30.1.15

Lleuad Borffor

Band gwerin ydy Band Arall a bu’n fwriad ganddynt gynhyrchu cryno ddisg ers peth amser.

O’r diwedd, fe gyflawnwyd y dasg honno ac mae Lleuad Borffor bellach ar werth. Lansiwyd y CD heno yn nhafarn Y Pengwern, Llan.

Mae arni 12 o draciau, a chan fod y rhan fwyaf o’r band yn hannu o Fro Ffestiniog, Trawsfynydd a Meirionnydd, yna mae llawer o’r caneuon yn adlewyrchu hynny. Ceir arni amrywiaeth o alawon a chaneuon traddodiadol megis Efo Deio i Dywyn a Codi Angor a hefyd gynhyrchiadau mwy cyfoes gan aelodau’r band ei hun, fel Lleuad Borffor gan Gerallt Rhun, ac alaw Hefin Jones, Lliw’r Machlud

Mae’r traciau eraill -fel y clincar Y Car Gwyllt wedi ennill eu lle am fod aelodau’r band yn cael cymaint o bleser o’u canu neu eu chwarae.

Y bwriad wrth greu’r CD oedd rhoi ar gof a chadw rywfaint o waith ac o brofiad yr aelodau yn ystod yr ugain mlynedd ers ffurfio’r band, ond bydd eraill hefyd yn siŵr o gael llawer o bleser o wrando ar yr amrywiaeth ddifyr sydd i’w chael ar Lleuad Borffor.




25.1.15

Yr Ysbyty- DENG MLYNEDD O YMGYRCHU

Rhan o erthygl y Pwyllgor Amddiffyn, o rifyn Ionawr 2015:

Fe ffurfiwyd y Pwyllgor Amddiffyn union ddeng mlynedd yn ôl i’r mis hwn ac ymddangosodd yr erthygl gyntaf ar dudalen flaen Llafar Bro  rhifyn Ionawr 2005 o dan y pennawd ‘DIGON YW DIGON’.

Ein cŵyn ar y pryd oedd bod y clinig Ffisiotherapi ar Ffordd Tywyn yn cael ei gadw’n fwriadol ar gau ar esgus salwch y ffisiotherapydd. Ond roeddem yn dangos pryder hefyd, mor gynnar â hynny, ynglŷn â dyfodol yr Adran Pelydr-X  a’r Ysbyty Coffa ei hun. Fis yn ddiweddarach, y pennawd oedd ‘CODI LLAIS A DANGOS DANNEDD GOBEITHIO’ a dyna a wnaethoch chi, bobol yr ardal, ac mae’r gefnogaeth honno wedi dal yn gyson ac yn gadarn dros y blynyddoedd.

Chafodd y clinig ffisiotherapi mo’i ail agor, wrth gwrs, ac ymhen hir a hwyr fe drosglwyddwyd yr offer o Ffordd Tywyn i adeilad yr Ysbyty ei hun gan ddisodli Ward y Dynion yn fan’no, yn ogystal â’r Ystafell Ddydd. Esgus y Bwrdd Iechyd oedd bod trefniant felly yn llawer mwy hwylus o safbwynt y cleifion oedd angen triniaeth ffisiotherapi, ond buan y daeth eu twyll i’r amlwg pan ddechreuson nhw sôn am ‘ddiffyg preifatrwydd’ oherwydd bod gwlâu’r dynion, bellach, yn rhy agos at Ward y Merched a bod y cleifion i gyd yn gorfod rhannu’r un Ystafell Ddydd.

