20.10.23

Gwledd y Car Gwyllt

Adolygiad o ŵyl eleni gan Dewi Prysor

Bu Gŵyl Car Gwyllt eleni yn llwyddiant anferth, gyda haul Gorffennaf yn gwenu ar y cannoedd oedd yn heidio i weld y lein-yp gorau o fandiau a gafwyd ers blynyddoedd. Unwaith eto roedd gennym ddau lwyfan, y llwyfan mawr tu allan ar faes parcio y Clwb Rygbi, a llwyfan y tu mewn i’r clwb, gyda’r bandiau yn chwarae bob yn ail ar y ddau lwyfan a’r gynulleidfa yn cael gweld a mwynhau pob un band. 

"Ry'n ni yma o hyd..."

Ar y nos Wener cawsom wledd arbennig ar y llwyfan tu allan, a’r noson yn dechrau gyda Yr Ogs, y band ifanc o’r Blaenau. Yr Ogs agorodd yr ŵyl y flwyddyn dwytha hefyd, a hynny yn y Clwb, ond eleni mi gawson nhw y fraint o gael agor yr ŵyl ar y llwyfan mawr y tu allan. Roeddyn nhw’n wych, chwara teg. 

Yn dilyn yr Ogs roedd Chwaral, band ifanc arall yn hannu o Lanrwst, heblaw am Hannah y gantores sy’n dod o’r Manod. Mae ei llais cyfoethog yn hudolus ac arbennig iawn, ac roedd y band hefyd yn wych. 

Yn dilyn Chwaral roedd Gwilym, un o fandia mwya poblogaidd y sîn Cymraeg erbyn hyn, ac mi chwaraeodd y band yn y Car Gwyllt pan gafwyd y marcî ar y cae rygbi tua 6 mlynedd yn ôl. Eleni, mi heidiodd llu i’w gweld nhw ar y llwyfan mawr a mi ddechreuodd y dorf ddawnsio. 

Yn gorffen y noson roedd neb llai na’r arwr Dafydd Iwan a’i fand, a daeth lluoedd i’r ŵyl i’w weld o. Braf oedd gweld ugeiniau o bobl ifanc yn rhesi o flaen y llwyfan yn canu â’u breichiau yn yr awyr. Roedd hi’n wych i weld cenhedlaeth ifanc newydd yn addoli Dafydd, a fyntau wedi pasio ei 80 oed. 

Mi ganodd Dafydd ei hen ganeuon, a gorffen – wrth gwrs – efo’r anthem drawiadol, enwog, ‘Yma o Hyd’. Roedd Dafydd yn ei elfen, y dorf wrth eu boddau yn canu’r geiriau i gyd. Roedd hi’n noson wefreiddiol – ac emosiynol hefyd i lawer. 

O BOSIB Y GŴYL CAR GWYLLT GORAU ERS OES PYS (A MAE HYNNY YN DDWEUD MAWR)!

Bu rhaid i Ffatri Jam fethu a dod i agor yr ŵyl ar y dydd Sadwrn, oherwydd i un ohonyn nhw gael damwain sydyn, felly Hap a Damwain a ddechreuodd y miwsig, a hynny tu fewn y Clwb. Mae’r ddeuawd yma yn creu miwsig unigryw iawn, ac yn hen ffrind i Car Gwyllt. Daeth tua 40 o bobl i’w gwylio nhw ac i ddawnsio, a hithau ond tua 1 o’r gloch y pnawn. 

Nesaf roedd Crinc ar y llwyfan mawr, band pync o ardal Bangor dwi’n meddwl, a sioe wych ar y llwyfan, yn enwedig pan ymunodd 3 Hŵr Doeth efo nhw. Roeddan nhw’n danbaid, a’r dorf wrth eu boddau. 

Kim Hon oedd wedyn, ar y llwyfan tu mewn. Roeddan nhw’n drydanol, yn gyrru’r dorf o tua chant yn boncyrs! 

Tara Bethan, 3 Hŵr Doeth, Gwilym, MR. Lluniau Dewi Prysor, Paul Williams
Dilynwyd Kim Hon gan Alffa oedd ar y llwyfan mawr; dau ffrind o Llanrug, Dion Jones y gitarydd a Sion Land y drymiwr. Mae metal trwm newydd y deuawd yma yn cael ei chwarae drwy’r byd, yn enwedig y gân ‘Gwenwyn’ a gafodd ei chwarae 1 miliwn o weithiau ar Spotify – y gân Gymraeg gyntaf i wneud hynny, ac erbyn hyn mae’r gân wedi ei chwarae dros 2 filiwn o weithiau.  

Band arall sy’n ffrind da i Gŵyl Car Gwyllt ydi 3 Hŵr Doeth (sydd â tua saith aelod), ac ar lwyfan y Clwb roeddan nhw’n chwarae y tro hwn. Mae eu caneuon rap hwyliog â’u geiriau afieithus a direidus wrth dynnu blew o drwynau’r sefydliad a’r gwleidyddion, yn hollol wych. Roedd y Clwb yn llawn, a pawb yn canu efo’r band. 

Tara Bandito oedd nesa, ar y llwyfan tu allan. Roedd hi a’i band wedi gyrru o Gaerdydd, ble’r oedd hi newydd ganu mewn gŵyl arall yn y brifddinas. Chwarae teg iddi am wneud yr ymdrech i ddod i Blaenau. Mae gan Tara sioe ddramatig ar y llwyfan – ac yn wir, cyn cyrraedd y llwyfan. Syndod oedd gweld 4 o aelodau ei band yn cario ‘arch’ tuag at y llwyfan, a phan gyrhaeddwyd y llwyfan tynnwyd caead yr arch i ffwrdd, a neidiodd Tara allan a dechrau canu ei chân ‘Croeso i Gymru’. Gwychder eto!

HMS Morris oedd nesaf, yn y clwb. Dyma fand a hanner sydd yn llawn egni ac yn swnio fel y Clash ar adegau. Heledd ydi’r prifleisydd ac yn chwarae gitar, a’r aelodau eraill yn chwarae drymiau, gitar, bas a synth. Wedi eu gweld nhw sawl gwaith o’r blaen, yn enwedig yn CellB Blaenau rhyw ddeufis cyn Car Gwyllt. Yn y Clwb roeddyn nhw’n anhygoel, a daeth â tua cant o bobl i neidio a dawnsio o’u blaen, a phawb wrth eu boddau. Mae HMS Morris wedi teithio dros y byd, o’r America i Siapan, a tydi hynny ddim yn syrpreis gan eu bod nhw’n fand arbennig iawn.

Los Blancos oedd nesaf ar y llwyfan mawr. Dyma fy hoff fand Cymraeg ers tua 5 mlynedd. Mae nhw’n hollol wych ar record ac yn fyw ar unrhyw lwyfan. Maen nhw’n hannu o gwmpas Sir Gâr ac yn gerddorion gwych, yn ogystal â bod yn griw cyfeillgar. Mae’r Blancos yn ffans o’r Brian Jonestown Massacre, ac wedi gwrando ar eu stwff nhw ar Soundcloud roedd rhaid i mi fynd i’w gigs nhw. Mae ganddyn nhw sŵn tebyg i’r Brian Jonestown Massacre, yn ogystal â roc a pync gwych. Ar ôl chwara yn Car Gwyllt llynedd, yn chwarae tu mewn, roedd rhaid i ni eu rhoi nhw ar y llwyfan mawr. Dyma un o’r gigs gorau yn yr ŵyl. Ac mae eu ail albym nhw allan cyn hir. Bendigedig!

Yn y Clwb roedd Chroma, band arall sydd wedi bod yn teithio drwy’r byd, ac wedi bod yn cefnogi’r Idles a’r Joy Formidable a llawer mwy. Tri aelod sydd i’r band, gitar, bas a dryms, a Katie ydi’r prifleisydd. Mae’r band yma hefyd yn llawn egni, a llais Katie yn bwerus ac yn llenwi’r llwyfan a denu’r dorf. 

Felly dyma ni yn cyrraedd y band olaf, sef MR, band yr ydw i wedi bod yn dilyn eu gigs ers cyn y Covid ac wedi iddyn nhw ailddechrau. Cnewyllyn y Cyrff sydd yma, sef Mark Roberts (MR) yn canu a chwarae’r gitar, a Paul Jones y basydd. Mae Mark wedi bod yn cyfansoddi caneuon newydd ers rhai blynyddoedd bellach, ac mae 5 aelod yn y band. Un o’r rheini ydi Owen Powell ar gitar. Ymhell o ddyddiau Cyrff bu’r tri yma, Mark, Paul ac Owen Powell yn rhan o Catatonia, ac wedi i’r band hwnnw beidio bod, bu Mark a Paul yn rhan o Sherbet Antlers gyda John Griffiths a Kevs Ford (Llwybr Llaethog), ac ychydig flynyddoedd eto mi ffurfiodd Mark a Paul Y Ffyrc, cyn ymuno a The Earth. 

Erbyn hyn, mae’r hogia’n fflio mynd, gydag Osian Gwynedd yn chwarae’r piano a synth. Aeth torf y Car Gwyllt yn wyllt wrth i’r band chwarae caneuon gwych un ar ôl y llall, gan chwarae rhai o hen glasuron y Cyrff, yn enwedig ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’. Ac efo’r clasur honno, daeth y noson i ben. Diolch yn fawr MR am sioe wych! 

Rhaid hefyd diolch i Pys Melyn am ddod i’r Tap i ganu ar bnawn y dydd Sul. Ardderchog! 

Reit ’ta, ar ôl mynd yn ôl a mlaen o un llwyfan i’r llall, gan redeg i gael ambell lun a fideos rhwng stiwardio ar y llwyfannau, a gweld yr holl fandiau ardderchog yma i gyd, does dim rhyfedd fod yr hyn rydw i wedi ei sgwennu uchod: “O BOSIB Y GŴYL CAR GWYLLT GORAU ERS OES PYS. A MAE HYNNY YN DDWEUD MAWR!”
- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn rhifyn Medi 2023


18.10.23

Baiaia!

Adolygiad CD Newydd Gai Toms gan Hefin Wyn Jones

Fel rhywun sydd wedi dilyn gyrfa Gai Toms ers ei ddyddiau yn Anweledig, braf iawn oedd mynychu lansiad ei CD diweddaraf “Baiaia” yn Siop yr Hen Bost ar bnawn Gwener olaf Gorffennaf.

Esboniodd Gai fod y 10 cân newydd ar y CD wedi eu cyfansoddi mewn cyfnod o ddau fis yn ystod haf 2022, ac er ei fod wedi cyfansoddi set o ganeuon yn ystod y cyfnod clo covid, y caneuon diweddaraf y dewisodd eu recordio gyntaf.

Chwith- clawr yr albym. Dde- Gai yn lansio'r CD; llun Paul W

Yn ymuno efo Gai ar y CD mae’r ffyddlon Euron “Jôs” Jones (gitâr flaen) sydd wedi bod yn y band efo Gai ers y cychwyn, Nicolas Davalan (gitas fâs) o Ddinas Mawddwy ond sydd â’i wreiddiau yn Llydaw, Dion Evans-Hughes (drymiau), chwaer Gai, Elaine Thomas Gelling (lleisiau cefndir), Steffan Harri (lleisiau Cefndir), Einir Humphreys (leisiau Cefndir ar drac 5), Aled Wyn Hughes (bâs ar drac 5) yn ogystal a nifer o gyfeillion Gai sy’n canu lleisiau cefndir ar trac 9.

Y Berllan yw’r gân gyntaf ar y CD, ac mae’n procio’r gwrandawr i feddwl beth all fod yr “ochr draw” i’r sefyllfa bresennol, rhaid cicio’r waliau os am greu gwell dydodol.

Yn yr ail gân Agorydd mae Gai yn chwarae ar un o eiriau yr hen chwarelwyr i ddisgrifio agorydd i brofiadau newydd sy’n ein disgwyl, dim ond i ni fentro. 

