10.4.16

O Lech i Lwyn -Cerdded y Mynyddoedd

Allan Tudor, Solihull, gyfrannodd erthygl i’r gyfres awyr-agored yn rhifyn Ionawr 1999.  

Fel llawer un arall, rwyf yn hoff o gerdded mynyddoedd Eryri, yn enwedig o gwmpas y Blaenau.  Nid wyf ddringwr, felly dewis llwybr i’r copa sydd yn weddol lyfn byddaf, ar wair yn hytrach na chraig.  Mae modd gwneud hyn ar nifer o fynyddoedd, megis y Moelwyn Mawr a Bach, Moel yr Hydd, Moel Siabod, a Moel Hebog. Gallai fod yn wnelo eu henwau rhywbeth â natur arwynebedd y tir arnynt.

O'r Moelwynion i'r Allt Fawr i'r Manod Bach. Llun Paul W
Go wahanol yw'r Glyder Fach, gyda’i choryn wedi ei gorchuddio gan domen helaeth o gerrig enfawr.  Fel pe bai rhyw gawr wedi eu gollwng yno.  Nid yw'n hawdd cyrraedd copa y Cnicht ar y llaw arall, heb ymbalfalu ar eich pedwar dros y canllath uchaf. 

Eto, mae Moel Ysgyfarnogod yn cael ei gyfrif gan gerddwyr priofiadol gyda’r mwyaf anodd ei esgyn, gan fod yr arwynebedd yn gymysgfa cymhleth o flociau o grit caled a grug trwchus.  Lle hawdd i fynd i drafferthion trwy fynd i hafnau rhwng y blociau a thorri coes. 

Er bod yr Allt Fawr yn weddol rwydd i’w cherdded o gyfeiriad y Crimea a Llyn Iwerddon, eto mae yr ochr ddeheuol ddigon peryg, gan fod y cloddio yn Chwarel yr Oakeley a Chwmorthin wedi gwanhau y graig ac achosi craciau dwfn a hir i ymddangos ar yr wyneb.  Gofal piau hi.

Mae pethau annisgwyl yn dod i’r golwg ar brydiau.  Cofiaf fynd i ben Moel yr Hydd, tua 1956.  Ar graig ar y copa yr oedd doli glwt wedi ei gosod.  Yr oedd wedi ei thrywanu a darn cul, miniog o lechen, fel cyllell.  Hen beth ddigon annifyr.  Tybed a oedd yna ryw arwyddocad arbennig i’r peth?  A oedd yn ymgais i roi swyn ar rywun tybed?

Mae copa y Moelwyn Bach yn le diddorol, wedi ei rannu yn glir yn ddau gyda newid sydyn yn natur y graig.  Mae’r darn uchaf, gogleddol, yn lechen o’r gyfres Glanrafon.  Hon sydd wedi ei chloddio yn y chwareli yn ymestyn o’r Parc drwy Groesor, Rhosydd, Wrysgan, Cwmorthin a’r Oakeley.  Ond mae’r ochr ddeheuol, sydd ychydig yn is, yn graig folcanig, lafa asid.  Mae hon yn galed iawn.  Ond mae’r tywydd dros yr oesau wedi effeithio ar wyneb y graig i wneud tyllau bychain crwn, fel pe bai y frech wen arni!  Hefyd, mae nifer o byllau o ddŵr wedi ffurfio rhwng y creigiau.  Mae’r cyferbyniad rhwng y ddau fath o graig yn drawiadol iawn.

Ar ymyl y clogwyn serth sydd yn wynebu i gyfeiriad Llan mae llechen fechan wedi gosod ar ei gwastad ar graig.  Mae o faint cerdyn post, ac arni mae y llythrennau ‘R a J’ wedi eu cerfio a’r dyddiad 1982.  Cofier nid ‘RAJ’ ond ‘R a J’.  Hefyd, mae saeth fechan arni yn anelu i gyfeiriad Llyn Morwynion, hynny yw ‘dwyrain-de-ddwyrain’.  Cofeb i rywun tybed?  Yn anffodus yn ddiweddar mae rhai wedi bod yn ei difwyno trwy grafu eu henwau arni.  Does dim yn cael llonydd, nac oes?

Ie, diddorol yw cerdded y mynyddoedd, does wybod be wel dyn nesaf. 
-------------------------------------------

Gallwch ddilyn y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

8.4.16

Peldroed. 1966-67 a 1967-68

Ychydig o hanes y bêl-droed yn y Blaenau.
Parhau'r gyfres yng ngofal Vivian Parry Williams.(Allan o gofnodion y diweddar Ernest Jones)

1966-67

Roedd Prestatyn yn ôl yn y gynghrair ym 1966-67, a dyma'r flwyddyn y dechreuwyd dod a chwaraewyr wrth gefn i mewn yn lle rhywun oedd wedi'i anafu.  Penderfynodd y Blaenau ail-ddechrau cael chwaraewyr o gylch Lerpwl a chafwyd Keith Godby fel cysylltydd yno.  


John Crowe oedd blaenwr Stiniog ac fe sgoriodd 29 o weithiau.  Yr oedd y clwb yn dal i fethu'n lân a chael llwyddiant yng Nghwpan Cymru. Daethant yn gyfartal efo Bae Colwyn, ond yn yr ail chwarae colli wnaeth y Blaenau er iddynt sgorio tair gôl, a hynny ym Mae Colwyn. 

Porthmadog, Dyffryn Nantlle a Chaergybi oedd eu concwerwyr yn y prif gwpannau eraill. Yng ngemau'r cynghrair chwaraeai Stiniog yn dda iawn yn eu gemau cartref ac yn gwbwl groes i hynny oddi cartref. Peter Salt a Gerry Pierce fu'r prif chwaraewyr yn y gôl.  

Unwaith eto, roedd gan y Blaenau ddeugain o chwaraewyr ar eu llyfrau.

Yr oedd y gemau tua'r Nadolig yn erbyn Porthmadog yn dal i fynd yn anffafriol i Stiniog.  Y ddau chwaraewr wrth gefn a ddefnyddid gan y Blaenau oedd Billy Williams (bachgen lleol yn cychwyn o ddifrif)  a Ronnie Jones.
 
Pwyllgor tîm peldroed y Blaenau yn y 1960au. Llun o wefan Stiniog[dot]com

1967-68
 
Yn 1967-68, eto, galwyd ar ddeugain o chwaraewyr i ryw raddau neu gilydd.  Tommy Lane oedd y rheolwr yn Nhachwedd 1967.  Mae'r rhestr chwaraewyr yn cynnwys nifer fawr o enwau hollol ddieithr megis Dillon, Briars, Henney, Bond, McQuire, Brocklehurst, Dumbill, Lunt, Kelly, Barraclough, Paton.  

Roedd hefyd enwau oedd yn dod yn adnabyddus i'r cefnogwyr a oedd yn siwr o fod yn gweld rhywun neu rywrai dieithr bob Sadwrn;  er enghraifft Terry Burgin, Joe Clarke, John Clarke, Chris Gallagher, Bobby Clarke, Barry Williams, D.J.Williams, Ellis Humphreys. 

Gerry Pierce ac Alec Porter oedd y golgeidwaid. Gallagher oedd y prif sgoriwr.  

Cyrhaeddwyd ffeinal yr Her Gwpan.  Hwn oedd tymor cyntaf Coleg y Brifysgol, Bangor yn y gynghrair, ond collwyd Boro Utd o'r cwmni.
----------------------------------------------------

 
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2006.
Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar ddolen 'Hanes y bêldroed yn y Blaenau', isod neu yn y Cwmwl geiriau ar y dde.

 

6.4.16

Mil Harddach Wyt -tocio

Yn yr ardd.
Cyngor amserol gan Eurwyn Roberts, Meithrinfa Blodau'r Felin. Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2004.


Yn yr Ardd Flodau
Ar ôl y glaw, y gwynt a'r eira bydd rhaid tacluso y llwyni, a'u tocio. Mae yn bosib eu tocio rhy fuan, a gall y tyfiant ifanc gael ei niweidio pan fydd rhew hwyr, gan ohirio blodeuo.

Torri hefyd blanhigion parhaol gan bydd tyfiant wedi ail gychwyn; hefyd, rhoi ychydig o fwyd iddynt megis 'Growmore' neu fwyd rhosod.



Yn y tŷ gwydr bydd rhaid hau had blodau blynyddol, eu symud cyn iddynt fynd rhy fawr i botiau a blychau.

Dechrau hefyd blannu basgedi crog a'u cadw i mewn fel y byddant wedi sefydlu cyn mynd allan.

Yn yr Ardd Lysiau
Plannwch datws cynnar a phriddo rhai sydd â thyfiant wedi torri trwy'r wyneb, rhag i rew hwyr eu cael.

O dan wydr gallwch hau mwy o had had ffa dringo mewn potiau bach er mwyn cael eu plannu allan ym mis Mai. Mae had rhain yn debygol o bydru mewn pridd oer a gwlyb.