Yna, yn Ionawr 2008, fel ateb i’r broblem, fe gynigiodd y Pwyllgor Amddiffyn, ar y cyd efo Cyfeillion yr Ysbyty, agor cronfa a fyddai’n cyfarfod hanner y gost (sef £150,000) o godi estyniad ar gyfer ward newydd sbon neu adran ffisiotherapi bwrpasol, beth bynnag fyddai dymuniad y Bwrdd Iechyd. Fe aeth misoedd lawer heibio cyn i’r Betsi hyd yn oed gydnabod y cynnig, cyn iddyn nhw wedyn ei wrthod heb unrhyw fath o eglurhâd. Felly dyna ichi’r math o bobol drahaus y buom ni’n ceisio delio efo nhw ers y dyddiau cynnar!

Dros y blynyddoedd mae bron 40 o erthyglau wedi ymddangos yn ‘Llafar’ o dan enw’r Pwyllgor Amddiffyn ac rydym yn hynod o ddiolchgar i’n papur bro am ddangos y fath gefnogaeth ac arweiniad yn yr ymgyrch. Mae ei dudalennau wedi bod yn gyfrwng cyson inni hysbysu pobol yr ardal am yr hyn oedd yn mynd ymlaen o flwyddyn i flwyddyn, a bu’n gymorth gwerthfawr hefyd wrth inni drefnu sawl rali - dwy rali fawr ar strydoedd y dref, un arall i lawr i’r Senedd yng Nghaerdydd ac un i Landudno i gefnogi’r ymgyrch yn fan’no.

Un o arwyddion Rali Medi 2005

Bu tudalennau’r papur hefyd yn fodd o roi sylw i’r deisebau a gafodd eu harwyddo gan filoedd ar filoedd ohonoch dros y blynyddoedd ac erbyn hyn, mae'r Cyfarfod Arbennig ar Ionawr 13eg, gyda’ch cefnogaeth chi, wedi galw am i Refferendwm gael ei gynnal ac y bydd dyddiad wedi cael ei benderfynu i gynnal Pleidlais Gymunedol yn y Blaenau, Llan a Dolwyddelan.

Mae ymgyrchwyr Fflint yn ymhyfrydu bod 99% o’r 3,500 a bleidleisiodd yn eu refferendwm hwy wedi galw am gael gwlâu yn ôl i’w hysbyty ac erbyn heddiw maen ymddangos bod trigolion yr ardal honno yn ffyddiog y byddan nhw’n llwyddo. Pob lwc iddyn nhw ddwedwn ni, ond gadewch i ninnau ddangos i’r Betsi ein bod ninnau hefyd, yn yr ardal hon, yr un mor benderfynol o gael ein hawliau; sef yr un hawliau ag a roddwyd yn ddi-gwestiwn i bobol Tywyn a Phorthmadog a Phwllheli a threfi eraill glan-y-môr.

Bydd y Cyngor Tref yn cynnal y Refferendwm, neu’r Bleidlais Gymunedol fel y’i gelwir, yn Blaenau a Llan ar Ionawr 27ain mwy na thebyg, a bydd Cyngor Cymunedol Dolwyddelan yn gwneud yr un peth yn eu pentref hwythau ar yr un dyddiad.

Apêl arbennig unwaith eto, felly, at bawb ohonoch fydd â phleidlais yn y refferendwm-

i wneud pob ymdrech bosib i’w defnyddio hi,

a hynny o blaid cael y gwasanaethau yn ôl. Nid yn unig hynny, ond mae’n bwysig hefyd eich bod yn dwyn perswâd ar bawb o’ch teulu a’ch ffrindiau i wneud yr un peth. Un gair o rybudd, fodd bynnag – Ni chaniateir pleidlais bost mewn refferendwm.

Chwiliwch am y posteri am fwy o fanylion!

GVJ

13.1.15

Taro'r post i'r parad gl'wad

Heno, yn fwy nac erioed, dwi'n falch o fod yn un o drigolion 'Stiniog.


 Roedd gen' i lwmp yn fy ngwddw'n gynharach heno wrth i fil o bobl y fro ddod i Ysgol y Moelwyn ar noson oer, er mwyn gyrru neges glir i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr; i'r gweinidog iechyd, Mark Drakeford; ac i'r rhai sy'n cael eu talu i'n cynrychioli ni yn seneddau Caerdydd a Llundain.

Ciwio brwdfrydig tu allan
Clywch! Mae'r gymuned hon yn mynnu cael gwelyau i gleifion yn ôl yn yr ysbyty, yn ogystal â'r gwasanaeth pelydr X, a'r adran mân anafiadau.

Bu'n rhaid cau drysau'r neuadd orlawn oherwydd rheolau tân, a'r cefnogwyr yn dal i giwio i ddod i mewn, felly fe gynhaliwyd y cyfarfod ddwywaith, i ddwy llond neuadd!

Roedd y trefnwyr -Cyngor Tref Ffestiniog a Phwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Ffestiniog- angen cefnogaeth cant a hanner o etholwyr y fro, er mwyn cael cynnal refferendwm lleol, yn holi'r cwestiwn:

"A ddylai gwlâu ar gyfer cleifion, gwasanaeth pelydr-x ac uned mân anafiadau fod yn rhan o unrhyw gynlluniau ar gyfer Ysbyty Coffa Ffestiniog?"


Cafwyd 150 sawl gwaith!

Byddai'n GYWILYDD i neb beidio talu sylw y tro yma. 
Diolch i'r trefnwyr, a diolch i bobl dda Bro Ffestiniog am ddangos eu hochor. Eto.

Ymlaen!

PW. 13eg Ionawr 2015
----------------------------------

Ôl-nodyn: 'Y gair olaf' am yr ymgyrch.



8.1.15

Bwrw Golwg- yr actores Jane Vaughan

Bwrw Golwg: Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro.
llun o gasgliad W. Arvon Roberts

Ganwyd yr actores brydferth Jane Vaughan yn Ffestiniog yn 1911. ‘Roedd hi’n ŵyres i E.P. Jones, Blaenyddol, un a fu’n Ustus Heddwch yn negawdau cynnar y ganrif ddiwethaf. Er iddi orfod gadael Cymru i ddilyn ei gyrfa lwyddiannus ym myd y ddrama, etifeddodd gariad at ei gwlad. Efallai fod hynny i ryw raddau oherwydd bod ei mam yn un o deulu'r Vaughaniaid oedd yn meddu tiroedd ym Meirion ers cenedlaethau lawer.

Bu am bum mlynedd mewn ysgol yn Ffrainc, ac yna yn Academi Frenhinol Celf Dramatig Llundain. Dechreuodd ei gyrfa gyda dramau Shakespeare yng nghwmni Frank Benson (1858 – 1939) a ddywedodd amdani pan gafodd rannau pwysig: “All Welsh people make good actors”.

Ar ôl hynny, bu Miss Vaughan yn actio gyda Miss Irene Vanburgh (1872 – 1949) yn ‘Art and Mrs Bottle’. Tra oedd Miss Joan Barry (1903 – 1989) a ymddangosodd yn ffilmiau cynnar Alfred Hitchcock ar ei gwyliau, cymerodd Jane Vaughan ei rhan yn Theatr y Queen’s, Llundain, ochr yn ochr â Miss Gwen Ffrangcon-Davies (1891 – 1992), Bethesda, yn ‘The Barretts of Wimpole Street’ (Rudolf Besier), sef stori garwriaeth y beirdd Robert Browning ac Elizabeth Barrett. Yn ddiweddarach bu’n chwarae yn Theatr y Playhouse yn West End Llundain.

Un o berfformiadau gorau Miss Vaughan, yn ôl cylchgronau theatr y cyfnod, oedd ei rhan wych yn yr act gyntaf o’r ddrama ‘The Silver Cord’ yn 1927. Ymddangosodd wrth y cyrten ar y llwyfan deirgwaith cyn i’r gymeradwyaeth arafu.

Beth fu hanes Jane Vaughan ar ôl tri degau’r ganrif ddiwethaf tybed? A oes yna ddisgynyddion yn ardal Ffestiniog yn dal i fod? Tybed a lwyddodd hithau i gael ei lle ym myd y ffilmiau fel y rhai oedd yn cydoesi â hi yn y theatr bryd hynny?

-----------------------
Ymddangosodd fersiwn lawnach o'r uchod, gan W. Arvon Roberts, Pwllheli,  yn rhifyn Rhagfyr 2014.





2.1.15

Y Cymdeithasau Hanes

Rhannau o'u hadroddiadau, o rifynnau Hydref, Tachwedd a Rhagfyr 2014

Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog: 
Adroddodd y Llywydd, Robin Davies fod yr arddangosfa unwaith eto eleni wedi bod  yn bur llwyddiannus a bod tua 1800 o ymwelwyr wedi galw i mewn ac arwyddo llyfr yr ymwelwyr. Diolchwyd i’r gwirfoddolwyr am eu gwaith  yn stiwardio dros y tymor.

Gŵr gwadd cyfarfod Medi oedd Bill Jones. Cafodd Bill ei addysg yn lleol a bu’n gweithio ar hyd yr amser i’r Comisiwn Coedwigaeth a thra yno enynnodd diddordeb mewn hanes lleol ac archaeoleg.  Testun ei sgwrs oedd 'Canfyddiadau diweddar wrth gloddio' a defnyddiodd sleidiau i egluro’r ddarlith. Dechreuodd drwy sôn am y gwaith a wnaeth ef ynghyd a Mary a’r tîm yn tyllu yng Nghwm Penamnen i ddatguddio tai hynafol Meredudd ap Ieuan (1500).

Bu’r Gymdeithas yn ymweld â’r safle rhai blynyddoedd yn ôl. Soniodd  hefyd am rai o’r bobl oedd yn byw yno megis Angharad James a’i dylanwad yn yr ardal. Y man nesaf a gyfeiriodd ato oedd y Cribau. Dangosodd sleidiau o’r hen adfail a chlywsom am y bywyd caled a’r trychinebau a ddigwyddodd yno. Soniodd hefyd am lefydd eraill yn ardal Dolwyddelan fel Bryn Beddau, Ffynnon Elan a Chwarel Hones. Diddorol oedd gweld yr offer a ddefnyddiwyd i lifio'r cerrig yn y chwarel. Daeth a ni wedyn i Gwmorthin a dangoswyd nifer o luniau o’r hen adeiladau oedd yno. Maent yn parhau i dyllu a darganfod llawer o eitemau diddorol ac mae yn rhaid canmol Cymdeithas Cofio Cwmorthin am eu gwaith rhagorol. Mae Bill newydd gael ei benodi yn Gadeirydd Cymdeithas Archaeoleg Bro Ffestiniog ac yr ydym yn ei longyfarch am yr anrhydedd. Talwyd diolchiadau am ddarlith llawn hiwmor, fel y buasech yn disgwyl gan Bill, gan Dafydd Jones sydd wedi bod yn tyllu sawl tro efo fo.   

Ym mis Hydref roedd yn braf croesawu nifer nad oeddynt wedi bod yn ein cyfarfodydd o’r blaen. Wrth gyflwyno'r gŵr gwadd, Geraint Vaughan Jones, disgrifiodd y Llywydd, Robin Davies, ef fel nofelydd a chyn-athro ond yn bennaf fel cymwynaswr mawr i’r ardal drwy ei waith clodwiw yn llywio'r ymgyrch i amddiffyn ein Hysbyty Goffa. Testun ei sgwrs oedd Dyddiau Cynnar yr Ysbyty Goffa. Eglurodd Geraint fod ei sgwrs wedi ei seilio ar y llyfr “Ysbyty Coffa Dewrion Ffestiniog a’r Cylch 1925-1948” gan Doctor Eddie John Davies, un ohonom ni  o’r Blaenau  wrth gwrs. 

Defnyddiodd Geraint sleidiau o adroddiadau blynyddol yr ysbyty ac yr oedd hyn yn fwy effeithiol na’r gynulleidfa yn derbyn manylion moel a ddarllenid gan ddarlithydd. Gwelsom sleidiau yn rhestru pob math o ffeithiau am yr ysbyty o’r dyddiau cynnar fel pwy oedd wedi cyfrannu a phwy oedd ar y pwyllgor ac yn pwysleisio fod yr ysbyty yn un i ardal eang, ddim i Blaenau yn unig. Cawsom ystadegau yn dangos faint o gleifion a anfonwyd i’r ysbyty a pha feddyg anfonwyd hwy. Gwelwyd yn syth mae'r diweddar Dr Morris oedd ar ben y rhestr. Dangoswyd y paneli derw ar furiau'r coridor ac arnynt Rôl Anrhydedd y bechgyn a gollwyd yn y Rhyfel Mawr 1914-18 a'r ardaloedd lle yr oeddynt yn byw. 

Dangoswyd ffilm fer am agoriad yr ysbyty gyda niferoedd lu yn gorymdeithio i’r ysbyty ac yn ymgasglu mewn llefydd fel Carreg Defaid – biti na fasa Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi gweld y ffilm cyn gwneud ei benderfyniad i gau'r ysbyty! Gorffennwyd gyda nifer o luniau o’r staff, nyrsys a meddygon, ac y mae yn siŵr fod y nyrsys oedd yn y gynulleidfa wedi mwynhau gweld eu hen ffrindiau ar y sgrîn. Talwyd y diolchiadau gan Dafydd Roberts, Cae Clyd, un sydd ar bwyllgor amddiffyn yr ysbyty,  gan ddweud mor ysbrydoledig a gweithgar oedd Geraint yn arwain y ffordd iddynt yn y pwyllgor. 

Yng nghyfarfod Tachwedd, daeth nifer dda o aelodau a llawer o wrandawyr newydd i glywed ein hysgrifennydd, Gareth Jones, yn darlithio ar “O Fethania i Seion”. Yr oedd cryn ddyfalu o flaen llaw beth oedd ystyr y testun a chlywsom hanes Mormon cyntaf Stiniog -Dafydd Roberts- yn cael ei fedyddio yn 1846 er gwaethaf gwawdio ei gyd-chwarelwyr, a'i daith o Fethania, 'Stiniog, i Salt Lake City yn 1856. Roedd y rhan fwyaf o Formoniaid Stiniog wedi cychwyn am Utah gyda David Peters o Rhydsarn yn 1849. Clywsom am drafferthion y daith a gafodd criw Dafydd o Lerpwl i Boston- gyda chorwynt garw  tra ar y fordaith a sychder a newyn  wrth iddynt groesi y Great Plains a’r Black Hills gyda’u troliau wrth gerdded o Iowa City i gyrraedd pen eu taith. Cafodd y teulu amser caled yn Utah a bu  farw Dafydd yn 1858 o ddiphtheria.
Daeth un aelod o'i deulu, David yn ymgeisydd i'r Gweriniaethwyr ac enillodd sedd yn y Senedd yn 1902.   Roedd yn ddiddorol clywed bod 20% o bobl Utah heddiw efo gwaed Cymreig.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar Ionawr 21ain, 2015  pryd y disgwylir  Steffan ab Owain i roi yr ail ran o’i ddarlith  Pensaerniaeth Wledig.
 Robin Davies

RHAMANT BRO
Erbyn hyn mae cylchgrawn y Gymdeithas, Rhamant Bro, ar werth. Beth am yrru copi'n anrheg i aelodau o'r teulu sydd wedi symud o'r fro?
Mae'n werth bob dima' o deirpunt, ac yn llawn dop o erthyglau, lluniau a phigion.