Y drydedd gân ydy Melys Gybolfa ac yn hon mae Gai yn ein gwâdd i mewn, mae croeso i bawb ddatgan eu barn, boed ar y chwith neu ar y dde, y rhai sy’n credu’n gryf a’r rhai sydd â dim barn o gwbl, gan greu y Melys Gybolfa!

Yn Mwg mae Gai yn adleisio profiadau llawer un ohonom sy’n ceisio cael trefn ar bethau yn ein bywydau, mae’r drydydd pennill yn adrodd

“Mae’n anodd – lluchio hen bethau, mae’n anodd – taflu hen luniau.
Mae’n anodd – ffarwelio’r gorffennol, wrth symud i’r dyfodol – Mwg!”
Yn y bumed gân, pan mae’r domen yn cau amdano, mae Gai yn dianc i awyr agored Pen Llŷn, lle mae’n ymgolli yn nhirwedd y tywod melyn, Swnt Enlli a gwynt y môr, ond er hyn mae’n yn cael ei wylltio gan y sefyllfa yno, a Chymru benbaladr; a oes gobaith i’w weddi dros y capeli sydd ar werth?

Yn Neidia mae Gai yn ein gwâdd i fynd ar goll oddiwrth y byd ohoni lle mae cyfalafiaeth hurt yn gyrru ein bywydau – “Mae na rwbath gwell, rwbath gwell na hyn”

Mae’r seithfed gân Chwedlau yn Ein Fflachlwch yn edrych nôl ar ein straeon prydferth llawn dirgelwch, ond yn ein byd llawn teclynnau ni heddiw, a oes chwedlau newydd yn cael eu creu? Mae o gyd o fewn ein gallu!

Hêd, hêd, hêd” Rhaid credu yn ein gallu, gwna dy orau, ac os wyt i lawr – cwyd i fyny – hêd!
Y nawfed gân ydy Gwlad yn Ein Pennau ac yn hon mae Gai yn sôn am “System sy’n tagu’r galon lon”, mae’n rhaid troi’r dychymyg yn wir, ac yn ein procio drwy ofyn y cwestiynau, a oes gormod o apathi, ydy’r newyddion yn ein twyllo, yda ni am agor y drws yn lle derbyn y status quo, a dianc i’r dyfodol?

A dyna gyrraedd y gân olaf Baiaia. Ond be ydy Baiaia? Ydy Gai wedi bathu gair newydd? Ai gair newydd am hyder, neu air newydd am ffarwelio? Mi adawa’ i chi benderfynu eich hunain.

Rhaid i mi gyfaddef, fel arfer, gwrandawr cerddoriaeth ydwyf yn bennaf ond wrth wrando ar y caneuon dwi’n cael fy sugno fwyfwy tua’r geiriau, ac mae hyn yn glod i Gai. Teimlaf fod Baiaia yn wahanol i’w albwm diwethaf ‘Orig’, yn fwy personol i Gai gan bwyso mwy ar ei brofiadau diweddar, ac fel yr esboniodd yn y lansiad: mae nifer o’r caneuon yn dilyn yr un themau oherwydd eu bod wedi eu cyfansoddi mor agos i’w gilydd, ond er hyn, mae’r dehongliad i fyny i’r gwrandawr.

Mae nifer o ganeuon yn sefyll allan ar y CD, yn bersonol: Y Berllan, Agorydd, Melys Gybolfa, Pen Llŷn, Chwedlau yn y Fflachlwch, Hêd, hêd, hêd, a Gwlad yn Ein Pennau yw’r ffefrynnau, ac mae’r caneuon yn tyfu ar rhywun wrth eu gwrando; Rwy’n hoff iawn o’r lleisiau cefndir ar ddiwedd Gwlad yn ein Pennau. Ar ôl gwrando lawer gwaith ar y CD dwi’n credu ei bod yn haeddu sgôr o 8 allan o 10.
Gobeithiaf yn fawr y bydd Gai yn cael cyfle i recordio’r caneuon a gyfansoddodd yn ystod y cyfnod clo cofid, ond am y tro fe hoffwn ddiolch iddo am roi Baiaia i ni – BAIAIA!
- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Medi 2023
 

16.10.23

Agoriad Llygad

Adolygiad gan Cadi Dafydd o’r nofel Llygad Dieithryn.

Mae Simon Chandler, cyfreithiwr o Fanceinion sydd wedi dysgu Cymraeg, yn dweud ei hun mai Blaenau yw ei “gartref ysbrydol”. Does dim syndod felly bod ei nofel gyntaf, mewn unrhyw iaith, wedi’i lleoli’n rhannol yma. 

Simon yn lansio'r nofel yn Siop Lyfrau'r Hen Bost

Yr Almaen ydy cartref hanner arall y nofel, sy’n dilyn hanes Almaenes ifanc, Katja, sy’n penderfynu ymweld â Chymru ar ôl dod o hyd i lythyr a anfonwyd i’r hen, hen daid gan Gymro. Mae’r nofel yn symud yn glyfar rhwng rŵan a’r cyfnod rhwng y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail, ac yn cynnwys popeth o gariad i ddirgelwch. Fe wnes i wir fwynhau troadau’r stori, ac mae’r cymeriadau’n sticio efo rhywun. Ond yn fwy na hynny, maen nhw’n gymeriadau crwm sy’n mynnu diddordeb y darllenydd.

Heb ddifetha dim o’r stori, rhan o’r nofel sy’n sefyll allan ydy profiadau Freidrich, hen, hen daid Katja, yn y gwersyll rhyfel yn Frongoch ger Y Bala. Efallai mai’r hanesydd ynof i sy’n siarad yn fan hyn, ond mae’r disgrifiad o’r gwersyll yn drawiadol. Er bod yna rywfaint o ysgafnder, a hiwmor hyd yn oed, mewn rhannau eraill o’r nofel, mae’r ôl-fflachiadau i’r gorffennol yn dod â’r difrifoldeb i’r nofel sy’n eich gorfodi i boeni am ffawd y cymeriadau.  Mae’r pendilio rhwng y gorffennol a’r presennol yn pwysleisio gallu Simon i adrodd stori amlhaenog heb orgymhlethu pethau hefyd.

Bosib mai un o’r pethau difyrraf am y nofel ydy gweld sut mae rhywun o’r tu allan yn gweld ein diwylliant ni - Simon ei hun fel awdur, a Katja fel cymeriad. Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst yn cael lle canolog yn y gyfrol, ac mae’n agoriad llygad gweld gymaint o werthfawrogiad sydd gan rywun o’r tu allan tuag at yr ŵyl, a’i allu i sylwi ar bethau fyddwn ni’n eu cymryd yn ganiataol, debyg. Rhan arall o’r mwynhad o ddarllen Llygad Dieithryn ydy gweld yr hwyl mae’r awdur yn ei gael gyda’r iaith. Mae’n gwbl amlwg o’i darllen bod Simon Chandler yn mwynhau ei hun yn ei defnyddio, ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu mewn ambell frawddeg sy’n glynu yn y cof, brawddegau fel:

“Roeddwn yng nghanol dwndwr dyddiol Blaenau, ond roedd y cyfan fel barddoniaeth i mi.”

Mae’r frawddeg yna fel ei bod hi’n crisialu cryn dipyn o apêl y nofel. Yndi, mae plot cryf a chymeriadau cyson a difyr yn help mawr, ond mae gweld ein gwlad, a’n tref yn ein hachos ni yma, drwy lygaid newydd-ddyfodiaid yn ychwanegu dimensiwn arall iddi. Nid y “dwndwr dyddiol” mae Katja, na Simon, yn ei weld, ond rhywbeth gymaint mwy na hynny. Yr hyn sy’n ddifyr ydy’r ffordd mae hynny’n ein helpu ni i weld y cyffredin mewn ryw olau newydd.

[Mae Llygad Dieithryn, Simon Chandler (2023, Carreg Gwalch) ar gael yn Siop Lyfrau’r Hen Bost am £8.50. Chwiliwch amdano yn Llyfrgell y Blaenau hefyd.]


- - - - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Medi 2023


14.10.23

Nid Diwedd y Lein

Ar ôl blynyddoedd maith o geisio cael synnwyr ynglŷn â dyfodol y rheilffordd rhwng y Blaenau a Llyn Trawsfynydd, gallwn rannu’r newyddion gwych y mis hwn fod yr NDA -Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear- wedi cadarnhau* wrth Liz Saville Roberts, ein haelod seneddol, nad oes ganddyn nhw fwriad o ddefnyddio’r rheilffordd eto! 

Bont Fawr Pengelli. Llun PW

Mi gofiwch efallai fod neuadd Ysgol y Moelwyn yn llawn dop ym mis Gorffennaf 2015 mewn cyfarfod cyhoeddus i drafod dyfodol y rheilffordd. Roedd yn amlwg fod y mwyafrif llethol yno o blaid datblygu llwybr beicio a cherdded, yn hytrach na thrên bach i dwristiaid. 

Mor bell yn ôl a 2001 cafwyd adroddiad arbennigol oedd wedi edrych ar sut i ddatblygu’r rheilffordd, a’r argymelliad terfynnol oedd mae llwybrau hamdden fyddai debycaf o ddod a budd i’r ddwy gymuned, bob pen i'r lein. Ond er dyfal ymdrechion gan Antur Stiniog ac eraill, gwrthod cydweithio wnaeth yr awdurdodau bryd hynny; tan rwan! Dyma gyfle euraid eto i fanteisio arno er budd trigolion Bro Stiniog a Thraws! 'Dychmygwch: dros chwe milltir o lwybr gwastad. Chwe milltir o gerdded a beicio diogel, di-draffig i deuluoedd ac unigolion!'

- - - - 

DYFODOL RHEILFFORDD BLAENAU-TRAWS
Deufis yn ôl bu i’r Cynghorydd Glyn Daniels a minnau gyfarfod â Network Rail er mwyn trafod y rheilffordd rhwng Blaenau Ffestiniog a Thrawsfynydd, a thrafod camau ymlaen i lanhau’r llinell. Cynhaliwyd cyfarfod ddiwedd Gorffennaf er mwyn trafod hyn, a sut fyddai hynny’n digwydd. 

Gobeithio gwelwn symud ymlaen o fewn y misoedd nesaf, a bydd cyfle i’r gymuned gael bod yn rhan o’r glanhau yma hefyd. Bydd trafodaeth ar ddyfodol y linell yn dechrau yn fuan (dwi wedi gofyn am ddyddiad pendant ganddynt) ac mae’n bwysig i’r gymuned fod yn rhan o’r drafodaeth yma.
-Elfed Wyn ap Elwyn

- - - -

Yn dilyn y newyddion bod dyfodol y rheilffordd rhwng Blaenau Ffestiniog a Trawsfynydd yn destun ymgynghoriad swyddogol gan y sefydliadau a’r awdurdodau, mae cyfle gwirioneddol, unwaith ac am byth, i ni yma ym Mro ‘Stiniog ddod ynghyd a lleisio barn, a chymeryd y cyfle i sicrhau bod yr adnodd gwerthfawr yma yn cael ei warchod a’i ddatbygu er lles y gymuned i’r hir dymor.

Nid gor-ddweud ydi y byddai datblygu y llinell fel adnodd hamddena yn trawsnewid bywydau, a iechyd a lles trigolion lleol yn ogystal â denu ymwelwyr o gymunedau a threfi cyfagos fyddai’n cyfrannu at yr economi lleol yn gynaliadwy, yn gymdeithasol, ac yn economiadd.

Mae nifer o sefydliadau, grwpiau a mentrau wedi mynd ati i drïo datblygu syniadau i ddefnyddio’r llinell, gan cynnwys Cyfle Ffestiniog, ac yn fwy diweddar Antur Stiniog a’r syniad o ddatblygu felorêl neu geffyl hearn ‘Stiniog.

Efallai mai’r ffordd orau i ni ddechrau trafod a lleisio barn am ddyfodol y llinell ydi cychwyn wrth ein traed a dod ynghyd ar gyfer diwrnod llnau mawr... Gwyliwch y gofod am ddyddiadau!
-Ceri Cunnington

- - - - 

Gallwch ddarllen rhywfaint o’r cefndir yn erthygl “Chwarae Trên?

Pan bostiodd Elfed ar Facebook rai wythnosau yn ôl y byddai’r NDA yn ymgynghori ar ddyfodol y lein ym mis Tachwedd, mi gafodd lawer iawn o ymateb gan bobl Stiniog. Teg dweud unwaith eto, fod y sylwadau a’r ymatebion yn llethol o blaid llwybr cerdded a beicio. 

Gweler hefyd golofn y Cyngor Tref -Senedd Stiniog. Ewch ati i annog ein cynhorwyr i gefnogi defnydd cymunedol o’r lein!

Cofiwch bawb, dewch i gyfrannu at y drafodaeth a thorchi llewys hefyd, pan gawn ddyddiadau ar gyfer yr ymgynghoriad a dyddiad i glirio’r llwyni a’r sbwriel o’r lein, er mwyn dangos ein bod ni oddifrif ynglŷn â datblygu’r lein yn adnodd cymunedol, cynaliadwy, gwerthfawr!
-Gol.
- - - - - - - - - 

Ymddangosodd ar dudalen flaen ac oddi mewn i rifyn Medi 2023

- - - - - - - - - 

* Dyma ddiweddariad, o rifyn Hydref 2023:

NID DIWEDD Y LEIN

Yn ein darn am y lein rhwng y Blaenau a’r Traws ar dudalen flaen rhifyn Medi mi adroddodd Llafar Bro fod yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear wedi cadarnhau nad oes ganddyn nhw fwriad o ddefnyddio’r rheilffordd eto. 

Ers hynny maen nhw wedi gwadu hynny (e-bost gan Bennaeth Cyfryngau yr NDA, Medi 22). Dyma be ddywedodd yr NDA am y rheilffordd yn yr ebost hwnnw: 

“No decisions have been taken on the future of the line. We will continue to engage with the local community throughout this process.”
Diolch yn fawr i’n aelod seneddol Liz Saville Roberts am ei chymorth ers hynny: ei dealltwriaeth hi o gyfarfod Teams efo prif weithredwr a chynrychiolydd arall o’r NDA ar 28ain Gorffennaf, oedd nad oedd ganddyn nhw ddiddordeb yn y rheilffordd! Mae hi rwan am sgwennu atyn nhw yn gofyn am gadarnhad.

Mae hyn yn dangos pa mor bwysig y bydd hi i bobl Stiniog a Traws gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar ddyfodol y lein yn yr wythnosau nesa. Mi fydd Llafar Bro yn siwr o dynnu sylw pan ddaw mwy o fanylion. Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol hefyd.
-PW, golygydd rhifyn Medi.





12.10.23

Senedd Stiniog- angen cynghorwyr

Yn eisiau! Cynghorwyr Tref brwdfrydig newydd fydd yn rhoi buddiannau’r gymuned leol yn gyntaf!

 


Yn anffodus mae Cyngor Tref Ffestiniog wedi colli nifer o gynghorwyr dros y misoedd diwethaf oherwydd ymddiswyddiadau. Erbyn hyn dim ond naw Cynghorydd sydd ar ôl, er bod yna 15 sedd yn gyfangwbl. Ac er bod y Cyngor wedi recriwtio Clerc galluog newydd, sef Sioned Graham-Cameron, mae swydd y Dirprwy wedi bod yn wag ers bron i flwyddyn ac mae’r Cyngor wedi methu penodi neb hyd yn hyn. Yn amlwg, mae hyn wedi llesteirio gwaith y Cyngor trwy’r amser yma. 

