13.6.23

Maen Hir Nant y Lladron

Erthygl gan Dewi Prysor, o rifyn Mai 2023

Rydw i wrth fy modd yn crwydro’r wlad er mwyn gweld y llu o henebion o’r Oes y Cerrig olaf ac Oes yr Efydd; cylchoedd cerrig, carneddau claddu a chistiau, meini hirion a rhesi a pharau o feini, a hynny drwy Gymru benbaladr; a Chernyw, Cumbria a’r Alban a’i Ynysoedd, a hyd yn oed Llydaw. Mae’r rhan fwyaf o’r henebion yma yn perthyn i’r Oes Efydd, a mae eu carneddau a cylchoedd a meini yn fy nenu tuag atyn nhw bob cyfle a gaf. 

Tra bo’r carneddau claddu o bob math yn amlwg yn gladdfeydd, a’r rhan fwyaf ohonynt ar dir uchel ac ar ben copaon ein mynyddoedd a bryniau, mae’r cylchoedd a meini a’r rhesi a pharau yno am reswm penodol, megis defodau a gwylio’r sêr a’r haul ac ati. Ond mae’n debyg bod rhesymau eraill i rai o’r meini hirion – y rhai hynny sy’n sefyll ar ben eu hunain, a hynny yn go aml ar ryw hen lwybrau o’r hen oesau pell. Meini gobaith y mae rhai yn eu galw nhw, am eu bod nhw’n dangos y ffordd i deithwyr oedd yn masnachu rhwng Iwerddon, Cymru ac Ewrop. O bosib. Mae rhai o’r meini gobaith hyn efo’u talcen yn pwyntio i rhyw gyfeiriad. Mae hyn yn digwydd yn Ynysoedd Heledd a’r Ynysoedd Mewnol yn yr Alban, yn ogystal a Chymru a gorllewin Prydain, fel Cumbria a Cernyw. 

Eitha prin ydi meini hirion ardal Llafar Bro. Mae’r rhan fwyaf ohonynt ym mhlwy Trawsfynydd, a dim ond dau sydd yno. Dyna i chi Llech Idris ger afon Cain yng Nghwm Dolgain, yn glamp o lech gyda un o’i glustiau yn pwyntio’n amlwg i gyfeiriad y Rhinogau. 

Mae’r llall yn sefyll ar dir fferm Brynmaenllwyd, nepell o ffordd yr A470 rhwng Trawsfynydd a Bronaber. Nid maen gobaith ydi hwn, gan fod yno ddau faen yno, yn sefyll tua llathen neu ddwy oddi wrth ei gilydd. Pâr o feini ydyn nhw, un yn 1.4 metr, a’r llall dipyn yn llai. Efallai y gosodwyd y maen mwyaf a’r maen llai ar bwrpas – efallai yn dynwared rhywbeth yn y tirlun – neu fod y lleiaf wedi suddo, gan fod y ddau faen wedi gwyro gan mai cors oedd y tir am tua 4,000 o flynyddoedd. Ac wrth feddwl am hynny, tybed fod yr hen bobl wedi codi cofeb i rywun a fu farw yn y gors – tad a mab, efallai? Ac mi all fod yn ddôr defodol i bobl yr Oes Efydd gerdded trwyddo i daflu eitemau i’r gors, lle’r oedd y gors yn cynrhychioli dau fyd – y gors ddim yn ddŵr nac yn dir, ac felly y gellid cysylltu a’r byd arall. Annwfn efallai?

Mae’r maen hir arall sydd yn ardal Llafar Bro ym mhlwy Maentwrog, ac yn sefyll ger wal mynedfa eglwys y pentref. Maen Twrog ydi enw’r maen hwn bellach, wedi ei enwi ar ôl un o’r seintiau ddaeth o Lydaw o dan arweiniad Sant Cadfan. Yn ôl y Mabinogi claddwyd Pryderi o dan y maen hwn, ond yn ôl arbenigwyr maen oedd unwaith yn rhan o gromlech, sef claddfa porthol, oedd y maen, sy’n dangos ei fod o’n dyddio o’r Oes Cerrig olaf. 