Edrych hefyd ar goed afalau a chwistrellu i atal y scab a'r llwydni ond peidiwch eu chwistrellu os oes blodau yn ago red ar y coed.
-------------------------------------------
Lluniau -Paul W.

Gallwch ddilyn y gyfres trwy glicio'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. Diolch i Eurwyn o Feithrinfa'r Felin, Dolwyddelan.

Mae llawer mwy o hanesion garddio yn Stiniog ar wefan Ar Asgwrn y Graig hefyd.


4.4.16

Gwynfyd -y goedwig yn deffro

Erthygl arall o'r gyfres am fywyd gwyllt a chrwydro'r fro.

Mae’n rhyfeddol ‘tydi sut mae swn coedwig yn medru newid o fewn ychydig wythnosau. Heb imi fynd yn rhy ddiflas a chanu tiwn gron bob blwyddyn tua’r adeg yma, mi ddywedai o ar ddechrau’r tipyn colofn ‘ma: ydi, mae’r gwanwyn ar gyrraedd ac mae’r ddaear yn brysur ddeffro. Dyna fo, mi ‘dwi’n ddyn hapusach rwan i mi gael dweud fy nweud!

Tua diwedd Ionawr mi oeddwn i yn rhyfeddu pa mor ddistaw oedd coedwig Rallt Glan Wiliam ym Maentwrog ‘ma. Am yn hir iawn doedd dim smic i’w glywed o’r canghennau, na robin na dryw yn trydar ar lawr.

Ymhellach draw yn y tyfiant, cyffro o’r diwedd; cyffylog yn neidio i’r awyr mewn braw ac ar yr un pryd yn rhoi braw i mi wrth iddo hedfan i’r pellter yn igam-ogamu rhwng y bonion. Mae ei liw yn golygu mai golygfeydd byr a chyflym fel hyn a geir gan amla’, gan ei fod yn anodd ei weld ymysg y dail crîn, ac mae’n aros yn llonydd hollol nes yr eiliad olaf, (yn arbennig mewn cyfnod oer fel a gafwyd eleni, er mwyn arbed egni).

Bum munud wedyn, wrth eistedd am eiliad ddiog, daeth swn o’r tu ôl i mi, tu hwnt i wal gerrig bylchog. Swniai yn debyg i fyddin fechan yn gorymdeithio trwy’r dail sych, ond doedd dim golwg o enaid byw na dafad yn unman, felly dyma fentro taro ‘mhen dros y wal am fysnês. Haid o adar oedd yno, yn synhwyro am bryfetach dan y dail â’u pigau, ac yn eu troi fesul un gan wneud cryn dwrw ar y cyd. Coch dan adain oedd y rhain -tua deugain ohonynt gydag ambell geiliog mwyalchen yn gwledda ochr yn ochr â nhw.

Llun coch dan adain, gan Andreas Trepte CC BY-SA 2.5. Defnyddir dan drwydded Comin Wicimedia.

Tua’r un maint a’r fronfraith yw’r coch dan adain, gyda cheseiliau coch yn rhoi iddynt eu henw, ag aeliau gwyn yn eu gwahaniaethu; ymwelwyr ydynt i Gymru dros y gaeaf, ac mae nhw eisioes yn llai niferus wrth iddynt ddychwelyd i’r cyfandir i fagu.

Erbyn Dydd Gwyl Dewi, ‘roedd coedwigoedd y fro fel byd gwahanol. Mae ceiliogod sawl rhywogaeth bellach yn hawlio eu clwt o dir yn swnllyd, er byddai yn decach disgrifio rhai fel peraidd, yn arbennig y fronfraith gyda’i amrywiaeth wych o nodau.

Mae’r titw mawr yn hawdd i’w adnabod pan yn ailadrodd ei enw: ‘ti-tw ti-tw ti-tw’ ond gall hefyd ddrysu gyda sawl cân a galwad gwahanol. Ni fydd yn hir nes fydd mwy o gantorion yn cyrraedd o’r Affrig i hawlio eu lle yn ein milltir sgwar ni, ac mae’r cyfnod yma yn un cyffrous ym myd natur, felly allan a ni i’w fwynhau!

cyffylog - woodcock
coch dan adain - redwing
bronfraith - song thrush
titw mawr - great tit
 -------------------------------------------------------


Addaswyd o erthygl gan Paul Williams, a ymddangosodd yn rhifyn Mawrth 1997.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.




