeth Ffestiniog farw yn 1766, yn 105 oed, yr hwn o’i wraig gyntaf, a gafodd 30 o blant; o’i ail wraig 10; ac o ddwy ddynes arall y bu’n godinebu â hwy, 7 o blant. Roedd ei fab hynaf  81 mlynedd yn hŷn na’r plentyn ieuengaf.

Roedd 800 o’i hiliogaeth yn bresennol yn ei angladd. Gofynnai un o’r enw John E. Jones, Penybont, yn yr adran Ymholiadau, yn y cylchgrawn ‘Golud yr Oes’, yn y flwyddyn 1889, am enw yr hen ffarmwr, ac enw’r ffarm roedd yn byw ynddo, ynghŷd ac unrhyw fanyion pellach. Yn anffodus, er chwilio a phori sawl cyfrol o’r cylchgrawn hwnnw, ni chafwyd unhryw ateb gan neb.

1843
Dydd Gwener, Mawrth 24, fel yr oedd Robert Roberts, Dolau Dywenydd, yn tywallt pylor i’r graig yng ngwaith llechi Samuel Holland, ger Ffestiniog, cydiodd y pylor dân rhywsut nas gwyddai neb yn iawn sut, nes chwythwyd ef i fyny amryw lathenni i ffwrdd, a disgynnodd yn ôl ar ei ben ar y graig, a bu farw yn y fan. Roedd yn aelod gyda’r Methodistiaid ym Metws y Coed; ac ystyrid ef bob amser yn addurn i’w broffes, yn siriol a difyr ei gyfeillach, ac yn gerddor rhagorol.
---------------------------------------

Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2016.
Dilynwch gyfres Bwrw Golwg efo'r ddolen isod neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


18.9.16

Cofleidio Ewrop a'r Sinema

Erthygl gan Emyr Glyn Williams. Y cyntaf mewn cyfres o ysgrifau gwadd yn ymateb i Uffarendwm Ewrop yn haf 2016.

Rhaid cyfaddef fy mod i, yn ddiweddar, wedi dechra teimlo’n genfigennus o drigolion ifanc Blaenau (mwy am hyn nes ymlaen). Yn gyntaf, a ninne yng nghanol cyfnod mwyaf cythryblus a thyngedfennol ein hanes fel aelodau o’r teulu Ewropeaidd, dwi am fachu ar y cyfle i rannu rhywfaint o bositifrwydd yn y testun hwn.

Pam? Wel, jest er mwyn ceisio lleddfu tamaid ar y boen o weld cynifer o’n cwmpas yn syrthio o dan ddylanwad meddylfryd cas, hiliol a senoffobic yr eithafwyr yna sy am ein gweld ni fel Cymry yn cefnu ar ein perthynas â gweddill y cyfandir. Digon o reswm i mi. Isio rhannu rhai o’r profiadau a theimladau sy wedi dychwelyd yn sgil penderfyniad i fynd ati i sgwennu llyfr yn Gymraeg sbel yn ôl am fyd sinema dramor, dyna i gyd dwi’n ei gynnig.

Mae Is-Deitla’n Unig wedi ei alw’n ‘llythyr cariad’ i ddiwylliannau estron gan rai, ac yn 'hunangofiant drwy ffilm' gan eraill, gan fy mod i yn plethu’r cariad hwn at ddiwylliant a bydolwg sinema ‘y lleill’ efo fy stori bersonol i yn tyfu i fyny yn Blaenau a gweithio gyda cherddoriaeth, ffilm a theledu Cymraeg dros y 30 mlynedd diwethaf.

Yn bersonol, dwi’n ddiffinio’r llyfr fel ymgais i normaleiddio dyhead sydd ynom fel pobl a chenedl (yn enwedig yr ifanc) i fod yn rhan o’r byd mawr y tu hwnt i ffiniau ein gwlad fechan. Yn dal i greu trwy’r Gymraeg, wrth gwrs, tra’n byw yn gydradd ac yn oddefgar ysgwydd wrth ysgwydd â’r holl diwyllianau eraill sy’n rhannu ein byd. 

Ro’n i’n credu wrth ysgrifennu’r llyfr fod y teimladau yma’n rhai ddigon cyffredin a synhwyrol, ond ers cyhoeddi canlyniad y refferendwm, ma’ hi wedi dod yn amlwg fod y rhan fwyaf o’r boblogaeth allan yna (yng Nghymru hefyd) yn ei gweld hi’n anodd derbyn bod amrywiaeth diwyllianol yn beth positif.