Mae un maen arall yn ardal Llafar, ac ym mhlwy Ffestiniog mae o. Maen Cantiorix ydi ei enw, gyda’r ysgrifen enwog wedi ei grafu arno. Ond mi rown ni sylw i hwnnw rywbryd eto, gan nad yw yn faen hir o’r cyfnod Oes Cerrig ac Efydd, tra bod Maen Cantiorix yn dyddio o ddiwedd y 5ed ganrif. Yn wir, mae’r maen ei hun yn cael ei gadw yn Eglwys Penmachno, tra bod yr un sy’n sefyll ger wal Gwaith Dŵr Garreg Lwyd ger Beddau Gwŷr Ardudwy, yn replica.

Lluniau Dewi Prysor

Ond mae ’na faen hir arall yn ardal Llafar Bro, un nad oes llawer yn gwybod amdano. A mae o ym mhlwy Trawsfynydd – hanner milltir o’r ffîn rhwng plwyfi Traws a Llanycil. Tua 13 mlynedd yn ôl ro’n i’n pori ar wefan Archwilio GAT (Gwynedd Archaeological Trust), lle’r oedd smotiau bach coch yn dangos holl henebion yr ardal. Mae modd clicio ar y smotiau coch yma, ac mi ddaw gwybodaeth am yr hyn oedd o dan y smotyn. Pori plwy Trawsfynydd o’n i pan welais i faen hir a enwyd gan yr archaeolegwyr ‘Standing Stone, Nant y Lladron’. Mi wn yn iawn am Nant y Lladron, mae’r nant yn rhedeg o’r Migneint gan lifo o dan Pont Nant y Lladron ac o dan ffordd y Migneint, cyn llifo drwy’r coed coedwigaeth a llifo i afon Prysor rhyw hanner milltir uwchben traphont rheilffordd Cwm Prysor. Mae’n debyg mai archwilio’r ardal oedd yr archaeolegwyr, gan fod mynydd fferm Blaen y Cwm wedi ei werthu i’r Goedwigaeth yn 1979, ac roedd rhaid archwilio’r ardal cyn i’r Goedwigaeth wneud llanast. Dyma’r wybodaeth:

Standing Stone, Nant y Lladron
Primary Reference Number (PRN) : 1559
Site Type : STANDING STONE
Period : Prehistoric
Community : Trawsfynydd   NGR : SH77973964
Description :   "Standing stone, large block c1.5m high." Fieldwork 1979 RSK and P. Crew. <1>
Sources :    Kelly, R. S. , 1979 , PRN 1554 , <1>
Smith, G. , 2001 , Prehistoric Funerary and Ritual Sites Survey: Meirionnydd , <2>
Events :    42054 : Blaencwm Prysor Survey (year : 1979)
40529 : Prehistoric Funerary & Ritual Monuments: Meirionnydd (year : 2001)

Wrth gwrs, bu rhaid i mi fynd i chwilio am y maen – a hynny yn yr eira. Mae o’n sefyll tua 50 llath o ffordd Migneint a’r bont, a tua canllath o nant Nant y Lladron, yn y goedwig bellach, rhyw dafliad carreg o’r llwybr peilons. Mi gefais i dipyn o waith chwilio am y maen, a hynny drwy goed trwchus, ond yn y diwedd, mi welais i o, mewn rhyw lannerch bychan a’r golau yn disgyn ar ei war. Wel, sôn am wefr hudolus gefais wrth ei weld, ei gefn a’i ochrau yn fwsog gwyrdd tew, fel cwrlid neu glogyn, ond ei wyneb yn foel a llwyd, a’i glust yn pwyntio i rhyw gyfeiriad tuag at y Rhinogau. Bu bron i mi ddawnsio, na, mi wnes i ddawnsio! Dwi’n meddwl bod y maen yn falch i fy ngweld i. Doedd o heb weld neb ers 1979! Wel, efallai... Dwi wedi bod yno sawl gwaith bellach, a rydw i’n cael yr un teimlad hapus bob tro fydda i yno. Mae’n hen bryd i mi fynd yno i’w weld o eto. Mae o angen cwmni, a rydw innau angen dawnsio yn y coed!



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon