9.12.25

PEN-BLWYDD HAPUS I LLAFAR BRO YN 50 OED!

Ym mis Hydref 1975 y cyhoeddwyd rhifyn cyntaf Llafar Bro ac mae wedi gwasanaethu'r ardal yn ffyddlon ar hyd y blynyddoedd … 11 copi'r mis heb fethu'r un a hyd yn oed yn ystod Clo'r Covid fe gaed copïau digidol o’r papur. 

Dyma gyfle i ddiolch i’r holl wirfoddolwyr sydd wedi bod ynghlwm â’r papur ers y dechreuad, y dosbarthwyr ffyddlon, y cyfranwyr achlysurol a’r colofnwyr parhaol, y rhai sy’n hysbysebu yn y papur ac yn talu am gael gwneud ac sy’n help mawr iawn i’r papur lwyddo yn ariannol. Hefyd rhaid diolch i’r darllenwyr wrth gwrs sydd wedi cadw'r papur ar ei draed am bum degawd trwy ei brynu yn gyson. Diolch i chi i gyd!

Ond, yn y paragraff cyntaf ar dudalen flaen y rhifyn cyntaf mae Cadeirydd Cymdeithas Papur Bro yn gofyn:

“A oes angen papur newydd sbon i gylch Ffestiniog? A fyddai gan y papur hwnnw gyfraniad pendant i fywyd a diwylliant yr ardal? Credaf fy mod yn siarad dros y mwyafrif wrth ateb yn ffafriol i’r ddau gwestiwn yma.”

Roedd yn iawn wrth gwrs ac mae’r darllenwyr wedi parhau i’w brynu. Aiff yn ei flaen:

“Yr atebion pendant yma yw’r symbyliad sydd tu ôl i’r fenter newydd bleserus hon – y teimlad fod yma le i bapur Cymraeg sydd yn ymwneud yn hollol a’r ardal; papur sydd yn cael ei gynhyrchu gan bobl yr ardal, a heb unrhyw gyswllt a chwmnïau a diddordebau oddi allan i’r plwyfi. Eich papur chi! Y nod yw gwasanaethu'r chwe rhanbarth yng nghylch Ffestiniog – Tanygrisiau, Blaenau, Y Manod, Llan Ffestiniog, Maentwrog, Gellilydan a Thrawsfynydd.”

Ac mae hyn wedi parhau. Roedd gwaith y gwirfoddolwyr yn dra gwahanol i’r hyn ydi o rŵan. Roedd gosod y papur at ei gilydd yn waith anodd - nid fel heddiw pan fo technoleg ddiweddar yn medru gwneud gwaith fel hyn drosoch … papur a phâst a theipwyr yn teipio pob gair oedd i ddechrau … dim anfon e-byst neu wneud gwaith ar y cyfrifiadur fel heddiw. Mae’r 50 mlynedd diwethaf wedi gweld chwyldro yn y modd y caiff papurau bro eu cynhyrchu a bellach maent yn lliwgar ac wedi ei gosod yn broffesiynol. Chwarae teg i'r gwirfoddolwyr cyntaf mi ddaru nhw weithio'n galed i gael popeth i drefn ar ben bob mis.

Rhan o'r arddangosfa ddathlu, yn Oriel Llyfrgell y Blaenau

Roedd Llafar Bro yn rhan o fudiad cenedlaethol yng Nghymru yn y 1970au … cynhyrchwyd degau ohonynt ymhob rhan o’r wlad a theg dweud nad oedd ardal yng Nghymru heb Bapur Bro ac mae’r mwyafrif llethol yn dal i fynd heddiw mewn cyfnod lle mae pobl yn medru cael eu newyddion lleol o ffynonellau eraill ond tebyg fod y papurau bro yn dal i ffynnu oherwydd bod y darllenwyr yn ei hoffi a hir y pared hynny. Maent yn rhad er fod prisiau papurau dyddiol wedi cynyddu yn sylweddol. Ymdrech i roi gwasanaeth lleol yn Gymraeg oedd nod y papurau hyn ac ymdrech i gael pobl leol i uniaethu gyda newyddion eu bro a chael barn bro yn hytrach na barn Llundain a dinasoedd Lloegr lle cynhyrchir y mwyafrif llethol o bapurau dyddiol.

Mae tudalennau blaen y rhifynnau cynharaf yn codi dadl bob tro ac mae nifer o’r darllenwyr yn ateb gyda’i barn yn y rhifynnau canlynol … rhywbeth nad sydd yn digwydd yn aml yn ddiweddar. 