Ond hoffwn ddadlau yma fod natur arbennig celf sinema’n medru gweithio i ailadeiladu’r teimlad hanfodol yna o fod yn perthyn i’n gilydd sydd yn amlwg wedi dirywo cymaint ers y bleidlais ar 24 Mehefin. Yn fy marn i, does ’na ddim dewis arall yn bodoli – gyda’n gilydd yw’r unig ffordd i deithio tua’r dyfodol, a chredaf mai sinema yw’r peiriant gora ar gyfer y dasg o hwyluso’r paratoadau ar gyfer ailgychwyn ar y siwrnai hon.

Ers cyhoeddi’r llyfr, dwi wedi profi ymateb uniongyrchol gan ddarllenwyr a beirniaid i’r pwnc, ac wedi ymfalchio mewn ymateb positif gan mwyaf, sy’n hapus i dderbyn bod sinema’n medru bod yn gelf yn ogystal ag yn fusnes; yn iaith rydym oll yn medru ei deall (gan mai’r lluniau sy’n siarad!); ac yn bwysicaf oll, cydnabyddiaeth ei bod hi’n gelf sy’n perthyn i bawb (dyna’r union reswm mae’n bodoli ym mhob twll a chornel o’r blaned).

Gan wybod o flaen llaw fod y rhinweddau yma’n dderbyniol, hoffwn eich annog chi ddarllenwyr Llafar Bro i wneud ymdrech o’r newydd i gofleidio byd ffilmiau a’i gwneud hi’n rhan o’ch bywyd bob dydd.    

Yn ôl at y cyfaddediad hwnnw o genfigen ar y cychwyn – wel, yn syml, mae un o’r peiriannau gwyrthiol dwi’n eu haddoli ar fin glanio yn Blaenau! Toedd ddim fath beth yn bodoli yn fy mhlentyndod i, a fedra i ddim gorbwysleisio gymaint o anhreg dwi’n credu fydd bodolaeth sinema i’r dref.

Mae wir angen diolch i griw CellB am gynnig y cyfle anhygoel hwn i brofi hud a gwefr bod yn rhan o gynulleidfa mewn sinema ‘go iawn’ unwaith eto. Nawr bydd cyfle rheolaidd i bob un ohonoch i brynu tocyn – i ddianc am gwpl o oriau wrth gwrs, ond hefyd i gael cyfle i brofi storïau o bob cwr o’r byd ar sgrin fawr yn eich cynefin a sylweddoli nad ydi clywed mwy am wahanol bobl a diwyllianau ym mhen draw’r byd yn gwneud dim heblaw dod â ni’n agosach et ein gilydd yn y pen draw. Un ddynoliaeth sydd, wedi’r cyfan, a chynnig tystoliaeth o’r ffaith hyfryd hon y mae celf sinema.

Mae ’na wyrthiau a phrofiadau bythgofiadwy yn aros amdanoch chi yn y stafell dywyll yna yn yr hen Orsaf Heddlu, a dwi’n eich annog i gefnogi’r fenter newydd hon o’r dechrau’n deg, yn enwedig pan mae’r arolygon y tu allan yn gaddo crebachu ar ehangu gorwelion. Buck the trends! Mynnwch eich lle, gofalwch amdani, defnyddiwch hi ac mi wneith hi ffynnu!

-- --
Cyrhaeddodd Isdeitla’n Unig gan Emyr Glyn Williams (Gwasg Gomer, £8.99) restr fer Llyfr y  Flwyddyn 2016, ac mae o dal ar gael yn eich siop leol.
-----------------------------------------

Ymddangosodd erthygl Emyr yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2016.

Mae rhifyn Medi ar gael yn y siopau a gan y dosbarthwyr tan ganol Hydref. Mae'r gyfres Ewropeaidd yn parhau efo erthyglau gan Dewi Prysor, Ifor Glyn, Sharon Jones, Mici Plwm, a'r Theatr Genedlaethol. 


16.9.16

Cyfres 'EWROP' 2016

O na fyddai’n haf o hyd

Cyflwyniad i gyfres o ysgrifau gwadd yn ymateb i refferendwm Ewrop.

Tywydd gwylio teledu, yn hytrach na thywydd crwydro a garddio gawson ni ddiwedd Mehefin a dechrau Gorffennaf eleni, felly golygu Llafar Bro fesul dipyn rhwng gemau peldroed Ewropeaidd, y tenis, a chymalau cyntaf y Tour de Ffrainc fues i tro ‘ma.

Roedd taith tîm peldroed Cymru trwy gystadleuaeth Euro 2016 yn rhyfeddol, ac yn gymysgedd o orfoledd, pryder ar adegau, chwerthin a cholli ambell ddeigryn wrth glywed canu’r anthem a darllen sylwadau pobl Ffrainc am ymddygiad cefnogwyr brwd a chyfeillgar Cymru fach.

