Showing posts with label coeden. Show all posts
Showing posts with label coeden. Show all posts

1.12.25

Stolpia- Y Nadolig

COEDEN NADOLIG

Er bod yr arferiad o addurno'r Goeden Nadolig yn dyddio’n ôl i’r 16eg Ganrif yn rhai o wledydd Ewrop, megis Yr Almaen, Estonia a Latfia, ni ddaeth y ffasiwn hwn yn boblogaidd ym Mhrydain tan yr 1840au, a than y cyflwynodd y tywysog Albert, gŵr y frenhines Fictoria, yr arferiad ym mhalasdai y teuluoedd brenhinol. Pa fodd bynnag, cydiodd y traddodiad ymhlith y cyfoethog drachefn, ac o fewn dim o amser roedd y werin bobol wedi’u dilyn.

Ond, tybed pa bryd y daeth yr arferiad i blwyf Ffestiniog? Wel, efallai y bydd yr aralleiriad hwn o’r North Wales Chronicle yn ateb y cwestiwn:

Ar ddydd Gwener 25, Ionawr 1861 cynhaliwyd yr Ŵyl Coeden Nadolig gyntaf a welwyd yn Ffestiniog yn Ysgol Genedlaethol Ffestiniog a Maentwrog (h.y. Ysgol Penrallt Goch). Addurnwyd yr ystafell Ysgol ar raddfa eang dan oruchwyliaeth merched o’r gymdogaeth, a phan ddaeth tywyllwch y noswaith arddangoswyd coeden nobl a osodwyd y tu ôl i’r llenni wedi eu haddurno ag anrhegion gan ryfeddu’r plant. Roedd oddeutu cant o blant yno i gyd, a phob un yn llygad-dystion i achlysur nas gwelwyd ei debyg o’r blaen.Ymatebodd y plantos wrth ei gweld trwy glapio eu dwylo yn eiddgar. Wrth gwrs, roedd amryw o bwysigion yr ardal yn bresennol, megis teulu’r Rheithordy, teulu Casson, Blaen y Ddôl, teulu Chessell, Penmount, ayyb. Cafodd y plant anhregion, te a theisennau, yng nghwmni’r gwahaddedigion, a diwrnod gwerth i’w gofio.

Y mae hi’n edrych yn debyg iawn mai yn ein haddoldai yr arddangoswyd y rhai cynharaf yn ein bro. Dyma enghraifft o’r 1880au. 

Coeden Nadolig. Prydnawn ddydd Sadwrn diweddaf, yn Assembly Room, Blaenau, dangosid coeden Nadolig, er budd i eglwys y Bedyddwyr (Calfaria), i leihau y ddyled drom sydd ar yr addoldy. Yr oedd yno dair coeden yn llawn o anrhegion yn ôl gwerth y tocynau. (Baner ac Amserau Cymru, 29 Rhagfyr, 1886).

Erbyn yr 1950au roedd bron pob tŷ yn yr ardal efo coeden Nadolig o fath a cheid rhai mewn te partis ar gyfer y plant yn y capeli a’r ysgolion a chan wahanol gymdeithasau y fro. Dyma un enghraifft:


Plant gweithwyr Chwareli Oakeley a Lord yn cael te parti Blwyddyn Newydd yng Ngwesty’r Frenhines (Y Queens) yn 1956 a’r goeden Nadolig yn y cefndir.

 

EISTEDDFODAU'R NADOLIG

Bu Eisteddfodau’r Nadolig yn boblogaidd iawn ar un adeg yn ein hardal, yn enwedig yr un gan yr Annibynwyr. Nid yn unig y cynhelid rhai yn ein haddoldai a’n neuaddau, byddid yn cynnal rhai yn ein chwareli, hefyd. Dyma ambell enghraifft o’r blynyddoedd 1879 ac 1910, gyda’r Awdl Bryddest yn un o’r prif gystadlaethau yn yr eisteddfodau.

Sylwer ar ffugenwau’r ymgeiswyr yn y gystadleuaeth,- y mae sawl un digon digrif yn eu plith ac oni byddai’n braf cael gweld eu cynnyrch ? Credaf i rai o’r eisteddfodau hyn barhau hyd at yr 1940au, os nad yn ddiweddarach. Tybed a yw rhai o’n darllenwyr yn cofio mynychu rhai ohonynt ac yn gallu rhannu eu hatgofion am yr hyn a ddigwyddai ynddynt? 

O.N. - Diolch i bawb sydd wedi cymryd diddordeb yn y golofn tros y flwyddyn. Gobeithio cewch chi i gyd. NADOLIG LLAWEN a LLAWER OHONYNT .

Steffan ab Owain
- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2024



24.12.16

Stolpia -Hosan Nadolig

Pennod arall o gyfres reolaidd Steffan ab Owain.

Fel yr amrywiaeth o bethau a geid yn yr hen hosan Nadolig gynt, dyma gynnwys y golofn y tro hwn. Dechreuaf gyndag un neu ddau o gofnodion difyr a darewais arnynt wrth chwilio am hanes ein tref a’n hardal yn y dyddiau a fu.

Y Goeden Nadolig
Gan ei bod hi’n nesau at y Nadolig efallai bydd y nodyn hwn o ddiddordeb.

Ym mis Ionawr 1861 cafwyd te parti yn Ysgol Genedlaethol Llan Ffestiniog a mwynhaodd y plant eu hunain yn iawn. Roedd coeden Nadolig wedi ei gosod yn yr ystafell gydag anrhegion o bob math arni hi. Bum yn meddwl, tybed pa bryd y daeth y goeden Nadolig gyntaf i’n hardal?

Yn ôl pob sôn, ni ddaeth gosod coeden Nadolig yn y tŷ yn beth poblogiadd iawn tan ar ôl yr 1850au, ac felly, nid oedd ‘Stiniog ymhell iawn ar ôl y ffasiwn gyda hyn o beth.

Seintiau
Yn ddiweddar iawn deuthum ar draws hanes Seintiau y Dyddiau Diweddaf (sef y Mormoniaid) yn cynnal cyfarfodydd crefyddol ym mhlwyf Ffestiniog yn yr 1840au. Dyma frasgyfieithiad o un adroddiad a ymddangosodd mewn papur newydd Saesneg am Fehefin 1846:
Yn ddiweddar, ymwelodd gwr o Dde Cymru a berthynai i Seintiau y Dyddiau Diweddaf ag ardal Ffestiniog. Dydd Sadwrn anerchodd dorf luosog yn y stryd yn Ffestiniog. Yna, bore Sul aeth draw at y chwareli, ac am hanner awr wedi pedwar bu’n siarad am oddeutu awr.
Deallaf bod amryw o drigolion ein plwyf wedi ymuno â’r Mormoniaid yn ystod y cyfnod hwn. Byddai’n ddiddorol cael clywed mwy o’u hanes, oni byddai? Oes un ohonoch ag ychydig o’u hanes yn yr ardaloedd hyn?


Lliain ‘molchi gwyneb
Y mae’n rhyfedd fel y mae prinder geiriau am rai pethau yn y Gymraeg, a dewis da am ambell beth arall. Holais amryw o gyfeillion a chydweithwyr yn ddiweddar beth yw eu henw nhw ar y lliain bach a ddefnyddir i ymolchi’r wyneb.

Yr enw a ddefnyddiaf fi arno yr ‘bretyn gwlanen’. Y mae’n amlwg fod nifer o enwau eraill arno yng Ngwynedd,  hefyd. Dyma rai o’r atebion a dderbyniais: cadach ymolchi … cadach gwlanen … gwlanen fach …gwwlanen ymolchi … clwt ymolchi. Tybed a oes gennych chi enw gwahanol arno?


Arlunydd o’r Manod
Beth amser yn ôl, pan oeddwn yn taflu golwg ar dudalennau’r Herald Cymraeg am Ionawr 19, 1926 deuthum ar draws enw David R. Hughes, arlunydd o’r Manod. Dyma’r tro cyntaf imi ddod ar draws ei enw ef. Tybed a ŵyr un o’r darllenwyr rywfaint o’i hanes ac ambell enghraifft o’i luniau, efallai?


Wel, dyna ni flwyddyn arall bron a chyrraedd ei therfyn, a rhag ofn imi anghofio a dweud:

NADOLIG LLAWEN I CHI I GYD!



Addasiad o erthygl amddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2005.
Dilynwch gyfres Stolpia efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl geiriau ar y dde.


[Lluniau -Paul W]