16.6.23

Ysgoloriaeth Patagonia 2023

Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Patagonia 2023 i Terry Tuffrey, Cae Clyd mewn seremoni yn Swyddfa’r Cyngor yn Y Ganolfan Gymdeithasol. 

 

Terry fydd y seithfed person ifanc o’r ardal sydd wedi ennill yr Ysgoloriaeth arbennig hon i bobl ifainc sydd wedi eu magu o fewn terfynau Cyngor Tref Ffestiniog:

2016 Mia Jones
2017 Elin Roberts
2018 Lleucu Gwenllian
2019 Mark Wyn Evans
2020 Hanna Gwyn
2021 Gari Wyn Jones

2022 Elin Roberts
2023 Terry Tuffrey

(Mae'r rhestr uchod yn cynnwys dolenni at yr erthyglau a gafwydd gan y bobl ifanc ar ôl eu teithiau, i'w cynnwys yn Llafar Bro -gol.)

Bu’r Ysgoloriaeth yn llwyddiant drwyddi draw a’r bobl ifainc hyn yn magu a meithrin cysylltiadau pwysig gyda’n gefeilldref, Rawson, ac yn cael cyfle i deithio hyd a lled Patagonia. Roedd hyn yn rhan o’r gobaith pan sefydlwyd y gyfeillio rhwng Rawson a’r Blaenau yn 2015 a phenderfynodd y Cyngor gynnig Ysgoloriaeth i anfon person ifanc draw i Rawson a Phatagonia bob blwyddyn i gryfhau'r berthynas, ac i ddysgu pobl Patagonia am yr ardal hon a brodorion yr ardal hon i ddysgu am Batagonia. Roedd gan bob un o’r enillwyr eu harbenigedd a’u diddordebau personol a chysylltwyd gan amlaf â phobl oedd yn rhannu eu diddordebau. Bu bob un yn traethu ac arddangos mewn ysgolion ym Mhatagonia a rhoi cyfle i blant Y Wladfa glywed am yr ardal hon.

Cadeirydd Cyngor Tref Ffestiniog Rory Francis, beirniaid yr ysgoloriaeth Nans Rowlands, Ceinwen Humphreys, Anwen Jones a Tecwyn Vaughan Jones; efo Terry

Mae Terry, yr enillydd eleni yn dangos diddordeb mewn sawl pwnc ac fe gaiff gyfle i fireinio ei ddewisiadau dros y misoedd nesaf - mae’n gobeithio cael bod ym Mhatagonia yn ystod Eisteddfod y Wladfa ym mis Hydref. Yn ei ysgrif ardderchog mae'n dangos diddordeb mewn cysylltu â chwaraewyr rygbi ac wrth gwrs mae tîm Rygbi Draig Goch eisoes yn adnabyddus ar hyd a lled Patagonia ac mae rygbi yn un o chwaraeon cenedlaethol Yr Ariannin. Mae Clwb Rygbi Bro Ffestiniog wedi gwneud cyfraniad sylweddol i dwf rygbi yng Ngogledd Cymru. 

Mae Terry yn ogystal yn sôn am ei ddiddordeb mewn amddiffyn yr Amgylchedd, ac mae tref y Blaenau yn rhagori ac yn gosod esiampl o sut i fynd a’r agenda hwn ymlaen ar lefel lleol. Mae anabledd hefyd yn uchel ar agenda Terry ac nid yw hyn eto wedi cael sylw gan ymgeisydd blaenorol, gobeithio y medr Terry fagu cysylltiadau gyda chymdeithasau arbenigol sy’n delio ag anabledd yn Y Wladfa.

Mae Terry yn gyn ddisgybl Ysgol Manod ac hefyd Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraeth. Mae Ysgol Hafod Lon yn Ysgol ddyddiol ar gyfer plant gydag ystod eang o anghenion ychwanegol.

Llongyfarchiadau mawr iddo a gobeithio y caiff gymorth gan nifer o unigolion yn yr ardal sy’n ymddiddori yn y testunau mae wedi eu nodi uchod.     TVJ
 - - - -

UN O’N SÊR NI ‘DI TERRY 

Ar raglen ‘Drych’ ar S4C nos Sul y 23ain o Ebrill, cafwyd cyfle i ddod i adnabod un o bobl ifanc ysbrydoledig dalgylch ‘Llafar Bro.’

Breuddwyd Terry Tuffrey ydi bod yn ‘DJ’, a thros y flwyddyn ddiwethaf, mae camerâu Cwmni Da wedi bod yn ei ddilyn wrth iddo raddio a mynd amdani i geisio gwireddu ei freuddwyd.

Cafodd Aled Hughes o BBC Radio Cymru sgwrs gyda Terry am ei raglen a’i ddyheadau eraill ar gyfer y dyfodol. Eglurodd pa mor wych oedd y cwmni teledu wedi bod gydag o dros y flwyddyn aeth heibio, gan fynd ag o i wahanol lefydd i’w ffilmio’n cymryd rhan yn gwneud ei amrywiol ddiddordebau.

Mae’n angerddol dros gerddoriaeth gan mai dyna sy’n rhoi’r pleser mwyaf iddo. Pan fydd rhywun yn teimlo braidd yn isel, mynna Terry fod gwrando ar gerddoriaeth yn fodd i godi’r ysbryd. Manylodd ar y math o gerddoriaeth mae’n ei fwynhau orau. 

Gan iddo gael y fraint a’r anrhydedd o ganu efo Elin Fflur ar y rhaglen deledu ‘Canu Gyda Fy Arwr,’ naturiol oedd iddo’i dewis hi. A chan fod Gai Toms yn un o’r ardal, dywedodd ei fod yn gwirioni ar ei ganeuon gwych yntau. Y grŵp Saesneg sy’n apelio ato ydi ‘Little Mix,’ gan ei fod yn hoff o’u caneuon hapus a’i fod yn gallu dawnsio iddyn nhw. 

Ar ran o’r rhaglen ‘DRYCH,’ gwelwyd Terry’n Stiwdio’r BBC ym Mryn Meirion, Bangor yn dysgu am gynhyrchu radio a chyd-gyflwyno yn fyw ar yr awyr. Dysgodd sut mae radio a cherddoriaeth yn cael ei llwytho mewn i wahanol raglenni. Mae’n argyhoeddedig y bydd y profiad yma’n help iddo wneud y penderfyniad cywir ynglŷn â bod yn ‘DJ.’   
Ond nid cerddoriaeth a throelli digiau sy’n cadw Terry’n brysur y dyddiau hyn.  Mae wedi dechrau dysgu Sbaeneg am fwy nag un rheswm. Oherwydd fod y teulu’n ymwelwyr cyson â Tenerife, mae Sbaeneg wedi dod yn bwysig iawn iddo.

Oherwydd ei lwyddiant yn ennill Ysgoloriaeth Patagonia, yn sicr, fe fydd y Sbaeneg yn fuddiol iawn iddo yno.  

Mae holl ddarllenwyr ‘Llafar Bro’ yn dymuno pob llwyddiant i ti Terry.

- - - - - - - -

Addasiad sydd uchod o ddarnau a ymddangosodd yn rhifynnau Ebrill a Mai 2023


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon