10.8.15

Bwrw Golwg- Llythyr o'r America

Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Darn arall gan W. Arvon Roberts, y tro hwn am lythyr a yrrwyd i Stiniog o'r Unol Daleithiau. Ymddangosodd gyntaf yn rhifyn Mehefin 2015.

Fair Haven,
Vermont,
Hydref 31ain, 1854


Fy annwyl Gyfaill,

Wedi hir oedi yr wyf yn cyflawni yr addewid a wnaethum â thi cyn fy ymadawiad o’r hen wlad, sef rhoddi fy hanes o dir y gorllewin pell, os cawn fyw i fyned yno.

Wel, llawer o donau a phrofedigaethau sydd wedi fy nghyfarfod er pan welsom wynebau ein gilydd; byd y cyfnewidiadau ydyw y byd hwn, hen olwyn fawr Rhagluniaeth sydd yn rhoddi aml dro yn dywyll iawn i bawb yn y fro; felly i minnau.

Gobeithio y bydd i’r llinellau hyn dy gael di a’th deulu i gyd yn fyw ac yn iach, pryd yr ydwyf fi yn weddw, a’m bachgen bach yn amddifad mewn gwlad bellenig.

Mae yn debyg mai rhoddi ychydig o fy hanes yn fras ydyw y goreu i mi, er pan diriais i Efrog Newydd. Yr oedd fy mrawd Morris yn ein cyfarfod yn y dref. Aethum i fyny i Utica ymhen tri diwrnod. Yr oedd 1,600 o Ellmyniaid (Dutch) gyda ni yn y ‘Cars Train’. Cafodd Morris waith i mi yn nhref Utica; dolar yn y dydd o gyflog – 4 swllt a 2 geiniog o’ch harian chwi; ond dywedodd Dr. Williams (Cymro) mai gwell oedd i ni fyned i’r wlad y flwyddyn gyntaf, o ran ei bod mor boeth yn y dref; felly aethom wyth milltir i’r wlad. Aethum i weithio i’r ffermwyr o gwmpas. Yr oedd iechyd fy nheulu yn lled dda, a minnau yn cael dolar yn y dydd gyda y gwair. Bum yn saethu ceryg calch ar ol y cynauaf. Yr oedd yn rhyfeddod gan yr Yankees weled saethu yn y rhan hwnnw. Yn y fan honno clywais am ffarm bach yn Waterville, yn ymyl Evan Roberts, saer maen, ac fe ddarfu fy mrawd Morris roi gorchymyn y mi fyned at Edward Jones, a John y mab, i ofyn a ddeuant hwy gyda mi i‘w hedrych, ac os byddent hwy yn barnu ei bod yn werth y pris oedd arni, y gwnai yntau fy helpu i’w chael yn uniongyrchol.

I ffwrdd a mi i’r Sgeular, a dyma E. Jones a John yn ‘pacio’ y ‘garriage’ i ddyfod gyda mi, ac aethom cyn belled a thref Utica. Ond dyma lythyr i mi yn y dref o Vermont, oddiwrth ddyn oedd wedi bod yn yr un fan a mi gyda y gwair, yn dywedyd fod gwaith i mi i’w gael i weithio yn y chwarel, a dolar a hanner yn y dydd o gyflog. Tybiais i yn fy meddwl fod 6 swllt a 3 ceiniog yn well na ffarm, a dywedais wrth Morris, ac E. Jones, a John, hyd yma y deuaf fi, a dim ymhellach; y ffarm i chwi, a dolar a hanner yn y dydd i minnau. Mi aethum i’r ‘Cars Train’ yn y fan, ac yr oeddwn yn Rutlant County, Vermont, yn agos i 200 o filltiroedd, cyn 4 o’r gloch prydnawn. Dechreuais weithio dranoeth, a dyma lle yr ydwyf hyd yr awrhon yn yr un fan.

