Showing posts with label grwpiau. Show all posts
Showing posts with label grwpiau. Show all posts

10.7.26

Fideo Hud

Erthygl gan Cybi Williams, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2026 

Nôl yn nechrau Mai, Sul gŵyl y banc, es i lawr i’r Southbank. Wedi byw yn Llundain ers dros ddeg mlynedd, dwi’n nabod y bloc mawr concrit ma ar yr afon yn reit dda. Ma’n gartref i lefydd fel y National Theatre, y Royal Festival Hall, a llwyth o bethau eraill. Lle neis, bendant, ond braidd fel byncyr a dwi’n amau wetihiau os di hynny’n gwbl fwriadol.

Mynd o’n i i’r BFI, y British Film Institute, ar ôl cael neges gan Rhys Cell i weld screening fel rhan o ŵyl Rip It Up — gŵyl ffilm sy’n edrych ar fywydau pobl ifanc heddiw. 'Roedd criw CellB am ddangos dwy ffilm hefo’i gilydd. ‘Fideo Hud’ oedd enw’r cyfuniad: y ffilm gyntaf yn gyfres o ddarnau byrion Emyr Ankst- Emyr Ankst vs Andy Warhol, cyn dangos eu ffilm nhw, Glasbren, am fandiau ifanc Blaenau.

Yng ngofod cyntedd y BFI, sy’n fwy o grombil oeraidd na fydda rhywun yn disgwyl, oedd gwaith celf CellB yno i groesawu a chwalu’r mudandod. Yn y cyd-destun hwnnw, gan gyflwyno heb ofn, mi ddangosodd gwir ystyr ‘croeso’ i ddeud y gwir. Collage o bethau Cymreig oedd o— pentwr blin ar fyrddau ac ar y waliau o albums, recordiau, cylchgronnau, disco distaw, posteri, a mwy, a llwyth yn dod o Blaenau 'fyd. Arwydd o beth oedd i ddod; tyst fod Blaenau a’i phobl ifanc yn eu hanterth rwan cymaint ag erioed ac fod angen i bawb wybod. 

Er bod sawl ffilm yn dangos y penwythnos hwnnw, doedd neb arall wedi mynd i’r un ymdrech â chriw Cell i godi twrw am eu ffilmiau. Ma hynny’n bechod, dwi’n siwr, ond mi oedd gweld y cynnig gan Fideo Hud yn tywynnu dros bopeth arall yn ddigon i roi tân ym moliau y rheini ohnom ni oedd yno ac yn nabod ysbryd Blaenau. Ac eto doedd o’n malio dim am fod yn ddŵr poeth annifyr dros berfedd sefydliad anghysbell. Dim ond CellB ddoth yno i wirioneddol ddeud rhywbeth mae’n debyg.

Gan eistedd yn ein seddi wedyn, yn y theatr ei hun, a’n barod amdani, roedd y profiad o’r ddwy ffilm hefo’i gilydd wrth gwrs yn gampwaith. Y cynta, wedi’i roi at ei gilydd diolch i waith Gwenno Llwyd Till, yn gofnod o egni’r SRG yn ystod yr wythdegau hwyr hyd at y Super Furries. Y llall wedyn, Glasbren, gan Cian Clinc a Yannick Hammer yn dal fflachiadau o awydd bobl ifanc Blaenau i fynegi eu hunain ar eu termau eu hunain: drwy gerddoriaeth ac hefo’i gilydd, yn eu cymuned ac am eu cymuned. Doedd na ddim amheuaeth yn y theatr fod na bedigri i gelfyddyd a cherddoriaeth yr ardal. Roedd hyn yn slap digon-i-ddeffro rhywun doedd byth di clywed am y lle i ddechrau talu sylw. A dyna ddigwyddodd hefyd.

Pur anaml mae ffilm yn gwneud digon i gynhyrfu rhywun nes bod nhw’n dechrau holi am le’r byd a’i orbit, y mil o flynyddoedd nesa a’r dwytha, a pham nad yw Blaenau’n cael ei weld fel canolbwynt llachar y bydysawd. Dyma destun y wibdaith o gwestiwn agoriadol i’r panel (hefyd Rhys Ifans wrth y llyw) a oedd, i fi, y cwestiwn mwya nodweddiadol a ofynnwyd. Hwnnw sydd wedi aros hefo fi. Nid achos ei natur wyllt a weird, ond achos dwi’n meddwl mi oedd hwnnw, y cradur oedd yn gofyn y cwestiwn, wir wedi’i gweld hi. Mi oedd o wedi cael blas ar foddion y Fideo Hud. Wedi cymryd mwy na sip o’r gwpan - wedi cymryd ar ei gyfle i nofio yn nyfroedd cynnes diwilliant Blaenau.