 

Yn y rhifyn cyntaf cawn groeso a bwriad y papur newydd hwn ac yna yn yr ail [chwith] cawn ddadansoddiad o’r Stryd Fawr a Heol yr Eglwys efo’r siopau sy’n cau. 

 

Yn y trydydd rhifyn ceir cwyn am yr holl lanast ar ochr y ffordd i lawr i Danygrisiau efo'r holl waith o dirlunio un ochr o’r ffordd … pobl yn flin iawn mae’n debyg! Ac roedd y pennawd ddim yn helpu i leddfu’r consýrn: 'O’r Nefoedd Dyma Le’

 

 

Yn rhifyn Ionawr 1976 cawn ddadansoddiad o’r manteision a’r anfanteision o gael cynnwys y Blaenau yn y Parc Cenedlaethol … ond penderfynu yn erbyn gwnaeth yr awdurdodau ar y pryd. Yn rhifyn Chwefror 1976 ceir ymateb chwilboeth i’r holl dai haf sy’n cael eu creu yn y fro … dyma’r cyfnod pan gofnodwyd fod ‘holl’ dai pentref Rhyd yn dai haf a bod Tanygrisiau yn dechrau mynd yn hafan i dai haf … beth oedd i’w wneud? Wel fawr ddim a deud y gwir, dim ond rhybuddio'r dref a'r trigolion i fod yn fwy gwyliadwrus o'u treftadaeth. ‘Trwy Ofer Esgeulustod’ oedd y pennawd bryd hynny yn 1976. Ceir sylwadau ymhob un o’r rhifynnau cynharaf

Mae consýrn yn dal i fodoli yn dref heddiw. Mae pobl yn dal i boeni am y Stryd Fawr a Heol yr Eglwys sy’n dal efo siopau gwag a tydi pethau wedi newid dim dros y 50 mlynedd diwethaf mae’n ymddangos ac felly gyda’r Parc Cenedlaethol a dan ni'n dal heb fentro i mewn er bod sôn parhaol am wneud hyn. Felly gyda thai haf sydd wedi cynyddu yn sylweddol mewn nifer dros y 50 mlynedd diwethaf ac mae'r Cyngor Sir wedi cyflwyno mesurau llym i leihau y broblem fel y mae’n cael ei gweld. Yn sicr mae mwy o Saesneg i’w glywed ar ein strydoedd heddiw nag oedd yn 1975 ac rydym yn dal i sôn am hyn. 

Ac er fod bomio yr IRA bellach wedi peidio ers rhai blynyddoedd rydym yn dal i resynu am y bomiau sy’n syrthio ar bobl Iwcrain a thrigolion Gaza ac mae’r dioddefaint ofnadwy yr hil-laddiad yn Gaza yn troi stumog rhywun. Ond rhaid cofio ni siaradwyr Cymraeg ein bod ni YMA O HYD ac yn dal i fynd ac mae Llafar Bro yn dal i fynd a dal i gyfrannu. Ond ‘byddwch wyliadwrus o’ch treftadaeth’ … mae sylwadau’r Cadeirydd yn y rhifyn cyntaf yr un mor briodol heddiw!

TVJ

- - - - - - - - -

Dyma rai o'r cyfarchion penblwydd yn rhifyn Hydref:

Llongyfarchiadau

Am hanner canrif, mae Llafar Bro wedi bod wrth galon cymunedau ardal Ffestiniog - yn rhannu ein straeon, yn dathlu ein diwylliant, ac yn cryfhau’r iaith Gymraeg. Rydym yn llongyfarch pawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith o gasglu, paratoi a dylunio’r papur, boed hynny yn y gorffennol neu y presennol, ac am eu hymroddiad a’u gwasanaeth. Boed i Llafar Bro barhau i ysbrydoli ac i hysbysu pobl yr ardal am flynyddoedd lawer i ddod.  Llongyfarchiadau oddi wrth Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor  (Aelodau Seneddol, San Steffan a Senedd Cymru)

-----

Dymuna Clwb Rygbi Bro Ffestiniog ddiolch am gefnogaeth Llafar Bro dros hanner canrif gan fod Llafar Bro yn wastad yn cynnwys adroddiadau Bro. Diolch eto!

-----

Mae Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog yn falch o longyfarch Llafar Bro ar ddathlu ei hanner canmlwyddiant eleni. Diolch hefyd i’r sawl sydd wedi cyfrannu cymaint tuag at sefydlu’r Gymdeithas Hanes. Bydd ein disgynyddion yn ddiolchgar ichi am rannu eich hanes ar eu cyfer. Braint i Gymdeithas Hanes Bro Ffestiniog yw cael rhannu’r wybodaeth am y dathliad arbennig i’n papur bro, mewn arddangosfa arbennig yn oriel Llyfrgell y Blaenau. Daliwch ati, a diolch am fod rhan mor bwysig a chefnogol i’ch hardal.

-----

Diolch am eich gwasanaeth! Hoffai pawb yn Seren a Gwesty Seren longyfarch Llafar Bro am wasanaethu'r gymuned dros y 50 mlynedd ddiwethaf!

----- 

Rydym mor falch o glywed bod Llafar Bro wedi cyrraedd ei 50oed , Pen-blwydd hapus mawr i chi. Rydwyf wedi bod ynghlwm â’r Dref Werdd ers 6 mlynedd a chyd-weithio gyda Llafar Bro ers hynny gyda gwybodaeth i’r cyhoedd am ein holl waith llesiant ac amgylcheddol mae’r Dref Werdd wedi ei greu dros y blynyddoedd. Roeddwn yn ymwybodol iawn o Llafar Bro pan oedd y gŵr yn olygydd 25 mlynedd yn ôl, ac ar ôl i mi symud i’r ardal, ac wedi bod yn ei ddarllen yn frwd ers hynny. Rydym erbyn hyn yn dosbarthu Llafar Bro ar draws yr ardal, ac wrth ein boddau yn gallu lledaenu newyddion y gymuned i’r gymuned. Ymlaen i’r 50 mlynedd nesaf. Rhian Williams a’r Tîm

----- 

Ymddangosodd yr uchod i gyd yn rhifyn Hydref 2025 

Arddangosfa LLB50

 



1.12.25

Stolpia- Y Nadolig

COEDEN NADOLIG

Er bod yr arferiad o addurno'r Goeden Nadolig yn dyddio’n ôl i’r 16eg Ganrif yn rhai o wledydd Ewrop, megis Yr Almaen, Estonia a Latfia, ni ddaeth y ffasiwn hwn yn boblogaidd ym Mhrydain tan yr 1840au, a than y cyflwynodd y tywysog Albert, gŵr y frenhines Fictoria, yr arferiad ym mhalasdai y teuluoedd brenhinol. Pa fodd bynnag, cydiodd y traddodiad ymhlith y cyfoethog drachefn, ac o fewn dim o amser roedd y werin bobol wedi’u dilyn.

Ond, tybed pa bryd y daeth yr arferiad i blwyf Ffestiniog? Wel, efallai y bydd yr aralleiriad hwn o’r North Wales Chronicle yn ateb y cwestiwn:

Ar ddydd Gwener 25, Ionawr 1861 cynhaliwyd yr Ŵyl Coeden Nadolig gyntaf a welwyd yn Ffestiniog yn Ysgol Genedlaethol Ffestiniog a Maentwrog (h.y. Ysgol Penrallt Goch). Addurnwyd yr ystafell Ysgol ar raddfa eang dan oruchwyliaeth merched o’r gymdogaeth, a phan ddaeth tywyllwch y noswaith arddangoswyd coeden nobl a osodwyd y tu ôl i’r llenni wedi eu haddurno ag anrhegion gan ryfeddu’r plant. Roedd oddeutu cant o blant yno i gyd, a phob un yn llygad-dystion i achlysur nas gwelwyd ei debyg o’r blaen.Ymatebodd y plantos wrth ei gweld trwy glapio eu dwylo yn eiddgar. Wrth gwrs, roedd amryw o bwysigion yr ardal yn bresennol, megis teulu’r Rheithordy, teulu Casson, Blaen y Ddôl, teulu Chessell, Penmount, ayyb. Cafodd y plant anhregion, te a theisennau, yng nghwmni’r gwahaddedigion, a diwrnod gwerth i’w gofio.

Y mae hi’n edrych yn debyg iawn mai yn ein haddoldai yr arddangoswyd y rhai cynharaf yn ein bro. Dyma enghraifft o’r 1880au. 

Coeden Nadolig. Prydnawn ddydd Sadwrn diweddaf, yn Assembly Room, Blaenau, dangosid coeden Nadolig, er budd i eglwys y Bedyddwyr (Calfaria), i leihau y ddyled drom sydd ar yr addoldy. Yr oedd yno dair coeden yn llawn o anrhegion yn ôl gwerth y tocynau. (Baner ac Amserau Cymru, 29 Rhagfyr, 1886).

Erbyn yr 1950au roedd bron pob tŷ yn yr ardal efo coeden Nadolig o fath a cheid rhai mewn te partis ar gyfer y plant yn y capeli a’r ysgolion a chan wahanol gymdeithasau y fro. Dyma un enghraifft:


Plant gweithwyr Chwareli Oakeley a Lord yn cael te parti Blwyddyn Newydd yng Ngwesty’r Frenhines (Y Queens) yn 1956 a’r goeden Nadolig yn y cefndir.

 

EISTEDDFODAU'R NADOLIG

Bu Eisteddfodau’r Nadolig yn boblogaidd iawn ar un adeg yn ein hardal, yn enwedig yr un gan yr Annibynwyr. Nid yn unig y cynhelid rhai yn ein haddoldai a’n neuaddau, byddid yn cynnal rhai yn ein chwareli, hefyd. Dyma ambell enghraifft o’r blynyddoedd 1879 ac 1910, gyda’r Awdl Bryddest yn un o’r prif gystadlaethau yn yr eisteddfodau.

Sylwer ar ffugenwau’r ymgeiswyr yn y gystadleuaeth,- y mae sawl un digon digrif yn eu plith ac oni byddai’n braf cael gweld eu cynnyrch ? Credaf i rai o’r eisteddfodau hyn barhau hyd at yr 1940au, os nad yn ddiweddarach. Tybed a yw rhai o’n darllenwyr yn cofio mynychu rhai ohonynt ac yn gallu rhannu eu hatgofion am yr hyn a ddigwyddai ynddynt? 

O.N. - Diolch i bawb sydd wedi cymryd diddordeb yn y golofn tros y flwyddyn. Gobeithio cewch chi i gyd. NADOLIG LLAWEN a LLAWER OHONYNT .

Steffan ab Owain
- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2024



20.11.25

Cadi ym Mhatagonia

Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Patagonia Cyngor Tref Ffestiniog i Cadi Dafydd eleni ac am dair wythnos ym mis Awst bu draw ym Mhatagonia ac yn cryfhau'r berthynas sydd eisoes yn bodoli rhwng tref Rawson (sef gefeilldref y Blaenau ym Mhatagonia) ac yn creu a magu perthnasau newydd trwy ei hymweliad. 

Mae Cadi yn newyddiadurwraig sy’n cyfrannu erthyglau ardderchog yng nghylchgrawn Golwg bob wythnos ac yn naturiol roedd ei diddordeb mewn magu cysylltiadau yn y byd hwnnw yn Rawson. Mae’r sawl sydd wedi ennill yr ysgoloriaeth hon wedi ymhél a magu cysylltiadau mewn nifer o feysydd ond dyma’r tro cyntaf i enillydd fentro i’r byd newyddiadurol. 

Cyfarfu Cadi a Donald Thomas a fu'n gweithio ar bapur yr El Regional gan ddilyn ôl troed ei dad yn y maes. Bu ei dad yn gweithio i’r papur Cymraeg Y Drafod ym Mhatagonia ac fe’i derbyniwyd i Orsedd y Beirdd ym 1951. 

 

Bu'n cymryd rhan yn yr Arddangosfa 'Chwarelwyr a’u diwylliant yn y diaspora Cymreig’. Mae’r arddangosfa yn olrhain dylanwad y saer maen yn y gymdeithas Gymreig yn Chubut. Cafwyd perfformiadau o gerddoriaeth Gymreig yn ogystal


Ac mae Cadi wedi cael gafael ar gopi o’r Diario Chubut y papur newydd a chopi o’r papur a gyhoeddwyd ar ddydd ei geni!

 

Hyd yn hyn bu wyth* o bobl ifanc ardal y Cyngor Tref yn manteisio ar yr ysgoloriaeth hon i ymweld â Rawson a Phatagonia ac mae’r cysylltiad wedi tyfu’n sylweddol ers i’r ysgoloriaeth gael ei chreu a bellach mae sôn y bydd person ifanc o Chubut yn medru dod i Stiniog ar ymweliad i weld sut yr ydym ni yn byw yma a gobeithio’n wir y caiff hyn ei wireddu. Erbyn hyn mae cysylltiadau pwysig wedi eu creu a hynny ar wahanol lefelau rhwng pobl Rawson a'r Blaenau a Llan a diolch i’r ysgoloriaeth am anfon cenhadon blynyddol i’r maes hwn!

TVJ

- - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2025

*Mae dolen i erthyglau rhai o'r enillwyr ar dudalen  Edrych Tuag at Borth Madryn

 

19.11.25

Ychydig eiriau... Dweud cyfrolau

Hanes lansio nofel graffeg newydd Lleucu Gwenllian


Cafwyd lansiad hyfryd i nofel raffeg newydd yr awdur a’r darlunydd lleol Lleucu Gwenllïan yn Siop yr Hen Bost ym mis Medi. 