Cymro o Sir Fon yw perchenog y ffarm, a’r chwarel sydd arni. Aethum i geisio fy nheulu wedi i mi gael tŷ yn Fair Haven. Yr oeddwn yn byw yn y pentref. Ond tua mis Rhagfyr, dechreuodd Gwen fyned yn sâl pan ddaeth y barug oer, a William bach yn lled wael o hyd, ac yn waelach yr aethant; ond y 12fed dydd o Mawrth, dyma angeu wedi dyfod i’r tŷ. O don fawr, na theimlais yr un gymaint erioed! Fe ddywedod yr hen William Ellis dduwiol wrthyf yna fy mod i gael myned i ffwrneisiau poethion cyn myned i angeu. Ai tybed, fy nhgyfaill annwyl, fod yn rhaid i’r Arglwydd fyned a’m gwraig o fy mynwes, a’m bachgen o fy mreichiau, i dynu fy meddwl o’r byd?

... Ond y 12fed dydd o Ebrill, dyma don fawr eto. Ni fedraf adrodd fy nheimladau, pryd y daeth galwad am William bach ar ôl ei fam. O ddiwrnod trwm i mi! Er fod yn y tŷ lawer o bobl, a llawer o ieithoedd, eto nid oedd yno yr un fam i gydymdeimlo â mi yn y tywydd mawr.
Wel, wel, llawer diwrnod du o hiraeth sydd yn myned troswyf yn aml wrth feddwl am Gwen a William. Yr oedd William yn galw ar John bach at ei wely y Sul olaf y bu fyw, ac yn dweyd wrtho am fod yn fachgen da.

Y mae yn rhaid i mi derfynu, cyn dywedyd hanner fy newydd. Yr ydwyf fi a John bach yn lletya gyda’r gŵr a bia y chwarel. Nid oes ganddynt ddim plant. Y mae John yn fawr yn eu golwg. Fy nghyflog ydyw £1.17.6 yn yr wythnos.

Ysgrifena ataf, a dyro hanes Eglwys Bethesda ...

Hyn oddiwrth dy hen gyfaill,

William Job



Chwarel yn Fair Haven, Vermont yn ail hanner y 19eg Ganrif. Llun o gasgliad yr awdur.

--------------------------
Y oedd talaith Vermont yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn debyg iawn i Gymru, gyda’i mynyddoedd uchel, dyffrynnoedd prydferth, doldiroedd ffrwythlon, afonydd rhedegog a’i llynnoedd gloywon. Daeth y Cymry cyntaf yno tua 1851 ac ymsefydlont yn Fair Haven, Sir Rutland. O Ogledd Cymru y deuai’r mwyafrif, gan mai’r diwydiant llechi ac ithfaen a’u tynnodd hwy yno’n bennaf. Pentref bywiog fu Fair Haven, sef prif gyrchfan y rhan fwyaf o’r ymfudwyr Cymreig yn Vermont, gyda’i siopau, banciau, llythyrdy, gwesty a gweithfeydd llaw, chwareli llechi a melinau llifio, ynghyd â thorri llechi a marmor. Yr oedd tua 500 o Gymry’n byw yno yn 1871 a mwy o lawer o Wyddelod a Ffrancwyr.

Ni allaf yn fy myw gael unrhyw wybodaeth am William Job, awdur y llythyr. Oes yna gofnodiad amdano yn hanes yr achos ym Methesda, Manod tybed?

Efallai i ddarllenwyr ‘Llafar Bro’ fod wedi clywed am Rowland Walter (‘Ionoron Glan Dwyryd’, 1817-1884) yng ngholofn fisol ‘Rhod y Rhigymwr’ yn ddiweddar [nifer o gyfeiriadau ato trwy glicio'r ddolen isod hefyd -Gol.].   Ganwyd ef ym Mlaenau Ffestiniog. Yn ŵr ifanc, bu’n gweithio yn chwareli Cwmorthin a Holland. Ymfudodd yntau fel William Job i’r America tua’r un amser, ‘Ionoron’ ym 1852. Pan oedd ef yn cerdded dros y Migneint i’r Bala un tro, daeth y nos yn ddisymwth ac yntau yng nghyffiniau Pen Llechwedd Deiliog, ger Tai Hirion, pan ymosodwyd arno gan ladron. Collodd bob ceiniog goch oedd ganddo. Nodwyd iddo gyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth: ‘Lloffion y Gweithiwr’ (1852) a ‘Caniadau Ionoron’ (1872). Wedi iddo ymsefydlu y yr America bu yntau, fel William Job, yn gweithio yn chwareli Fair Haven. Efallai iddynt gyfarfod â’i gilydd yno!