Roedd yn braf gweld Cymdeithas Beldroed Cymru yn rhannu negeseuon yn Gymraeg ac mewn Llydaweg trwy gydol yr ymgyrch, yn ogystal â Saesneg a Ffrangeg. Agwedd Ewropeaidd iach iawn drwyddi draw.

Dagrau o dristwch oedd y rhai gollwyd dros ganlyniad Uffarendwm yr Undeb Ewropeaidd ar y llaw arall, a’r diffygion difrifol yn y cyfryngau Cymreig yn boenus o amlwg eto, wrth i bobl Cymru ‘saethu eu hunain yn eu traed’ chwedl y sylwebydd gwleidyddol craff Richard Wyn Jones.

Hawdd deall pam bod nifer o’n pobl ifanc yn gandryll bod carfan o’r boblogaeth hŷn –y rhai a gafodd grantiau llawn am addysg uwch, gwasanaeth iechyd da, sicrwydd gwaith a phensiwn, tai, sefydlogrwydd a heddwch- wedi pleidleisio am ddyfodol ansicr iawn ar eu cyfer nhw.

Ond mae’n dda gweld mudiadau fel Cymru Rydd yn Ewrop a Yes Cymru yn ymgyrchu’n gyflym i sicrhau nad ydi’n cenedl ni’n diflannu am byth i’r hunllef fyddai ‘Inglandandwêls’.  Cymaint ydi llanast San Steffan wrth i mi sgwennu hwn, pwy a ŵyr be’ fydd be’ erbyn i Llafar Bro eich cyrraedd, felly taw pia hi am rwan.


Rali Cymru Rydd yn Ewrop, 2 Gorffennaf 2016. Llun Paul W
---------------------------------------------

Llyfr y Flwyddyn
Llongyfarchiadau mawr i ddau o hogia’ Bro ‘Stiniog ar gyrraedd rhestr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2016. Llenyddiaeth Cymru sy’n gweinyddu’r wobr, er mwyn cydnabod y gweithiau gorau yn y byd cyhoeddi bob blwyddyn, ac roedd yn wych gweld awduron lleol yn hawlio’u lle ymysg goreuon y genedl.

Roedd llyfr cyntaf Emyr Glyn Williams, Is-deitla’n Unig, ar restr fer yr adran ‘Ffeithiol-greadigol’,

... a nofel ddiweddaraf Dewi Prysor, Rifiera Reu, ar restr fer yr adran Ffuglen.





Yn ôl un o'r beirniaid eleni, mae llyfr Emyr "yn swyno; yn cyfareddu'r darllenydd efo diddordeb yr awdur yn ei destun ac yn rhyw lun o gofiant, efo elfen greadigol hefyd".

Sinema ydi’r testun hwnnw, ac roedd yn braf cael cynnwys erthygl gan Emyr yn rhifyn Gorffennaf.

Mae Dewi wedi ei ddisgrifio fel un sy'n "feistr ar ei dweud hi fel y mae hi", efo "arddull gyfangwbl unigryw", a Rifiera Reu yn "nofel a hanner". Ymddangosodd erthygl gan Dewi yn rhifyn Medi.

----------------------------------------------
Addasiad o ddarnau gan Paul Williams, a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf 2016 sydd uchod.

Yn rhifyn Medi roedd y gyfres Ewropeaidd yn parhau gydag erthyglau gan Dewi Prysor, Ifor Glyn, Mici Plwm, Sharon Jones, a'r Theatr Genedlaethol. 
-----------------

Dolen- Cyfres EWROP

 

14.9.16

Yr Ysgwrn -trefnu'r canmlwyddiant

Newyddion o Gartref Hedd Wyn

Yn 2017 bydd yn 100 mlynedd ers i Hedd Wyn gael ei ladd yn ‘heldrin’ y ffosydd yn Fflandrys a chael ei ddyrchafu’n symbol cenedlaethol o golledion y Rhyfel Byd Cyntaf.

O lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Penbedw yn 1917 ymgorfforwyd galar cenedl gyfan yng ngwneuthuriad y Gadair Ddu, a byth er hynny daeth pobl o bell ac agos i’r Ysgwrn i dalu gwrogaeth a chael teimlo’n rhan o’r hanes.