Be nath daro fi oedd bod Cell, drwy gyfrwng y gwaith ffilm, yn dangos i ni mai Blaenau ydy canol y bydysawd, a’i phobl ifanc yn parhau i roi Big Bang ar ôl Big Bang i ni. Does na’m amheuaeth fod Cell yn lwcus iawn o’i bobl ifanc — a bod Blaenau, yn ei thro, yn lwcus iawn o Cell a’i ddiwylliant tref ôl-ddiwydiant. Dydio’m jyst yn ganolfan lleol; mae o’n ganolfan genedlaethol (ag o bosib, yn un intergalactic) sy’n parhau i gefnogi cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o bobl ifanc.

Mae’r neges yn un clir - byddwch yn effro i’r egni sydd gennym a gwnewch yn fawr o’r sŵn. Mi oedd o bron yn ormod i’r Southbank. Mae bandiau fel Swyth, Y Ddelwedd, a Canolmana ar ein stepan ddrws ac yn dilyn Llwybrau Llaethog, Ffa Coffi a Gorky’s. 

Er eich lles eich hunain, ewch i weld Fideo Hud, ewch i Cell pan fedrwch chi, trefnwch gigs i’r bandiau ifanc 'ma ac ewch i'w gweld nhw’n fyw - wnewch chi dim difaru!

 

21.4.20

Cymru, Lloegr, a Cell Blaenau

Erthygl gan Rhydian Morgan

Pan oeddwn i yn fy arddegau, roedd prosiect Gwallgofiaid yn cael ei gydlynu gan Rhys Roberts, a arferai chwarae efo bandiau megis ‘Anweledig’ a ‘Sibrydion.’ Y syniad oedd rhoi cyfle i bobl ifanc ‘Stiniog a thu hwnt i gael y profiad o ddechrau band, cael gofod i ymarfer ynddo a chwarae gigs gyda rhai o enwau mawr y sîn gerddorol yng Nghymru ar y pryd. Dwi’n cofio gweld artistiaid fel Euros Childs, Radio Luxembourg a Gruff Rhys yn rhannu llwyfan efo bandiau ifanc yr ardal. Ond, yn dilyn adnewyddu’r lle a dod â sinema yn ôl i’r Blaenau, fe ddiflannodd y syniad i ryw raddau.

Bellach mae Clwb Clinc wedi tyfu o wreiddiau’r Gwallgofiaid, ac mae cyfle i bobl ifanc yr ardal gymryd rhan mewn gweithdai roc, DJ, ffilmio a chynhyrchu ar nosweithiau Mawrth. Dau o arweinwyr y gweithdai yw Sion Roberts, un o’r Gwallgofiaid gwreiddiol [sydd bellach yn arbenigo yn y byd sain ac wedi graddio mewn “Recordio Stiwdio a Pherfformio Byw” o Brifysgol Glyndŵr], ac Owain Llyr, y cyflwynydd radio a’r cerddor, sydd hefyd yn rhedeg cwmni aml-gyfrwng Gweledigaeth yng Nghaernarfon.

Un o aelodau'r Clwb Clinc yn cynorthwyo Marc MR Roberts. Llun- Cell
Roedd Chwefror 29 yn noson fawr i griw Clwb Clinc, wrth i’r bobol ifanc gael y profiad o weithio ar gig MR a Kim Hon. Roedd y profiadau yn cynnwys rheoli llwyfan, bod yn roadies i’r bandiau a gweithio ar y system oleuo a’r sain yn ystod y setiau byw. Roedd hi’n hynod o braf gweld criw ifanc oedd mor frwdfrydig i ddysgu ac eisiau gofyn cwestiynau i’r arbenigwyr er mwyn sicrhau fod popeth yn mynd yn iawn ar y noson. Mae Kim Hon yn fand o ardal Dyffryn Nantlle. Cafodd ei greu allan o aelodau Y Reu a chaiff ei arwain gan y prif ganwr, Iwan Fôn (neu ‘Jason’ o’r opera sebon Rownd a Rownd).Yn ystod eu set, roedd un o’r criw wedi penderfynu arddangos ei sgiliau dawnsio ym mlaen y dorf, ac fe arweiniodd hynny at gyfle iddo gamu i’r llwyfan!

Kim Hon. Llun- Rhydian Morgan
Yn mis Hydref y llynedd, fe ryddhawyd Amen, ail albwm y band MR, sef prosiect unigol cyn aelod Y Cyrff a Catatonia, Mark Roberts. Roedd hyn yn dilyn llwyddiant yr albwm cyntaf, Oesoedd. Dyma ddeunydd Cymraeg cyntaf i Mark ryddhau ers Oes, albwm Y Ffyrc yn 2006. [Sylwch ar glyfrwch teitlau’r 3 albwm yma ... OES, OESOEDD, AMEN].

Roedd hi’n teimlo bron fel gig lleol i Mark ac yntau’n hanu o Lanrwst. Roedd hi’n amlwg ei fod o’n mwynhau bod ar y llwyfan yn perfformio traciau oddi ar y ddwy albwm, yn ogystal ag ambell i glasur Y Cyrff megis Hwyl Fawr Heulwen, Llawenydd Heb Ddiwedd cyn cloi y noson efo’r anthem, Cymru, Lloegr a Llanrwst. Er nad oedd hi’n orlawn yno, roedd gwerthiant y tocynnau wedi bod yn hynod dda gyda’r dorf yn parhau i forio canu yr holl glasuron, efo Dewi Prysor ar flaen y gad.


MR. Llun- Paul W
Credaf ein bod yn mynd drwy gyfnod euraidd o fewn y sîn gerddorol yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae bandiau o bob arddull yn cael cyfle i serennu ar lwyfannau ar draws ein gwlad a thu hwnt, diolch i bartneriaethau rhwng gwyliau Cymru a rhai gwledydd eraill.

Yma yn Stiniog, rydym wastad wedi bod â thraddodiad cryf o sefydlu bandiau, gyda rhai yn cael cyfle i chwarae eto wedi ail-ddyfodiad Gŵyl Car Gwyllt. Mae Yws Gwynedd bellach yn rhedeg label ei hun - Recordiau Côsh, ac mae rhestr hir o fandiau ifanc mwyaf y sîn o fewn y stabl yma.

Yn bersonol, hoffwn i weld mwy o fandiau yn cael cyfle i ddod i Stiniog i berfformio. Tybed a gaiff hynny ei wireddu? Ydi ieuenctid heddiw yn ymwybodol o’r holl fandiau gwych sy’n canu yn ein mamiaith?
--------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2020


30.1.15

Lleuad Borffor

Band gwerin ydy Band Arall a bu’n fwriad ganddynt gynhyrchu cryno ddisg ers peth amser.

O’r diwedd, fe gyflawnwyd y dasg honno ac mae Lleuad Borffor bellach ar werth. Lansiwyd y CD heno yn nhafarn Y Pengwern, Llan.

Mae arni 12 o draciau, a chan fod y rhan fwyaf o’r band yn hannu o Fro Ffestiniog, Trawsfynydd a Meirionnydd, yna mae llawer o’r caneuon yn adlewyrchu hynny. Ceir arni amrywiaeth o alawon a chaneuon traddodiadol megis Efo Deio i Dywyn a Codi Angor a hefyd gynhyrchiadau mwy cyfoes gan aelodau’r band ei hun, fel Lleuad Borffor gan Gerallt Rhun, ac alaw Hefin Jones, Lliw’r Machlud

Mae’r traciau eraill -fel y clincar Y Car Gwyllt wedi ennill eu lle am fod aelodau’r band yn cael cymaint o bleser o’u canu neu eu chwarae.

Y bwriad wrth greu’r CD oedd rhoi ar gof a chadw rywfaint o waith ac o brofiad yr aelodau yn ystod yr ugain mlynedd ers ffurfio’r band, ond bydd eraill hefyd yn siŵr o gael llawer o bleser o wrando ar yr amrywiaeth ddifyr sydd i’w chael ar Lleuad Borffor.