---------------------------------------------------
Nodyn gan Iwan, golygydd Mehefin: 
Yn CPM Gogledd Cymru, deuthum ar draws cofnod o briodas WIILIAM JOB a GWEN OWEN yn Eglwys Twrog Sant, Maentwrog ym 1839. Mae lle i gredu mai dyma’r William Job a ysgrifennodd y llythyr. Mae cofnod o enedigaeth ‘William Job’ yn Ffestiniog (1844) a ‘John Job’ (1848). Nodir ‘William Job’ fel tad y ddau. Yng nghyfrifiad 1841, roedd William (chwarelwr 30 oed) a’i wraig, Gwen (27 oed) ynghyd â’u merch fach 8 mis oed, Gwen, yn byw yn ‘Glanydŵr’, Ffestiniog.

---------------------------------------------------
Nodyn pellach ar Ionoron Glan Dwyryd, o golofn Stolpia, gan Steffan ab Owain yn rhifyn Gorffennaf:
Y mae cryn sylw wedi bod i Rowland Walter, neu Ionoron Glan Dwyryd, yn ȏl ei enw barddol, yn ddiweddar. Y mae un peth yn cael ei adrodd dro ar ȏl tro amdano yn ei fywgraffiad, sef ef ei fod yn enedigol o Cefnfaes yn y Manod. Nid yw hyn yn gywir, un o Danygrisiau oedd Ionoron yn wreiddiol fel y cofnodir man ei gartref yng nghofrestr bedyddiadau plwyf Ffestiniog.

Yn ȏl J.W.Jones, Y Fainc Sglodion, ganwyd ef ym Mhencefn Pellaf, ac os cofiaf yn iawn, bu chwaer Ionoron yn byw yno mewn cyfnod ddiweddarach. Rwyf yn tybio mai Bob Owen, Croesor sydd wedi nodi yn y Bywgraffiadur Cymreig mai yn y Cefnfaes y ganwyd ef, ond y gwirionedd yw, symud i fyw yno gyda’i rieni pan oedd yn blentyn bach a wnaeth.


8.8.15

Stolpia- Hen Dai ein Bro

Pennod o golofn reolaidd Steffan ab Owain, o rifyn Rhagfyr 1997.

Prin y sylweddolais pan ddechreuais chwilota i hynafiaeth rai o hen anedd-dai ein bro fod cynifer ohonynt gyn hyned a’r unfed ganrif ar bymtheg (sef yr 1500au), ac o bosib’ yn hŷn na hynny ... wel o leiaf mewn enw, beth bynnag.  Fel y crybwyllais o’r blaen, dylid cofio y gall rai o’r tai a ddaliai’r enw gwreiddiol fod wedi cael eu hailwampio cymaint fel nad ydynt yn debyg i adeilad o’r cyfnod uchod mwyach.  Yn ogystal, gallai’r tŷ fod wedi hen ddiflannu bellach ac un arall wedi ei godi yn ei le ... a chario’r hen enw, wrth gwrs.  Yn dilyn, ceir enghreifftiau eraill o’r rhai y deuthum ar eu traws yn fy ymchwiliadau yn Archifdai Dolgellau a Chaernarfon.  Gyda llaw, mae’r dyddiadau a geir ar ddiwedd yr enw wedi eu codi o wahanol ddogfennau:

Kemere Ucha – Cymerau Uchaf (1555),
Kymere Isa – Cymerau Isaf (1574);
Tythyn y Garreg Loid – Y Garreg Lwyd (1575-80) ac eto yn (1591);
Bwlch Yockyn – Bwlch Iocyn (1585);
Havod Spithy – Hafod Ysbyty (1575-80);
Blaen Cynfel – Cwm Cynfal (1580-1590); 
Lach Du – Llech Ddu (1535).

Ceir cyfeiriad diddorol at Gwm Bwy – Cwm Bywydd hefyd yn yr unfed ganrif ar bymtheg ... yn ogystal ag enwau rhai o’r hen deulu a fu’n preswylio yno.  Yn ôl un hanesyn symudodd John Wynn o’r Gesail Gyfarch gerllaw Penmorfa i Ffestiniog yn y flwyddyn 1594 oherwydd ymosodiadau cyson arno gan ei gymydog .... ‘Neighbours from Hell’, onide?  Beth bynnag, aeth i fyw i le o’r enw Cwm Bowydd, sef eiddo a etifeddodd ar ôl ei fam, aeres y stâd.  Gyda llaw, enw ei fam oedd Catherine ferch Evan ap Griffith ap Meredydd ap Gwilym Powys o Gwm Bywydd.  Rwan, onid yw’r uchod yn awgrymu y gall y tŷ ddyddio’n ôl i’r bymthegfed ganrif ... neu’n wir i gyfnod llawer cynt?

Ymhlith y tai eraill sy’n debygol o fod yn dyddio’n ôl i’r cyfnod dan sylw (gan gynnwys rhai nad ydynt gyda ni mwyach) mae hen ffermdy Talyweunydd a dynnwyd i lawr  yn yr 1960au; Cribau sy’n adfeilion; hen amaethdy Rhiwbryfdir a gladdwyd o dan domennydd Chwarel Oakeley ers blynyddoedd; hen dai Glan y Pwll, Sarn y Llwyn, a Maenofferen, a dynnwyd i lawr yn niwedd y ganrif ddiwethaf; hefyd Tan y Manod a ddymchwelwyd gan gyngor cibddall yn yr 1970au. 

Cribau, a Gloddfa Ganol yn y cefndir. Llun PW.
Credaf hefyd yn ôl y dystiolaeth fod Llwyn y Crai, Cae Canol, Bodlosgad, Plas Meini (h.y. yr hen blas), Tyddyn Gwyn (Cwm Cynfal), Y Wenallt ac yn ddiau, amryw o rai eraill, yn dyddio’n ol i’r un cyfnod a’r rhai a enwyd gyntaf. 

Wrth chwilota drwy’r degfennau diddorol hyn deuthum ar draws enwau lleoedd, h.y. yn dyddynnod ac yn diroedd, nad oes gennyf amcan daear ymhle yr oeddynt (neu lle y maent), o bosib. 
Dyma ychydig esiamplau i chi:

Mur y Tŷ Hir (1500);
Bron y Fudda (1522);
Tyddyn Jenkin Lloyd (1539);
Y Waun Wen (1547);
Erw Eryrig (1556);
Bryn y Tŷ Du (1574);
Rhos Bryn Derwas (1587).

--------------------------------

Gallwch ddilyn holl erthyglau Stolpia trwy ddilyn y ddolen isod, neu yn y Cwmwml Geiriau ar y dde.


6.8.15

Ar Wasgar- Melys Gof

Cyfraniad gan y diweddar, liwgar gymeriad, D. Elwyn Jones, Deganwy, i gyfres o erthyglau gan rai oedd wedi gadael Bro Ffestiniog.

Melys Gof

Wrth edrych yn ôl y mae y pleser a’r atgofion i gyd yn dod.  Yn wir mae rhywun yn amal iawn yn cael ei ddal yn synfyfyrio ym mhellter ei feddwl am hyn a fu.  Henaint ydyw, medd rhai; rhyw hen sentiment gwag yw, medd eraill;  mae o yn afiach, meddai carfan arall, i feddwl am y gorffennol o hyd.  Rhywsut mi deimlaf ei fod yn llawer iawn mwy.

Rhan o gymeriad rhywun yw cofio ei wreiddiau, ac er nad wyf wedi byw yn y Blaenau ers degawdau, y mae yn dal yn rhan bwysig ac annatod o’m cymeriad a’m bodolaeth. 
Ar y pryd a chithau yn ddim ond plentyn nid ydych yn sylweddoli pwysigrwydd symlrwydd bore oes, eich magwraeth, eich cymdogion, eich ffrindiau, eich capel, eich ysgol; eich diddordebau yn cynnau, eich cred yn ffurfio, eich cymeriad yn ffurfio. 

Mae magwraeth ‘Stiniog yn rhoi cryfder i chi, hwyrach mai bryntni a chaledi y graig neu’r llechen ydyw, hwyrach mai’r glaw yr ydych yn gorfod ei oddef ydyw, yn arbennig os y’ch magwyd mewn oes cyn dyfod llawer iawn o geir i bobl gyffredin.