Byddwn fel Cymru’n cofio aberth y miloedd y flwyddyn nesaf drwy stori Hedd Wyn a’i negeseon oesol, ac mae nifer o ddigwyddiadau eisoes wedi eu trefnu led led y wlad a thu hwnt. Bydd cyngerdd agoriadaul Eisteddfod Genedlaethol Môn yn canolbwyntio ar stori Hedd Wyn a heddwch fel thema, ac mae plant ysgol, corau a grwpiau cymunedol eisoes yn cymryd rhan yn y paratoadau.

Bydd Yr Ysgwrn ei hun yn ail-agor yn y gwanwyn a byddwn yn paratoi gweithgareddau gydol y flwyddyn i adlewyrchu pwysigrwydd y canmlwyddiant. Ym Mhenbedw mae criw o bobl yn ystyried y ffordd orau i nodi’r achlysur yno, a byddwn fel swyddogion yr Ysgwrn yn cwrdd â hwy i drafod y posibiliadau.

Rhai o ddisgyblion Ysgol Bro Hedd Wyn fu’n gweithio ar furlun clytwaith Yr Ysgwrn efo’r artsist Catrin Williams yn ddiweddar.
Mae Llywodraethau Cymru ac Iwerddon wrthi’n paratoi ar gyfer gwasanaeth arbennig yn Fflandrys ar Orffennaf 31ain 2017, can mlynedd union ers marwolaeth Hedd Wyn a Francis Ledwidge, bardd ifanc addawol o’r Iwerddon, ar faes y gad ymysg 4,000 o ddynion ifanc eraill.

Felly mae’r diddordeb yn eang, ond nid yw’r cofio’n fwy teimladwy nag yng nghymuned Trawsfynydd ei hun. Yn ddiweddar daeth criw o bobl yr ardal ynghyd i ddechrau trafod wythnos o weithgareddau i goffáu’r canmlwyddiant, a chaflwyd syniadau lu a brwdfrydedd iach i fynd ati i drefnu.

Bydd yr wythnos yn cychwyn efo’r Sioe Amaethyddol ym mis Medi 2017, ac yn gorffen ar y Sadwrn canlynol. Y gobaith yw i gynnal gweithgareddau fydd yn apelio at bob rhan o gymuned Traws a’r ardal ehangach, a chynnig cyfle i blant a phobl o bobl oed gymryd rhan mewn rhyw ffordd.
Os oes gennych syniadau ar gyfer yr wythnos, neu os hoffech fod yn rhan o’r trefniadau cofiwch gysylltu â Sian neu Jess yn y swyddfa, a gallwn basio’r neges ymlaen.
----------------------------------  

Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


12.9.16

Stiniog a’r Rhyfel Mawr- erchylltra y Somme

Bu gwasanaethau yng Nghymru, Prydain a’r cyfandir eleni i gofio canrif ers brwydr erchyll y Somme. Yma mae Vivian Parry Williams yn parhau â’i gyfres, yn edrych ‘nôl ar y llythyrau oedd milwyr ‘Stiniog yn yrru adra o’r ffrynt.

Ar 22 Gorffennaf 1916, yn y golofn reolaidd yn Y Rhedegydd, 'Ein Milwyr', cofnodwyd hanes un o frwydrau mawr y rhyfel, Brwydr y Somme. Er i'r ymladd ddechrau yno ar 1 Gorffennaf, aeth tair wythnos heibio cyn cael unrhyw wybodaeth am y frwydr erchyll honno. Lladdwyd, neu anafwyd dros 60,000 o filwyr Prydain ar y dydd cyntaf o'r frwydr, a barhaodd hyd 18 Tachwedd.

Erbyn diwedd Brwydr y Somme, dywed i dros filiwn o filwyr, o'r ddwy ochr gael eu lladd neu eu hanafu. Yr oedd nifer fawr o filwyr o Gymru yn rhan o erchylltra un o frwydrau gwaethaf y Rhyfel Mawr.

Dyma ddywed gohebydd y papur yn ystod y dyddiau cynnar o'r frwydr:
“... wythnos o bryder mawr fu'r un ddiweddaf yn yr ardal hon a'r cylch, am ei bod yn wybyddus hefyd fod nifer fawr o'n bechgyn yn cymeryd rhan yn yr ymgyrch gyda'r 14th R.W.F, ac adrannau eraill, a phrofodd y newyddion ddaeth i law nad oedd y pryder hwnw ddim yn ddi-sail, a bod pethau gwaeth na'r gwir wedi ei ddweud mewn rhai achosion.”
Cyfeiriwyd wedyn at y llythyrau a ddaeth i law o gyfeiriad y mwynwyr, y rhai oedd yn cael eu defnyddio i dwnelu o dan ffosydd milwyr yr Almaen ar y pryd. Yr oedd adroddiadau wedi cyrraedd yn amlwg o'r brwydro mawr diweddaraf, gan greu pryder mawr ymysg anwyliaid y milwyr adref.