Mae Lleucu bellach yn byw yng Ngogledd Macedonia, a daeth hi a’i gŵr, Dime, draw i ddathlu cyhoeddi Gwen ac Arianrhod (Gwasg Carreg Gwalch). 

 

Diolch i Lleucu am dreulio diwrnod cyfan yn darlunio Gwen ac Arianrhod ar ffenest y siop cyn y noson.

 

Stori i bobol ifanc yw Gwen ac Arianrhod, ond mae hi’n apelio at ddarllenwyr a charwyr celf o bob oed, mewn gwirionedd. 

 

Dilyna hanes Gwen wrth iddi symud i ysgol newydd yng Nghricieth, a gadael ei bywyd yng Nghaerdydd a’i ffrind gorau, Non. Mae bywyd ddigon diflas, y tywydd yn wael ac mae hi bellach wedi datblygu ffobia o nofio. Ond daw newid byd pan mae hi yn cyfarfod Arianrhod, tywysoges Cantre’r Gwaelod un diwrnod ar lan y mor. 


Ymunodd Delyth Medi, un o olygyddion Gwasg Carreg Gwalch, a’r noson er mwyn holi ’chydig ar Lleucu am y nofel, ei hysbrydoliaeth a’r broses o fynd at i sgrifennu a darlunio. Holwyd hi hefyd am y themau dwys yn Gwen ac Arianrhod, sy’n cyffwrdd ar gyfeillgarwch, galar a’r trafferthion o dyfu fyny. Roedd hi’n ddifyr iawn clywed Lleucu yn siarad am sut mae hi’n mynd ati i ddarlunio a siapio’i straeon.

Braf iawn clywed bod ail nofel raffeg ar y ffordd, yn ddilyniant i Gwen ac Arianrhod. Diolch i bawb am ddod i’w gwneud hi’n noson gartrefol a llwyddiannus.      CD

Dyma lyfr sy’n torri tir newydd yn y Gymraeg. Mae’r nofel graffig hon gan Lleucu Gwenllian a Gwasg Carreg Gwalch yn wledd i’r llygad. 

Drwy gydol y 74 tudalen, rydym yn cael ein tywys yn sensitif drwy gyfres o emosiynau: galar, tristwch, hapusrwydd, pryder, rhyfeddod … ac mae uniaethu â’r cymeriadau yn hawdd, diolch i’r darlunio gwych. Heb fawr ddim geiriau ysgrifenedig, mae’r nofel yn dweud cyfrolau. Bydd yn sicr yn ffordd o gael cynulleidfa ffresh i fwynhau llenyddiaeth Gymraeg, yn ogystal â dod ag elfen newydd i’r rheinny sydd eisoes yn mwynhau beth sydd gan y maes i’w gynnig. Atodiad perffaith i unrhyw silff lyfrau! 

Hanna Hopwood 

(Rhan o adolygiad a gomisiynwyd gan Garreg Gwalch ar gyfer www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru)

Medrwch brynu’r llyfr yn Siop yr Hen Bost. Pris £9.99 


- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2025

 

14.11.25

Ffair Llan

Yn anffodus, fu dim 'ffair' fel y cyfryw yn Llan eleni, ond daeth criw o gymwynaswyr at ei gilydd i drefnu prynhawn o stondinau yn y neuadd, a hwyl i'r plant yn Y Pengwern. Dyma bwt o erthygl o rifyn Hydref. 

Be am yrru eich atgofion i mewn..?

 

Fel y dywedodd cyfaill wrthyf yn ddiweddar, nid yw Ffair Llan fel y bu. 

Yn y dyddiau a fu nid hon oedd yr unig Ffair G’langaeaf (Tachwedd 13) a gynhelid yn Llan yn y dyddiau a fu. Ceid wyth ffair* y flwyddyn yno ar un adeg. Mae’r rhain I gyd wedi mynd ac yn y dyddiau sydd ohoni mae’n syndod bod ffair o gwbl yn dal yno

Mi fydd ffair eto yn Llan – mae’n debyg. Gwaharddwyd y trefnwyr rhag defnyddio y ffordd fawr i osod stondin ond … mae rheolau Iechyd a Diogelwch wedi lladd rhai o’n traddodiadau gwerin gan gynnwys y ffeiriau a rhaid cyfyngu bellach ar faint a safle’r ffair a fu. Gormod o draffig, methu cau’r ffordd, a pherygl andwyol i’r bobl sy’n cerdded! Dal i leihau mae’r ffair ond mae’n dal i fod … ond nid fel yr oedd!

TVJ

 - - - - 

Addasiad ydi'r uchod, o ddarn yn rhifyn Hydref 2025 

 

* Pennod o gyfres Stolpia- FFAIR LLAN