Ond mae yna rywbeth yn yr ardal sydd yn unigryw iawn ac sydd yn magu cymeriadau hoffus, egwyddorol a thalentog.  Bum i yn lwcus arbennig i gael pobl dalentog yn fy hyfforddi mewn Ysgol Sul ac Ysgol Sir, mewn Gobeithlu a Chymdeithas Ddrama.  Pobl oedd yn rhoi eu hamser prin ar ôl diwrnod called o waith i ddysgu y sol-ffa i griw o hogia’ a merched, neu i’n tywys drwy rihyrsals drama neu gymhlethdodau y pasiant, neu faes llafur.

Eto, ar y pryd, prin iawn yw gwerthfawrogiad plentyn, - ddim yn sylweddoli yr aberth amser, y dygnwch a’r straen weithiau o geisio rhoi rhyw fath o ymwybyddiaeth mewn criw o blant oedd a’u meddwl ar radio neu deledu neu ffwtbol. 

Ond peth rhyfedd yw cof.

Mi gofiaf hyd heddiw ambell i ddywediad a ddysgais bryd hynny, ambell i gymeriad a’m dysgodd, ambell i natur syml gyfeillgar rhywun llawer hyn na ni, ond oedd yn ein deall ac am roi o’u profiad hwy i’n tywys ar lwybrau troellog bywyd.  Mae yn fy mhoeni i na wnes i ddim diolch iddynt. 

Rhyngddynt fe lwyddasant fagu cymeriad a rhoi gwerthoedd a dangos y ffordd, a dyna’r cwbwl y gall unrhyw un ei wneud, mae i fyny i ni wedyn.

Felly mae magwraeth ‘Stiniog wedi fy ffurfio i er drwg neu er gwaeth, ond gobeithio na wnes i erioed fradychu fy mro enedigol na methu ei hamddiffyn – cofiaf i un wag ddweud wrthyf unwaith ei bod yn rhyfedd nad oedd holl law ‘Stiniog wedi fy ngwneud yn un o’r ‘Wets’ yna.  Glaw yw y ddelwedd ond yr wyf wedi cael y pleser lawer gwaith o dywys dieithriaid i ogoniant Cwm Bowydd yn yr haul ac y maent wedi synnu a rhyfeddu.

Felly, yn llawer iawn rhy hwyr mi dalaf ddiolch i’r holl rai a fu yn gymorth i mi ar ben ffordd, yr holl gymeriadau a fagodd hyder ac awch am wybodaeth ac a sicrhaodd ddyfodol.  All rhywun byth ddiolch digon ac y mae yn rhy hwyr i ddiolch yn berthnasol gan fod llawer wedi mynd at eu gwobr, ond mae’r cof yn eu cadw yn fyw ac y mae y rhelyw anferthol o’r atgofion yn rhai melys. 

Am bopeth a gafwyd, am bopeth a roddwyd heb ofyn am amrhydedd neu fraint, diolch ‘Stiniog i ti a’th gymeriadau gwych.

-----------------------------
Ymddangosodd gyntaf yn rhifyn Mai 1998. Gallwch ddilyn cyfres Ar Wasgar gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


4.8.15

Stiniog a’r Rhyfel Mawr- iawndal a recriwtio

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ar 29 Mai 1915, cyhoeddodd Y Rhedegydd restr o wybodaeth ddiddorol parthed budd-daliadau a dalwyd gan y llywodraeth i weddwon a phlant milwyr a laddwyd yn y rhyfel. Yn ychwanegol, cafwyd gwybodaeth am daliadau i glwyfedigion y rhyfel hefyd.
“I'r weddw  - 10s. yr wythnos os o dan 35 mlwydd oed I'r weddw  - 12/6  yr wythnos os dros 35 oedI'r weddw  - 15s. yr wythnos os dros 45 oed
I'r plant:     Tâl wythnosol hyd y byddent yn 16 oed, 5s. yr wythnos i'r plentyn cyntaf; 3/6 i'r ail a 2s i'r plant eraill. Ca gweddw 30 oed a 3 o blant felly 20s yr wythnos.”
Oddi tan yr uchod cynhwysid y canlynol:
“Blwydd-daliadau i deulu milwyr cyffredin yw yr uchod. Rhoddir ychydig yn fwy i weddwon milwyr fo hefyd yn swyddogion - ond yr un fydd y swm i'r plant ag a nodir uchod.