2.4.16

Pobl 'Stiniog ym Mhatagonia

Pennod 5 yng nghyfres Steffan ab Owain.
Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Stolpia, yn rhifyn Ebrill 1995


O’r cyfnod cynharaf yn hanes y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, cymerodd nifer dda o’r ymsefydlwyr a hanai o’r ardal hon a’r rhai cyfagos ran amlwg ym myd addysg y wladfa. Dyna chi John Carrog Jones, er enghraifft, a hanai o Ddolgarrog. Bu ef yn athro diwyd iawn yn ysgol Drofa Dulog. Gwnaeth John Evan Jones, brodor o Ddolwyddelan yn wreiddiol, ei farc fel athro yn ysgolion y Frondeg a Threorci yn Nyffryn y Camwy.


Dau arall oedd y brodyr John ac Owen Williams o Gapel Garmon. Bu’r cyntaf yn athro yn ysgol Bryn Gwyn ac Owen ei frawd yn Ysgol y Gaiman. Dywedid am Owen ei fod yn un o ddisgyblion yr athro Griffiths o Glan y Pwll, Ffestiniog. Rwan, pwy all ddweud wrthym pwy oedd y ‘Griffiths’ yma? A fu’n athro yn y Blaenau o gwbl?

Un o’r athrawon amlycaf i adael ‘Stiniog am y Wladfa oedd E.T. Edwards. Bu yntau hefyd yn fawr ei ddylanwad yno ac yn un o’r arweinwyr ym myd addysg y Wladfa. Bu R. Bryn Williams yn ddisgybl yn ei ysgol am ysbaid, ac er mai tymor byr oedd hynny, dywed ei bod wedi ‘deffro ei feddwl a gwneuthur dysgu yn bleser’.

Dywed hefyd pan agorwyd coleg cenedlaethol yn Nhrelew yn ddiweddarach, lleihaodd nifer y plant a fynychai Ysgol E.T. Edwards .... ac aeth casglu arian yn wirfoddol yn ormod o dreth ar y Cymry. A serch nad oedd modd iddi barhau yn yr hen ddull pwysleisiodd Edmunds mewn cyfarfod ym mis Chwefror 1947 ‘mai gwell oedd ganddo ei gweld yn ymdoddi a pharhau i wasanaethu y cylch cenedlaethol nac yn trengi a marw’.

Awgrymai ennyn diddordeb y wladwriaeth ac efallai ei throi yn Ysgol Amaethyddol ac ar yr un pryd. gofyn i’r llywodaeth fel parch i arloeswyr y Wladfa, ac i wasanaeth a delfryd yr ysgol yn y gorffennol, ganiatau cwrs o addysg Gymraeg i unrhyw un a ddymunai ei gymryd. Pasiwyd i anfon deiseb i’r rhaglaw ond ni ddaeth dim o’r cynllun a bu’n rhaid cau yr ysgol maes o law .... Credaf o ddarllen hyn ei fod yn un enghraifft o sut yr aeth sefydliadau hollol Gymreig o ddwylo Cymry’r Wladfa ac i grafangau’r Sbaenwyr Archentaidd!

*****

Ymhlith y rhai eraill a ymfudodd o ‘Stiniog i’r Wladfa cawn deulu Macdonald a breswyliai gynt yn ‘Tunnel Cottage’, gerllaw Twnnel Bach Tanygrisiau. Dywedir mai efo mintai 1875 yr unfudodd y teulu hwn drosodd yno .... ac os nad wyf yn cyfeiliorni .... disgynnydd iddynt yw Mr Elvie Macdonald sy’n amlwg gyda Mudiad yr Urdd yng Nghymru.

Credaf mai oddeutu 1901 yr ymfudodd Evan Pugh i’r Wladfa. Gweithiai ef i’r Rhedegydd, a bu’n rhedeg ei swyddfa yn Llanrwst am gyfnod. Beth a ddaeth ohono ar ôl iddo ymsefydlu ym Mhatagonia, ni allaf ddweud. Tybed a fedrwch chi? A fu ganddo unrhyw beth i’w wneud a’r Drafod, sef newyddiadur Cymraeg y Wladfa?

Mae son fod un Evan Jenkins wedi mudo yno yn yr 1870’au, ar ôl i’w chwarel ym Moel Llechwedd Gwyn ar y Migneint fynd yn ffliwt. Ni wyddwn beth a ddaeth ohono yntau chwaith ar ôl iddo gyrraedd y wlad bellennig honno yn yr Ariannin.

-----------------------------------------

Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.