Cymdeithas Hanes Bro Cynfal:
Coffáu Dechreuad y Rhyfel Mawr. Cyfarfu’r Gymdeithas ar ddechrau tymor newydd ar nos Fawrth, Medi 10, pan aethom i Ganolfan Llys Ednowain, Trawsfynydd, i gyfarfod a Keith O’Brien. Roedd yn noson braf a phobman ar ei orau, a chafwyd croeso cynnes yn yr adeilad hwylus. Yno'r oeddym i glywed ganddo rai o hanesion Maes y Magnelau a Hedd Wyn gan ei bod yn gan mlynedd ers dechrau ‘y rhyfel i orffen pob rhyfel’. Diddorol oedd gwrando ar Keith a chlywed hanes y ‘Camp’ fel ei gelwid a fu yn yr ardal o 1903-1959. Hefyd clywyd i 34 o fechgyn o ardal Traws gael eu lladd yn rhyfel 1914-18 a gwelwyd llun ohonynt sydd ar gadw ymhlith pethau diddorol eraill yn Llys Ednowain.

Soniodd Keith hefyd am ddadorchuddio’r gofeb i’r milwyr Cymreig yn Langenmark a ddigwyddodd ychydig ynghynt a chyfraniad Isgoed Williams a’i gyfaill, Leiwen, a fu’n gymorth mawr i wireddu hyn. Diweddwyd y noson gyda swper blasus yn Rhiw Goch (a ddefnyddiwyd gan y fyddin wrth gwrs) gyda Keith yn ymuno a ni. Noson dda i gychwyn y tymor.

Yng nghyfarfod Hydref aeth yr aelodau i Harbwr Porthmadog i ymweld â’r Amgueddfa Forwrol yno.  Croesawyd ni gan Robert Cadwaladr Jones a Dewi Jones i’r lle diddorol hwn, a chawsom hanes ynghyd a fideo'r llongau a’u cargo a hwyliodd yn ôl ac ymlaen o borthladd prysur iawn Porthmadog i bob rhan o’r byd.  Diddorol oedd enwau'r llongau a hefyd y mannau lle’r oeddynt yn hwylio iddynt, a diddorol fuasai mynd yn ôl mewn amser i weld y bwrlwm oedd yn Port yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Wrth gwrs roedd gan bob chwarel yn y Blaenau ei chei arbennig lle llwythid y llechi a ddeuai i lawr afon Dwyryd i Ynys Cyngar yr adeg honno.  Clywsom fod y capteiniaid a’r peilotiaid yn byw ym Morth-y-gest lle’r adeiladwyd llawer o’r llongau. Diweddwyd y noson gyda phryd o fwyd yn Nhafarn Pencei - noson ddifyr a diolch i John am drefnu.


Ein gŵr gwâdd ym mis Tachwedd oedd Tecwyn Vaughan Jones, sydd yn un o drigolion Llan ers rhai blynyddoedd bellach.  Rhoddwyd crynodeb o yrfa ddisglair Tecwyn gan Lonna oedd yn cynnwys swydd yn Sain-Ffagan, swydd yn Newfoundland, Caerdydd, Celtica yn Machynlleth, a chyfnod yn America ac ym Mhrifysgol Bangor. Ymddeolodd eleni.  Mae’n un o olygyddion Llafar Bro, ac mae yn gweithio i ail-sefydlu cangen o’r British Heart Foundation yn y Blaenau.  Treuliwyd noson ddifyr yn ei gwmni yn son am arferion Nadolig a Chalan Gaeaf a difyr oedd clywed am darddiad yr arferion ynglŷn â’r Gwyliau hyn, a deall fod cysylltiad paganaidd ynghlwm â’r hyn a ddathlwn.  Roedd yn noson ddifyr  aeth a ni ar daith i lawer ardal yng Nghymru i sôn am wahanol arferion yr adeg hon o’r flwyddyn.