I Filwr a fo wedi ei lwyr analluogi yn y Rhyfel:
I'r Milwr ei hun: 25s. (£1.25c)  yr wythnos.
I'w Blant: 2s 6c. yr wythnos am bob plentyn.
I Filwr a fo wedi ei analluogi mewn rhan:
Cymeradwyir tal wythnosol is na'r uchod, ac yn amrywio yn ol yr amgylchiadau.”

Roedd effeithiau colli cymaint o ddynion lleol i'r fyddin i'w weld wrth ddarllen colofn newyddion Blaenau Ffestiniog yn Y Rhedegydd ar 29 Mai 1915.
“Peth newydd iawn yn Ngorsaf y L.N.Western yw gweled merch ieuanc yn gwasanaethu fel Clerc, ac yn rhoddi tocynau allan. Tebyg yw y byddant yn amlach lawer eto, gan y galw sydd am bob dyn ieuanc i ymrestru.”
Adlewyrchwyd hynny mewn adroddiad arall yn yr un golofn, a ddywedai fod 1,200 yn llai yn gweithio yn chwareli Ffestiniog i'w gymharu â'r rhif yn Awst 1914, a dechrau'r rhyfel. Tacteg newydd gan y swyddogion recriwtio oedd ceisio creu cystadleuaeth rhwng gwahanol strydoedd yn y Blaenau. Dyma ddywed gohebydd Y Rhedegydd ar 5 Mehefin 1915:
“Dywedir fod trigolion sydd yn byw yn Lord Street, lle mae 14 o dai yn ymffrostio yn y ffaith fod 19 o filwyr oddiyno. Pa un yw yr agosaf tybed? Neu, a oes un arall wedi eu rhagori?”
Ddechrau Mehefin 1915, daeth y Parchedig John Williams, yn iwnifform y fyddin, a'i goler gron, i bregethu yng nghapeli Bowydd, Rhiw a Maenofferen, yn y Blaenau. Roedd yno yn ei wisg swyddogol fel Caplan y Fyddin Gymreig. I ychwanegu at yr awyrgylch filitaraidd, fe drefnwyd gorymdaith drwy'r dref tua'r capeli, gyda Seindorf Arian Llan Ffestiniog ar y blaen, a thynnodd John Williams dyrfaoedd mawr ar ei ôl. Pregeth danbaid, rethregol oedd ganddo, fel arfer. Ymysg yr addolwyr yn y capeli gorlawn ar y Sul hwnnw oedd y garfan leol o filwyr. Manteisiodd Williams ar y cyfle i atgoffa'r gynulleidfa o'r angen am fwy o wirfoddolwyr i'r fyddin. "Nid yw Môn wedi hanner deffro, na'r un sir arall, na Chymru ychwaith wedi deffro. Mae popeth gwerthfawr gan Gymro iawn yn y fantol heddiw" meddai'n argyhoeddedig. Ar ddiwedd ei bregeth yng Nghapel Bowydd, cododd y dorf fawr ar ei thraed, a Mr Lewis Jones ar yr organ, i ganu 'Duw gadwo'r Brenin'.   

----------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2015.
Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar y ddolen 'Stiniog a'r Rhyfel Mawr' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

[Pabi gan Lleucu Gwenllian]

2.8.15

Sgotwrs Stiniog- egarych a chogyn

Erthygl o gyfres reolaidd y diweddar Emrys Evans, o 1998. Nid rhywbeth diweddar yn unig ydi hafau gwael!

Unwaith eto dyma ni ymhell i mewn i dymor y brithyll. Tydw'i ddim wedi clywed neb yn rhoi gair o ganmoliaeth i'r tymor yma mwy nag i'r un gawsom ni y flwyddyn ddiwethaf.

