Mae rhifyn Hydref allan, ac yn llawn o erthyglau, newyddion, cyfarchion a lluniau eto.
Mae'r rhifyn yn rhoi lle amlwg eto i'r ymgyrch i adfer gwasanaethau llawn yn yr ysbyty coffa.
Mae'r Pwyllgor amddiffyn yn egluro ar y dudalen flaen a thu mewn, yn UNION be maen nhw'n feddwl o waith y bwrdd prosiect lleol.
Darllenwch yn llawn yn Llafar Bro, ond dyma flas o'r erthygl:
Y pedair egwyddor bwysicaf yng ngolwg y Bwrdd
Prosiect oedd y rhain --
(i)
‘Cael gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a gwirfoddol yn yr un
lle.’
Gan
y gwyddom eisoes mai’r bwriad yw symud y feddygfa hefyd i’r ‘lle’ hwnnw, sef
adeilad yr Ysbyty Coffa, yna rhaid gofyn beth fydd ar ôl yn y Ganolfan Iechyd
bresennol a beth yw cynlluniau’r Bwrdd ar gyfer yr adeilad hwnnw? Nid ei werthu meddan nhw heddiw, ond be am fory?
(ii)
‘Canolbwyntio ar atal salwch a lles’:
Syniad gwreiddiol yn wir, sef cael gwasanaeth iechyd a fydd yn canolbwyntio ar gadw
pobol yn iach! Onid atal lles pobol yr ardal oedd gneud i ffwrdd â’r Uned Mân
Anafiadau a’r Uned Pelydr-X , a gwrthod derbyn cleifion i’r Ysbyty Coffa? A
sut, meddech chi, bod colli dau feddyg o’r practis lleol yn helpu i atal salwch?
[Er gwybodaeth, doctoriaid Penrhyndeudraeth a gafodd y
contract o ofalu am Ysbyty Alltwen ac fe wyddom fod y practis hwnnw wedi elwa’n
sylweddol ers hynny oherwydd mae gan bentref Penrhyndeudraeth, erbyn heddiw, gymaint
â phump o ddoctoriaid yn cynnig eu gwasanaeth, o gymharu â dim ond dau yn y cylch
hwn!]
(iii)
‘Cynnwys uned addysg i ddatblygu sgiliau cymuned’:
Be
ar y ddaear mae hwnna’n feddwl, meddech chi? Ai awgrym sydd yma nad ydi’n
nyrsys ni ddim wedi bod yn datblygu eu sgiliau ar hyd y blynyddoedd?
(iv)
‘A’r potensial ar gyfer datblygu ymhellach yn y dyfodol’:
Ys
dywed y Sais – ‘Enough said!’
Aeth yr erthygl ymlaen wedyn i ddyfynnu Dr Bill
Whitehead, Cyfarwyddwr Prosiect a Chadeirydd y Bwrdd. ‘Os bydd ein
cynlluniau’n llwyddo’ – ‘Os’, sylwch, nid Pan! – ‘bydd Blaenau Ffestiniog yn
dangos y ffordd ymlaen i weddill Cymru.’ Rhaid bod y dyn yma, efo gradd
Rhydychen tu ôl i’w enw, yn meddwl ein bod ni’n ddiniwed ar y naw os ydi o’n
disgwyl inni lyncu rhyw addewidion ac ystrydebau gwag fel’na. ‘Rhaid edrych ymlaen yn hytrach nag yn ôl,’ meddai. Ia, hwylus
iawn, o gofio mai fo a’i debyg a fu’n gyfrifol am y sefyllfa drychinebus rydan
ni ynddi, bellach.
Hefyd yn rhifyn Hydref, mae'r Pigwr yn rhoi ei farn yn berffaith glir:
 |
Llun PW |
Yn
dilyn ymddiswyddiad tri o aelodau blaenllaw, bradwrus Bwrdd Iechyd Betsi
Cadwaladr, a fu'n gyfrifol o'r penderfyniad i gau'r Ysbyty Coffa leol, daeth
cwango newydd i rym.
Ond, ddarllenwyr annwyl, os ydych yn disgwyl newidiadau syfrdanol i'r
gwasanaeth iechyd, neu'n gobeithio gweld ailsefydlu rhywbeth tebyg i'r hyn a fu
ar gael i gleifion yr ardal dros y blynyddoedd, meddyliwch eto. Yn lle'r hyn a
ladratwyd oddi wrthym mor greulon gan y diawliaid dideimlad hynny ym mis
Mawrth, cynigir rhyw destun gwawd o wasanaeth eilradd ar ein cyfer.
Mae
Gwasanaethau Hamdden Gwynedd (be wnelo'r rhain â'r gwasanaeth iechyd, dyn a
ŵyr) am gynnal Dosbarth atal codymau ar b'nawniau Mercher. Ac o fis Hydref
ymlaen, mi fydd rhaglen 'Bwyd Doeth' yn dechrau, unwaith yr wythnos. Hwre!! Mi
fydd hynny'n siŵr o wella'r holl gleifion sy'n diodde' o amrywiol anhwyldera,
ac yn disgwyl ers misoedd am wely mewn ysbyty! Be fydd cynllunia' chwyldroadol
nesa'r bartneriaeth tybed? Dobarthiada' tidliwincs i'r henoed, neu glinic Bingo
trwy gyfrwng y Gymraeg, fel modd i ymlacio, ac i anghofio am holl broblemau gofal
iechyd ym Mlaenau Ffestiniog?