Disgrifir y golygfeydd yn dilyn yr ymladd ffyrnig, ac am effeithiau eraill y brwydro ar rai milwyr.
Daeth amryw lythyrau i law oddiwrth aelodau'r Meinars, a da gennym weled oddi wrthynt nad yw pethau lawn cyn waethed a'r si a aeth allan yn eu cylch. Ysgrifena Sapper Robert Humphreys, Manod Road at ei wraig o Ffrainc, a dyweyd ‘Yr wyf ar hyn o bryd mewn Hospital mewn pentref bychan tebyg iawn i bentref Cymreig. Nid ydwyf wedi fy nghlwyfo, ond wedi gyrru fy hun i lawr braidd. Yr oeddwn wedi cael fy mhenodi yn un o bedwar i ofalu am y Saps yn ystod y tânbelenu, a nos Iau daeth shell i fewn a chauwyd arnom yn y Sap, ac effeithiodd yr awyr drwg a'r shock ychydig arnaf, ond rwy'n disgwyl y byddaf yn barod i fynd yn ol at y bechgyn yfory.’"
Cofgolofn Llan Ffestiniog. Llun Paul W.
 Dychrynllyd oedd disgrifiad y Sapper R.M.Hughes, Ffordd Manod o'r un frwydr, dan bennawd Tranoeth y Frwydr Fawr'. Mae'n debyg ei fod yn cyfeirio at y ffrwydriad fwyaf a fu erioed i fyny i'r cyfnod hwnnw. Digwyddodd hynny ar 1 Gorffennaf 1916, pan fu i adran o'r mwynwyr oedd yn twnelu dan ffosydd yr Almaenwyr danio ffrwydriadau enfawr a elwid yn Lochnagar mine. Dywedir i'r ffrwydriad gael ei chlywed cyn belled i ffwrdd â Llundain. Lladdwyd miloedd gan y ffrwydriad.
'

Gadawn i Sapper Hughes ddisgrifio:
“...miloedd ar filoedd yn gorwedd yn domennydd a dim rhyfel mwy - cannoedd ar gannoedd o garcharorion yn pasio drwy'r dydd, a chlwyfedigion; ond diolch, dim ond dau o'r meinars o Ffestiniog...Y dydd o'r blaen roedd y lle rwyf ynddo yn llawn o ynau mawrion, a'r rhai hyny yn arllwys eu tân yn ddi-dor. Ond y mae y lle yn llawn o geffylau. Yfory, hwyrach y bydd yma ddim ond y ni yn aros. Rym wedi cael llwyddiant eithriadol...Da iawn genyf ddweud ein bod i gyd yn alright, a gobaith cryf y cawn ddod adref i gyd ryw ddiwrnod cyn bo hir. Brysied y dydd.”
Mewn llythyr arall ychydig yn ddiweddarach, dyma ddywedodd yr un milwr:
“Diolch i Dduw, mae y gwaethaf drosodd, a minnau yn fyw ac yn iach, ac erbyn hyn yn ddiogel o gyrraedd y gelyn, a'r hen bennill anwyl yn wir :     Y frwydr wedi troi
     Gelynion wedi ffoi.
 Rwyf yn credu fod ein gwaith ni wedi darfod. Yr ydym wedi gweithio yn galed iawn, ac mae'r gwaith ardderchog wedi ei goroni a llwyddiant. Gwnaethom achub miloedd ar filoedd o'n milwyr ni, a lladdasom filoedd o'r gelynion. Maent yn domennydd mewn Dug-outs wedi eu chwythu gan y meins, a golwg ofnadwy arnynt...”
Un o'r rhai oedd yn gwasanaethu gyda'r Royal Engineers yn Ffrainc oedd y Sarjant Phillip Woolford, mab Mr a Mrs Alf. Woolford, Penybont, Llan Ffestiniog. Cafwyd gwybodaeth yn rhifyn 22 Gorffennaf o'r Rhedegydd i Phillip dderbyn Tystysgrif Cymhwyster mewn defnyddio offer achub tanddaearol, ac am ddangos medusrwydd rhagorol yn y grefft. Ychwanegwyd ei fod wedi bod yn y ffrynt ers 18 mis, ac wedi ei anafu ddwywaith. Yn anffodus iddo, bu farw o'i anafiadau yn Ffrainc, ar yr ail o Hydref 1916. Cofnodwyd hefyd enwau nifer eraill o'r ardal a oedd wedi eu lladd neu eu clwyfo.
---------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2016.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.