Mae hi wedi gwneud un o'r hafau gwlypaf, os nad y gwlypaf, o fewn cof, ac mae'r llynnoedd wedi bod yn llawnion at eu glannau ar hyd yr haf. Fel arfer mae' r llynnoedd yn mynd i lawr yn ystod y tymor, ond mae’r llynnoedd yr ydw i wedi eu gweld yn fwy na llawn, a hynny gydol y misoedd. Maent mor llawn, os nad yn llawnach, ddiwedd y tymor nac ar ei ddechrau.

Er enghraifft roeddwn i wrth Lyn Cwmorthin yn niwedd Awst ac roedd y llyn mor llawn ag y medr o fod a'r ffos o Lyn Conglog a'r un sy’n dod i lawr at Gwmorthin Uchaf yn drochion gwyn.
Felly, ai un o dymhorau coll yw un 1998: a dim da i’w ddweud amdano?  Fe 'achubwyd' (os mai dyna yw’r gair iawn) y tymor diwethaf drwy inni gael diwedd go dda iddo. Yn ystod misoedd Awst a Medi bu y Bongoch yn amlwg ac yn niferus ar rai o'r llynnoedd, beth bynnag, a chafwyd symud ar y pysgod yn dilyn hynny. Tydi'r tywydd ddim wedi bod yn ffafriol i'r Bongoch eleni, ddim hyd ddiwedd yma beth bynnag, ac ychydig iawn ohono yr ydw i wedi’i weld.

Egarych Corff Clust Ysgyfarnog
Un o’r plu yr ydw i wedi gwneud orau hefo hi ym mis Awst yw Egarych Corff Clust Ysgyfarnog, a'i chawio hi yn bluen sych. Mae ei phatrwm fel a ganlyn:
Bach- Maint 12.
Corff- Blewyn ocldi ar glust ysgyfarnog, a rhoi cylchau o weiar aur amdano.
Traed- Gwar coch ceiliog, drwy'r corff
Adain- Pluen frown oddi ar iar goch. Yna rhoi rhagor o draed fel uchod wrth lygad y bach. 

Llun Gareth T. Jones, o lyfr Emrys Evans 'Plu Stiniog' 2009.

Rwy'n credu y dylai hi weithio hefyd yn ystod mis Medi, os ceir rhywfaint o symud ar y pysgod.

Mae y 'cogyn’, y pry' yr ydym yn falch o’i weld yn dod i'r golwg ar ein llynnoedd ym misoedd Mai a Mehefin, yn un pur bwysig ym mhatrwm ein tymor pysgota. Mae y bobl sydd wedi astudio y pryfaid yma yn dweud fod yna 49 o wahanol fathau o’r cogyn yn Ynysoedd Prydain. Y rhai mwyaf cyffredin yn ein llynnoedd ni yn ardal Ffestiniog yw y cogyn coch a’r cogyn brown.

Y mwyaf un o deulu’r cogyn yw y 'cogyn Mai', ond tyda ni ddim yn gweld hwnnw ar ein dyfroedd asidig ni. Mae yn un hynod hardd, ac mae yna lawer ohono i'w weld ar lynnoedd mawrion Iwerddon ac i lawr ar yr afonydd calch yn Ne Lloegr. Clywais ddweud fod yna ryw ychydig o'r 'cogyn Mai' i'w gael yn Llyn Tegid, y Bala, ond doeddwn i ddim wedi cael unrhyw gadarnhad o hynny, tan yn ddiweddar iawn.

Yn niwedd mis Gorffennaf diwethaf daeth cyfaill i'r ty ataf. Roedd o wedi bod yn gweithio yn Llangywer, yr ochr arall i Lyn Tegid i'r Bala, ac wedi taro ar y 'cogyn Mai', a dal un ohonynt.
Buom yn edrych llyfr John Goddard ac yn ei gymharu a'r llun sydd ynddo, a doedd dim amheuaeth mai’r cogyn Mai ydoedd. Roeddwn i'n falch iawn o gael cadarnhad fod y cogyn yma i’w gael mor agos atom, ac o gael gweld enghraifft ohono drosof fy hun.
----------

Rhan o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Medi 1998 yw'r uchod, efo mân-newidiadau am ei bod yn ymddangos ar y we yn gynharach yn y tymor. Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar y ddolen 'Sgotwrs Stiniog' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.