Cafwyd cyfarfod arferol fis Gorffennaf yn ogystal â chyfarfod anarferol, yr ail gyda dim ond tri Cynghorydd yn bresennol, sef y Cyng Marc Lloyd Griffiths yn y gadair, y Cyng Mark Thomas a’r awdur. 

Yn yr ail gyfarfod, trafodwyd cynnig yn enw’r awdur i gefnogi ymdrechion Liz Saville-Roberts AS ac eraill i berswadio Network Rail a’r Awdurdod Datgomisiynnu Niwclear i ddatgan a ydyn nhw’n bwriadu ailagor neu ddefnyddio’r cyn lein rheilffordd rhwng Blaenau Ffestiniog a Thrawsfynydd yn y dyfodol neu beidio. Os nad ydynt yn bwriadu ei ailagor, gellid defnyddio’r lein at ddibenion eraill, er enghaifft llwybr seiclo. Fe fyddai hyn yn galluogi plant o Llan a Traws i seiclo i Ysgol y Moelwyn yn ddiogel. Roedd y cynnig hefyd yn cefnogi ymdrechion Cwmni Bro ac eraill i drefnu prydles tacluso a dyddiau tacluso ar y lein, a hynny er mwyn gwella golwg y dref a dwyn perswâd ar Network Rail i ysgwyddo eu cyfrifoldebau. Ond chafodd y cynnig yma mo’i ystyried oherwydd nad oedd yr un Gynghorydd yn barod i’w eilio.  

Clywyd fod nifer o’r camerâu Teledu Cylch Cyfyng yn methu gweithio’n iawn, fod angen buddsoddiad sylweddol os ydyn nhw’n mynd i weithio’n effeithiol a bod problemau cyfreithiol wedi codi wrth eu ddefnyddio. Felly, penderfynwyd i gynnig y system bresennol i’r heddlu, os ydyn nhw eisiau ei defnyddio hi. 

Yn y cyfarfod cyntaf, trafodwyd pryd y dylai’r Cyngor gwrdd. Roedd y noson wedi newid o Nos Lun i Nos Iau yn ddiweddar, ond roedd niferoedd y Cynghorwyr oedd yn bresennol wedi disgyn yn sgîl hynny. Felly, penderfynwyd i symud y dyddiad yn ôl i nos Lun. 

Roedd yr Heddlu yn bresennol ac fe gododd y Cyng Mark Thomas broblem plant yn defnyddio ‘vapes’. Fe bwysleisiodd y SCCH Delyth Jones o’r Heddlu y bydd swyddogion yn ymyrryd os byddant yn gweld hyn. Naeth hi ychwanegu fod yr Heddlu hefyd y gweithio gyda phobl ifanc i sicrhau na chaiff pobl o dan 18 mlwydd oed mo’u syrfio mewn tafarndai lleol. 

Fe gytunodd y Cyngor i gyfrannu £300 i Cameron Jones i brynu offer pêl droed i’w ddefnyddio gyda phlant lleol yn ystod gwyliau’r haf. A chytunwyd hefyd i gyfrannu £5 mil tuag at redeg Clwb Clinc yn Cellb yn ystod y flwyddyn. Mae’r clwb yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc wneud cerddoriaeth, ffilmiau, a gwneud gwaith DJ ac ysgrifennu creadigol, yn debyg ond yn wahanol i’r hyn sy’n cael ei gynnig gan y clwb ieuenctid. 

Clywyd fod y Cyngor Tref bellach wedi derbyn £700 oddi wrth Gyngor Gwynedd, sef 10% o’r arian sy’n cael ei gasglu ym maes parcio Diffwys. 

Cytunodd y Cyngor i beidio â gwrthwynebu cais cynllunio i drosi llawr daear ac islawr 14 Stryd Fawr Blaenau Ffestiniog i fwyty.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r Cyngor a chyfrannu at y trafodaethau hyn, cofiwch gysylltu â’r Clerc Sioned Graham-Cameron ar 01766 832398.
Y Cyng. Rory Francis – barn bersonol!

- - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn rhifyn Medi 2023